Mae sgil a dawn darllen yn amhrisiadwy
ac mae bod yn berchen casgliad o lyfrau neu lyfrgell fechan yn drysor
ynddo’i hun. Mae gennyf lyfrgell felly a phob llyfr ynddi â’i stori ei hun i’w
dweud. Tybiaf fod llyfr newydd sbon â rhywbeth arbennig tu fewn i’w glawr, yn
enwedig os yw’n glawr caled. Mae cyfrinachau’n ddiogel tu fewn iddo ac yn bwrw
teimladau i’r llygaid sy’n hedfan dros y tudalennau a’r print byw. Yn wir, mae
yna arogl arbennig iddo a’r teimlad fod angen cofleidio’r cynnwys bron cyn ei
ddarllen.
Llun gan Y Lolfa |
O fy mlaen mae gennyf lyfr o’r fath.
Llyfr sy’n ddiddorol i fachgen o Drawsfynydd, ac efallai yn dipyn o sioc hefyd
gan ei fod yn troedio’n ôl a dilyn hanes y Gadair Ddu gyntaf, a hynny dros
ddeugain mlynedd cyn Cadair Ddu Hedd Wyn.
Dyma’r enw yn fras ar ei glawr ,
‘TALIESIN O EIFION A’I OES : BARDD Y GADAIR DDU GYNTAF : EISTEDDFOD WRECSAM, 1876.
Yr awdur ydyw ROBIN GWYNDAF, a hon yw ei bumthegfed gyfrol mewn cyfres o
gyhoeddiadau ar ddiwylliant gwerin Cymru. Cefais y fraint gyda 54 eraill o
noddi’r llyfr hwn a gyhoeddwyd ac a argraffwyd gan Wasg y Lolfa, Awst 2012.
Stori ydyw am fywyd bardd a
enillodd Gadair Eisteddfod Wrecsam yn 1876 . Ganwyd Thomas Jones, Taliesin o
Eifion, ger Llanystumdwy yn 1820, ond bu’n byw yn Llangollen y rhan fwyaf o’i
oes. Bu farw yn 56 oed a hynny ychydig oriau wedi iddo anfon ei awdl
fuddugol i Eisteddfod Wrecsam. Wedi cyhoeddi ei farwolaeth o’r llwyfan
gorchuddwyd y gadair â lliain du.
Wrth ysgrifennu’r darn yma clywaf fod y
‘Loteri’ yn cynnig grant newydd at gynnal ‘Yr Ysgwrn’ yn Traws. Wrth gadw
Cadair Ddu Hedd Wyn yno, mae’n siwr y
daw sylw eto i hanes y Gadair Ddu gyntaf . Mae hanes y ddwy yn mynd law yn
llaw.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon