Wedi canmol y datblygiadau gwych yng nghanol tref Blaenau y mis
diwetha', rhaid i'r Pigwr ddychwelyd i'w hen ddull o dynnu sylw, (neu
gwyno, yn ôl rhai!) at faterion
llosg.
Cyfeirio wyf at gyflwr rhan o hen
lein reilffordd y G.W.R. gynt, sy'n arwain o Ddiffwys i gyfeiriad Manod.
Tra bo
miliyna' wedi'i gwario ar wella delwedd canol y dre', mae'r olygfa a geir
ychydig lathenni i ffwrdd yn ddolur i'r llygaid.
Er i'r ganolfan ailgylchu yn
Rhiwbryfdir fod ar agor i'r cyhoedd ers tro, mae ambell fag chwain diog yn
parhau i ddefnyddio'r lein fel safle dympio. Heblaw hynny, mae'r tyfiant o
lwyni, coed a chwyn yn prysur dagu llwybr y ffordd haearn, a'r rheiliau yn prysur ddiflannu yn y jyngl
blêr.
Tua chwe blynedd yn ôl, bu i rai
dinasyddion, gan gynnwys y Pigwr, gysylltu â Network Rail i dynnu sylw'r
cwmni at fandaliaeth debyg yr adeg hynny, ac fe gafwyd ymateb yn fuan, a
chanlyniadau cadarnhaol, chwarae teg. Ond mae'r broblem wedi dychwelyd, yn
anffodus.

Os
ydym am fod yn wirioneddol ddiffuant yn ein hymdrechion i godi statws a delwedd
Blaenau Ffestiniog, ac am greu tre' yr ydym yn falch o fod yn rhan ohoni, rhaid
ceisio datrys problemau fel yr uchod.
Mae chwe mis i fynd nes dyfodiad tymor ymwelwyr eto. Chwe mis i'r
sawl a llygaid i atgoffa Network Rail o'u cyfrifoldeb i gadw'i heiddo mewn
cyflwr taclus, a hynny ar fyrder.
Blwyddyn newydd dda i holl ddarllenwyr Llafar Bro, gyda
llaw; hynny yw, heblaw'r diawliaid di-egwyddor sy'n lluchio sbwriel dros bont
Glynllifon.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon