Showing posts with label Yr Ysgwrn. Show all posts
Showing posts with label Yr Ysgwrn. Show all posts

23.7.26

Cadeiriau'r Ysgwrn

Yr haf hwn, mae'r Ysgwrn wedi croesawu cadair genedlaethol arall a grëwyd gan y saer a’r ffoadur o Wlad Belg - Eugene Van Fleteren yno. Dyfarnwyd y gadair i’r bardd a’r gweinidog John Thomas Job yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1918, a chaiff ei harddangos ym mharlwr Yr Ysgwrn tan yr hydref. Am y tro cyntaf erioed, bydd hi’n eistedd ochr yn ochr â Chadair Ddu enwog Hedd Wyn.

‘Fleur-de-lis’ oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917. ‘Yr Arwr’ oedd testun yr awdl a gwyddom mai’r llanc ifanc 30 oed o Drawsfynydd - Ellis Humphrey Evans [Hedd Wyn] oedd hwnnw. Fe’i lladdwyd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917 - rai wythnosau cyn cyhoeddi ar lwyfan y Brifwyl mai fo oedd y Prifardd. Mae’r hanes yn gyfarwydd iawn i ni.

Awdl yn y mowld rhamantaidd oedd un Hedd Wyn. Nododd beirniaid y gystadleuaeth ei bod ‘o ran iaith a mydr a chynghanedd, yr orau’n y gystadleuaeth’ a’n bod ‘yng nghwmni gŵr o ddychymyg a menter’. Cyflawnwyd cryn gamp gan y bardd di-goleg o’r Traws. Pery hyn i ni ddychmygu beth fyddai ei hanes petai wedi cael byw.

Eu Nêr a Folant’ osodwyd yn destun yr awdl ym 1918 - blwyddyn ola’r Rhyfel Mawr. Dyma destun ‘a lithrodd yn ôl i’r hen, hen rigolau’ yn ôl yr Prifardd a’r ysgolhaig, Alan Llwyd. Awdl ddiwinyddol a thraethodol a ddisgwyliwyd felly. ‘Enaf’ oedd ffug-enw’r bardd a gadeiriwyd - sef, John Thomas Job – a anwyd yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Roedd eisoes wedi ennill y gadair genedlaethol ddwywaith - yng Nghasnewydd (1897) a Llanelli (1903) a’r goron yn Lerpwl (1900). Cafwyd ynddi ‘ddisgrifiadau o Gymru’r Emynau: yr addoliad, yr Ysgol Sul a’r gymanfa ganu’.

Mae un llinell o awdl J.T Job yn un a ddefnyddiwyd laweroedd o weithiau i ddisgrifio’r emynyddes o Ddolwar Fach ym Mwynder Maldwyn - Ann Thomas (Griffiths). Hyd nes i mi fwrw golwg ar yr awdl yn ddiweddar, wyddwn i ddim mai yno yr ymddangosodd y llinell fawr honno – un a ddefnyddiais sawl tro fy hun wrth gyfeirio at Ann:

‘Hithau a enwaf weithian:
Y danbaid, fendigaid Ann ...’

[Gyda llaw, ‘Enaf’ oedd enw cyntaf mab J.T Job – Enaf Morrice Job 1918-94 a briododd Gwenhwyfar Ellis Wiliams 1923-2018 oedd yn gyfyrdres i fy nhad. Dyma rieni’r Parchedig Dafydd M. Job fu’n weinidog Eglwys Efengylaidd Bangor - Capel y Ffynnon - am dros 40 mlynedd]                                        IM
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026

    
 

24.5.25

Yr Ysgwrn -cynnig arbennig!

Mae Yr Ysgwrn wedi ail-agor ac mae cynnig arbennig i ddarllenwyr Llafar Bro!

Dyma ein hoff amser yma yn yr Ysgwrn – amser ail-agor am y flwyddyn! Daeth yn amser i groesawu ymwelwyr o bell ac agos, i gael cynnau tân rheolaidd yn y ffermdy ac i’n tywyswyr gael gwared ar we pry cop y cof yn barod am dymor arall o adrodd hanes Bardd y Gadair Ddu.

Agorwyd ar Ebrill 12fed, ac mae cynnig arbennig i ddarllenwyr Llafar Bro

Os ddewch chi â rhifyn Ebrill efo chi i’r Ysgwrn, cewch docyn mynediad dau am bris un i’r ffermdy. Bydd y cynnig yn dod i ben ar Hydref 31 2025, felly cadwch eich copi'n ddiogel.

