Showing posts with label crefft. Show all posts
Showing posts with label crefft. Show all posts

21.9.26

Y Dref Werdd- creu a gwirfoddoli

Ein Carthen Cymunedol
Cychwynodd ein Criw Cwiltio ym mis Awst llynedd fel rhan o brosiect tair mlynedd Y Dref Werdd – Camu yn ein Blaenau, a ariannir gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol. Derbyniwyd hefyd gymorth ariannol ychwanegol gan Cyngor Gwynedd fel corff arweiniol i’r cynllun ‘Lle CHI Lle NI’- Safle Treftadaeth y Byd, drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bu’r cymorth ariannol yma yn gyfle i sefydlu’r grŵp er mwyn sicrhau y gall barhau yn y dyfodol.
Ein bwriad ni yn ein sesiynau Criw Cwiltio oedd i greu darn gweledol o gelf tecstiliau cydweithredol sy’n adlewyrchu ein hanes, treftadaeth a daearyddiaeth y tirweddau Llechi. Mae’r prosiect wedi creu cyfle i’r gymuned ddod at eu gilydd, yn darparu ymgysylltiad i bawb gan ennyn ymdeimlad cryf o gynefin a balchder lleol yn y tirwedd Llechi.

Mae’r prosiect yn gyfle i wella lles, i gymdeithasu, i fagu a rhannu sgiliau a hybu’r economi leol. Yn ogystal yn gyfle gwych hefyd i bobl ddod i ymarfer a chlywed y Gymraeg a dysgu am ddiwylliant y fro.
Mae’r grwp wedi cyrraedd dwsin o aelodau erbyn hyn, ac rydym wedi bod yn cyfarfod pob pythefnos i gydweithio, sgwrsio, rhannu storïau a mynegi creadigrwydd drwy decstiliau. Wedi cael llawer o hwyl arni ac ar ôl llawer iawn o waith, mae’r garthen nawr wedi ei chwblhau!

Cafodd y cwilt cynnes ei wnïo drwy ailgylchu hen ddefnydd a hen ddillad fel ein bod yn osgoi gwastraff ac yn symud oddiwrth y diwylliant ‘taflu i ffwrdd’, ac mae’r haen wadin tu fewn y garthen wedi ei wneud o wlân Cymreig lleol. Glanhawyd y gwlan yna’i ‘gribo/cardio’ a’i wnïo at ei gilydd fel ‘duvet’- bydd hyn yn cynrychioli’r anawsterau gyda thlodi tanwydd a’r ymrafael o gadw’n gynnes yn yr argyfwng costau byw y mae llawer ohonom yn byw ynddo heddiw.

Gweler ddelweddau hyfryd o’r chwareli – Maenofferen, Cwmorthin ac Inclên yr Oakley, argae Stwlan, tirnod hanesyddol y tŷ sinc, y barics, y car gwyllt, y crawiau a’r gofeb rhyfel yn yr Ysbyty Goffa. O amgylch y delweddau, ac fel bordor i’r cwilt, gwelwch esiamplau o’r dyfynodau a wnewch ddarganfod wrth eich traed ar strydoedd Blaenau - sydd yn dangos dathliad o ddiwylliant lliwgar y dref unigryw hon.
Cafodd y garthen ei dadorchuddio yng Nghaffi Antur ym mis Mai ble cawsom baned a chyflwyniad am ei hanes a’i gwneuthuriad, a daeth sawl un i’w gweld.

Bydd y garthen yn cael ei harddangos yn y caffi, felly dewch i Gaffi Antur am baned ac i fwynhau y gwaith gwych a wneir gan y gymuned!

Diolch mawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, ac mi fydd y sesiynau Criw Cwiltio yn parhau am y flwyddyn nesaf, felly cadwch olwg am fanylion!
Marged

Gwirfoddoli a Gwylio Glöynnod
Bu’n fis prysur arall i brosiectau amgylcheddol Y Dref Werdd. Yn ystod Wythnos Rhywogaethau Estron Ymledol, bu criw gweithgar o fyfyrwyr BAC Cymraeg yn cwblhau oriau gwirfoddoli gyda ni drwy fynd ati i dynnu jac-y-neidiwr (Himalayan balsam) planhigyn ymledol sy’n bygwth ein rhywogaethau brodorol a glannau afonydd. Er i ni orfod torri’r gweithgaredd yn fyr oherwydd y gwres eithafol, llwyddodd y myfyrwyr i glirio ardal go fawr. Diolch yn fawr iddynt am eu gwaith caled!

Cawsom hefyd bleser o groesawu grŵp o ddysgwyr Cymraeg, dan arweiniad Catrin Roberts, fel rhan o’u gwers Gymraeg. Wrth grwydro’r ardd a’r feithrinfa goed buom yn dysgu enwau Cymraeg blodau, coed, cynefinoedd a mwy. Roedd yn ffordd wych o gyfuno natur a’r Gymraeg. Os hoffai unrhyw grŵp arall drefnu ymweliad tebyg, cysylltwch â ni (megthorman@drefwerdd.cymru).

Gardd fywyd gwyllt Tanygrisiau. Llun Paul W

Yn ystod Wythnos Natur Cymru (4–12 Gorffennaf), roedd gennym ddau weithgaredd yng Ngardd Bywyd Gwyllt Tanygrisiau (tu ôl i Cambrian Terrace, LL41 3RT). Ar y 7fed Gorffennaf cafwyd sesiwn galw-heibio 'Citizen Science', cyfle i ddysgu sut i arsylwi, adnabod a chofnodi bywyd gwyllt gan ddefnyddio apiau a chanllawiau syml. Yna, ar 10fed Gorffennaf -taith fotanegol yn canolbwyntio ar adnabod blodau gan ddefnyddio llyfrau a chyweirlyfrau adnabod – dim apiau! Bydd hefyd gyfle i weld y feithrinfa goed a dysgu mwy am ein gwaith. 

Ar 21ain Gorffennaf, cynhanliwyd Y Cyfrif Mawr Glöynnod Byw: gweithgaredd gwych i deuluoedd, ond mae croeso cynnes hefyd i unrhyw 'lepidopteryddion' brwd!
Meg
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026 

 
 

16.2.25

Murlun newydd!

Tudalen flaen rhifyn Ionawr 2025

Ydych chi wedi gweld y murlun llechi newydd ar y Stryd Fawr? Cafodd y mosaig ar dalcen adeilad cyfrifwyr Beatons ei gwblhau ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.


Kate Hughes*, ysgolfeistres Rhiwbach ar ddechrau’r 1900au, yw canolbwynt y murlun, sydd wedi’i wneud yn gelfydd gan gwmni lleol yr Original Roofing Company. Hi yw’r unig ferch y mae cofnod ohoni’n defnyddio’r car gwyllt ar droad y ganrif. 

Yn ôl y cofnodion byddai Kate yn cael pàs bob bore yn un o’r wagenni gwag i dop yr inclên uwchben Chwarel Maenofferen ac yna’n cerdded i Rhiwbach. Ar ôl diwrnod o ddysgu, byddai’n cerdded i chwarel Graig Ddu ac yn dod yn ôl lawr i’r dref ar y car gwyllt.

Mae’r murlun newydd wedi cymryd lle’r hen ddarn o gelf lliwgar, oedd wedi dechrau mynd â’i ben iddo, gafodd ei wneud tua 2008 gan yr arlunydd Catrin Williams a disgyblion yr ardal. Yn ogystal â’r car gwyllt, mae haenau llechi yn y graig, amlinelliad y Moelwyn a’r tomenni llechi, a nodau cerddoriaeth – sy’n nod tuag at ddiwylliant y Caban, y bandiau pres a’r eisteddfodau lleol – i’w gweld yn y murlun newydd. Ar waelod y darn, mae [addasiad o] linell enwog** y diweddar Dr Gwyn Thomas am y Blaenau:

‘Breichled o dref ar asgwrn o graig’

Sam Buckley a Kaz Bentham ydy cyfarwyddwr Original Roofing, y ddau wedi bod yn gweithio efo llechi ers iddyn nhw adael yr ysgol.

“Roedd yn dipyn o sialens sut i gyfleu stori diwydiant llechi Blaenau a hynny drwy ddefnyddio’r llechen ei hunan; dwi’n credu inni lwyddo yn y pen draw,” meddai Sam.

Mae’r murlun yn cynnwys rywfaint o ddur a phres, ac eglura Kaz bod defnyddio’r gwahanol ddeunyddiau wedi caniatáu iddyn nhw gyfleu sawl gwahanol agwedd “amlwg a phwysig o stori'r dre”, gan gynnwys stori’r bandiau pres.


Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am gomisiynu’r gwaith, fel rhan o’u rhaglen Llewyrch y Llechi, gyda’r bwriad o “godi ymwybyddiaeth” o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi y Gogledd Orllewin. Mae cynlluniau tebyg wedi bod ar y y gweill mewn rhannau eraill o’r sir, gan gynnwys Porthmadog, Penygroes, Bethesda, Llanberis a Thywyn.
- - - - - - - - -


* Mae'r cyfryngau i gyd wedi ei galw yn Kate Griffiths, ond dim ond ar ôl priodi y daeth hi'n Griffiths.  

Hughes oedd hi pan oedd yn athrawes. 


** 'Fe welwch freichled o dref ar asgwrn y graig' ydi'r linell yn y gerdd 'Blaenau' (Ysgyrion Gwaed, Gwasg Gee, 1967)

26.5.16

Llwyddiant Brethyn Blaenau!

Hanes crefftwyr a busnes lleol

Chwe mlynedd yn ôl, yng nghyfnod cyntaf Y Dref Werdd, cychwynnodd grŵp o’r newydd i ddysgu a rhannu sgiliau go draddodiadol ym Mro Ffestiniog. Roedd Rhiannon Jones, cogyddes yn Ysbyty Blaenau ar y pryd, yn darllen drwy y rhifyn diweddaraf o gylchlythyr Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw pan welodd hi hysbyseb yn chwilio am bobl a oedd yn berchen ar sgiliau y gallai gael eu pasio ymlaen i eraill. Felly, cysylltodd hi â’r Dref Werdd gyda’i syniad.


Fel rhan o brosiect gyda’r Dref Werdd o dan y pennawd ‘Sgiliau Traddodiadol’, y bwriad oedd cael trigolion Bro Ffestiniog i ddysgu sgiliau newydd fel walio cerrig sych a thyfu llysiau. Daeth Rhiannon at staff Y Dref Werdd gyda’r syniad o gychwyn clwb gweu a gwnïo!


Unwaith bu’r drafodaeth am sut y byddai’r clwb yn cael ei redeg, dechreuodd yr hysbysebu a phenderfynwyd cynnal y sesiwn gyntaf ar nos Fawrth nôl yn mis Chwefror 2010. O’r cychwyn cyntaf, roedd yn amlwg fod 'na nifer fawr o ferched (hyd yn oed heddiw does dim dyn wedi mentro i’r clwb!) ym Mro Ffestiniog gyda diddordeb mewn gweu a gwnïo.

Ar ôl ychydig wythnosau, penderfynwyd cynnal sesiwn arall yn ystod y dydd fel bod modd i’r rhai nad oedd yn gallu mynd gyda’r nos allu cael y cyfle i ddysgu a sgwrsio gydag eraill. Roedd Rhiannon wedi synnu gyda’r nifer uchel o ferched oedd yn dangos diddordeb.

Ar ôl sawl mis o gael aelodau’r grŵp yn brysur yn gweu, gwnïo a chreu brodwaith, cafwyd y cyfle i arddangos eu gwaith yn llyfrgelloedd Blaenau a Dolgellau, a phrofodd hyn i fod yn llwyddiant mawr.

Ar hyd y cyfnod yma, roedd Rhiannon wedi cychwyn meddwl sut i ehangu ar y clwb a’r diddordeb lleol yn y grefft. Wedi dipyn o waith ymchwil, aeth ar gwrs cychwyn busnes wedi iddi gael syniad arall, roedd hi am agor siop ar stryd fawr y Blaenau!


Erbyn mis Awst 2011, roedd Rhiannon wedi cychwyn chwilio am siop addas ar hyd y stryd ac yn gwneud y gwaith caled sydd yn gysylltiedig â chychwyn busnes. Pan gyrhaeddod mis Chwefror 2012, daeth y cadarnhad ei bod hi’n berchen ar 33 Stryd Fawr, siop yng nghanol y dref fyddai yn dwyn yr enw Brethyn Blaenau.

Daeth y siop yn boblogaidd iawn yn syth gyda phobl leol yn galw i brynu eu stoc o edafedd neu wlân a symudodd y clwb gweu a gwnïo o’i fan cyfarfod arferol yn swyddfa Cymunedau’n Gyntaf i’r siop. Yn ogystal a’r newid mewn lleoliad, daeth y grŵp i fod o dan reolaeth Rhiannon (h.y. yn annibynnol ac nid yn rhan o’r Dref Werdd).

Yn ogystal â’r defnydd a’r offer gweu a gwnïo, mae’r siop nawr yn lle i ŵr Rhiannon, Alwyn, i redeg ei fusnes tynnu lluniau achlysurol yn ogystal â bod yn lle i argraffu eich lluniau ynddo, heb sôn am fod yn lle i fframio eich lluniau hefyd.

Mae’n amlwg fod ‘Brethyn Blaenau’ wedi dod yn adnodd hynod bwysig a llwyddiannus ar Stryd Fawr y Blaenau.


Wrth sgwrsio gyda Rhiannon, a hel atgofion am gychwyn y grŵp gweu a gwnïo, mae hi’n sôn fod dros 60 o ferched lleol wedi bod yn rhan o’r grŵp mewn un ffordd neu'r llall ers y dechrau. Mae wedi profi llwyddiant gwerth chweil, ac mae'n braf gweld busnes proffesiynol yn cael ei redeg mor dda - sydd yn chwarae rhan bwysig ar stryd fawr Blaenau.

Mae’n anodd cofio’r stryd heb siop Brethyn Blaenau ynddi bellach! Mae hefyd yn braf meddwl fod Y Dref Werdd wedi cael chwarae rhan yn helpu Rhiannon i weld cyfle i ddefnyddio ei diddordeb gyda’r grefft ac i’w droi, nid yn unig yn fusnes llwyddiannus iddi hi a’i theulu, ond, yn adnodd pwysig i’r dref hefyd.

Hir oes Brethyn Blaenau a da iawn Rhiannon a’r criw!
------------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2016.