4.1.13

STOLPIA - cyflath

Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain -STOLPIA- o rifyn Rhagfyr 2012:



Ers talwm un o’r pethau y byddid yn ei wneud gan lawer cyn y Nadolig oedd gweithio cyflaith, neu ‘gyflath’, ar lafar gwlad. 

Math o ddanteithfwyd  melys oedd hwn a  wneid mewn crochan neu badell fawr ar y tân, ac ar ôl i’r cynnwys melys ynddo ferwi codid ef bob yn dipyn a’i roddi mewn dŵr oer a phan galedai byddai’n barod i’w dynnu oddi ar y tân. 

 
[Darn o lun a geir ar wefan Merched y Wawr]

Yna, tywelltid ef i ddysgl fawr  neu ar lechen las fawr wedi ei hiro ag ymenyn,  wedyn tynnid a thylinid y cyflath tra’n gynnes gan y cwmni  fel ei fod yn melynu ychydig . 


Erbyn yr 1950au roedd y cyflath yn debycach i daffi triog du, ond roedd hwnnw yn flasus hefyd a dyna a geid gan amryw o bobl  pan elwid yn eu tai i hel calennig. 

                                                             [Llun oddi ar y blog 'Bakingforbritain']




Bellach y mae wedi mynd  yn focs o 
Roses neu Celebrations, onid yw ?

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon