Showing posts with label parcio. Show all posts
Showing posts with label parcio. Show all posts

22.1.26

Senedd Stiniog- Newyddion o'r Cyngor Tref

Cadair Eisteddfodol arall yn dychwelyd i Ffestiniog ar ôl oes ar wasgar!
Roedd y Cyng. Peter Jones wedi gweld y gadair Eisteddfodol ar werth ar y we. Cynigiodd y dylai’r Cyngor ei phrynu, i sicrhau y gall ddychwelyd i Fro Stiniog. Enillwyd y gadair yn 1897 gan Isaac Jones yn Eisteddfod Ebenezer, Blaenau Ffestinog. Cytunwyd i brynu’r gadair am £550, ac erbyn hyn, mae hi’n sefyll yn falch yn Siambr y Cyngor yn y Ganolfan.

 

Ystâd y Goron yn lleihau lefel y dŵr yn Llyn Dubach am resymau diogelwch
Daeth Ross Evans o Stâd y Goron i roi gwybod i’r Cyngor am gynlluniau’r corff hwnnw, sydd piau’r gronfa, i leihau lefel y dŵr 100mm y flwyddyn, a hynny am resymau diogelwch gan fod y strwythur yn wan. Maent yn bwriadu gwneud ffordd dros dro i wneud hyn, a’i symud wedyn. Maent wedi derbyn cyngor ecolegol ac archaeolegol, o gofio ei fod o fewn tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru. Gofynnodd y Cyng. Marc Lloyd Griffiths am gopi o’r arolwg ecolegol. Cytunwyd i ddarparu hwn. Lleisiodd y Cyng. Mark Thomas bryder am yr effaith posibl ar stoc pysgod, gan nodi fod rhai’n dal i bysgota yno. Atebodd Mr Evans y dylai fod yna ddigon o ddŵr ar gyfer y pysgod sydd ar ôl. Erbyn i’r rhifyn yma o Lafar Bro ymddangos, mae’n debyg y bydd y gwaith hwn wedi dechrau a bydd yn parhau am rai wythnosau.

Clwb Amaturiaid y Blaenau yn cael grant am offer fideo newydd
Ystyriwyd cais gan y clwb i brynu VEO, sef peiriant recordio i alluogi pobl i wylio gemau o’u cartrefi. Cost yr offer fydd £2,500. Cytunwyd i gyfrannau £1,000 tuag at hwn. Cytunwyd hefyd i gyfrannu £1,000 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a £1,000 tuag at fudiad Dawns i Bawb, sy’n cynnig cyfleoedd dawnsio i bobl o bob cefndir trwy Wynedd, Conwy ac Ynys Môn.

Cefnogi troi’r llwybr llechi yn llwybr Cenedlaethol
Llwybr 83 milltir yw hwn, o Fangor, trwy ardaloedd llechi Eryri, gan gynnwys Tanygrisiau, y Blaenau, a Llan Ffestiniog. Roedd y Llwybr Llechi wedi ysgrifennu at y Cyngor yn gofyn am gefnogaeth i ddynodi’r llwybr fel Llwybr Cenedlaethol, fel Llwybr yr Arfordir. Nodwyd fod ymchwil gan y Ramblers fod twristiaeth cerdded yng nghefn gwlad ac arfordir Cymru yn cyfrannu dros £550 miliwn i'r economi a bod llwybrau cerdded yn rhoi cymhareb budd i gôst o 20:1. Cytunwyd i gefnogi’r cais.

Adroddiad Cadi am ei hymweliad â Rawson, Patagonia
Derbyniwyd adroddiad gan Cadi Dafydd, enillydd Ysgoloriaeth Patagonia 2025, am ei hamser yn Rawson. Dwi’n meddwl fod fersiwn fyrrach o hwn yn ymddangos yn Llafar Bro. Mi gafodd Cadi ei chanmol am hwn. Mae’n werth ei ddarllen!

Gwaharddiadau Parcio Tan y Manod
Ystyriwyd cynlluniau gan Gyngor Gwynedd am waharddiadau parcio yn Nhan y Manod. Roedd swyddog o Gyngor Gwynedd wedi trafod y mater efo’r Cyng Glyn Daniels ac wedi gofyn am farn y Cyngor Tref. Cytunwyd i gefnogi’r cais hwn, a hynny oherwydd pryder na allai’r gwasanaethau brys basio ar adegau, petai’r angen.

Dod â byd natur i Sgwâr Oakeley 

Yn olaf, adroddwyd fod cynlluniau’n mynd rhagddi ar gyfer cynllun bioamrywiaeth y Sgwâr. Gwerir £1,300 ar 50m o ffens er mwyn gallu plannu coed.

Rory Francis
- - - - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2025

  

12.7.21

Wedi Cael Digon!

Darn barn gan DR

Faint ohonoch chi sydd wedi cael llond bol yn gyrru cerbyd o’r Manod i’r Blaenau ac yn ôl yn ddiweddar? Mae’r sefyllfa yn echrydus ac yn beryglus a deud y lleia. Mae degau ar ddegau o geir a fania wedi parcio ar hyd y ffordd fawr sydd yn gwneud y daith yn hynod ddiflas. Ond mae’r sefyllfa wedi gwella ychydig yn y Manod – hanner ffordd rhwng y Wynnes a’r eglwys yn ddiweddar - am fod y Cyngor Tref wedi llwyddo i gael yr Adran Ffyrdd i osod llinellau dwbl melyn i wneud lle i gerbydau basio eu gilydd yn ddiogel. Ond dal i barcio mae ceir ar y safle sydd yn creu trafferth i’r gyrrwyr sydd yn mynd a dwad o’r dref. Mae’n hen bryd i roi ychydig o hawl i’r heddlu i rybuddio y rheini sydd yn mynnu parcio ar linellau dwbl melyn heb reswm ddigonol, a’u rhybuddio os cael ei dal eto, yn cael eu cosbi. Mae gyrrwyr lleol a diarth sydd yn teithio i gyfeiriad y dref ddim wedi sylweddoli fod yna le ddiogel i dynnu mewn er mwyn i geir gael pasio. Felly mae angen rhyw fath o arwyddion mawr ddigon plaen yw gosod, a hefyd DIM PARCIO mewn llythrennau coch ar y ffordd.

CWESTIWN! Be yn union mae llinellau dwbl melyn yn olygu i chi bobl?

I mi mae’r ateb yn syml – DIM PARCIO ffwl stop! Enghraifft arall o hyn yw'r safle ger yr archfarchnad ar ben Stryd yr Eglwys. Er bod digon o le i barcio ym maes parcio'r siop, mynnu mae ambell i yrrwr i barcio hanner ar y pafin ac hanner ar y ffordd, sydd yn gwneud hi yn beryglus i gerddwyr. Diogi yw hyn a dim byd arall. Angen gair bach gan yr heddlu i atgoffa gyrrwyr bod llinell dwbl melyn yn bodoli ar y ffordd.



Safle arall sydd yn hynod beryglus yw y safle bysiau ger y mynediad i stad Penygwndwn dros y ffordd i Disgwylfa. Mae'r rhan fwyaf o yrrwyr sydd yn mynd i gyfeiriad y dref ddim yn gweld os oes cerbydau yn dod i'w cwfwr. Mae hyn wedi digwydd i mi yn bersonol sawl gwaith wrth ddod yn ôl o’r dref i gyfeiriad Manod, yn dod wyneb i wyneb â gyrrwr sydd ddim wedi arafu, ac yn creu dipyn o ddrwg deimlad a gweiddi a rhegi. Mae’r ateb yn syml – gosod llinell ddwbl melyn o ddiwedd safle’r bysiau hyd at ddau gerbyd o hyd ar y ffordd. Felly os gwelwch yn dda, Gyngor Tref, a fedrwch chi ddatrys y broblem. Lle arall sydd yn creu trafferth yw'r Stryd Fawr o Garej Cambrian i’r groesffordd wrth yr hen Co-op. Tydi Stryd Fawr y Blaenau ddim yn ddigon llydan i dri car! Wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen gwaethygu wneith y broblem.

CWESTIWN arall! Am ba mor hir geith perchennog cerbyd barcio ar y ffordd fawr? Enghraifft o hyn sydd wedi dod yn amlwg yn ddiweddar yw y safle sydd wedi cael sylw yn gynharach. Mi roedd y cerbyd yma wedi ei barcio am wythnosau lawer nes bod mwsog wedi tyfu odano. Mi roedd rhaid symud y cerbyd er mwyn llnau y mwsog. Erbyn hyn mae’r cerbyd yn ôl yn yr un lle. Yn wir, mae angen tynnu sylw y sefyllfa i’r Cyngor Sir a’r Heddlu i drin y mater. 

Hefyd!! Oes na rhywun heblaw fi yn bersonol wedi sylweddoli does dim arwydd o gwbl ar y ffordd fawr o waelod y Creimeia i ben draw Congl y Wal yn atgoffa gyrrwyr bod 30 milltir yr awr yn bodoli. Mae llawer o yrrwyr yn bendant yn mynd yn gynt na 30 m.y.a. Hefyd does dim arwyddion o gwbl ar y ffordd i arafu mewn llefydd peryglus, e.e. Ffourcrosses, tro Tabernacl, tro Peniel, Tanygraig, Bethania, Manod, Stryd yr Eglwys a’r Stryd Fawr. Yn wir mae’n wyrth nad oes damweinia wedi digwydd, a gobeithio yn wir fydd dim damwain yn y dyfodol.
-------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2021.

Mae'r panel golygyddion yn gwybod pwy ydi DR ond gofynodd inni beidio rhoi'r enw'n llawn efo'r erthygl.

Ydych chi'n cytuno efo barn DR? Gadewch i ni wybod!

[Llun- Paul W]

17.7.15

Y Pigwr- parcio

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm am bwnc lleol arall.

Wrth groesawu ysbryd nadoligaidd Cyngor Gwynedd yn caniatáu parcio am ddim ym meysydd parcio'r dref dros yr ŵyl ddiwedd llynedd, digon dilewyrch oedd masnach y siopau yma, wedi'r cyfan. Natur ddynol ryw ydi ceisio cael y fargen orau am bob ceiniog, ac yn anffodus, nid oes gan fasnachwyr lleol obaith o gystadlu yn erbyn grym archfarchnadoedd mawrion 'lawr y côst' a Phorthmadog.

Felly, yn y trefi hynny y gwariwyd y mwyafrif o bunnoedd pobl 'Stiniog, gwaetha'r modd. Ond i fynd yn ôl i'r mater o godi ffî am barcio, onid yw'n hen bryd i'r Cyngor benderfynu dileu'r tâl ym meysydd parcio Blaenau Ffestiniog am byth?

Efallai na wnaiff lawer o wahaniaeth yn ystod y gaeaf, beth bynnag, ond yn yr haf, byddai'n sicr o fod yn fanteisiol i gael ymwelwyr i aros yn y dref, a gwario'u harian yma. Beth am awgrymu hyn i uchel swyddogion y cyngor sir, chwi feidrolion o wasanaethwyr lleol?  Mi fyddai'n werth rhoi cynnig ar arbrawf o'r fath, o leia'.

I'r perwyl hwnnw, rhyfeddod yn wir oedd teithio heibio Llyn Ogwen, ganol wythnos yn ddiweddar, a gweld cannoedd o foduron wedi hawlio pob troedfedd sgwâr o leoedd parcio. Roedd pob pafin wedi eu hawlio gan geir estroniaid hefyd, a hynny'n anghyfreithlon, (i fod). Cannoedd o geir o ochr arall i Glawdd Offa, yn cael parcio, yn rhad ac am ddim, drwy garedigrwydd, neu'n hytrach ffolineb Cyngor Conwy, am hynny o amser y dymunent. A faint o arian sydd yn cylchdroi yn ardal Ogwen/Nant Ffrancon oherwydd ymweliadau'r gwenoliaid hyn?

Mae'r dringwyr/cerddwyr hynny sy'n ymweld â'r fro honno yn dod â'u pecyn bwyd a'u diod gyda hwy, ac yn prynu hynny o danwydd sydd ei angen cyn cychwyn ar y daith i'n plith, ac yn cyfrannu'r un hatling at economi Dyffryn Ogwen, na Chymru.

Ond gyda'r datblygiadau sy'n digwydd ym myd twristiaeth yn ardal 'Stiniog yn ddiweddar, mae'r potensial yn enfawr. Ac yn sgil datblygiadau'r blynyddoedd diweddar, mae gwir angen codi proffil yr hen dref hon.

Os gellir denu cyfran fechan o'r miloedd sy'n arfer ymweld â Phorthmadog a'r Betws - a Dyffryn Ogwen, dros yr haf i Flaenau Ffestiniog, yna fe ddaw'r llewyrch yn ôl i dre'r llechi. Ond yn gyntaf, rhaid sicrhau atyniadau i'w cadw yma, ac yn ychwanegol, trefnu parcio am ddim yn y meysydd parcio yma.


[Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2015. Gwnaed mân newidiadau yma i adlewyrchu'r tymor.]
-------------------------

Darllenwch erthyglau eraill Y Pigwr gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.