Showing posts with label dringo. Show all posts
Showing posts with label dringo. Show all posts

16.7.23

Gwŷl Ddringo Hongian

O ddydd Gwener y 19eg hyd ddydd Sul yr 21ain o Fai, dan heulwen odidog ac awyr las, cynhaliwyd Gŵyl Hongian, sef gŵyl ddringo ac awyr agored Bro Ffestiniog. 

Dechreuwyd yr ŵyl ar raddfa fach yn 2015 gan griw’r Gwallgofiaid er mwyn gweithio’n benodol gyda phobl ifanc y fro a dangos iddyn nhw’r gweithgareddau dringo byd-enwog y mae modd eu gwneud, a hynny yn eu cynefin. Ond dyma’r ail flwyddyn lle cynhaliwyd digwyddiad mwy sylweddol ei natur. 

Mae’r ŵyl yn cynnwys nofio, teithiau cerdded hanesyddol, rhedeg llwybrau, dringo a bowldro – sef dringo heb raff a neidio i lawr ar glustog drwchus. Cafodd yr ŵyl le ar raglen ‘Heno’ hyd yn oed, lle soniwyd bod creigiau Stiniog gyda’r gorau yng Nghymru am yr antur a gynigiant. Ac ychwaneger at hyn natur anghysbell a diffaith ein hucheldiroedd, a gallwch weld yn hawdd atyniad ymgolli ym myd natur a theimlo mawredd gogoneddus y mynyddoedd o’n cwmpas. Mae tystiolaeth bendant bod gwneud y fath weithgareddau yn hynod lesol i’n hiechyd meddwl, ac mae yna ryw dynfa oesol ynom erioed i geisio’r unigeddau i’n henaid gael llonydd. 


Trefnydd yr Ŵyl oedd Rhys Roberts, CellB – menter sydd wedi bod yn ehangu gorwelion pobl ifanc fyth ers ei sefydlu. Bu gweithdai a sgyrsiau gyda’r nos, a lle gwersylla ar Gae Peips hefyd, y bu criw o wirfoddolwyr ifanc yn gweithio’n galed i’w baratoi. Roedd y gweithgareddau eu hunain o dan arweiniad mentoriaid lleol, ac roedd cyfleoedd i bobl ifanc gysgodi’r mentoriaid hyn a chael blas ar y gwaith – a allai agor y drws at gyfleoedd gyrfa. Dyma waith pwysig iawn yn yr ymdrech sydd ei hangen i berchnogi’r diwydiant awyr agored gan bobl leol, a thrwy hynny, ei Gymreigio. 

Un o’r mentoriaid bowldro oedd Mari, sy’n rhedeg Caffi’r Llyn, ac sydd hefyd wedi ennill enw iddi ei hun fel model. Bu Gerwyn Roberts, Cae Clyd, yn arwain sesiynau rhedeg llwybrau, a Connaire Cann o Danygrisiau yn cynnal sesiwn ddringo i bobl ifanc. Hefyd, gan fod yr holl sesiynau wedi eu noddi gan Cyngor Mynydda Prydain a’r DMM, roedd y gweithgareddau am ddim i’r rhai dan ddeunaw, a phrisiau gostyngol ar gael i oedolion. Gŵyl wirioneddol gynhwysol felly. Roedd yr holl weithgareddau yn gwbl ddwyieithog, ac roedd gan yr Urdd bresenoldeb amlwg. 

Hyfrydwch gweld y fath ŵyl ar lethrau ein hen fynyddoedd annwyl. Ymlaen at y flwyddyn nesaf!
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023

 

7.4.23

Rhyddid a dringfeydd epig

Cyfweld Gerwyn Siôn Roberts,  y dringwr a’r ffotograffydd medrus o’r Manod

Dw i’n deall dy fod yn arweinydd mynydd. Sut wnes di ddechrau gweithio yn y maes yma? 

O oedran ifanc rydw i bob amser wedi bod ag angerdd am yr awyr agored. Dwi’n cofio pan es i ar daith gydag Ysgol y Moelwyn. Aethon ni i fyny Moel Eilio a phan welais i’r Wyddfa dan eira, sylweddolais pa mor anhygoel yw Eryri. Syrthiais mewn cariad â'r mynyddoedd a'r dirwedd yn syth bin.
Deuthum yn Arweinydd Mynydd oherwydd fy mod eisiau mynd â phobl i fyny'r llwybr anhygyrch i ddysgu a dangos Eryri iddynt. Felly maen nhw'n cael yr un teimlad ag a gefais i pan syrthiais mewn cariad ag Eryri.

Disgrifia dy ddiwrnod gwaith arferol
Mae fy nyddiau/wythnosau bob amser yn wahanol. Rwy'n llawrydd yn bennaf felly mae'n rhaid i mi chwilio am y gwaith fy hun. Mae'r gwaith yn cynnwys dysgu pobl i ddringo, arwain pobl i fyny mynyddoedd, arwain beicwyr mynydd. Mae lleoliadau bob amser yn wahanol sy'n braf. Dwi'n gweithio yn Eryri yn bennaf ond dwi hefyd yn gweithio yn achlysurol yn Ardal y Llynnoedd, Yr Alban ac eleni yn rhyngwladol.

Beth ydy’r peth gorau am fod allan yn yr awyr agored?
Rhyddid ac antur. Rwyf wrth fy modd yn anturio ar fy mhen fy hun neu gyda chwmni. Mae natur yn dod ag ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch. Mewn byd sy’n fwrlwm o geir cyflym, ffonau clyfar, a hysbysebion teledu, mae’r awyr agored yn parhau i fod yn amrwd ac yn ddigyswllt. Ac nid yw'n gyfrinach y gall lleihau straen fod o fudd i'n hiechyd seicolegol a chorfforol.

 ... A beth ydy’r profiad mwyaf dychrynllyd iti ei gael ar y mynyddoedd?
Mae yna lawer o adegau pryd ti’n cael dy ddal allan gan y tywydd, tirwedd yn newid a ballu. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le tra'ch bod chi allan, mae'n rhaid i chi beidio â chynhyrfu, defnyddio'ch sgiliau a'i ddatrys. Does dim ots pa mor brofiadol ydych chi, na sawl gwaith rydych chi wedi bod yn cerdded yn y mynyddoedd, byddwch bob amser yn paratoi ar gyfer y gwaethaf.

Oes gen ti hoff fynydd lleol .... a pham?
Cwestiwn anodd…. hmmmm. Mae gan bob mynydd ei bersonoliaeth ei hun, o'i safbwyntiau, ei dechnegau, a'i straeon. Ond dwi'n meddwl Tryfan, Crib Goch, Moelwynion a Cnicht.


Mae Tryfan yn fynydd technegol iawn, nid yw'n heic mewn gwirionedd, mae pob llwybr yn llwybr sgramblo/dringo. Mae ganddo lwybrau sy'n hawdd eu sgrialu i ddringo caled. Rwyf wrth fy modd â'r amrywiaeth gwahanol o lwybrau i fynd i'r afael â nhw. Mae Crib Goch yn fynydd unigryw i Eryri. Mae ei siâp fel ei enw - ‘crib’, lle mae’n rhaid i chi gerdded ar draws top y gefnen gul hon gyda chlogwyni 100 troedfedd ar y ddwy ochr. Moelwynion a Cnicht yw fy mynyddoedd lleol a threuliais lawer o amser yn cerdded, seiclo a rhedeg i argae Stwlan ac i’r copaon. Mae'n braf bod ar fynydd lle rydych chi'n gweld pobl leol yn bennaf.

Dw i’n deall dy fod yn tynnu lluniau hefyd – o le datblygodd y diddordeb yma?
Fy nod gyda ffotograffiaeth yw dal y teimlad hwnnw o archwilio lleoedd newydd am y tro
cyntaf - ei rewi i gael ei rannu a'i ail-fyw dro ar ôl tro. Gan fy mod i bob amser allan, roeddwn i wrth fy modd yn tynnu lluniau o'r foment. Roedd pobl eisiau prynu fy lluniau felly dechreuais werthu. Edrychwch ar fy mhortffolio ar fy ngwefan.

Fe wnes di redeg ras y llynedd – dros gan cilomedr i fyny 47 copa Eryri. Swnio’n wallgo! Sut brofiad oedd hynny?

Ras y Paddy Buckley: Profiad diddorol a phoenus. Yr her anoddaf i mi ei gwneud hyd yn hyn. Dysgais lawer trwy wneud yr her hon, dysgais beth roedd fy nghorff yn gallu ei wneud pan fydd gennych chi feddwl positif. Rhyw bwynt roeddwn i eisiau stopio oherwydd blinder a phoen, ond oherwydd bod gen i feddwl positif gallwn barhau.

Rwyt ti wedi teithio dipyn hefyd – Yr Alpau, Nepal, India ... Dyweda fwy wrthym ni.
Es i Nepal ac India i archwilio, heicio a theithio. Roedd yr Himalayas yn syfrdanol.
Un o fy nheithiau diweddar oedd dringo yn yr Alpau. Gyrrodd fi a ffrind lawr i Chamonix gyda'n gilydd a chysgu yn y fan am bythefnos. Fe wnaethon ni ddringo rhai dringfeydd epig, y dringo gorau rydw i erioed wedi'i wneud. Roedd dringo ar 4000m gyda golygfa Mont Blanc wrth fy ymyl yn epig.

Mi fuost ym Mhatagonia yn ddiweddar hefyd. Cyfnod difyr mae’n siŵr?
Ymweld â’r Wladfa ym Mhatagonia oedd y profiad mwyaf swreal ac emosiynol i mi ei gael. Roedd siarad Cymraeg ar ochr arall y byd yn anhygoel ac yn swreal. Fe wnaethom hefyd lawer o ferlota yn yr Andes.

Oes gen ti daith arall wedi ei threfnu’n fuan?
Wrth ateb y cwestiynau hyn (diwedd Ionawr) rwy'n gyrru yn y Dolomites. Byddaf yn archwilio gogledd yr Eidal yn fy fan. Fy nghynllun yw heicio, rhedeg, eirafyrddio, a beicio yma. Rydw i hefyd yn gweithio ym Morocco ddechrau mis Chwefror. Rwy'n arwain grŵp i fyny Mt.Toubkal gyda chwmni anhygoel o ogledd Cymru o'r enw Adventurous Ewe.

Mae gen i lawer o deithiau ar y gweill eleni. Beicio o gwmpas Mallorca, rhedeg Tour du Mont Blanc. Mae gen i ychydig o swyddi rhyngwladol hefyd, mwy o waith ym Morocco ym mis Mehefin, beicio o gwmpas y Dolomitau a seiclo o Lundain i Baris. Blwyddyn gyffrous.

[Cyfweliad gan Glyn Lasarus Jones]

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2023


24.1.18

Stolpia -gwaywffon a sled

Pennod arall o gyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au' gan Steffan ab Owain.

Daeth ambell beth arall i’m côf ar ôl imi ysgrifennu’n strytyn diwethaf am yr hen hogiau. Cofiaf fel y byddem ni’r hogiau a oedd ychydig yn iau na Raymond Cooke Thomas yn ei edmygu ac yn edrych arno fel tipyn o arwr gan nad oedd neb yn gallu ei guro ar daflu javelin yn yr ysgol na thaflu sbîar bren o’r felin goed yng Nglan-y-Pwll. Fel rheol, byddem yn croesi’r bont ac i’r domen lwch lli’ er mwyn chwarae Cowbois ac Indians, neu daflu picell neu sbîar, fel y dywedem.

Bu'n ychydig o gystadleuaeth rhyngom un tro, a ninnau yn ceisio ein gorau i daflu’r sbîar bren o un pen o’r domen lwch lli i’r pen arall, ond nid oedd hyd yn oed y gorau ohonom yn gallu ei thaflu mwy na rhyw hanner ffordd dros y domen.Yna, gafaelodd Rem yn yr un a oedd ganddo fo a’i thaflu dros y domen gyfan nes y diflannodd o’r golwg yng nghanol y brwyn. Roedd hi’n anodd i’r un ohonom gredu y gallai ei thaflu mor bell!

Cofiais hefyd fy mod â llun a dynnodd fy nhad yn y 50au o’m diweddar ewythr Yncl John, gŵr cyntaf Anti Meg, Bryn Tawel, yn dringo’r graig ar Garreg Flaenllym ger Nyth y Gigfran a’r domen lwch lli i’w gweld ymhell islaw.

A dod yn ôl at ein hanturiaethau, cofiaf Rem yn gwneud ffon dafl, (tebyg i’r wmera a ddefnyddir gan gynfrodorion Awstralia) a thaflu y bicell oedd ar y ffon o ben boncan Cae Baltic a chyrhaeddodd rhywle y tu ôl i Gapel Salem, pellter o tua dau gan llath neu fwy. Y mae hi’n dda nad oedd neb yn digwydd bod yn cerdded yn y fan a’r lle pan syrthiodd y taflegryn i’r ddaear!

Yn y gaeaf, a phan oedd trwch o eira, byddem yn sledio (slejio) i lawr y rhiw heibio talcen Baltic Hotel hyd at wastad y cae, gan nad oedd fawr o gerbydau yn teithio y ffordd honno y pryd hynny. Os cofiaf yn iawn, roedd Rem wedi dangos inni y gellid sefyll ar y sled yn hytrach nag eistedd arni, neu orwedd ar ein boliau arni hi, ac felly, ceisiodd rhai ohonom ei efelychu, ond er inni ymdrechu yn galed a chael llawer o hwyl, methu rheoli y slej a chadw ein balans arni oedd ein hanes a syrthio ar ein hyd i’r eira a fu’r canlyniad.

Do, cafwyd llawer orig ddifyr yng nghwmni Rem a llawer cyfaill arall yn y 50au.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)


7.11.17

Rhedaf i'r Mynydd

Naturiaethwr a rheolwr gwarchodfeydd natur ydi Rhodri Dafydd. Mae’n gyfrannwr rheolaidd i raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru ac yn golofnydd misol i bapur bro Yr Odyn, dros y mynydd o Fro Ffestiniog. Yma, yn y chweched erthygl yn ein cyfres arbennig ar y MYNYDD, mae’n edrych yn ôl, ac edrych i’r dyfodol, ar ddylanwad ein mynyddoedd.

Y mae'n anodd gen i gredu ei bod bellach yn un mlynedd ar bymtheg ers yr oeddwn yn ymlafnio dros draethawd hir ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, er mwyn ennill fy ngradd M.A. Ar y pryd, yr oeddwn wedi fy meddiannu gan fynyddoedd y byd, a'm cyfnod yn blasu dringo a cherdded yng nghreigiau Eryri yn agoriad llygad. Roedd y profiadau newydd yn esblygiad naturiol wedi i mi dreulio fy mlynyddoedd cynnar yn crwydro bryniau Meirionnydd - yn gyntaf gyda'n nhad ac yn ddiweddarach ar fy mhen fy hun. 

Ar y pryd, yr oedd gennyf freuddwydion mawr am ddringo copaon uchel y byd. Yn eu tro, daeth gwaith, cariad a theulu i gyfyngu ar y teithio (os nad y breuddwydio!) er i mi fod yn ddigon ffodus i gael gweld rhywfaint ar yr Alpau a'r Pyreneau, y Rockies, yr Andes a'r Himalaya dros y blynyddoedd, ar droed neu feic.


Y mae i'r llecynnau mynyddig hyn atyniad corfforol ac ysbrydol i nifer, a minnau yn eu plith, ac i ni yma yng ngogledd Cymru y mae eu bodolaeth yn rhan annatod o'n bywydau bob dydd. Hyd yn oed os nad ydym yn ymwneud rhyw lawer â hwy, y mae eu presenoldeb yn ein ffurfio drwy ein teithiau drwyddynt, eu heffaith ar ein tywydd, a'r ffaith eu bod yn ein hamgylchynu ac yn gwmni cyson.

'Wrth ein cefn ym mhob annibyniaeth barn'.

Yn ôl ym Mangor, pwysigrwydd y mynyddoedd i'r diwylliant Cymraeg a'r iaith oedd testun fy nhraethawd hir. Wedi ymchwilio i ddylanwadau amrywiol - o hen benillion, emynau rif y gwlith (dan ddylanwad crefydd a'r beibl Cymraeg wrth gwrs) i gerddi amrywiol ar hyd yr oesoedd, a hyd yn oed i ganeuon Meic Stevens ('Rhedaf i'r mynydd') - gellid gweld fod y mynyddoedd yn rhan annatod ohonom a'n hymwybyddiaeth fel Cymry Cymraeg. Yn gefn i ni, yn warchodaeth, yn achubiaeth.

Wedi ymlwybro drwy hanes cythryblus yr hen wlad (dros rhyw ugain mil o eiriau!) yn anffodus deuthum i'r canlyniad trist fod y tirlun mynyddig a fu'n ein gwarchod a'n hamddiffyn rhag estroniaid dros y canrifoedd bellach yn arwain at foddi ein cyfoeth dan donnau o ymwelwyr - a'u bryd ar greu bywyd newydd ymysg golygfeydd ac awyrgylch anturus ein gwlad. Fel y trodd y rhod - yr hyn a fu unwaith yn ddychrynllyd bellach yn ddeniadol. 

Y mae ambell Gymro a Chymraes bellach wedi mentro i elwa ar y cynnydd ym mhoblogrwydd ein mynyddoedd - gydag ambell i arweinydd heddiw yn manteisio ar ymwelwyr fel ag yr oedd rhai dynion blaengar yn oes Fictoria. Mae canolfannau fel Coed y Brenin ac Antur Stiniog wedi cornelu peth o'r farchnad heb os. Mae Clwb Mynydda Cymru wedi arloesi, a'u llyfr diweddar ar gopaon Cymru yn gampwaith, gan gymryd ei le yn gydymaith perffaith i lyfrau Ioan Bowen Rees ar y silff. 

Er hyn, seisnig ar y cyfan yw'r diwylliant, a does ond angen edrych ar yr holl geir sy'n heidio i Eryri bob penwythnos, neu ar dai haf gweigion ein pentrefi ganol gaeaf, i weld effaith poblogrwydd newydd ein mynyddoedd ar ein hardaloedd gwledig. Ni allaf ond ofni mai negyddol yw ac a fydd hyn at y dyfodol.

Yn dilyn cais gan y golygydd i edrych yn ôl ar waith llanc anaeddfed, un ar hugain oed (byddai llawer yn dweud fy mod yn dal yn anaeddfed!) mae llawer mwy yr hoffwn fod wedi ei gynnwys yn yr hen draethawd hir, o ailymweld â'r testun. Dysgais lawer yn y cyfamser, er enghraifft fod y dull 'guerrilla' o ymosod a chuddio yn y mynyddoedd a fabwysiadodd Che Guevara wedi ei ysbrydoli gan Owain Glyndŵr a'i debyg yn defnyddio tirlun Cymru at eu mantais. Tra yn traddodi am y diffyg mynyddwyr Cymreig - gallwn fod wedi cynnwys pennod gyfan am un dyn hynod ac unigryw o'r enw Eric Jones (erbyn hyn, mae ei hunangofiant yn amhrisiadwy ac yn gofnod anhygoel o ddyn ymhell o flaen ei amser).

Efallai rhyw ddydd caf gyfle i ailwampio a rhoi fy meddyliau mewn trefn - Yn sicr mae'r mynyddoedd yn parhau i fy ysbrydoli. Heb os, maent yn destun gwerthchweil ac yn ganolbwynt haeddiannol i fyfyrdodau am ein hunaniaeth, a'n lle fel cenedl yn y byd hynod hwn.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 

Lluniau Rhodri Dafydd.
Celf gan Lleucu Gwenllian

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.


22.10.17

Dawnsio ar y dibyn

Yr ail erthygl yn ein cyfres arbennig ar Y MYNYDD.
Ers ei brofiadau cynnar ac allweddol ar glogwyni Bro Ffestiniog, mae David Williams wedi dringo’n helaeth ym Mhrydain, Iwerddon, Sgandinafia a gweddill Ewrop; gogledd a de yr Affrig, a’r UDA.

Dringo. Rhywbeth cysylltiedig â gwaith medd fy nhad, cadarn yn ei farn nad oedd lle i’r geiriau ‘pleser’ a ‘dringo’ ymddangos gyda’u gilydd yn yr un frawddeg. “Dim ond Saeson sy’n dwad yma i ddringo. Da ni’r Cymry yn llawar iawn callach!” meddai’n rheolaidd wrth weld llygaid ei fab yn troi’n awyddus at y clogwyni a’u dringwyr amryliw wrth fynd heibio i greigiau Bwlch y Moch ger Tremadog, ar y ffordd i ail-ddarganfod pleserau syml bwced a rhaw ar draeth Cricieth.

Trydanwr yn Llechwedd oedd fy nhad, a phob bore gwaith am dros 50 mlynedd bu’n dringo’r llwybr carregog o Bant’rafon i fyny i’w weithdy. Wedyn, byddai’n parhau i ddringo trwy gydol y dydd, o un bonc i’r llall neu i lawr i rhyw gilfan anghysbell yng nghrombil y graig, pob tro i drwsio rhyw hen beiriant blinedig oedd wedi rhoi’r ffidil yn y to, cyn dychwelyd i’r wyneb am rownd fach arall. Dringo a gweithio; y ddau fel efeilliaid cyfunol.

Oedd, er na wnaethai byth gydnabod y ffaith, mi roedd fy nhad yn ddringwr. Ac -heb os nac oni bai- roedd dringo yn fy ngwaed innau hefyd. Dw i eisoes wedi fy hudo’n llwyr gan alwad y mynydd ac mae dringo wedi bod yn ran allweddol iawn o’m bywyd. Wedi bod, ac yn dal i fod.

Tyfais i fyny mewn tŷ o’r enw Trem y Graig - enw addas iawn wrth edrych ‘nôl. Y graig oedd Nyth y Gigfran. Dringais i ben y graig hon, am y tro cyntaf, pan yn naw oed, ar ôl blynyddoedd o edrych allan trwy ffenest y parlwr a gofyn: ‘Sgwn i beth sydd i’w weld dros y top?’

Daeth y cyfle cyntaf i glymu rhaff rownd fy nghanol pan yn bedair ar ddeg oed, yn sgil penodiad athro ifanc i staff Ysgol y Moelwyn, un oedd wedi dechrau dringo tra’n fyfyriwr yn Aberystwyth. Ni gymerodd llawer o berswâd cyn iddo gytuno mynd â pedwar ohonom i ddringo. ‘Roedd un ymweliad â Chlogwyn yr Oen ar lethrau’r Moelwyn yn ddigon. Yno gwelwyd Y Bwystfil mewnol yn cael ei ddeffro am y tro cyntaf ac, erbyn hyn, mae’r cythrael wedi gwneud ei orau glas i reoli fy mywyd am bron iawn hanner canrif.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yn sydyn iawn: Denig o’r ysgol pan yn y chweched dosbarth er mwyn dringo ar Graig y Clipiau yn lle gweithio yn y llyfrgell. Cyfnodau ym Mhrifysgolion Lerpwl a Bangor; y ddau le wedi’u dewis oherwydd eu hagosrwydd i safleoedd dringo. Cannoedd o ddyddiau wedi’u treulio ar greigiau mewn llefydd fel Helsby, Stanage, Langdale, ynys Skye, Cernyw ac Eryri.

