Daeth ambell beth arall i’m côf ar ôl imi ysgrifennu’n strytyn diwethaf am yr hen hogiau. Cofiaf fel y byddem ni’r hogiau a oedd ychydig yn iau na Raymond Cooke Thomas yn ei edmygu ac yn edrych arno fel tipyn o arwr gan nad oedd neb yn gallu ei guro ar daflu javelin yn yr ysgol na thaflu sbîar bren o’r felin goed yng Nglan-y-Pwll. Fel rheol, byddem yn croesi’r bont ac i’r domen lwch lli’ er mwyn chwarae Cowbois ac Indians, neu daflu picell neu sbîar, fel y dywedem.
Bu'n ychydig o gystadleuaeth rhyngom un tro, a ninnau yn ceisio ein gorau i daflu’r sbîar bren o un pen o’r domen lwch lli i’r pen arall, ond nid oedd hyd yn oed y gorau ohonom yn gallu ei thaflu mwy na rhyw hanner ffordd dros y domen.Yna, gafaelodd Rem yn yr un a oedd ganddo fo a’i thaflu dros y domen gyfan nes y diflannodd o’r golwg yng nghanol y brwyn. Roedd hi’n anodd i’r un ohonom gredu y gallai ei thaflu mor bell!
Cofiais hefyd fy mod â llun a dynnodd fy nhad yn y 50au o’m diweddar ewythr Yncl John, gŵr cyntaf Anti Meg, Bryn Tawel, yn dringo’r graig ar Garreg Flaenllym ger Nyth y Gigfran a’r domen lwch lli i’w gweld ymhell islaw.

Yn y gaeaf, a phan oedd trwch o eira, byddem yn sledio (slejio) i lawr y rhiw heibio talcen Baltic Hotel hyd at wastad y cae, gan nad oedd fawr o gerbydau yn teithio y ffordd honno y pryd hynny. Os cofiaf yn iawn, roedd Rem wedi dangos inni y gellid sefyll ar y sled yn hytrach nag eistedd arni, neu orwedd ar ein boliau arni hi, ac felly, ceisiodd rhai ohonom ei efelychu, ond er inni ymdrechu yn galed a chael llawer o hwyl, methu rheoli y slej a chadw ein balans arni oedd ein hanes a syrthio ar ein hyd i’r eira a fu’r canlyniad.
Do, cafwyd llawer orig ddifyr yng nghwmni Rem a llawer cyfaill arall yn y 50au.
----------------------------------------
Ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon