Showing posts with label Siopau. Show all posts
Showing posts with label Siopau. Show all posts

24.12.25

Atgofion Siop Y Maes

Rwy’n siŵr fod pawb sydd yn byw, neu’n dod o’r Blaenau, yn gwybod lle mae’r Parc. Hefyd, eu bod yn ymwybodol o’r holl gysylltiadau sydd wedi bod, ers blynyddoedd hir, gyda’r llecyn ‘sgwâr o barc’, a’r ardal o’i gwmpas. Wrth feddwl yn ôl, a fy meddwl yn crwydro i bumdegau’r ganrif ddiwethaf, pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol y Bechgyn Slate Quarries ym Maenofferen, mae cofio’r Parc yn rhan annatod o’r profiad hwnnw o fyw a chwarae fel plentyn ysgol yn Stiniog.

Roedd pedair rhes o adeiladau yn rhedeg gyferbyn â phob ochr sgwâr y Parc. Roedd yr adeiladau hyn yn cynnwys un sinema, dau gapel, un busnes gwerthu llefrith, syrjeri deintydd, tŷ (oedd yn safle gyda storfa) i ddau frawd oedd yn beintars, ac, i goroni’r cyfan, pum siop o bob math. Gyferbyn â phrif fynedfa’r Parc, sydd dros y ffordd i Towyn Road, roedd Newborough Buildings a oedd yn cynnwys tair o’r siopau. Roedd Y Coparet yn un o’r ddwy siop arall, a Siop Powell oedd yr olaf - honno wrth droed Pont Picton, a gyferbyn â’r pilar bocs coch ar un o gorneli Y Parc.

Y siop gyntaf yn rhes fach Adeiladau Newborough oedd siop tynnu lluniau, yn perthyn i’r diweddar Owen Hughes, Bryn Bowydd. Yn ddiweddarach, daeth tipyn o gymeriad o ffotograffydd, Mr. E. Zak yn berchen llwyddiannus ar y siop. Yn y canol roedd y Newborough Supper Bar, sef siop chips, gyda lle i fwyta i mewn, a hefyd cownter ar wahan i brynu a chario’r swper adref. Mr Owen â’i wraig oedd yn berchen ar y siop chips. Roedd y diweddar Phil Owen â’i deulu o Bryn Bowydd, yn perthyn i deulu siop y Supper Bar.

Yn olaf, ar y gornel gyda Ffordd Towyn oedd Siop Y Maes. Ar ben y drws dwbl i fynd i mewn roedd yr arwydd General Provisions.


Perchennog y siop hon, a’r tŷ oedd ynghlwm â’r siop, oedd Mr. R.R.Roberts. Roedd pawb yn ei adnabod fel “Robas y Maes”, yn flaenor yng Nghapel Bowydd, ac un o gynghorwyr y dref.

Pan oeddwn yn ddeg oed, cefais waith yn “cario allan” yn Siop Y Maes. Roedd llawer o fechgyn Stiniog yn “cario allan” mewn gwahanol siopau yn y dref hefyd, ond fi oedd yr unig un heb feic siop i gario’r bocsys i dai y cwsmeriaid. Ond, siop eithaf bach oedd Y Maes, nid fel y siopau mawr yn y Stryd Fawr, felly dim ond tipyn ar y tro oedd y prynu gan y cwsmeriaid, ac nid oedd y bocsus yn rhy drwm i’w cario.

Roedd becar yn dod â chyflenwad o fara bob bore, a dyna oedd un o’r tasgau, sef mynd â’r bara o gwmpas y tai mewn basged. Roedd Robas yn mynd i oed - dros ei wyth deg, ac yn aml yn dweud, fel ateb i’r rhai oedd yn ei weld yn edrych yn dda-"mae gen i bob un o'm dannedd fy hun”. Roedd ganddo ei ffordd unigryw o redeg y siop. Roedd yn cael menyn mewn bocs mawr, ac yn ei wagio, yn dalpyn hir sgwâr ar blât enfawr, porslen gwyn, gyda’r geiriau “LARD” arni. Roedd yn torri, o’r talpyn menyn, digon at gais y cwsmer, a’i bwyso a’i lapio mewn papur arbennig. Roedd yn gallu, mewn un toriad, bron bob tro, gael y pwysau cywir o fenyn! Wedi gorffen, rhoi y bocs yn ôl dros y talpyn menyn.

Roedd til pres ar ochr un cownter, a phan oedd y drôr yn agor, roedd cloch fach yn canu, gan ddangos beth oedd tu mewn. Dim arian, ond tua dwsin o blêds siafio i ddynion, pacedi bach o alum i atal gwaedu wrth siafio, stribedi o Aspro at boen, neu cur yn y pen, a mân bethau eraill. Dim arian! Gwisgai got lwch frown bob dydd, ac mewn un boced roedd bag glas - i fod i ddal siwgr, ond yn llawn darnau o arian i roi newid i gwsmeriaid. Hefyd, gwaled fach o ledr du yn dal papurau punt, a phapurau chweugain, wedi eu clymu â band lastig. Yn y boced arall roedd dwster melyn, glân, a ddefnyddid i roi polish bach i bob tun bwyd a dynnid i lawr o’r silffoedd uwchben y cownter. 

Roedd yn y siop rhes o duniau bisgedi rhydd, gyda chaead gwydr arbennig ar bob un o’r tuniau sgwâr. Wrth eu prynu, roedd y bisgedi yn cael eu rhoi mewn bag papur, â’u pwyso. Wedi peth amser, roedd bisgedi yn cyrraedd y siop mewn rholiau papur, ac wedi eu pwyso yn barod. A dyna dasg arall i mi - agor y pacedi i gyd a rhoi y bisgedi yn rhydd - yn eu bocs priodol - yn barod i’r cwsmeriaid.

Mewn amser, fe gefais ddyrchafiad yn fy ngwaith ar ôl ysgol, a’r tro yma gyda beic siop hefyd, ond, dim siawns am “broken biscuit” i fynd gyda’r paned te!

Alun A.R. Jones, Pen-y-bont ar Ogwr. (Gynt o Bryn Bowydd Newydd)

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

 

 

3.10.23

Pytiau Cymunedol

Antur Stiniog- Eiddo cymunedol
Cafwyd diwrnod agored ar safle Encil, oedd yn gyfle gwych i sgwrsio gyda’r cyhoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw yn lleol i’r datblygiadau. Roedd yr ymateb yn bostif iawn, a cafwyd llawer o syniadau am be fuasai rhai yn ei hoffi ar dir yr hen Dŷ Golchi. 

Arddangoswyd hefyd gynlluniau (perchennog preifat) ar gyfer datblygu’r hen Glwb Sgwash.
Rydym yn falch i gyhoeddi bod y mwyafrif o’r rhai a fynychodd yn rhannu’r un weledigaeth ag Antur Stiniog am Stryd yr Eglwys.

Mae’r cwmni toi lleol Original Roofing wedi gorffen adnewyddu’r to, a bydd hyn yn help i sychu’r adeilad allan, cyn i’r prif ddatblygiadau gychwyn gan gynnwys ail-godi’r wal flaen. Yn ystod y gwaith byddwn yn defnyddio tir y Tŷ Golchi dros dro fel storfa a safle adeiladu.
Mi fydd gwaith yn cychwyn ar adnewyddu blaen siop Roial Stôrs yn fuan hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i roi dros £200 mil o’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer  datblygu’r hen Aelwyd, ac mi fyddwn yn rhoi tendrau allan yn y dyfodol agos, er mwyn rhoi dyfodol cyffrous i'r hen adeilad arbennig yma.

Llwybr Llesol
Cynlluniau eraill gafodd eu rhannu ar ‘ddiwrnod agored’ Stryd yr Eglwys yng ngardd Encil, oedd rhai y Cyngor Sir i ddatblygu llwybr diogel i gerddwyr a beicwyr o gylchfan Bwlch y Gwynt i’r Llechwedd. 

Bydd y palmant yn cael ei ledaenu mewn ambell le er mwyn rhoi digon o le i greu llwybr oddi ar y ffordd fawr. Bydd beicwyr yn cael eu cyfeirio o dŷ Dolawel i lawr lôn yr hen ysbyty ac i fyny trwy Rhiw -yr unig ran lle bydd beics yn rhannu’r llwybr efo ceir, ond o leiaf na fydd raid cystadlu efo traffig yr A470 ar y darn cul peryglus heibio gwesty baltic. 

O geg y ganolfan ail-gylchu bydd ynys newydd i ganiatâu i gerddwyr groesi’n ddiogel a’r beicwyr yn aros ar y chwith i fyny’r allt. Rhan o raglen ehangach ydi hyn i ddatblygu llwybrau llesol trwy’r sir.

Tarian Tenis

Mi gawsom ni hanes dwy gwpan arian mewn rhifynnau blaenorol, cais am wybodaeth am darian sydd gennym y tro hwn:

 

Tybed a oes unrhyw un o ddarllenwyr Llafar Bro yn gwybod hanes neu leoliad tarian a wnaed o garreg leol yn y 1950au gan fy niweddar dad, William Owen.

 

Un o'r dynion hynaf a drefnodd y twrnamaint oedd 'Tug' Wilson, peiriannydd a ddaeth i'r Blaenau i weithio yng ngorsaf bŵer Stwlan. Un arall o'i bwyllgor oedd Mrs Lydia Owen, athrawes yn Ysgol y Moelwyn, a llawer o bobl leol.
Cysylltwch â gwyndaf.owen@hotmail.com Diolch.



- - - - - - - 

Addaswyd o ddarnau a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2023

3.11.22

Briwsion: Blas y Môr

Ychydig o hyn, llall, ac arall am hen arferion prynu a gwerthu Bro Stiniog, o nodiadau’r diweddar Emrys Evans.  

Blas y tir gawsom ni yn rhifyn Gorffennaf-Awst.

Er nad ydi Stiniog -wrth reswm- ar yr arfordir, roedd cynnyrch y môr serch hynny yn medru bod yn bwysig iawn yng nghynhaliaeth y boblogaeth ar ambell dymor. Pytiau am gynnyrch y môr sydd i ail hanner y gyfres fer yma felly.

Siopau a chludo

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ‘roedd degau o siopau rhwng tre’r Blaenau a phentre Llan Ffestiniog, i gyfarfod a gofynion y boblogaeth mewn bwyd a nwyddau eraill, ac ambell i unigolyn wedi gweld bwlch mewn marchnad a gwneud ceiniog neu ddwy o elw – ond rhaid i’r hyn oedd ganddynt fod yn hawdd i’w gludo i ddrws y tŷ.

Cocos
Hyd at ddiwedd dauddegau’r ganrif ddiwethaf byddai casglwyr cocos Penrhyndeudraeth yn dod i fyny i Stiniog yn eithaf cyson i werthu cocos.  Unwaith eto, trol a mul ddefnyddid i’w cludo, a byddent yn gwerthu’n dda.  Y mesur ar gyfer eu gwerth fyddai hen botyn deubwys marmalêd, a’i lond i’r ymyl: tua tair ceiniog. Erbyn hyn mae unrhyw sôn  am “Gocos Penrhyn” wedi darfod mwy neu lai yn llwyr, a’r enw (dirmygus braidd) “Cockle town” a roddid ar y lle hefyd wedi peidio a chael ei ddefnyddio, a mynd yn anghof.

Tywod
‘Roedd cael carped neu ddarnau o fatiau wedi ei taenu yma ac acw ar lawr y tŷ yn rhywbeth diethr iawn hyd at dauddegau’r ganrif diwethaf.  Crawiau o lechen oedd ar y lloriau’n aml, gydag ambell i dŷ â theils ar y llawr, ac eraill â llawr pridd.  Yng nghof Taid Manod (John H. Evans) byddai hynny oddeutu pymtheg mlynedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.  Deuai gwraig o Benrhyndeudraeth, yn arwain trol a mul yn llawn tywod i fyny i ‘Stiniog i werthu tywod o dŷ i dŷ.  Gwerthai’r tywod am ddimai y bwcedaid, ac arferai’r gwragedd ei daenu dros loriau eu tai.      

Pennog
Ar un adeg bu ‘Penwaig Nefyn’ yn enw, neu’n ymadrodd cyffredin ac enwog iawn.  Byddai heidiau ohonynt i’w cael oddi ar yr arfordir, a dal mawr arnynt.  Cymaint, yn ôl hanes, fel eu bod yn cael eu defnyddio fel gwrtaith i’r tir ar adeg or or-lawndra. Pan fyddai helfeydd da i’w cael byddai troliau’n llawn penwaig yn dod cyn belled â Stiniog i’w gwerthu o dŷ i dŷ, ac o siop i siop.  Yn y siopau gwneid llond dysgl bridd fawr o ‘bennog picl’ ohonynt.  Rhoddid y bowlen ar gownter y siop.  Deuai rhai yno i’w prynu efo plât dyfn neu ddysgl, er mwyn cael llwyaid neu ddwy o’r ‘grefi’ oedd efo’r pennog.  ‘Roedd hyn yn bryd bwyd digon di-drafferth, a blasus iawn.  Codid dwy geiniog neu ddwy a dimai am bob un.  Aeth sawl blwyddyn heibio bellach ers pan y clywyd gweiddi ar hyd y stryd “Penwaig Nefyn –ffresh o’r môr!”  (Tydi’r heidiau pennog ddim i’w cael oddi ar Nefyn erbyn hyn, a dywedir mai’r rheswm am hynny yw oherwydd fod pobl yn nyddiau llawnder mawr wedi eu defnyddio yn wrtaith, a bod hynny wedi digio Duw.)  

Lledod
Byddai lledod yn arfer cael eu dal yn afon Dwyryd efo tryfer.  ‘Roedd nifer wrthi ar ochrau Penrhyndeudraeth a Thalsarnau o’r aber.  Pan y ceid helfa dda yna gwelid rhai o’r gwragedd neu aelodau o’u teuluoedd yn Ffestiniog yn eu cynnig ar werth.   Yn Nhalsarnau ceid hanner dwsin neu fwy yn cyd-weithio, ac yn ei lyfr “Clicio’r Camera” mae gan Ted Breeze Jones ddisgrifiad o’u dull.

- - - - - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022  

(heb y llun, gan PaulW)

 


8.9.22

Llawer Mwy ‘na Llwybrau Beics

Mae Antur ‘Stiniog yn dathlu 10 mlynedd o weithredu fel un o fentrau a busnesau cymunedol mwyaf arloesol Cymru. 

Ers tywys y beicwyr cyntaf i ben mynydd cribau mae’r fenter yn cael ei chydnabod trwy Gymru fel un sydd wedi bod yn arwain y ffordd wrth fynd ati i fanteisio ar, ac ail-fuddsoddi arian sydd yn cael ei gynhyrchu gan ‘ymwelwyr’ er budd y gymuned leol. 

Gweledigaeth graidd y criw ymroddgar lleol o wirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am Antur Stiniog ydi codi ymwybyddiaeth a dangos ei bod hi’n bosib i ni fentro a meithrin uchelgais fel cymuned wrth sicrhau bod asedau ac arian yn aros ac yn cylchdroi yn lleol.

Ers agor y llwybrau beicio mae’r Antur wedi defnyddio’r elw sydd yn cael ei gynhyrchu ar lethrau Cribau i ddatblygu a gweithredu nifer o brosiectau y tu hwnt i ‘dwristiaeth traddodiadol’ megis cynlluniau hyfforddiant i bobl ifanc a datblygu asedau ac eiddo cymunedol ar y stryd fawr.

Be nesa?

Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill yn y tymor byr a’r hir-dymor i gyd-weithio yn bellach wrth edrych ar ddyfodol ein stryd fawr a cheisio mynd ati i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn economaidd a chymdeithasol, ac yn ateb gofynion y gymuned yn nhermau masnach, gwasanaethau, mwynhau a chymdeithasu.

Mae’r gwaith yma wedi cychwyn o ddifri yn diweddar gyda phrynu Siop Eifion Stores a sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr yma yn parhau i fasnachu yn gynaliadwy wrth ateb gofynion y gymuned yn hytrach na chael ei werthu i rywun cefnog o’r tu allan, ei wagio, ei adael yn segur, ac yna’n dirywio.

Erbyn hyn mae cynlluniau cyffrous ar y gweill hefyd i ddatblygu nifer o eiddo segur ond pwysig ar y stryd fawr a byddwn yn trafod a gwrando ar syniadau lleol wrth fynd ati i’w datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys Aelwyd yr Urdd, Siop Ephraim a Caffi Bolton.

- - - - - - - 

Ambell lun o'r dathliad a fu yn Siop Antur Stiniog ynghanol y Blaenau ar y 4ydd o Fedi 2022 (lluniau PaulW)

Estella


Y Cledrau




Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022


28.3.19

Antur Stiniog: Llawer mwy ‘na llwybrau beics

Ychydig o hanes a gobeithion yr Antur at y dyfodol, wedi'i addasu erthygl yn rhifyn Chwefror 2019.

Mae Antur Stiniog wedi hen sefydlu ei hun yn ardal Blaenau Ffestiniog ers dros ddegawd bellach a priodol fyddai atgoffa’n hunain a’r ardal ychydig o’n hanes, rhai o’n cynlluniau a gwahodd syniadau i gyd-weithio wrth edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol.

Llun Adrian Bradley

Sefydlwyd Antur Stiniog fel menter gymdeithasol yn 2007. Fe’i sefydlwyd i feithrin uchelgais, ysbrydoli a chreu cyfleoedd i bobl leol fentro a llwyddo yn yr ardal. Gweithgareddau Awyr Agored oedd y sbardun gwreiddiol. Ar noson Goleuo ‘Stiniog  yn ôl yn 2007 fe dderbyniodd y fenter 2000 o addunedau o gefnogaeth gan drigolion y Fro oedd yn rhannu’r un weledigaeth:
“Datblygu potensial y Sector Awyr Agored yn ardal Ffestiniog mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol”.
Ers hynny mae’r Antur wedi tyfu o fod yn llwyr ddibynnol ar grantiau oedd yn cytundebu gweithiwr hunan cyflogedig rhan amser, ac un Swyddog Datblygu rhan amser drwy gynllun Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw.

Erbyn heddiw mae 11 aelod o’r gymuned leol (Cyfarwyddwyr Gwirfoddol) yn llywio a goruchwylio’r gwaith, ac rydym yn cyflogi oddeutu 20 o drigolion efo trosiant yn agos at £400,000 yn flynyddol (2017) gyda 90% o’r incwm yma yn cael ei gynhyrchu o ganlyniad i weithgareddau economaidd ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ôl adroddiad  a wnaed ar y cyd gyda rhwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog mae’r Antur yn llwyddo i gyfrannu 33% o’n trosiant i’r economi leol.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae’r fenter wedi cyflawni nifer o amcanion oedd yn unol â’i weledigaeth wreiddiol. Ymhlith ein llwyddiannau mae agor llwybrau beicio mynydd ar lethrau'r Cribau ger Ceudyllau Llechwedd, ac yn dilyn cau Canolfan Ymwelwyr Y Parc Cenedlaethol yng nghanol y stryd fawr, bu i ni brynu a sicrhau perchnogaeth gymunedol o’r unedau gwag ac agor siop a chaffi yn gwerthu nwyddau a chrefftau lleol, offer awyr agored, yn ogystal â chynnig gwasanaeth canolfan wybodaeth i ymwelwyr a thrigolion lleol.

Y nod wrth symud ymlaen ydi cryfhau a datblygu'r cynnig yn ymestyn o ddatblygiadau pellach o ran llwybrau beicio mynydd, datblygu'r elfen hyfforddiant awyr agored, prentisiaethau i bobl leol a chyd- weithio efo chymdeithasau megis y Gymdeithas Hanes leol. Rydym am gefnogi a chryfhau rhwydweithiau lleol drwy Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog a chydweithio pan fo cyfle gyda rhwydwaith o fusnesau preifat y Fro sydd wedi gwreiddio yn, ac yn gweithredu er mwyn ein cymuned.

Mae 2019 yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous. Yn ystod mis Mawrth cychwynwyd y gwaith o adeiladau llwybrau beicio newydd fydd yn addas i ddechreuwyr a rhai sydd am fentro i hyfforddi, ynghyd a datblygiadau pellach yn y ganolfan feicio. Bydd y datblygiadau yn tanlinellu ein statws fel un o ganolfannau beicio lawr allt gorau’r wlad.

Rydym hefyd yn awyddus i gydweithio ac ail edrych ar botensial datblygu llwybr beicio a cherdded Llyn Tanygrisiau a datblygu'r hen reilffordd rhwng y Blaenau a Thrawsfynydd er lles y gymuned.

Y Cribau a chaffi'r ganolfan feicio. Llun- Paul W
Rydym am greu cyfleoedd a mentrau o’r newydd drwy gefnogi a chryfhau rhwydweithiau lleol drwy Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog a chydweithio pan’ fo cyfle efo asiantaethau a busnesau preifat y Fro sydd yn gweithredu ac wedi gwreiddio yn ein cymuned.

Yn ddiweddar mae’r Antur wedi derbyn trosglwyddiad eiddo gan Gwmni Cymunedol Adwy ac felly mae gwerth yr asedau y mae Antur ‘Stiniog wedi llwyddo trosglwyddo i berchnogaeth gymunedol oddeutu £1.4m. Rydym wedi cynhyrfu efo potensial i ddefnydd cymunedol o’r adeiladau yma ac yn awyddus i rannu syniadau ar ddatblygu'r eiddo er lles yr ardal. Sut y cawn ni eu gwarchod yn llwyddiannus ar gyfer y dyfodol tra ar yr un pryd cael y gwerth cymdeithasol gorau o’u defnyddio heddiw? Rydym am wrando ac ymateb i ddeheuad a gofynion ein cymuned.

Bellach mae’r sector cyhoeddus yn crebachu, buddsoddiad cyfalaf preifat allanol yn cilio a bydd datblygu diwydiant trwm a’r cryfder economaidd cymharol a ddaeth i’r Blaenau a’r fro yn ei sgil yn anodd yw ail-greu i’r dyfodol. Mae’n holl bwysig felly ein bod ni yn unigolion, yn fentrau a busnesau'r dref yn gweithredu ar y cyd. Beth am gefnogi ein gilydd wrth feithrin ysbryd o fentergarwch cymunedol a datblygu cynlluniau o fudd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol?
Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau dyfodol ffyniannus i’n hieuenctid a’n bro.

Bellach mae sawl galwad o gyfeiriadau gwahanol am strategaeth datblygu economaidd ystyrlon ar gyfer gogledd orllewin Cymru. Bu ffocws y drefn sydd ohoni ar ddenu cwmnïau cyfalaf mawr i’r rhanbarth ond erbyn hyn mae cydnabyddiaeth yn tyfu fod angen cynllun newydd i sicrhau ffyniant ein cymunedau a datblygu ymateb lleol i’r heriau. Mae methiannau datblygu economaidd y gorffennol wedi gadael ein cymuned ymysg y tlotaf yn economaidd yn Ewrop a hynny er bod yr ardal wedi, ac yn dal i greu cyfoeth anferthol ym meysydd megis ynni a thwristiaeth.

Teg gofyn y cwestiwn; Lle mae’r holl gyfoeth yma’n mynd?

Rydym wedi hen arfer dechrau wrth ein traed yma, ac mae nifer yn edrych eto tuag at y fro i rannu gwersi ac am ysbrydoliaeth ym maes datblygu mentrau cymunedol. Rydym eisoes mewn trafodaethau efo cymunedau Nantlle ac Ogwen i ddysgu oddiwrth ein gilydd a rhannu syniadau ac ymarfer da.

Yng nghanol yr holl lymder, mae arwyddion calonogol wrth i rwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog rhyddhau astudiaeth yn ddiweddar yn nodi bod mentrau a busnesau cymunedol y Fro bellach yn cyflogi dros 150 o drigolion lleol ac yn cyfrannu dros £1.5miliwn i’r economi leol. Credwn fod modd adeiladau ar y llwyddiant yma efo cyd-weithio a chefnogaeth briodol gan yr Awdurdod Lleol a’r Llywodraeth.

Wrth weithio efo’n gilydd mae atebion gwahanol yn bosib ac mae angen i ni gyd-weithio a rhoi mynegiant i hyn.
Mae’r atebion gennym ni bobl Bro Ffestiniog.
Rhaid chwalu’r ffiniau anweledig sy’n ein rhwystro ni rhag ymddiried yn llawn yn ein gilydd.

Dim ond un cynhwysyn ym mara brith Bro Ffestiniog ydi menter Antur Stiniog. Heddiw yn fwy nag erioed, mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni ac mae yma gyfle i gyd-greu dyfodol gwell. Credwn yn gryf mai dim ond drwy gyd-weithio a rhannu’r un weledigaeth, partneriaethau a chefnogi ein gilydd mi fyddwn i’n llwyddo.

Os am wybod fwy am ein gwaith, rhannu syniadau  yna dewch draw Siop am banad, ffoniwch 01766 832 214 neu e-bost elin@anturstiniog.com



7.7.18

Stolpia -Tri chan mlynedd yn ôl

(MWY NEU LAI!)
Pennod o gyfres Steffan ab Owain

Tybed a ydych wedi meddwl am funud faint o newid sydd wedi bod ar ein byd, ein gwlad a’n hardal ers tri chan mlynedd yn ôl ... mwy neu lai.  Wel, beth am inni deithio’n ôl i’r gorffennol am ysbaid er mwyn gweld sut le a beth a oedd yma y pryd hynny.  Yn gyntaf, ac union* dri chan mlynedd yn ôl roedd rhyfel yn rhyngnu ymlaen yn Sbaen.  Gallwch fentro fod rhyfel yn rhywle, oni allwch?  Yn 1703, cafodd y bobl gyffredin newyddion da pan ddilewyd y dreth a fyddai am gofnodi eu henwau yn y cofrestri plwyf.  Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach dyfeisiwyd peiriant ager i bwmpio dŵr gan Thomas Newcomen.  Yn 1706 daeth y newyddiadur hwyrol cyntaf allan yn Llundain, sef ‘The Evening Post’.  Yn y flwyddyn 1708 cododd gwrthryfel Jacobiaidd yn yr Alban ac yn 1709 asiwyd y Ddeddf Hawlfraint gyntaf drwy’r senedd .... Gwaetha’r modd!!


Oddeutu dechrau’r ddeunawfed ganrif dim ond rhyw 80,000 o dai oedd yng Nghymru, ac amcangyfrifir fod tua 400,000 o boblogaeth yma.  Wel, am braf, ynte?  Digon araf deg oedd bywyd pob dydd yn yr amseroedd hyn ... dim tensiynau ... dim ‘stress’ ... wel, yn sicr, dim cymaint ag y sydd heddiw.  Wrecsam oedd tref fwyaf Cymru ac Aberhonddu oedd yr un gyfoethocaf yn ôl y son.

Hyd at ddechrau’r cyfnod hwn, tir agored oedd bron ymhob man yng Nghymru – roedd yr hawl i dramwyo – ‘right to roam’ – yn bodoli yr adeg honno, bid sicr, a gallai anifail, pe bae eisiau a neb yn ei wylio, gerdded o ben mynydd uchel i lawr i lan y môr heb fawr o drafferth gan mai ychydig iawn o gloddiau a oedd wedi eu codi yma pryd hynny.

A throi ein golygon yn nes adref rwan.  Poblogaeth plwyf Ffestiniog oddeutu tri chanmlynedd yn ôl oedd tua 460, ac yn y flwyddyn 1700 ganwyd deuddeg (12) o blant yma a bu farw deuddeg o bobl.  Ni phriododd neb yn ein plwyf yn ystod y flwyddyn 1704 na’r blynyddoedd 1709 a 1710 chwaith.  Cofier, nid oedd siop o fath yma tan agorwyd siop ‘Meirion House’ tua 1726.  Efallai mai i Siop Penmorfa yr ai ambell un cyn hyn, a thaith beryglus oedd honno hyd yn oed ar yr adegau gorau.  Prif gynhaliaeth y trigolion oedd cig eu da byw ac ychydig o geirch, ac mewn degawdau diweddarach ceid ychydig o haidd a thatws, efallai.

Erbyn y flwyddyn 1780 ceid tua 54 o ffermydd a thyddynnod yn ein plwyf ac un neu ddau o fythynnod, megis Bwth y Cleiriach a’r Ysgol Newydd, efallai.  Talai lle fel Plas Dolymoch rent neu dreth o tua £30 y flwyddyn, Bron y Manod £9 a Llwyn y Gell £3.  Cofier, nid oedd pawb yn dlawd, ac os edrychwn ar rai o ewyllysiau pobl y plwyf gwelwn nad oeddyn ar glemio, fel y dywedir.  Er enhraifft, yn 1729 gadawodd Robert Cadwaladr, Cwm Bywydd gymaint o £40 yn ei ewyllys i’w ferch Catherine, £15 i’w ferch Elen a £5 i’w ferch Margaret, a’r gweddill i’w wraig, a chredwch chi fi roedd hyn yn dipyn o arian yn y 18fed ganrif.  Wel, dyna ni wedi cael cipolwg bach sydyn ar fywyd tri chan mlynedd yn ôl.

Tybed faint ohonoch chi a fyddai’n fodlon newid lle efo pobl yr oes honno?

------------
*Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2002.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde
(Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view'.)

[LLUN- Lleucu]


3.6.17

Ffarwelio a Diolch

Wedi nifer o flynyddoedd ar y safle yng nghanol y dref, daeth diwedd ar wasanaeth Swyddfa’r Post. Yn ffodus, ni fydd y post yn diflannu’n gyfangwbl, fel y gwnaeth banciau’r ardal yn ddiweddar, oherwydd i siop Eurospar, ger y Parc gymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaeth. Llawer o ddiolch i Gwynn Jones, y postfeistr a’i staff am eu gwasanaeth cwrtais a chymwynasgar dros y blynyddoedd.

Dechreuoedd Gwynn fel postmon 43 blynedd yn ôl, ac wedi 4 blynedd o droedio’r strydoedd, penderfynodd fynd 'tu ôl i’r cownter’ yng nghangen Swyddfa’r Post yn Llanrwst. Yn 1978, wedi chwe mis yn Llanrwst, daeth y cyfle i ddod i weithio i gangen y Blaenau, dan ofal y postfeistr ar y pryd, y diweddar Gwynfor Francis. Y clercod eraill ar y pryd oedd Wil, Llys Morfa, Megan Powell a Margaret Einion. Eraill a fu’n gweithio ar gownter y post hefyd oedd Keith Owen a Megan Jones. Yn ddiweddarach ymunodd Gillian â’r gwasanaeth, a da yw cael dweud y bydd hi yn cario ‘mlaen gyda’i dyletswyddau yn y post newydd.  22 mlynedd yn ôl, penderfynodd Gwynn a’i briod, Margaret gymryd y cyfrifoldeb o’i rhedeg. Bellach, penderfynodd y ddau ei bod yn amser ymddeol, a chael treulio mwy o amser gyda’r teulu.

Dymuna Gwynn a Margaret ddiolch i bawb am ei cefnogaeth dros y blynyddoedd. Dymunwn ninnau, fel ardalwyr ddiolch eto i’r ddau ohonoch am eich gwasanaeth gwerthfawr drosom. Dyma gyfle i ni ddweud diolch am y gwasanaeth ‘Dosbarth Cyntaf’ a dymuno ymddeoliad hapus, haeddiannol, a hir oes i’r ddau ohonoch! Ar yr un pryd, dymunwn lwyddiant i’r Swyddfa Bost ar ei safle newydd.
 

* * * * *

Ar ôl 26 mlynedd yn gwasanaethu fel fferyllydd yn siop D. Powys-Davies, fe ymddeolodd Andrew Martin. Graddiodd fel fferyllydd yng Nghaerlŷr. Roedd ei swydd gyntaf yn Banbury, cyn symud i Birmingham am bedair blynedd.  Yna treuliodd chwe mlynedd ym Mangor, cyn dod i'r Blaenau yn 1991.

Llun- Dafydd Roberts
Hoffai ddiolch i holl staff y fferyllfa am eu gwaith caled a chydwybodol dros y blynyddoedd. Diolch hefyd i staff y Feddygfa ac i Bryn Blodau am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth. Yn bwysicach na dim, diolch o galon i holl gwsmeriaid y Blaenau a'r cylch am eu ffyddlondeb. Dymuna’n ogystal bob llwyddiant a hapusrwydd yma yn y Blaenau i Steffan John a Gwenno, rheolwyr newydd y fferyllfa.



* * * * *
Wedi blynyddoedd maith yn cadw siop ‘Cambrian Boot’ (Siop Esi gynt), mae Mrs Beryl Jones wedi penderfynu ymddeol. Fe gychwynnodd helpu allan yn y siop efo ‘Anti Esi’ pan yn 12 oed, cyn dechrau’n llawn amser yno pan adawodd yr ysgol yn 15 oed.

Llun o dudalen FB Siop Esi
Ar wahân i gyfnod o 10 mlynedd pan symudodd hi a’i gŵr i fyw i Awstralia (ble roedd ei chwaer yn byw), mae hi wedi bod ynghlwm â’r siop. Er, yn ddiddorol iawn, tra’n byw ym mhen arall y byd, be feddyliwch chi oedd gwaith Beryl? Gweithio mewn siop ‘sgidia wrth gwrs!

Pan ddychwelodd y teulu i Gymru yn 1985, penderfynodd Esi ei bod hi’n bryd ymddeol ac felly fe gymrodd Beryl drosodd.

Hoffai Beryl ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r busnes dros y blynyddoedd  gan ddweud  “Mae wedi bod yn fwynhad ac yn bleser cael rhedeg busnes yn y Blaenau.” Ond y newydd da ydi y bydd y busnes yn parhau yn y teulu gyda’i merch-yng-nghyfraith, Delyth Jones Evans yn cymryd drosodd.


-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2017


7.2.16

Stolpia -Rhai o Siopau'r Rhiw

Pigion o golofn fisol Steffan ab Owain.


 Hen Siop Rhiwbryfdir (Belmont yn ddiweddarach)
Byddai siop yn Belmont ar un adeg ac roedd ffenestr siop yno hyd at y chwedegau, os cofiaf  yn iawn. Bu swyddfa bost yno am rai blynyddoedd cyn ei symud tros y ffordd i Glanydon a byddid yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau a dilladau yno.

Byddai polyn lamp ar gornel y groesffordd ac yno yng ngolau trydan gwan y byddem yn chwarae ar nosweithiau sych yn y gaeaf. Chwarae cuddiad, neu chwarae tic neu bêl droed o fath. Yn ddiau, roeddem yn cael dipyn mwy o ryddid na phlant heddiw. (I’w barhau)

Efallai bod rhai ohonoch yn methu a deall pam y gelwir y tai hyn wrth yr enw Glanydon. Wel, y rheswm yw, ar un adeg, byddai afon fechan yn llifo heibio cefn y tai ac i lawr i afon Barlwyd ger  Dinas. Pa fodd bynnag, penderfynwyd ei chau â slabiau rhyw dro yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ei bod yn ddigon peryglus ar dywydd o law mawr.

Syrthiodd un hogyn bach iddi un tro. Credaf mai Tommy Morton oedd ei enw a chludwyd ef i lawr am y Dinas gan y llifeiriant ond trwy rhyw drugaredd achubwyd ef gan chwarelwr dewr.

Dyma ni rwan yn yr hen bost y drws nesaf i Glasgow House. Hyd y gwn i, roedd swyddfa bost yn y lle hyd at yr 1940au gan i mi weld copi o drwydded gwn wedi cael ei stampio a’i arwyddo yno yn 1941, i Mr Robert Hughes, Bryn Hyfryd.

Roedd siop yma yn y blynyddoedd cynt gan David Jones, neu ‘Dafydd Jôs y Blawd’, fel y’i gelwid.  Credaf mai ef oedd perchennog y tŷ popty neu’r becws a fyddai ymhen pellaf y rhes . Cofiaf y lle yn wag ac wedi gweld dyddiau gwell. Pwy a rydd ychydig o’i hanes inni?

Y Rhiw a Thomen Glanydon,Ysbyty Oakeley ayyb (c1920)

Edrych i lawr ar Rhiw a Heol Dinas (1960au)
Crwydro rwan i ardal y Dinas, sef y rhan sydd i gyfeiriad hen Chwarel Oakeley o’r groesffordd ger Penygroes.

Er nad oes siop wedi bod yn y rhan hon o Riwbryfdir, clywais fy niweddar fodryb Megan ac ambell un arall yn dweud y byddai nain Dr. Eddie John Davies (Afon Ro), Cerrigydrudion yn gwneud pennog picl blasus yn ei chartref ac yn eu gwerthu i bobl leol.

Tybed pa bryd y cawsoch chi bennog picl blasus ddiwethaf ? Nid oes neb yn sȏn dim amdanynt heddiw. Mwy o fynd ar kibab, neu’n fwyd Chineaidd neu rywbeth arall bellach ynte?

Yn Heol Dinas, byddai Owen Jones yn gwneud gwaith crydd, ac os byddai’r esgidiau hoelion angen ambell hoelen ynddynt neu’r esgidiau gorau angen gwadnau neu sodlau, eid a nhw ato ef weithiau i’w trwsio a thro arall i fyny at grydd top Rhiw. Tybed faint o blant heddiw a ŵyr beth yw crydd?

Dros y ffordd i Benygroes, saif tai Gwyndy. Byddai siop bren fawr rhwng Siop Evan Owen a rhif 1 Gwyndy, ac ar un adeg, byddent yn gwerthu pennog picl, nionod wedi piclo, ‘penny ducks’ ac amryw o bethau eraill yno ar gyfer y trigolion a’r gweithwyr.

Y tu ȏl iddi hi, yn ymylu ar Gae Joni (Cae Dolawel), ceid tŷ popty (becws) yn perthyn i Evan Owen, ac yno byddai’r bara gorau yn y wlad yn ȏl rhai.

Wal Penygroes ar y dde, a Tai Gwyndy, y Siop Bren, Siop Evan Owen, ayyb ar y chwith, a’r plant yn chwarae ar y ffordd.

Yn Glasgow House, preswyliai Mr a Mrs Robert Williams. Bu Mr a Mrs Willams yn cadw busnes cigydd yno am rai blynyddoedd, ond credaf bod hynny cyn canol yr 1950au. Efallai y gall rhywun ein hatgoffa.

Y rhai a gofiaf i yn byw yn nhŷ’r siop y drws nesaf i Glasgow House oedd Mr a Mrs D. Jones, a byddent yn trwsio olwynion beics a coitjis yno. 

Yn y llun ar y chwith mae teulu Glasgow House tu allan i hen bost y Rhiw.
------------------------

Wedi'i addasu o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Mehefin, Gorffennaf, Tachwedd, a Rhagfyr 2015, ac Ionawr 2016.

Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



17.7.15

Y Pigwr- parcio

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm am bwnc lleol arall.

Wrth groesawu ysbryd nadoligaidd Cyngor Gwynedd yn caniatáu parcio am ddim ym meysydd parcio'r dref dros yr ŵyl ddiwedd llynedd, digon dilewyrch oedd masnach y siopau yma, wedi'r cyfan. Natur ddynol ryw ydi ceisio cael y fargen orau am bob ceiniog, ac yn anffodus, nid oes gan fasnachwyr lleol obaith o gystadlu yn erbyn grym archfarchnadoedd mawrion 'lawr y côst' a Phorthmadog.

Felly, yn y trefi hynny y gwariwyd y mwyafrif o bunnoedd pobl 'Stiniog, gwaetha'r modd. Ond i fynd yn ôl i'r mater o godi ffî am barcio, onid yw'n hen bryd i'r Cyngor benderfynu dileu'r tâl ym meysydd parcio Blaenau Ffestiniog am byth?

Efallai na wnaiff lawer o wahaniaeth yn ystod y gaeaf, beth bynnag, ond yn yr haf, byddai'n sicr o fod yn fanteisiol i gael ymwelwyr i aros yn y dref, a gwario'u harian yma. Beth am awgrymu hyn i uchel swyddogion y cyngor sir, chwi feidrolion o wasanaethwyr lleol?  Mi fyddai'n werth rhoi cynnig ar arbrawf o'r fath, o leia'.

I'r perwyl hwnnw, rhyfeddod yn wir oedd teithio heibio Llyn Ogwen, ganol wythnos yn ddiweddar, a gweld cannoedd o foduron wedi hawlio pob troedfedd sgwâr o leoedd parcio. Roedd pob pafin wedi eu hawlio gan geir estroniaid hefyd, a hynny'n anghyfreithlon, (i fod). Cannoedd o geir o ochr arall i Glawdd Offa, yn cael parcio, yn rhad ac am ddim, drwy garedigrwydd, neu'n hytrach ffolineb Cyngor Conwy, am hynny o amser y dymunent. A faint o arian sydd yn cylchdroi yn ardal Ogwen/Nant Ffrancon oherwydd ymweliadau'r gwenoliaid hyn?

Mae'r dringwyr/cerddwyr hynny sy'n ymweld â'r fro honno yn dod â'u pecyn bwyd a'u diod gyda hwy, ac yn prynu hynny o danwydd sydd ei angen cyn cychwyn ar y daith i'n plith, ac yn cyfrannu'r un hatling at economi Dyffryn Ogwen, na Chymru.

Ond gyda'r datblygiadau sy'n digwydd ym myd twristiaeth yn ardal 'Stiniog yn ddiweddar, mae'r potensial yn enfawr. Ac yn sgil datblygiadau'r blynyddoedd diweddar, mae gwir angen codi proffil yr hen dref hon.

Os gellir denu cyfran fechan o'r miloedd sy'n arfer ymweld â Phorthmadog a'r Betws - a Dyffryn Ogwen, dros yr haf i Flaenau Ffestiniog, yna fe ddaw'r llewyrch yn ôl i dre'r llechi. Ond yn gyntaf, rhaid sicrhau atyniadau i'w cadw yma, ac yn ychwanegol, trefnu parcio am ddim yn y meysydd parcio yma.


[Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2015. Gwnaed mân newidiadau yma i adlewyrchu'r tymor.]
-------------------------

Darllenwch erthyglau eraill Y Pigwr gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

2.3.14

Siarad Siop -Antur Stiniog

Ar Ddydd Gwyl Dewi, agorwyd pennod newydd yn hanes menter gymunedol Antur Stiniog.

Nid gwneud y pethau bychain yn unig mae Antur Stiniog, ond gwneud gwahaniaeth go iawn i Fro Ffestiniog, trwy greu swyddi a chodi hyder yn lleol y gallwn ni'r Cymry fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi o fyw mewn ardal fynyddig, hardd.




Hir oes i'r Antur! Dyma hanes y fenter ddiweddaraf, o rifyn Chwefror, gan Ceri Cunnington, rheolwr Antur Stiniog.

Ar Fawrth y 1af agorodd 'Y Siop' ei drysau am y tro cyntaf, ar ol gwaith adnewyddu helaeth.  Roedd cyfle ar y diwrnod i flasu gweithgareddau awyr agored amrywiol, teithiau trefol, hyfforddiant beicio mynydd, yn ogystal a chael bargen (neu ddeg)!


Ein nod wrth ddatblygu'r hen unedau crefft ar y Stryd Fawr ydi sicrhau mai Blaenau Ffestiniog ydi canolbwynt naturiol a chyffrous y datblygiadau newydd yma ac mai busnesau a thrigolion yr ardal fydd wir yn elwa. Mae angen i ni i gyd gydweithio i’r perwyl hwn yn hytrach na chystadlu. Wedi’r cyfan, mewn undeb mae nerth.

Bydd ‘Y Siop’ yn siop fasnachol gyda chalon gymdeithasol. Ceir ynddi werthu nwyddau awyr agoed, pecynnau gweithgareddau awyr agored, a chynnyrch trawiadol Antur Stiniog. Bydd hefyd yn ganolbwynt a man gwybodaeth ar gyfer gweithgareddau a rhyfeddodau’r ardal. Ein nod ydi plethu gweithgareddau awyr agored efo’n treftadaeth a'n diwylliant cyfoethog. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn nelwedd ‘Y Siop’. Yn ogystal â hyn, bydd hefyd yn ganolfan hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc y fro sydd am ddilyn gyrfa yn y sector.

Y twr dringo a gadwodd ddwsinau o blant yn brysur a bodlon ar Ddydd Gwyl Dewi
Rydym hefyd yn dal i bwyso ar yr awdurdodau ynghylch dyfodol y rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd. Dyma wastraff llwyr o adnodd gwerthfawr! Byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus er mwyn cael rhannu syniadau a symud pethau ‘mlaen.

Dim ond rhagflas o waith Antur Stiniog sydd wedi ei nodi uchod; Os hoffech wybod mwy am ein cynlluniau neu rannu syniadau cysylltwch â ni ar 01766 832 214, neu dewch draw i’r Siop am sgwrs a phanad neu gyrrwch neges: Ceri.c@anturstiniog.com

Hanfod Antur Stiniog yw’r gymuned ac rydym yn credu’n gryf mai trwy weithio mewn partneriaeth y daw cyfle gwirioneddol i adfywio'r fro ryfeddol hon.





20.2.13

Pytiau Chwefror 2013

Dyma bytiau allan o rifyn Chwefror. Gallwch ddarllen y cyfan yn y papur.

Cofiwch: dim ond 40 ceiniog ydi Llafar Bro, ac mae tanysgrifio yn rhad iawn hefyd i'r rhai sydd wedi gadael y fro. Gallwch roi cyfarchion ac atgofion am ddim ynddo, cysylltu efo hen gyfeillion, holi hanes teuluoedd a gyrru hen luniau i gael enwau cyd-ddisgyblion a chydweithwyr anghofiedig.

Lle arall gewch chi'r fath werth am eich pres?!



Sefydlu busnes o’r newydd, er gwaetha’r lladron
Mae gweld un o siopau’r dref yn cael ei hagor o’r newydd yn destun llawenydd bob amser, yn arbennig felly os mai un o ienctid yr ardal sy’n mentro. A dyna ddigwyddodd yn Siop y Gainsboro ym mis Tachwedd llynedd pan fentrodd Llinos Roberts, un o ferched ifanc lleol, i gychwyn ei busnes ei hun, yn gwerthu dillad merched a phlant.  ‘Pob lwc iddi!’ oedd barn pawb. Pawb ond y lladron diegwyddor hynny sydd bob amser yn meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i roi eu dwylo blewog ar eiddo rhywun arall.
Byddai rhai gwanach na hi wedi anobeithio a rhoi’r ffidil yn y to yn y fan a’r lle, ond fe fentrodd y ferch ifanc hon o’r newydd i fuddsoddi mewn rhagor o nwyddau ac erbyn heddiw mae TŶ FFASIWN wedi sefydlu ei hun ar y Stryd Fawr. Dymunwn bob lwc i’r fenter. Mae Llinos yn ei haeddu ac yn haeddu cefnogaeth y dref.

Ysgol y Moelwyn
Tymor Olaf Blwyddyn 11: Am bedair mlynedd a hanner mae Blwyddyn 11 wedi bod yn galon i fywyd yr ysgol, ond mae’r amser yn dod iddynt gymryd eu harholiadau terfynol a symud i’r cyfnod nesaf yn eu bywydau. Dyma’r tymor olaf y byddant efo ni mewn gwersi, cyn y cyfnod adolygu ar ôl y Pasg, ac mae’n amser pwysig yn eu bywydau ifanc. Gyda llai na phedwar mis cyn yr arholiadau mae angen dal at y gwaith caled maent wedi ei wneud dros y blynyddoedd gyda help eu ffrindiau a’u teuluoedd. Rydym ni yn barod i roi pob cefnogaeth bosib i helpu’r disgyblion yma i gyflawni eu holl botensial a rhoi y siawns gorau i bob disgybl yn ystod yr amser pwysig yma yn eu bywydau.


                                                    Steddfod yr Urdd, Meirionnydd 2014

Mae targedau’r gronfa yn uchel a’r gwaith o godi arian yn gallu bod yn ddi-ddiolch yn aml. Pe bai ond am y rheswm hwnnw, mae’r rhai sydd wedi gwirfoddoli i weithredu ar y Pwyllgor Codi Arian yn haeddu pob clod a phob cefnogaeth y gallwn ni ei roi iddynt. Wedi’r cyfan, os yw’r Eisteddfod yn cael cefnogaeth ardaloedd di-Gymraeg mewn rhannau o ddwyrain a de Cymru, yna siawns na fedrwn ni, y Cymry Cymraeg, ddangos yr un gefnogaeth i un o’n prif wyliau cenedlaethol. 
Y newydd da yw y bydd yr Ŵyl Gyhoeddi yn cael ei chynnal yn Stiniog y tro hwn, ar Ebrill 27ain, ac y bydd hwnnw’n gyfle inni ddangos i weddill Cymru bod yr ardal yma mor gefnogol ag erioed i ienctid ein gwlad ac i’r diwylliant Cymreig.