Gyrfa hir ym myd addysg ym Mhowys. Priodi; magu meibion ond eto yn byw am y penwythnos. Jyglo cyfrifoldebau teulu a gwaith, pob tro yn edrych am gyfle, hyd yn oed ‘mond hanner cyfle, i dreulio amser ar y creigiau.

Gwyliau haf; yr un hen stori. Llwytho’r car gyda’r hogiau, y wraig a minnau cyn gyrru am ddyddiau i ddringo mewn rhyw wlad estron. Pan yn ddwy oed, ‘roedd fy mab hynaf yn medru siarad mwy o Almaeneg na Chymraeg…. Ia, dyma beth ydy ‘salwch’ go iawn.

Oes, mae rhaid parhau i fwydo’r Bwystfil. Dydi bywyd ar lawr y dyffryn ddim yn ddigon. Yn y bryniau a’r mynyddoedd fodd bynnag, mae’r teimladau o ryddid, o fod yn hollol fyw ac yn rhydd o gadwynau a rhwystredigaethau bywyd dyddiol yn dod i’r blaen. Dro ar ôl tro, dyma’r teimladau sy’n amlygu eu hunain, sy’n cyflymu pyls yr hen ddyn yma, un sy’n hollol gaeth i ddringo.

Mae’n hen ystrydeb, dwi’n gw’bod, ond mae ‘Dyn Yn Erbyn Y Mynydd’, ym mha bynnag gyd-destun, yn destun rhyfeddod, er nad ydyw, i mi, yn achos o ymladd natur. Yn hytrach, mae’n frwydr barhaol yn erbyn disgyrchiant, rhwng y meddwl a’r corff; dim mwy, dim llai. Clywais sôn unwaith am rywun nad oedd yn deall yr atyniad at ddringo, a bu iddo ofyn: “Fyddai neb yn cerdded i fyny grisiau jyst er mwyn gwneud, na fyddai?” Hmm … does dim ateb hawdd i hwna.

‘Rwan, rhag ofn i chi feddwl mai creadigaeth y dychymyg ydyw, mae’r Bwystfil yn bell o fod yn anweledig. Os nad wyf wedi bod yn dringo am sbel, mi fydd yn hyrddio ei gwmni arnaf. ‘Cabin fever’ heb ei ail, y meddwl yn sgrechian am ddos bach arall o hongian o flaenau bysedd; yn ysu am fywyd yn y fertigol.

Chi’n gweld, ‘dydy pawb ddim yn deall anian Y Bwystfil. Maent yn gweld fy hoffder o’r Bwystfil fel “obsesiwn” sydd yn fy “meddiannu”. Maent o hyd yn cyfeirio ato fel rhywbeth sy’n “tynnu fy sylw” oddi ar “bethau pwysig bywyd”.  Efallai eu bod nhw’n iawn. Ond pan dw i yng nghanol hwch o ddringfa anodd, Y Bwystfil yw’r un sydd wastad yno efo fi, wrth fy ysgwydd yn herio, yn annog a chefnogi. Pan fo’r chwys nerfus yn arllwys ohonof, y bysedd yn gwanhau a’r copa fel petai’n cilio ymhellach o’r golwg, y fo yn unig yw’r cydymaith ffyddlon sy’n fy ngheryddu a’m calonogi.

Y creadur a gafodd fywyd ar Glogwyn yr Oen sy’n dal i fy nwyn i grib y graig; i ddawnsio ar y dibyn.
--

‘Rwyf newydd orffen cyd ysgrifennu y tywyslyfr dringo cyntaf i Geredigion, Powys a Sir Gâr. Disgwylir y bydd ‘Central Wales – A climbing guide to Elenydd’ yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn hon. Yn gyfredol ‘rwyf bron a bod yn ôl ym mro fy mebyd, gan fy mod yn ysgrifennu ‘Welsh Grit’, sef tywyslyfr dringo newydd y Rhinogydd.

Dros yr hanner canrif, llwyddais ddringo ymhell dros 400 o ddringfeydd newydd , gan gynnwys dwy ar Foel y Gest, dros 150 yn y Rhinogydd (hyd yma) ond, yn anffodus, dim un ar yr hen Foelwynion.

Llun:
Yr awdur yn dringo ar y Perl Du ger Cwm Tydu, Ceredigion.
-----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde**.


Celf gan Lleucu Gwenllian


**Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

2.3.14

Siarad Siop -Antur Stiniog

Ar Ddydd Gwyl Dewi, agorwyd pennod newydd yn hanes menter gymunedol Antur Stiniog.

Nid gwneud y pethau bychain yn unig mae Antur Stiniog, ond gwneud gwahaniaeth go iawn i Fro Ffestiniog, trwy greu swyddi a chodi hyder yn lleol y gallwn ni'r Cymry fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi o fyw mewn ardal fynyddig, hardd.




Hir oes i'r Antur! Dyma hanes y fenter ddiweddaraf, o rifyn Chwefror, gan Ceri Cunnington, rheolwr Antur Stiniog.

Ar Fawrth y 1af agorodd 'Y Siop' ei drysau am y tro cyntaf, ar ol gwaith adnewyddu helaeth.  Roedd cyfle ar y diwrnod i flasu gweithgareddau awyr agored amrywiol, teithiau trefol, hyfforddiant beicio mynydd, yn ogystal a chael bargen (neu ddeg)!


Ein nod wrth ddatblygu'r hen unedau crefft ar y Stryd Fawr ydi sicrhau mai Blaenau Ffestiniog ydi canolbwynt naturiol a chyffrous y datblygiadau newydd yma ac mai busnesau a thrigolion yr ardal fydd wir yn elwa. Mae angen i ni i gyd gydweithio i’r perwyl hwn yn hytrach na chystadlu. Wedi’r cyfan, mewn undeb mae nerth.

Bydd ‘Y Siop’ yn siop fasnachol gyda chalon gymdeithasol. Ceir ynddi werthu nwyddau awyr agoed, pecynnau gweithgareddau awyr agored, a chynnyrch trawiadol Antur Stiniog. Bydd hefyd yn ganolbwynt a man gwybodaeth ar gyfer gweithgareddau a rhyfeddodau’r ardal. Ein nod ydi plethu gweithgareddau awyr agored efo’n treftadaeth a'n diwylliant cyfoethog. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn nelwedd ‘Y Siop’. Yn ogystal â hyn, bydd hefyd yn ganolfan hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc y fro sydd am ddilyn gyrfa yn y sector.

Y twr dringo a gadwodd ddwsinau o blant yn brysur a bodlon ar Ddydd Gwyl Dewi
Rydym hefyd yn dal i bwyso ar yr awdurdodau ynghylch dyfodol y rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd. Dyma wastraff llwyr o adnodd gwerthfawr! Byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus er mwyn cael rhannu syniadau a symud pethau ‘mlaen.

Dim ond rhagflas o waith Antur Stiniog sydd wedi ei nodi uchod; Os hoffech wybod mwy am ein cynlluniau neu rannu syniadau cysylltwch â ni ar 01766 832 214, neu dewch draw i’r Siop am sgwrs a phanad neu gyrrwch neges: Ceri.c@anturstiniog.com

Hanfod Antur Stiniog yw’r gymuned ac rydym yn credu’n gryf mai trwy weithio mewn partneriaeth y daw cyfle gwirioneddol i adfywio'r fro ryfeddol hon.