Diolch i Rhian Jones, a yrrodd lythyr i rifyn Hydref yn dweud ei bod am lythyru efo Trafnidiaeth Cymru am eu gwasanaeth anwadal, a diolch hefyd i bawb arall sydd wedi ymateb ar y stryd, ar y ffôn a thrwy negeseuon, yn dilyn yr erthygl ar dudalen flaen rhifyn Medi.
Ymddiheuriadau gyda llaw am y syms gwael yn y rhifyn papur. Mi fu rhai ohonoch yn ddigon praff i weld o’r tabl ym mhrif gorff yr erthygl, fod cyfanswm o 589 trên wedi eu canslo’n llawn neu’n rhannol yn 2025, nid 489 fel yr oeddem wedi’i roi ar y dudalen flaen. Felly tua 14% o’r gwasanaeth wedi’i ganslo!
Yn syml iawn, tydi o ddim digon da.
![]() |
| Rheilffordd Dyffryn Conwy. Llun gan Jonathan Wilkins dan drwydded generig CCSA2.0 |
Mi gofiwch fod Llafar Bro wedi sgwennu at Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Mark Hooper, yn gofyn iddo amlinellu ei ymateb i’r cwynion am y gwasanaeth yn lleol ac atebion annigonol Trafnidiaeth Cymru.
Daeth ateb yn fuan ar ôl i rifyn Medi fynd i’r wasg, ond -yn ôl y disgwyl efallai- ar y cyfan, cadw ochr TrC mae’r ymateb. Ymateb a yrrwyd gyda llaw, heb enw na llofnod arno, ond yn hytrach yn gorffen fel hyn: “Yn gywir, Rheilffyrdd a Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru”. Nid yn uniongyrchol gan y gweinidog felly. Dyma rannau mwayf perthnasol yr hyn a ddaeth:
“Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r rhwystredigaeth y gall oedi a chanslo ei achosi i deithwyr sy'n dibynnu ar wasanaethau rheilffyrdd ar gyfer gwaith, addysg a hamdden.
Mae Ll.C yn disgwyl safonau uchel o ddibynadwyedd a pherfformiad ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd... rydym yn parhau i fonitro perfformiad yn agos ac yn pwyso am welliannau lle mae gwasanaethau yn disgyn yn is na'r safonau y mae teithwyr yn eu disgwyl.
Me Ll.C yn cydnabod bod teithwyr ar rwydwaith Gogledd Cymru wedi profi cyfnod heriol yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae llinell Blaenau Ffestiniog yn rhan bwysig o rwydwaith rheilffyrdd Gogledd Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dibynadwy a hygyrch a lleihau'r achlysuron lle mae'n rhaid defnyddio bysiau yn hytrach na'r rheilffyrdd.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda TrC, Network Rail a phartneriaid diwydiant i wella dibynadwyedd a phrofiad teithwyr ar draws y rhwydwaith... gweithio gyda TrC a Network Rail i ddeall beth y gellir ei wneud i gryfhau gwydnwch y seilwaith, y fflyd a gweithrediadau mewn cyfnodau o dywydd eithafol, gan gynnwys digwyddiadau gwres eithafol yn ogystal â'r llifogydd sy'n effeithio ar linell Blaenau Ffestiniog.
Hoffwn ddiolch ichi am dynnu ein sylw at eich pryderon. Mae adborth gan deithwyr a rhanddeiliaid lleol yn helpu i lywio trafodaethau gyda cwmniau rheilffyrdd a rheolwyr seilwaith ac yn tynnu sylw at ble mae angen gwelliannau pellach."
Felly, cadwn olwg ar y sefyllfa gyfeillion, ac os oes digon ohonom yn dilyn awgrym Rhian Jones ac yn ysgrifennu i gwyno, neu hyd yn oed yn sgwennu i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gael y £5Biliwn sy’n ddyledus i Gymru o’r gwaith ar HS2, efallai y cawn, rywbryd, wasanaeth reilffordd yr ydym yn ei haeddu! PW
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2026
Tra oedd Llafar Bro yn y wasg, ar Hydref yr 2il, cynhaliwyd sesiwn galw-i-mewn yn Y Ganolfan, er mwyn i bobl Stiniog gael dweud eu dweud wrth gynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru a Rheilffordd Dyffryn Conwy yn benodol.
Mi alwodd Llafar Bro i mewn i sicrhau eu bod yn gwybod am y manylion a gafwyd yn y Cais Rhyddid Gwybodaeth. 'Roedden nhw'n cytuno nad oedd y gwasanaeth wedi bod ddigon da, ac y bydden nhw'n mynd a chwynion a sylwadau pawb yn ôl efo nhw... ond amser a ddengys os welwn ni unrhyw welliant! Gallwch fod yn siwr y bydd Llafar Bro yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn diweddaru pan ddaw unrhyw newyddion.
Mae mwy o enghreifftiau o ganslo trenau wedi bod eto ym mis Hydref- rhannwch eich profiadau efo Llafar Bro, a dywedwch wrthym be ydych chi'n feddwl o'r gwasanaeth...

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon