Detholiad o newyddion y cymdeithasau, o rifyn Ionawr 2012:
Merched y Wawr
Daeth nifer dda ynghŷd yn y Ganolfan
Gymdeithasol i wrando ar a mwynhau sleidiau gwych Pierino Algieri o Landdoged. Datgelodd yr hanes tu ôl i dros hanner cant o
luniau – llawer ohonynt wedi eu tynnu yn ystod eira mawr dwy flynedd yn
ôl. Sylweddolwyd bod angen amynedd
dibendraw a bod yn foregodwr hynod i gael gafael ar y llun perffaith, ac i ddal
yr awyr ar ei gorau.
Ar noson arall, rhannwyd yr aelodau yn dri
tîm ar gyfer cwis, gyda Rhian yng ngofal y cwestiynau. Wedi orig ddifyr iawn mwynhawyd lluniaeth
amrywiol a baratowyd gan yr holl aelodau.
Sefydliad y Merched
Cyfarfu’r aelodau yng Ngwesty Tŷ Gorsaf
i fwynhau cinio ardderchog. Da oedd gweld y gwesty wedi cael ei
adnewyddu.
Yn y cyfarfod misol nesaf, disgwylir
Gwyn Pierce, a’i gitâr, i’n difyrru. Pob croeso i aelodau newydd ymuno â ni yn
y cyfarfodydd misol ar y bedwaredd nos Fawrth o’r mis, ac yn y dosbarth
gwnio a chwarae dartiau bob nos Fawth arall, yn ogystal ag yn y gweithgareddau
a gaiff eu trefnu gan y Ffederasiwn.
Llun- PW |
Cymdeithas y Gorlan
Estynwyd croeso i Geraint a Nerys
Roberts, Bronaber, Trawsfynydd atom. Swynwyd pawb gan ganu Geraint, i
gyfeiliant Alwena Morgan, a Nerys yn
darllen rhannau o Mewn Bocs yn Mhendraw'r Atic gan Tudur Dylan ymysg pethau
eraill. Cynhelir y cyfarfod nesa ar 4ydd Chwefror yng nghapel Bowydd pan
ddaw y Côr Cymysg atom.
Y Gymdeithas Hanes
Yn y cyfarfod diwethaf y gŵr gwadd oedd Geraint Vaughan Jones, hogyn
lleol wrth gwrs , yn adnabyddus fel awdur toreithiog ac i ni yn y Blaenau, fel
cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa. Testun Geraint oedd ‘Cynfal Fawr’
a gyda chymorth sleidiau cawsom wybod llawer am y Cwm, am adeiladau fel Cynfal
Fawr a hanes y rhai a fu’n byw yno. I ddechrau dangosodd leoliad cartrefi sydd
â chysylltiad â’r Mabinogi, megis Bryn Cyfergyd, Bryn Saeth a Llech Ronw.
Clywsom ganddo hanes Huw Llwyd ac eglurodd
sut, yn ei farn ef, y tyfodd y gred fod y gŵr hwnnw yn ymwnud â’r ‘gelfyddyd
ddu’ ac yn dringo i ben ei ‘Bulpud’ yng nghanol Afon Cynfal er mwyn cael sgwrsio efo’r diafol.
Y Fainc Sglodion
Roedd yn galondid gweld cymaint o
aelodau wedi troi mewn i wrando ar yr Athro Peredur Lynch Eglurodd ei awydd i
fynd at wraidd yr holl ensyniadau a’r dadlau cas a fu ynglŷn â rhan Saunders
Lewis yn llosgi Ysgol Fomio Penyberth 8fed Medi 1936 a’r
‘canlyniadau. Bu i losgi’r Ysgol Fomio greu rhwyg yn y byd academaidd
Cymreig. Rhai o blaid ac eraill yn wirioneddol yn erbyn am amryw o resymau.
Soniodd am Syr Ifor Williams , oedd yn
hanu o Ddyffryn Ogwen, gafodd y fraint o olynu Syr John Morris Jones fel pennaeth
Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Un o fro’r chwareli felly,
a’r llall oedd Henry Lewis (Harri) oedd yn hanu o’r de ac o fro’r pyllau glo.
Henry Lewis oedd pennaeth cyntaf Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe
ac ar staff yr adran honno oedd Saunders Lewis adeg yr Ysgol Fomio. Condemniwyd
Saunders gan Henry Lewis (ei bennaeth).
Roedd y ddau yn anghytuno’n llwyr efo rhan Saunders yn cynllunio’r fath
‘drosedd’.
Bu i’r Athro Peredur Lynch gydnabod ein
dyled fel cenedl i’r ddau a’u gwaith clodwiw i ddyrchafu’r Gymraeg. Byddai
sefyllfa’r iaith wedi bod yn dlotach heb eu
hymdrechion i ddod â’r Gymraeg allan i’r ‘werin’ a’r byd ond mae eu rhan yn
dirmygu Saunders Lewis a gweithred yr Ysgol Fomio yn rhywbeth i ddotio ato.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon