Cofiwch: dim ond 40 ceiniog ydi Llafar Bro, ac mae tanysgrifio yn rhad iawn hefyd i'r rhai sydd wedi gadael y fro. Gallwch roi cyfarchion ac atgofion am ddim ynddo, cysylltu efo hen gyfeillion, holi hanes teuluoedd a gyrru hen luniau i gael enwau cyd-ddisgyblion a chydweithwyr anghofiedig.
Lle arall gewch chi'r fath werth am eich pres?!
Sefydlu busnes o’r newydd, er
gwaetha’r lladron
Mae gweld un o siopau’r dref yn
cael ei hagor o’r newydd yn destun llawenydd bob amser, yn arbennig felly os
mai un o ienctid yr ardal sy’n mentro. A dyna ddigwyddodd yn Siop y Gainsboro ym
mis Tachwedd llynedd pan fentrodd Llinos Roberts, un o ferched ifanc lleol, i
gychwyn ei busnes ei hun, yn gwerthu dillad merched a phlant. ‘Pob lwc iddi!’ oedd barn pawb. Pawb ond y
lladron diegwyddor hynny sydd bob amser yn meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i roi
eu dwylo blewog ar eiddo rhywun arall.
Byddai rhai gwanach na hi wedi anobeithio a rhoi’r ffidil yn y to
yn y fan a’r lle, ond fe fentrodd y ferch ifanc hon o’r newydd i fuddsoddi mewn
rhagor o nwyddau ac erbyn heddiw mae TŶ FFASIWN wedi sefydlu ei hun ar y Stryd Fawr.
Dymunwn bob lwc i’r fenter. Mae Llinos yn ei haeddu ac yn haeddu cefnogaeth y
dref.
Ysgol y Moelwyn
Tymor Olaf Blwyddyn 11: Am bedair mlynedd a hanner mae
Blwyddyn 11 wedi bod yn galon i fywyd yr ysgol, ond mae’r amser yn dod iddynt
gymryd eu harholiadau terfynol a symud i’r cyfnod nesaf yn eu bywydau. Dyma’r
tymor olaf y byddant efo ni mewn gwersi, cyn y cyfnod adolygu ar ôl y Pasg, ac
mae’n amser pwysig yn eu bywydau ifanc. Gyda llai na phedwar mis cyn yr
arholiadau mae angen dal at y gwaith caled maent wedi ei wneud dros y
blynyddoedd gyda help eu ffrindiau a’u teuluoedd. Rydym ni yn barod i roi pob
cefnogaeth bosib i helpu’r disgyblion yma i gyflawni eu holl botensial a rhoi y
siawns gorau i bob disgybl yn ystod yr amser pwysig yma yn eu bywydau.
Steddfod yr Urdd, Meirionnydd
2014
Mae targedau’r gronfa yn uchel
a’r gwaith o godi arian yn gallu bod yn ddi-ddiolch yn aml. Pe bai ond am y
rheswm hwnnw, mae’r rhai sydd wedi gwirfoddoli i weithredu ar y Pwyllgor Codi Arian yn haeddu pob clod a phob cefnogaeth y gallwn
ni ei roi iddynt. Wedi’r cyfan, os yw’r Eisteddfod yn cael cefnogaeth ardaloedd
di-Gymraeg mewn rhannau o ddwyrain a de Cymru, yna siawns na fedrwn ni, y Cymry
Cymraeg, ddangos yr un gefnogaeth i un o’n prif wyliau cenedlaethol.
Y newydd
da yw y bydd yr Ŵyl
Gyhoeddi yn cael ei chynnal yn Stiniog y tro hwn, ar Ebrill 27ain, ac y bydd
hwnnw’n gyfle inni ddangos i weddill Cymru bod yr ardal yma mor gefnogol ag
erioed i ienctid ein gwlad ac i’r diwylliant Cymreig.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon