Dwi wedi sôn o'r blaen am yr hen eliau ar gyfer pob math o ddoluriau a briwiau gan ein neiniau a’n teidiau gynt. Wel, mae’n amlwg o’r hyn rwyf wedi ei ganfod fod cryn dipyn o wahanol fathau o eliau ar gael yn lleol yn ystod dyddiau mawr ‘Stiniog.
Ar ôl imi grybwyll rhai o’r hen eliau lleol yn y golofn y tro diwethaf*, cofiais fod gan y diweddar John Jones (Meifod, Ffordd Wynne) hanesyn difyr yn ei gyfrol ‘Atgofion John R. ‘Stiniog’ am hen wreigan o Danygrisiau a fyddai’n troi ei llaw at wneud sawl peth er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd.
Byddai Anti Maria, fel y’i gelwid, yn gwneud bara cartref, pennog picl a phwdin reis ac yn eu gwerthu o’i chartref yn Nhan Lan, yn ogystal â chymryd golchi i mewn, a.y.y.b. Dywed wedyn:
‘Byddai hefyd yn paratoi eli, a balm, at losgfeydd a briwiau. Toddi lard mochyn, ac yna berwi baw ceffyl, neu fuwch, a chymysgu’r cyfan hefo’i gilydd, eu gadael i oeri, ac yna eu dodi mewn tun bychan, neu flwch matsus. Byddai’n credu’n gryf iawn mewn defnyddio baw ceffyl neu fuwch fel powltis at bennadynod, neu gasgliad o unrhyw fath.’

Deallaf bellach mai Mr John Roberts, Rhesdai Springfield, sef taid i Mrs Morfudd Roberts, Cysulog, Ffordd Wynne oedd gwneuthurwr yr eli enwog hwn. Clywais hefyd fod rysêt yr eli yn dal ar gael gan aelodau o’r teulu ... ond ei fod yn dal yn gyfrinachol, hefyd! Dyma hen hysbyseb o’r eli o’r Rhedegydd am y flwyddyn 1928.
Deilen at bob dolur
Dyma ddywediad arall a glywir parthed hen feddyginiaethau, ynte? Wel, tra’n chwilota drwy’r Herald Gymraeg, Awst 30, 1927 yn ddiweddar deuthum ar draws y nodyn hwn yng ngholofn Manion o’r Mynydd gan Carneddog, ac er nad yw’n son am eli fel y cyfryw, credaf ei fod yn werth ei grybwyll yma. Un o’r enw John Davies, Llys Myfyr, Nefyn adroddodd y stori yn ei golofn:
‘Tra’n son am lygaid drwg, cof gennyf i wraig ym Mlaenau Ffestiniog ddweud wrthyf y modd y cafodd ei merch wellhad i amrannau cochion. Cyngor syml gan wr a gariai ei siop ar ei fraich ... Am iddi dorri deilen eiddew wlyddaidd pan fyddai’r ferch ar fin mynd i’r gwely, a’i chnoi’n dda, poeri ar y llaw, a dodi o’r poer ar yr amrannau. Gwelais y ferch fy hun a digon hawdd gweld iddi fod yn dioddef gan dynered yr emrynt.’----
* Erthygl arall gan Steffan am eliau.
--------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2003.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'Web view' os ar y ffôn)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon