Dyma ddechrau gyda phigion o
ddyddiaduron Mrs Elen Lloyd, gwraig Lewis Lloyd, Tafarn Tanybwlch, ond o Blas
Meini, Llan Ffestiniog, yn wreiddiol. Sylwer ar ei Chymraeg cyhyrog -
Llun- PW |
Ionawr 4, 1854 – Ystormus. Yr eira yn
ddyfnach nag y gwelwyd ef ers deugain mlynedd. Y tai wedi eu gorchuddio. Amserau
difrifol i’r tlodion.
Ac am Ion.6ed nodwyd - Mynd i
gael golwg ar yr eira yn Blaenyddol wrth oleu’r lloer. Mor brydferth! Ni welais
ddim erioed i’w gymharu â hyn mewn ardderchogrwydd. Y distawrwydd dwfn !
Daw y nesaf o ddyddiadur hen
frodor o Lan Ffestiniog :
Ionawr 1, 1854 – am y tridiau dilynol
ysgrifennwyd –‘Eira mawr, lluwch mawr, a’r lluwch mwyaf a welais yn fy oes’.
Y mae’n rhaid eu bod wedi cael cnwd iawn
o eira yn ystod wythnos gyntaf o fis Ionawr 1854 gan fod amryw o
gyferiadau ato yn y newyddiaduron hefyd -
Ionawr 6, 1867 - Eira mawr a
lluwch enbyd.
Ionawr 1, 1869 – Lladd dau ddyn o
Fethesda wrth droed inclên Gloddfa Ganol.
Daw’r nodyn canlynol o hen ddyddiadur a
berthynai i ŵr o Danygrisiau. Ysgrifennwyd hwn yn y Saesneg yn wreiddiol. Dyma
gyfieithiad ohono:
Ionawr 11, 1870 - Eira mawr a rhew.
Tywydd garw a rhoi’r gorau i weithio.
Ionawr 31 - Dechrau gweithio eto ar
ôl tair wythnos o smit. (Gyda llaw, y mae’r gair ‘smit’ ynddo yn Gymraeg
–SabO).
Daw’r cofnodion nesaf o
ddyddiaduron difyr Daniel Williams, Bryn Tawel, Dolwyddelan a fu’n gweithio yn
Chwarel Llechwedd am flynyddoedd:
Ionawr 23,1891 – Glaw hen
ffasiwn a’r mwyaf a welwyd ers llawer o fisoedd.
Diwrnod oer ac eira mawr. Smit yn y
chwarelau i gyd heddiw.Trwch yr eira deg modfedd.
Rwyf am orffen y strytyn hwn gydag
enghraifft o ddyddiadur chwarelwr arall a breswyliai yn y Blaena':
Ionawr 1, 1932 – Glaw mawr heddiw ac
wedi clirio yr eira yn llwyr. Yn agos i 60 o weithwyr wedi cael eu stopio i
weithio yn yr Oakeleys. Cwmorthin wedi stopio i gyd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon