Dal i aros am atebion!
Llythyr Agored at:
Yr Athro Merfyn Jones,
Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
1af Ionawr 2013
Annwyl Merfyn Jones,
Fe gofiwch, rwy’n siŵr, i ddirprwyaeth
ohonom o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog a’r panel meddygon lleol
ddod i gyfarfod â chi yn Ysbyty Gwynedd ar Hydref 24ain i gyfleu ein pryderon
ynglŷn â’r bygythiad i gau ein Hysbyty Coffa. Fe gawsom wrandawiad teg, a bu’r
Prif Weithredwr a Mr Geoff Lang yn brysur yn cofnodi ein dadleuon.
Ar derfyn y
cyfarfod, fe gaed addewid pendant y byddai’r pwyntiau hynny yn derbyn
ystyriaeth holl aelodau’r Bwrdd Iechyd cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael
ei wneud ynglŷn â dyfodol yr ysbyty.
Fe gaed addewid tebyg gan Mr Lang chwe
wythnos cyn hynny hefyd, ar Fedi’r 6ed. yn ystod y sesiynau ymgynghorol a gynhaliwyd
yn y Ganolfan Gymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog. Fe ddywedodd ef ar goedd,
bryd hynny, y byddai pob barn a phob pryder yn cael ei nodi ac yn derbyn
ystyriaeth y Bwrdd.
A fedrwch yn awr gadarnhau bod holl
aelodau’r Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle i drafod y dadleuon hynny? Os do, yna pa
ymateb a fu iddynt?
A gafodd y syniad a gyflwynwyd gennym o
ddatblygu Ysbyty Coffa Ffestiniog fel wythfed ‘ysbyty canolbwynt’ i wasanaethu
ardal cefn gwlad gogledd Meirionnydd a de Conwy ei drafod o gwbwl? Os do, yna beth
fu’r ymateb i’r awgrym hwnnw?
A yw’r dadleuon a leisiwyd yn y sesiynau
cyhoeddus ym mis Medi, a gan y ddirprwyaeth ar Hydref 24ain, wedi arwain at
unrhyw newid o gwbwl yng nghynlluniau BIPBC ar gyfer yr ardal hon?
Edrychwn ymlaen at dderbyn gair buan oddi
wrthych.
Yn gywir iawn,
Geraint V. Jones (Cadeirydd Pwyllgor
Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog)
Dr Tom Parry (Meddyg Teulu)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon