Gallwch weld yr erthygl yn llawn yn rhifyn Ionawr. Mae ambell gopi wrth gefn gan y dosbarthwr os na chawsoch afael ar un hyd yma, a gan y trysorydd hefyd i'r rhai fyddai'n hoffi tanysgrifio am flwyddyn gyfa'. Ewch i'r dudalen tanysgrifio am fanylion pellach.
Cofiwch am noson blygu rhifyn Chwefror y nos Fercher yma yn neuadd y WI am 6.30. Croeso mawr i bawb ymuno yn yr hwyl!
Cofiwch hefyd am y rali a gynhelir y Sadwrn hwn i ddangos yn glir be' mae pobl y dalgylch yn feddwl o benderfyniad cywilyddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau'r ysbyty.
JERUSALEM YN DOD I BEN
Yn Rhifyn 31 o Rhamant Bro y
mae Robin Davies yn rhestru 39 o gapeli ac eglwysi ym mro Ffestiniog. Y mae hyn
yn dystiolaeth i’r argyhoeddiad a fu yma unwaith. Pobol gyffredin, ddigon
tlodaidd eu byd a dalodd, yn ddrud, am godi’r holl gapeli hyn. A oedd eu hangen
nhw i gyd sy’n fater arall. Y mae’n siŵr fod yna rywfaint o falchder enwadol yn
yr holl adeiladu, a’r holl adeiladau.
Nodaf dair enghraifft o gapeli sydd wedi
eu dymchwel dros y blynyddoedd diwethaf. Pan oeddwn i’n hogyn bach yn
Nhanygrisiau roedd yna glamp o gapel gan y Methodistiaid yno, sef Bethel. Y mae
o wedi hen fynd. Pan symudais i fyw i Wynne’s Road (fel y dywedem ni), pan
oeddwn i fymryn yn hŷn, yr oedd capel anferth y Methodistiaid, sef y
Tabernacl, i’w weld o’n stryd ni. Y mae hwnnw hefyd wedi hen fynd. Pan
oeddwn i’n naw oed fe fudodd ein teulu ni i Benar View, ac yng ngheg y ffordd
at y fan’no roedd gan yr Annibynwyr gapel sylweddol ei faint, sef Brynbowydd. Y
mae hwnnw, yntau, wedi mynd. A rŵan y mae Jerusalem, capel anferth yr
Annibynwyr, a fu’n bresenoldeb amlwg yn y Stryd Fawr, yn mynd i gau.
Yr oedd ein teulu ni’n aelodau yn
Jerusalem. Rydw i’n cofio gwasanaeth dau weinidog yno, sef Brython
M. Davies a John Elwyn Davies, yn bennaf – ar ddiwedd fy amser i yn y Blaenau y
daeth Elwyn Jones yno. Roedd yna ddwy oedfa bob Sul, un am ddeg y bore
a’r llall am chwech yr hwyr, ac oedfa’r hwyr oedd y brif oedfa ers talwm. Am
ddau y prynhawn cynhelid Ysgol Sul, un i blant yn y Festri Fawr o dan y capel,
ac un i oedolion yn y capel ei hun. Bob blwyddyn, tua mis Mai, cynhelid Cymanfa Ganu, un i blant ar brynhawn
Sadwrn, ac un i oedolion ar nos Sadwrn. Byddai plant Ysgolion Sul Annibynwyr y
cylch yn gorymdeithio, gan gychwyn wrth ymyl capel Jerusalem, mynd i lawr Stryd
Glynllifon, i lawr Wynne’s Road heibio Ysgol y Moelwyn, heibio’r Parc ac i fyny
tros bont y lein heibio Neuadd y Dref (roedd honno’n ffordd fawr yr adeg
honno), ac yna i fyny’r Stryd Fawr am Jerusalem eto. Byddai yna gario baneri
mawr lliwgar, a byddai’r plant lleiaf yn cael eu cario mewn ceir neu lorïau
wedi eu haddurno’n grand. Gwisgai hogiau Jerusalem fedalau llwyd-ddu, a
gwisgai’r genethod roséts lliwgar. Byddai Jerusalem dan ei sang, a byddai canu
bendigedig yno ( neu dyna’r oeddem ni’n ei feddwl), a rhannu tystysgrifau am
basio arholiadau ysgrythurol. Ac wedyn byddai yna de parti joli iawn yn y
Festri Fawr.
Gwyn Thomas
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon