Showing posts with label stryd fawr. Show all posts
Showing posts with label stryd fawr. Show all posts

1.8.23

Eiddo Cymunedol

Pwy sy’n cofio mynd draw am banad a ŵy a chips i’r cefn yn Caffi Bolton? Neu prynu’ch Walkman cyntaf a mynd i dalu am fenthyg teledu yn siop Ephraim? 

Blwyddyn diwethaf prynwyd y ddau adeilad eiconig yma gan Antur Stiniog ac maent yn credu bod hyn yn gam pwysig ymlaen i’r menter, Stryd yr Eglwys, a’r stryd fawr yn ei gyfanrwydd.

“Antur Stiniog..?”
“Dim y peth beics ‘na di nhw?”

Wel ia a na!

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Antur Stiniog wedi profi llwyddiant cymdeithasol ac economaidd sylweddol, gan fuddsoddi elw a gynhyrchir gan ei Ganolfan Feiciau i ysgogi effaith gymdeithasol gadarnhaol gan brofi’r dywediad ‘Llawer mwy ‘na llwybrau beics’. 

Mae’n codi’r cwestiwn cyffrous: beth ydi dyfodol yr adeiladau hyn? A sut gallent chwarae rôl pwysig wrth ysbrydoli a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r stryd fawr yn amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol?

Credai Antur Stiniog bod yr adeiladau yn llawer mwy ‘na ‘brics a mortar’ ac wrth sicrhau dyfodol i’r adeiladau hanesyddol yma rydym am dod a bywyd newydd i rhan yma o’r dref fel rhan o weledigaeth ehangach ‘Tref Tatws 5 Munud

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Antur Stiniog wedi profi llwyddiant cymdeithasol ac economaidd sylweddol, gan fuddsoddi elw, a gynhyrchir gan dwristiaeth, yn ôl i fewn i gyflogi pobl leol a datblygu prosiectau er lles y gymuned a’r economi leol.  

Gan adeiladu ar ei lwyddiant cychwynnol, mae Antur wedi perchnogi a datblygu nifer o asedau cymunedol yn y dref, gan gynnwys datblygu eiddo sydd bellach yn cael eu defnyddio gan fusnesau preifat, mentrau cymunedol, a chartrefi i deuluoedd. 

Mae Antur Stiniog yn credu gryf y gallwn fel cymuned lwyddo i brofi’n groes i'r rhai sydd yn rhagweld dirywiad ein stryd fawr, trwy ddatblygiadau cyffrous fel Stryd yr Eglwys, Tŷ Coffi Antur,  Siop Eifion Stores, Aelwyd yr Urdd a mwy.

Credwn bod Stryd Fawr y Blaenau yn cynnig cyfleon anhygoel ar gyfer hamddena, cymdeithasu, siopa a chyfleon creadigol a bod angen ail-ddiffinio be mae’r Stryd Fawr yn olygu i ni!

Ym Mehefin 1daeth llawer draw i ardd Encil i gael clywed am y datblygiadau ac i rannu syniadau efo ni.

Mwy o'r hanes yn rhifyn Gorffennaf-Awst sydd yn y siopau rwan!

- - - - - - - - 

O rifyn Mehefin 2023


13.11.21

Tref Tatws 5 Munud

Prif erthygl rhifyn Medi 2021 gan Ceri Cunnington; gweledigaeth arbennig arall gan griw diwyd Cwmni Bro Ffestiniog

Mae Blaenau Ffestiniog a’i phobl yn enwog, ac yn wir yn cael eu clodfori, am eu gwytnwch a chymeriad unigryw. Ond sut mae troi’r gwytnwch a’r rhinweddau yma yn rhai economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gynaliadwy? 

Tref y Blaenau a'r Moelwynion o inclên y Graig ddu. Llun- Paul W

 Pam na’ allwn i fod fel Betws y Coed?  Sut mae denu twristiaid i lawr o Llechwedd? Be ddaw yn sgil pwerdy Trawsfynydd?  O le daw gwaith i’n pobl ifanc?  Pryd ma’r trên nesa’ yn cyrraedd?  Oes ‘na dal lechi yn y mynydd?  Pam bod pob man wedi cau ar Ddydd Sadwrn?  Lle dwi fod i bostio hwn?

Dyma ydi’r math o gwesitynau sydd wedi herio sawl cyngor plwyf a sir, asiantaeth ac ymgynhorydd, unigolyn ac undeb, llywodraeth a llyffant dros y degawdau diweddar, ac yn wir ers dirywiad cyson yn economi’r dref. Dirywiad, na ellir ei wadu, sydd wedi mynd law yn llaw â dirywiad y diwydiant llechi, ond hefyd, yn fwy dadleuol efallai, dirywiad sydd wedi mynd law yn llaw â chynllunio a datblygu anghynaladwy?

Er yr holl ymdrech i ail danio’r graig, o dwrstiaeth rhemp i gynhyrchu ynni sydd yn cael ei allforio fel y llechi, does neb i weld wedi gallu mynd i’r afael â’r her yma’n iawn, ac felly dal i chwilio am atebion, arweiniad ac achubiaeth o’r tu allan ydi’r tueddiad yn ein hanes diweddar ni.

Ond be os ydi’r atebion wedi’u gwreiddio yma’n barod? Yn ein hanes a’n treftadaeth ni, yma yn ein dwylo a’n diwylliant ni, ac yn enwedig yn uchelgais a gallu ein pobl ifanc ni: y genehedlaeth nesaf!

Mewn gwirionedd, efallai mai dim ond ychydig o ewyllys da gan y rhai sy’n dal grym, wrth bontio a chysylltu gweithgareddau, creadigrwydd, hyder, a ffydd yn ein gallu, sydd angen er mwyn gwyrdroi ein hanes ac ail ddiffinio’n dyfodol a dyfodol ein plant ni.

Wrth ddod i adnabod ein cryfderau fel tref a thrigolion, rydym yn credu bod yma rinweddau ac asedau amhrisiadwy ‘na all unrhyw gynllun datblygu neu strategaeth ddrudfawr o’r tu allan fesur neu  ddehongli. 

Be’ am gychwyn wrth ein traed?               

Y nod ydi dechrau trafod gweledigaeth ‘Tref Tatws 5 munud’ fydd yn adeiladu ar gryfderau mentrau a busnesau cymunedol yr ardal yn unig, gan llawn gydnabod bod gan unigolion, busnesau bach a chanolig lleol, asiantaethau a chymdeithasau, a llawer mwy, ran allweddol -os nad pwysicach- i’w chwarae, er mwyn gwireddu unrhyw weledigaeth hir-dymor.

Gobeithio mai man cychwyn a catalydd bydd yr ysgrif yma er mwyn sbarduno, sgwrsio, cyd-weithio a gweithredu o fewn y gymuned a’r economi leol. Economi sydd yn blaenoriaethu lles pobl yn hytrach na’u blingo.

Rhybudd cyn cychwyn: Dim ond canolbwyntio ar rai mentrau ac adnoddau cymunedol y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ymwneud yn uniogyrchol â nhw mae’r isod.

Dychmygwch fod y Stryd Fawr sydd yn rhedeg trwy dref y Blaenau yn un gwythïen o lechan las a’r cyd-weithio a chefnogaeth yn llifo drwyddi o un pen y stryd i’r llall gan gynnig llwybrau a gwasnaethau cefnogol, addysgol, cymdogaeth, creadigrwydd, masnachu lleol, a chyflogaeth. Y gwasanethau yma i gyd o fewn 5 munud. 

Dychmygwch: ‘Tref Tatws 5 munud’ – mae’r cynhwysion allweddol i gyd yna’n barod?

Yr Hen Coop: Gorwel, Gisda a Chyngor Gwynedd – gwasanethau craidd a statudol cefnogi pobl a pobl ifanc.
Cellb / Gwallgofiaid: Canolfan Gymunedol a Chreadigol i’r ifanc a mwy.
Tŷ Abermwaddach: Llety cefnogi pobl ifanc. 

Seren: Gainsborough, Cylch yr Efail a mwy.
Adeilad Yr Urdd: Canolfan Gymunedol aml-bwpras at ddenfydd gweithgareddau cymunedol drwy gyfrwng y Cymraeg.
Y Llyfrgell: Rhannu, gweld, gwrando, darllen a dysgu.
Youth Shedz: Cefnogi Pobl ifanc. Barnados: Cefnogi teuluoedd a plant.
Y Ganolfan Gymdeithasol: Cartref y Cyngor Tref a chanolfan aml-bwrpas.
Ysgol Y Moelwyn: Addysg y genhedlaeth nesaf.
Y Parc: Gofod gwyrdd yn llawn dychymyg.  

Neuadd Y Farchnad: Potensial anferth!
Y Siop Werdd: Siop bwyd a cynnyrch di-wastraff.  Eifion Stores: Siop DIY cymunedol a mwy.
Coop 1883 (sinema’r Emp/clwb sgwash gynt): Bync-hows a ‘llety argyfwng’ cymunedol.
Siop Ephraim: Gofod hyfforddi, gwneud, creu, trwsio a masnachu?
Caffi Bolton: Gofod cefnogi a masnachu cymunedol.
Safle’r Hen Dŷ Golchi: Gofod cymdeithasu gwyrdd, cymunedol a chreadigol.
BROcast: Newyddion cymunedol, ffilmiau creadigol.
 

Sgwâr Diffwys –

Antur Stiniog, Y Dref Werdd, Cwmni Bro a mwy: Mentrau a busnesau cymunedol yn hwylyso a chefnogi, profiadau gwirfoddoli, hyfforddiant, prentisiaethau, cyfleon gwaith a mwy.

Ac ychydig mwy na 5 munud i ffwrdd….
Y Pengwern: Tafarn, gwesty, bwyty, canolfan gymdeithasol.
Eglwys Llan: Gofod aml-bwrpas i’w ddatblygu i’r gymuned.
Gwesty Seren: Gwesty, bwyty, gwasanaeth arbennigol.

 

Sut mae dod ar cynhwysion uchod a mwy at ei gilydd? 

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cychwyn amryw o sgyrisau i’r perwyl yma efo’r nod o addasu dywediad enwog y sais; ‘Na, tydi gormod o cooks DDIM yn sbwylio’r broth’!


Ceri.C@cwmnibro.cymru / 01766 831 111




27.4.20

GWARCHOD CYNEFIN TRWY GYNNAL CYMUNED

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2020, cyn cyfyngiadau’r Gofid.

Mae ein gwaith i amddiffyn cynefinoedd rhag rhywogaethau ymledol yn parhau: hyd yn hyn, rydym wedi trin llysiau’r dial ar afonydd Barlwyd, Bowydd a Dubach, yn ogystal â thrin a gwaredu sawl acer o rododendron. 

Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar ein hymdrechion i amddiffyn ac adfer cynefinoedd yw hyn. 

Cawsom ddiwrnodau o blannu coed gyda gwirfoddolwyr a grŵp o blant ysgol leol; sbardunodd hyn drafodaeth ddiddorol ynghylch pam mae coed mor bwysig i ni, gydag un person ifanc yn mynegi diddordeb mewn sut y gallai fynd ati i gyfrifo ei ôl troed carbon, a faint o goed y byddai ‘n gorfod plannu i'w wrthbwyso! 
 
Meddai Meg Thorman, Gweithiwr Prosiect Amgylcheddol Y Dref Werdd
 “Gobeithiwn, trwy blannu mwy o goed, y gallwn wella bioamrywiaeth a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ond hefyd datblygu coedlannau a pherllannau sydd er budd a lles y gymuned.   Mae addysg a phrofiadau awyr agored yn hynod o bwysig i ni gyd - mae sawl un sydd wedi ymuno â ni ar ein diwrnodau plannu coed, garddio, gwaith Rhododendron ayyb, wedi mynegi eu bod yn teimlo cymaint yn well ar ôl gwneud, yn feddyliol ac yn gorfforol.  Os oes yna rhywle y credwch y gellid ei wella trwy blannu coed, neu greu gardd bywyd gwyllt, neu rywbeth i wella’r amgylchedd, yna rydym yn awyddus i gydweithio!” 


Mae ymwybyddiaeth o amddiffyn ein hamgylchedd yn amlwg yn cynyddu; un peth sy'n amlwg iawn yw'r ymateb i broblem sbwriel yn ein cymuned. Ers Gorffennaf 2019, mae dros 130 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn dyddiau casglu sbwriel, o blant ysgol i unigolion ymroddedig yn clirio milltiroedd o strydoedd, ochrau ffyrdd a pharciau ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o sesiynau cymunedol.

Mae grŵp o wirfoddolwyr wedi sefydlu 'Balchder Bro' - i rannu a hyrwyddo'r gwaith cynyddol a wneir gan wirfoddolwyr i waredu ein Bro o sbwriel.

Mae’r Dref Werdd bellach yn ganolfan ‘Cadwch Gymru’n Daclus’, a gall unrhyw un alw heibio i fenthyg teclyn codi sbwriel a bagiau ar unrhyw adeg.   Byddwn hefyd yn trefnu digwyddiadau cymunedol fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol gan Cadw Cymru’n Daclus –chwiliwch  am fanylion, ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi, ac ymunwch â ni i gyfleu'r neges nad yw sbwriel yn dderbyniol.  

MENTER NEWYDD I STRYD FAWR Y BLAENAU!

Gyda prosiectau Y Dref Werdd yn byrlymu yn ei blaen drwy gefnogaeth Cronfa Cymunedol Y Loteri Fawr - prosiectau sydd yn cefnogi pobl o fewn ein cymuned a gwella a goruchwylio ein hamgylchfyd leol - mae’r Dref Werdd ar fin cychwyn menter gwbl newydd yn yr wythnosau nesaf, sef agor siop ar stryd fawr Blaenau!

Gyda chefnogaeth gan Arloesi Gwynedd Wledig, Tesco, y Co-op a chronfa Arian i Bawb Y Loteri Fawr, byddwn yn agor drysau ein siop ddiwastraff ar stryd fawr y dref. Siop fydd hon fydd nid yn unig yn defnyddio cyn lleied o blastigion a phosib, ond siop fydd yn gwerthu cynnyrch a nwyddau gallwch eu prynu yn ôl y pwysau, neu yn y cyfanswm sydd angen. Bydd hyn yn ei dro yn debyg o chwarae ei ran yn lleihau gwastraff sydd yn cael ei daflu allan gan deuluoedd ac unigolion.

Meddai Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect Y Dref Werdd,
“Mae’n debyg fod llawer iawn yn cofio'r Siop Werdd oedd ar y stryd fawr rai blynyddoedd yn ôl,  bydd ein siop ni yn debyg iawn i honno. Er enghraifft, os ydych yn byw ar ben eich hun a ddim angen cymaint â hynny o neges, gallwch brynu faint bynnag yr hoffech: digon o basta i un pryd o fwyd; digon o fagiau te am yr wythnos yn unig; neu hyd yn oed hanner torth o fara!”
Mae’r fenter yn un gwbl newydd i'r Dref Werdd a bydd sefydlu’r siop ar stryd fawr y Blaenau yn chwarae ei ran yn ein nod i sefydlu mentrau i sicrhau cynaladwyedd y gwaith at y dyfodol drwy gynhyrchu incwm i’r prosiect, ond hefyd drwy greu swyddi lleol a chwarae ei ran gyda’r economi leol ac adfywiad y stryd fawr.

Mwy o newyddion i ddilyn -eto, wrth i’r cyfyngiadau lacio...

Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’r uchod, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Dref Werdd unrhyw dro drwy ffonio 01766 830 082, gyrru e-bost at ymholiadau@drefwerdd.cymru 

29.4.19

Esgid newydd ar bob troed

Siop Esi, Siop Beryl, Cambrian Boot – pa bynnag enw yr ydych chi yn ddefnyddio ar gyfer y siop yma, fe welwyd sawl tlws yn cael ei arddangos yn ffenest y siop yn ddiweddar. 

Mae hyn felly yn destun i ni longyfarch y perchennog presennol, Mrs Delyth Jones-Evans ar ei llwyddiant. Cafodd ei henwi yn ‘Fyfyrwraig y Flwyddyn’ 2018 gan ‘The Society of Shoe Fitters’. Mae’r gymdeithas hon yn gweithio nid er elw i ddysgu ac i hybu'r grefft o ffitio esgidiau fel gyrfa.


Bu Delyth yn fyfyrwraig ar yr unig gwrs proffesiynol mewn bodolaeth sydd yn canolbwyntio ar ‘iechyd y droed’ a’i datblygiad. Ar y prynhawn penodol hwn, pan wnes i ymweld â’r siop i gywain gwybodaeth ar y wobr arbennig hon, daeth mam o Dywyn a’i mab bychan i’r siop, i brynu ei bâr o sgidia cyntaf. Felly, mi gymerais i sedd a gwylio’r feistres wrth ei gwaith. Dwi’n ymwybodol fod Delyth yn arfer gweithio o fewn y byd gofal plant, ac felly mae’n amlwg fod ganddi'r profiad a’r gallu.

Ond, wir i chi, welish i ‘rioed mo unrhyw berson mewn siop yn rhoi gwasanaeth mor amhrisiadwy i’w chwsmeriaid! Mae pob un ohonoch sydd wedi magu plant yn gwybod nad yw cadw nhw’n ddigon llonydd i gael mesur eu traed nhw yn dasg hawdd, o’r anesmwytho a’r gwingo i’r crio a’r sgrechian, gall edrych yn dasg amhosib ar adegau....oni bai eich bod yn rhywun sydd a phrofiad fel Delyth, ac yn defnyddio bob tric yn y llyfr i sicrhau llwyddiant!

Mae hi hefyd yn mynd o gwmpas gwahanol ganghennau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched i hyrwyddo’r busnes ac mae hynny yn amlwg wedi talu ar ei ganfed gyda chwsmeriaid o bob cwr o’r gogledd, o Benllyn i Ben Llŷn a chyn belled a Chaernarfon, wrth i bobl ddod i wybod am ei gwasanaeth clodwiw, yn enwedig efo’r plant.

Dywedodd Delyth wrtha'i fod ganddi bellach y gallu i arbenigo mewn ffitio cwsmeriaid sydd â phroblemau iechyd neu sy’n cael trafferth ffeindio esgidiau oherwydd problemau iechyd. Fel rhywun sydd wedi dioddef a phroblemau traed ers pan yn blentyn bach, dwi’n falch iawn fod y gwasanaeth yma ar gael yn lleol bellach, achos mi oedd o’n broblem wirioneddol i Mam tra roeddwn yn blentyn!

Mae cwmni DB Shoes yn gwmni sydd yn arbenigo mewn esgidiau ‘wide-fit’ – rhywbeth y mae unrhyw berson sy’n dioddef gyda’i draed yn gorfod meddwl amdano wrth brynu esgidiau. Cwmni arall sydd newydd lanio ar silffoedd y siop hynod yma yw’r enw mawr y myd yr esgidiau: Hotter Shoes ac mae angen i chi gadw llygaid allan am gystadleuaeth ar y cyd rhwng y siop sgidia a Chaffi’r Gorlan – bydd manylion y gystadleuaeth i’w gweld ar dudalennau cymdeithasol y ddau gwmni, ond o’r hyn dwi wedi glywed yn barod, mae hi yn mynd i fod yn gystadleuaeth gwerth i’w hennill!
Llongyfarchiadau i Delyth ar ei llwyddiant, a hir oes i’r Cambrian Boot, sydd mae’n debyg wedi bod mewn bodolaeth yn y Blaenau ers dros ganrif bellach.
--------------------------------


Erthygl gan Rhydian Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Mawrth 2019. 


3.6.17

Ffarwelio a Diolch

Wedi nifer o flynyddoedd ar y safle yng nghanol y dref, daeth diwedd ar wasanaeth Swyddfa’r Post. Yn ffodus, ni fydd y post yn diflannu’n gyfangwbl, fel y gwnaeth banciau’r ardal yn ddiweddar, oherwydd i siop Eurospar, ger y Parc gymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaeth. Llawer o ddiolch i Gwynn Jones, y postfeistr a’i staff am eu gwasanaeth cwrtais a chymwynasgar dros y blynyddoedd.

Dechreuoedd Gwynn fel postmon 43 blynedd yn ôl, ac wedi 4 blynedd o droedio’r strydoedd, penderfynodd fynd 'tu ôl i’r cownter’ yng nghangen Swyddfa’r Post yn Llanrwst. Yn 1978, wedi chwe mis yn Llanrwst, daeth y cyfle i ddod i weithio i gangen y Blaenau, dan ofal y postfeistr ar y pryd, y diweddar Gwynfor Francis. Y clercod eraill ar y pryd oedd Wil, Llys Morfa, Megan Powell a Margaret Einion. Eraill a fu’n gweithio ar gownter y post hefyd oedd Keith Owen a Megan Jones. Yn ddiweddarach ymunodd Gillian â’r gwasanaeth, a da yw cael dweud y bydd hi yn cario ‘mlaen gyda’i dyletswyddau yn y post newydd.  22 mlynedd yn ôl, penderfynodd Gwynn a’i briod, Margaret gymryd y cyfrifoldeb o’i rhedeg. Bellach, penderfynodd y ddau ei bod yn amser ymddeol, a chael treulio mwy o amser gyda’r teulu.

Dymuna Gwynn a Margaret ddiolch i bawb am ei cefnogaeth dros y blynyddoedd. Dymunwn ninnau, fel ardalwyr ddiolch eto i’r ddau ohonoch am eich gwasanaeth gwerthfawr drosom. Dyma gyfle i ni ddweud diolch am y gwasanaeth ‘Dosbarth Cyntaf’ a dymuno ymddeoliad hapus, haeddiannol, a hir oes i’r ddau ohonoch! Ar yr un pryd, dymunwn lwyddiant i’r Swyddfa Bost ar ei safle newydd.
 

* * * * *

Ar ôl 26 mlynedd yn gwasanaethu fel fferyllydd yn siop D. Powys-Davies, fe ymddeolodd Andrew Martin. Graddiodd fel fferyllydd yng Nghaerlŷr. Roedd ei swydd gyntaf yn Banbury, cyn symud i Birmingham am bedair blynedd.  Yna treuliodd chwe mlynedd ym Mangor, cyn dod i'r Blaenau yn 1991.

Llun- Dafydd Roberts
Hoffai ddiolch i holl staff y fferyllfa am eu gwaith caled a chydwybodol dros y blynyddoedd. Diolch hefyd i staff y Feddygfa ac i Bryn Blodau am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth. Yn bwysicach na dim, diolch o galon i holl gwsmeriaid y Blaenau a'r cylch am eu ffyddlondeb. Dymuna’n ogystal bob llwyddiant a hapusrwydd yma yn y Blaenau i Steffan John a Gwenno, rheolwyr newydd y fferyllfa.



* * * * *
Wedi blynyddoedd maith yn cadw siop ‘Cambrian Boot’ (Siop Esi gynt), mae Mrs Beryl Jones wedi penderfynu ymddeol. Fe gychwynnodd helpu allan yn y siop efo ‘Anti Esi’ pan yn 12 oed, cyn dechrau’n llawn amser yno pan adawodd yr ysgol yn 15 oed.

Llun o dudalen FB Siop Esi
Ar wahân i gyfnod o 10 mlynedd pan symudodd hi a’i gŵr i fyw i Awstralia (ble roedd ei chwaer yn byw), mae hi wedi bod ynghlwm â’r siop. Er, yn ddiddorol iawn, tra’n byw ym mhen arall y byd, be feddyliwch chi oedd gwaith Beryl? Gweithio mewn siop ‘sgidia wrth gwrs!

Pan ddychwelodd y teulu i Gymru yn 1985, penderfynodd Esi ei bod hi’n bryd ymddeol ac felly fe gymrodd Beryl drosodd.

Hoffai Beryl ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r busnes dros y blynyddoedd  gan ddweud  “Mae wedi bod yn fwynhad ac yn bleser cael rhedeg busnes yn y Blaenau.” Ond y newydd da ydi y bydd y busnes yn parhau yn y teulu gyda’i merch-yng-nghyfraith, Delyth Jones Evans yn cymryd drosodd.


-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2017


26.5.16

Llwyddiant Brethyn Blaenau!

Hanes crefftwyr a busnes lleol

Chwe mlynedd yn ôl, yng nghyfnod cyntaf Y Dref Werdd, cychwynnodd grŵp o’r newydd i ddysgu a rhannu sgiliau go draddodiadol ym Mro Ffestiniog. Roedd Rhiannon Jones, cogyddes yn Ysbyty Blaenau ar y pryd, yn darllen drwy y rhifyn diweddaraf o gylchlythyr Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw pan welodd hi hysbyseb yn chwilio am bobl a oedd yn berchen ar sgiliau y gallai gael eu pasio ymlaen i eraill. Felly, cysylltodd hi â’r Dref Werdd gyda’i syniad.


Fel rhan o brosiect gyda’r Dref Werdd o dan y pennawd ‘Sgiliau Traddodiadol’, y bwriad oedd cael trigolion Bro Ffestiniog i ddysgu sgiliau newydd fel walio cerrig sych a thyfu llysiau. Daeth Rhiannon at staff Y Dref Werdd gyda’r syniad o gychwyn clwb gweu a gwnïo!


Unwaith bu’r drafodaeth am sut y byddai’r clwb yn cael ei redeg, dechreuodd yr hysbysebu a phenderfynwyd cynnal y sesiwn gyntaf ar nos Fawrth nôl yn mis Chwefror 2010. O’r cychwyn cyntaf, roedd yn amlwg fod 'na nifer fawr o ferched (hyd yn oed heddiw does dim dyn wedi mentro i’r clwb!) ym Mro Ffestiniog gyda diddordeb mewn gweu a gwnïo.

Ar ôl ychydig wythnosau, penderfynwyd cynnal sesiwn arall yn ystod y dydd fel bod modd i’r rhai nad oedd yn gallu mynd gyda’r nos allu cael y cyfle i ddysgu a sgwrsio gydag eraill. Roedd Rhiannon wedi synnu gyda’r nifer uchel o ferched oedd yn dangos diddordeb.

Ar ôl sawl mis o gael aelodau’r grŵp yn brysur yn gweu, gwnïo a chreu brodwaith, cafwyd y cyfle i arddangos eu gwaith yn llyfrgelloedd Blaenau a Dolgellau, a phrofodd hyn i fod yn llwyddiant mawr.

Ar hyd y cyfnod yma, roedd Rhiannon wedi cychwyn meddwl sut i ehangu ar y clwb a’r diddordeb lleol yn y grefft. Wedi dipyn o waith ymchwil, aeth ar gwrs cychwyn busnes wedi iddi gael syniad arall, roedd hi am agor siop ar stryd fawr y Blaenau!


Erbyn mis Awst 2011, roedd Rhiannon wedi cychwyn chwilio am siop addas ar hyd y stryd ac yn gwneud y gwaith caled sydd yn gysylltiedig â chychwyn busnes. Pan gyrhaeddod mis Chwefror 2012, daeth y cadarnhad ei bod hi’n berchen ar 33 Stryd Fawr, siop yng nghanol y dref fyddai yn dwyn yr enw Brethyn Blaenau.

Daeth y siop yn boblogaidd iawn yn syth gyda phobl leol yn galw i brynu eu stoc o edafedd neu wlân a symudodd y clwb gweu a gwnïo o’i fan cyfarfod arferol yn swyddfa Cymunedau’n Gyntaf i’r siop. Yn ogystal a’r newid mewn lleoliad, daeth y grŵp i fod o dan reolaeth Rhiannon (h.y. yn annibynnol ac nid yn rhan o’r Dref Werdd).

Yn ogystal â’r defnydd a’r offer gweu a gwnïo, mae’r siop nawr yn lle i ŵr Rhiannon, Alwyn, i redeg ei fusnes tynnu lluniau achlysurol yn ogystal â bod yn lle i argraffu eich lluniau ynddo, heb sôn am fod yn lle i fframio eich lluniau hefyd.

Mae’n amlwg fod ‘Brethyn Blaenau’ wedi dod yn adnodd hynod bwysig a llwyddiannus ar Stryd Fawr y Blaenau.


Wrth sgwrsio gyda Rhiannon, a hel atgofion am gychwyn y grŵp gweu a gwnïo, mae hi’n sôn fod dros 60 o ferched lleol wedi bod yn rhan o’r grŵp mewn un ffordd neu'r llall ers y dechrau. Mae wedi profi llwyddiant gwerth chweil, ac mae'n braf gweld busnes proffesiynol yn cael ei redeg mor dda - sydd yn chwarae rhan bwysig ar stryd fawr Blaenau.

Mae’n anodd cofio’r stryd heb siop Brethyn Blaenau ynddi bellach! Mae hefyd yn braf meddwl fod Y Dref Werdd wedi cael chwarae rhan yn helpu Rhiannon i weld cyfle i ddefnyddio ei diddordeb gyda’r grefft ac i’w droi, nid yn unig yn fusnes llwyddiannus iddi hi a’i theulu, ond, yn adnodd pwysig i’r dref hefyd.

Hir oes Brethyn Blaenau a da iawn Rhiannon a’r criw!
------------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2016.