24.12.25

Atgofion Siop Y Maes

Rwy’n siŵr fod pawb sydd yn byw, neu’n dod o’r Blaenau, yn gwybod lle mae’r Parc. Hefyd, eu bod yn ymwybodol o’r holl gysylltiadau sydd wedi bod, ers blynyddoedd hir, gyda’r llecyn ‘sgwâr o barc’, a’r ardal o’i gwmpas. Wrth feddwl yn ôl, a fy meddwl yn crwydro i bumdegau’r ganrif ddiwethaf, pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol y Bechgyn Slate Quarries ym Maenofferen, mae cofio’r Parc yn rhan annatod o’r profiad hwnnw o fyw a chwarae fel plentyn ysgol yn Stiniog.

Roedd pedair rhes o adeiladau yn rhedeg gyferbyn â phob ochr sgwâr y Parc. Roedd yr adeiladau hyn yn cynnwys un sinema, dau gapel, un busnes gwerthu llefrith, syrjeri deintydd, tŷ (oedd yn safle gyda storfa) i ddau frawd oedd yn beintars, ac, i goroni’r cyfan, pum siop o bob math. Gyferbyn â phrif fynedfa’r Parc, sydd dros y ffordd i Towyn Road, roedd Newborough Buildings a oedd yn cynnwys tair o’r siopau. Roedd Y Coparet yn un o’r ddwy siop arall, a Siop Powell oedd yr olaf - honno wrth droed Pont Picton, a gyferbyn â’r pilar bocs coch ar un o gorneli Y Parc.

Y siop gyntaf yn rhes fach Adeiladau Newborough oedd siop tynnu lluniau, yn perthyn i’r diweddar Owen Hughes, Bryn Bowydd. Yn ddiweddarach, daeth tipyn o gymeriad o ffotograffydd, Mr. E. Zak yn berchen llwyddiannus ar y siop. Yn y canol roedd y Newborough Supper Bar, sef siop chips, gyda lle i fwyta i mewn, a hefyd cownter ar wahan i brynu a chario’r swper adref. Mr Owen â’i wraig oedd yn berchen ar y siop chips. Roedd y diweddar Phil Owen â’i deulu o Bryn Bowydd, yn perthyn i deulu siop y Supper Bar.

Yn olaf, ar y gornel gyda Ffordd Towyn oedd Siop Y Maes. Ar ben y drws dwbl i fynd i mewn roedd yr arwydd General Provisions.


Perchennog y siop hon, a’r tŷ oedd ynghlwm â’r siop, oedd Mr. R.R.Roberts. Roedd pawb yn ei adnabod fel “Robas y Maes”, yn flaenor yng Nghapel Bowydd, ac un o gynghorwyr y dref.

Pan oeddwn yn ddeg oed, cefais waith yn “cario allan” yn Siop Y Maes. Roedd llawer o fechgyn Stiniog yn “cario allan” mewn gwahanol siopau yn y dref hefyd, ond fi oedd yr unig un heb feic siop i gario’r bocsys i dai y cwsmeriaid. Ond, siop eithaf bach oedd Y Maes, nid fel y siopau mawr yn y Stryd Fawr, felly dim ond tipyn ar y tro oedd y prynu gan y cwsmeriaid, ac nid oedd y bocsus yn rhy drwm i’w cario.

Roedd becar yn dod â chyflenwad o fara bob bore, a dyna oedd un o’r tasgau, sef mynd â’r bara o gwmpas y tai mewn basged. Roedd Robas yn mynd i oed - dros ei wyth deg, ac yn aml yn dweud, fel ateb i’r rhai oedd yn ei weld yn edrych yn dda-"mae gen i bob un o'm dannedd fy hun”. Roedd ganddo ei ffordd unigryw o redeg y siop. Roedd yn cael menyn mewn bocs mawr, ac yn ei wagio, yn dalpyn hir sgwâr ar blât enfawr, porslen gwyn, gyda’r geiriau “LARD” arni. Roedd yn torri, o’r talpyn menyn, digon at gais y cwsmer, a’i bwyso a’i lapio mewn papur arbennig. Roedd yn gallu, mewn un toriad, bron bob tro, gael y pwysau cywir o fenyn! Wedi gorffen, rhoi y bocs yn ôl dros y talpyn menyn.

Roedd til pres ar ochr un cownter, a phan oedd y drôr yn agor, roedd cloch fach yn canu, gan ddangos beth oedd tu mewn. Dim arian, ond tua dwsin o blêds siafio i ddynion, pacedi bach o alum i atal gwaedu wrth siafio, stribedi o Aspro at boen, neu cur yn y pen, a mân bethau eraill. Dim arian! Gwisgai got lwch frown bob dydd, ac mewn un boced roedd bag glas - i fod i ddal siwgr, ond yn llawn darnau o arian i roi newid i gwsmeriaid. Hefyd, gwaled fach o ledr du yn dal papurau punt, a phapurau chweugain, wedi eu clymu â band lastig. Yn y boced arall roedd dwster melyn, glân, a ddefnyddid i roi polish bach i bob tun bwyd a dynnid i lawr o’r silffoedd uwchben y cownter. 

Roedd yn y siop rhes o duniau bisgedi rhydd, gyda chaead gwydr arbennig ar bob un o’r tuniau sgwâr. Wrth eu prynu, roedd y bisgedi yn cael eu rhoi mewn bag papur, â’u pwyso. Wedi peth amser, roedd bisgedi yn cyrraedd y siop mewn rholiau papur, ac wedi eu pwyso yn barod. A dyna dasg arall i mi - agor y pacedi i gyd a rhoi y bisgedi yn rhydd - yn eu bocs priodol - yn barod i’r cwsmeriaid.

Mewn amser, fe gefais ddyrchafiad yn fy ngwaith ar ôl ysgol, a’r tro yma gyda beic siop hefyd, ond, dim siawns am “broken biscuit” i fynd gyda’r paned te!

Alun A.R. Jones, Pen-y-bont ar Ogwr. (Gynt o Bryn Bowydd Newydd)

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

 

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon