Showing posts with label Skyline. Show all posts
Showing posts with label Skyline. Show all posts

15.12.23

Gerddi Ar y Gorwel

Diweddariad Cynllun Skyline Ffestiniog

Prif amcan ein prosiect Skyline yw dod a bwyd, tanwydd a'r wybodaeth am gynnal ein hunain yn ôl i'r gymuned leol. Fel rhan o’r gwaith, mae cynllun i ddechrau gardd fasnachol gymunedol a fydd yn weithredol ac effeithiol. Mae’r cynllun hefyd yn gweithio i hybu bioamrywiaeth yn yr ardd, a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu. Wrth edrych ar ymchwil newydd a thynnu o hen draddodiad amaethyddol, mae nifer o brosesau diddorol ar y gweill yno.

Dechreuwyd y gwaith ym Manod bron i flwyddyn yn ôl, ac erbyn hyn mae'r safle wedi newid yn llwyr. O dir gwastraff i ardd brydferth, mae’r safle heddiw yn adlewyrchu gwaith caled Wil Gritten a’i dîm yno dros y misoedd diwethaf.

Mae’r gwaith adeiladu mawr wedi gorffen: Mae tŷ gwydr, cwt barbeciw, a phaneli solar wedi eu codi, yn ogystal â digon o welyau plannu. Mae’r twnnel polythen 5m x 20m wedi’i godi erbyn hyn hefyd, ac wedi cael ei lenwi gyda phridd. Er mwyn cynyddu'r tymor tyfu a pharatoi ar gyfer y gwanwyn, mae pibellau cynnes wedi’u pweru o dyrbin gwynt bach yn rhedeg drwyddo.

Mae dipyn o lysiau wedi eu tyfu’n llwyddiannus yn barod, gan gynnwys pwmpenni, brocoli, perlysiau, a llysiau dail gwyrdd, ond y cam nesaf yn y prosiect bydd dechrau tyfu llysiau a ffrwythau o ddifri. Mae’n amser agor y lle i’r cyhoedd! Y gobaith yw i’r ardd gael ei gweithredu gyda chymorth pobl leol, a fydd yna’n gallu manteisio ar y cynnyrch. Yn ogystal, bydd yn bosib hefyd gwerthu’r cynhyrchion i fusnesau a sefydliadau lleol er mwyn i’r ardd allu cynnal ei hun yn ariannol yn hirdymor. Yna, gall y prosiect ehangu’n ymhellach wrth i fwy a mwy o bobl ddysgu’r broses o dyfu bwyd.

Roedd safle Maes y Plas yn ofod nad oedd yn cael ei defnyddio heblaw am ambell i berson yn mynd a’u ci am dro, felly, trwy drafod gyda swyddogion Cyngor Gwynedd, cytunwyd i’r Dref Werdd gael les rhad am 25 mlynedd i ddatblygu’r safle. Gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith caled wedi ei gwblhau, bydd y gerddi yn rhan o brosiect newydd Y Dref Werdd sydd wedi ei ariannu gan gronfa Camau Cynaliadwy Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol. Prif nod y cynllun fydd i ddatblygu prosiectau sydd yn grymuso’r gymuned i chwarae rhan bositif gyda newid hinsawdd, yn ogystal â chynaladwyedd. Syniadau eraill fydd yn cael eu datblygu fydd meithrinfa goed fechan, plannu hyd at 3000 o goed brodorol, datblygu beics trydan ar gyfer aelodau'r gymuned, datblygu ymhellach ein gofod creu a thrwsio a rhaglen gynhwysfawr addysg gydag ysgolion a grwpiau'r Fro.

Dywedodd Gwydion, Rheolwr Prosiect Y Dref Werdd 

“Buom yn ffodus iawn o gael bod yn rhan o brosiect Skyline am y ddwy flynedd diwethaf. Mae sawl cynllun cyffrous wedi dod ohono, heb son am yr holl adnoddau gwerthfawr gaiff eu defnyddio gennym a’r gymuned. Ein bwriad a'n gobaith gyda’r ardd farchnad yw, nid yn unig darparu ffrwythau a llysiau wedi ei dyfu ym Mro Ffestiniog i’r gymuned, ond sefydlu'r gerddi fel menter yn ei hun, gyda’r gobaith y bydd yn sefyll ar draed ei hun yn y dyfodol agos wrth gynhyrchu incwm a swyddi. Fy mreuddwyd ers y cychwyn yw i efallai gallu cyflenwi ysgolion y fro gyda ffrwythau a llysiau iach sydd wedi eu tyfu ar yr un tir maent yn tyfu fyny arno, sydd am chwarae rhan fawr i’r hinsawdd. Diolch i bawb sydd wedi helpu datblygu’r safle”!

Bydd cyfle yn fuan i wirfoddolwyr gyda diddordeb mewn dysgu garddio, neu ddim ond eisiau helpu, i ddod i helpu cynnal yr ardd. Rydym eisiau clywed eich syniadau! 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â wil@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023



12.7.22

Gorwelion Bro

Cynllun ‘Skyline’ Bro Ffestiniog
Nid oedd archfarchnadoedd yn bodoli pan oedd ein neiniau a’n teidiau ni yn blant. ‘Roedd gan bob tref ambell i siop fach arbenigol yn gwerthu eitemau wedi’u mewnforio a mwy yn gwerthu cynnyrch mwy lleol. ‘Roedd gan bron bob cartref eu gardd gefn i dyfu ffrwythau a llysiau.

Roeddynt yn gwneud eu jam a’u cyffeithiau eu hunain. ‘Roedd rhai hyd yn oed yn bragu cwrw neu win. Ac yn helpu ei gilydd pan oedd yn amser cynaeafu a rhannu llwyddiannau a methiannau ei gilydd. Ychydig iawn o gemegau oedd yn y bwyd bryd hynny, a thechnegau amaethyddol diwydiannol ddim ond yn syniadau gan rai.

I dorri stori hir yn fyr - ‘roedd ein systemau bwyd yn fwy iach, yn fwy blasus ac yn fwy cadarn. ‘Roedd mwy o fioamrywiaeth, a llai o broblemau iechyd meddwl neu alergeddau bwyd.

Dyma genhadaeth prosiect Skyline ym Mro Ffestiniog: 

i ddod â’r bwyd, y tanwydd a’r wybodaeth yn ôl i’r cymunedau ble ‘roeddynt yn ffynnu. Gyda’n gilydd, rydym yn datblygu gardd fasnachol weithredol ac effeithlon, menter goed tân fforddiadwy a chynaliadwy, yn ogystal â chanolfan sgiliau traddodiadol er mwyn dysgu’r hen ffyrdd i’r cenedlaethau newydd.

(Llun gan BroCast Ffestiniog)
   Mae banc coed Coed Call wedi ei sefydlu i geisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn yr ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni J.W. Greaves, Llechwedd, am fenthyca darn o dir ger Pant yr Afon i ni, tra mae Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn rhoi tunelli o goed sydd wedi eu torri ar dir cyhoeddus i ni. Byddwn yn prosesu’r rhain gyda chymorth gwirfoddolwyr ac yn eu sychu mewn siediau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar eu cyfer. 

   Bydd y mwyafrif o’r coed yma yn cael eu rhoi allan am ddim i’r rhai sy’n dioddef tlodi tanwydd, a’r gweddill yn cael eu gwerthu i helpu eraill dalu biliau nwy, olew neu drydan.

   Mae ein cynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys caffael a rheoli darn o goedwig gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gwneud ein banc coed yn gynaliadwy yn yr hir dymor.

 Rydym yn croesawu rhoddion o goed tân, ac mae gennym staff sydd wedi’i hyfforddi i dorri a symud coed sydd wedi disgyn. Cysylltwch gyda ni am fwy o fanylion.

Ail ran prosiect Skyline Bro Ffestiniog yw’r Ganolfan Sgiliau Traddodiadol, ger llwybrau beicio Antur Stiniog. Mae 25 tunnell o Ffynidwydden Douglas o Lyn Efyrnwy wedi ei brynu, a byddwn yn eu torri i adeiladu ‘cwt crwn’ wythonglog gyda tho tywyrch i'w ddefnyddio i ddysgu sgiliau traddodiadol fel gwaith coed irlas, cerfio, gwneud basgedi a llawer mwy. Ein bwriad yw gwerthu’r profiadau hyn i ymwelwyr er mwyn ariannu cyrsiau am ddim i bobl leol.

Mae’n debyg mai’r trydydd prosiect yw’r mwyaf uchelgeisiol. Rydym yn bwriadu creu rhwydwaith o brosiectau garddio fyddai’n cynhyrchu digon o ffrwythau a llysiau i fwydo’r dref. Tra’i fod yn nod uchelgeisiol iawn, drwy gefnogaeth prosiect Skyline, rydym yn credu ei fod yn nod hollol realistig, ac erbyn 2032, rydym am i Fro Ffestiniog fod yn hunangynhaliol mewn cynhyrchu ffrwythau a llysiau.
Nid yn unig fydd hyn yn help i daclo tlodi bwyd a gordewdra, ond hefyd yn gyfle ychwanegol i roi profiadau garddio i bobl a phlant y dref - rhywbeth sydd â buddion enfawr i iechyd meddwl. Byddwn yn adeiladu sied ar ein safle yn y Manod, gyda thân coed cynnes i bobl gael eistedd o’i amgylch neu i blannu hadau neu i brosesu’r cynhaeaf.

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Dref Werdd, byddwn yn datblygu'r gwaith mewn tri safle o amgylch Blaenau Ffestiniog dros yr haf.

Bydd cymorth gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer y prosiectau, ac fe fyddant yn cael eu gwobrwyo gyda barbeciws penigamp a phaneidiau diddiwedd, heb sôn am y wybodaeth galonogol eu bod yn cyfrannu tuag at rywbeth mor gadarnhaol yn eu cymuned.


Os hoffech chi gael clywed mwy neu wirfoddoli, ewch i www.drefwerdd.cymru neu ffoniwch 01766 830082.

Wil Gritten
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022