Mi fyddai’r Ysgwrn yn lle gwahanol iawn heb ewyllys da degau o bobol sydd wedi rhoi eu hamser o’u gwirfodd ers ymhell dros ganrif. Mae’r traddodiad hwnnw ddechreuodd teulu Hedd Wyn wrth i ymwelwyr ddod draw i weld y ffermdy ar ôl ei farwolaeth ym Mrwydr Passchendaele ym 1917 yn parhau, ac mae gwirfoddolwyr yn aelodau gwerthfawr o’r tîm. Beth am ymuno â nhw? Efallai eich bod chi’n mwynhau sgwrsio ac yn awyddus i rannu’r hanes? Neu awydd dod draw i helpu yn y caffi a’r oriel? Neu bosib eich bod chi eisiau magu mwy o brofiad yn y sector treftadaeth er mwyn mynd ymlaen i weithio yn y maes ar ôl graddio? Beth bynnag fo’ch rheswm dros ddod yma, mae yna ddigon o bethau allwch chi eu gwneud, megis:

•    Tywys ymwelwyr o amgylch y ffermdy
•    Gwneud paneidiau a gweini
•    Unrhyw waith twtio a glanhau yn yr Oriel a'r caffi
•    Gwaith glanhau neu glirio tu allan, megis hel dail neu roi dŵr i flodau
•    Gofalu bod y llwybrau cerdded mewn cyflwr da

Dros y Pasg, roedd gweithgareddau yma i blant yn y Beudy Llwyd, gan gynnwys:
Helfa wyau Pasg gyda cherfluniau gwiail ar hyd y daith. Dathlu’r Gwanwyn gyda’r Pethau Bychain. Ysgol Goedwig. A Gweithdy peintio wyau Gwanwyn gydag Ella Jones.

Bydd Emma Metcalfe yn dechrau Clwb Garddio yn fuan hefyd, felly cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am hynny.

At sylw athrawon a rhieni - Bydd grant trafnidiaeth o £100 ar gael i’r 20 ysgol gyntaf sy’n archebu ymweliad ar gyfer 2025/26, felly soniwch wrth eich ysgolion!
- - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

 

22.7.22

Yr haf yn yr Ysgwrn

 Wel, mae hi’n haf yn barod – a’r Ysgwrn wedi agor i’r cyhoedd ers tri mis.
 
Mae’n rhaid dweud ei bod hi’n braf iawn eleni cael lled-normalrwydd eto, gyda chwmwl Covid yn dechrau clirio yn ara’ bach.  Mi ydym ni bellach yn gallu cynnig pedair taith lawn y dydd, a digwyddiadau dan do heb orfod poeni am y tywydd!

Mi gawsom Basg prysur iawn, gyda helfa drysor wedi ei threfnu i’r plant o amgylch y fferm.  Daeth criwiau o bell ac agos yma – rhai oedd erioed wedi ymweld â’r Ysgwrn o’r blaen.

Digwyddiad arall difyr yn ystod mis Mai oedd recordio rhifyn arbennig o gyfres Gwrachod Heddiw, sef Gwrachod Meirionnydd.  Sgwrs banel oedd hi, gyda Mari Elen yn holi Bethan Gwanas a Catrin Roberts am bob math o bethau gwrachaidd. Mi oedd hi’n hynod ddifyr clywed am y dail a’r blodau fydd Catrin yn eu casglu a’r elfennau gwrachaidd maen nhw’n weld ynddyn nhw eu hunain heddiw. Mae'r podleidad i’w glywed ar ap AM.

Un datblygiad newydd eleni ydy’r bore coffi am 11am bob bore Sadwrn yn y caffi. Mae’n gyfle i bobl leol ddod draw a chael sgwrs dros baned neu dro o amgylch y ffridd.  Mae ‘na hefyd groeso mawr i ddysgwyr os ydyn nhw yn chwilio am gyfle i siarad Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar.

Mae ein gardd hefyd yn altro, ac mi gawsom wledd o gennin Pedr yn ystod mis Ebrill. Ond un broblem ydym ni’n ceisio ei thaclo ar hyn o bryd ydy defaid yn torri mewn i’r ardd ac yn gwledda ar y planhigion bach newydd!  Croesi bysedd y bydd y ffens newydd i gau’r twll yn gwneud ei gwaith.

Ac allwn ni ddim gorffen heb sôn am ein ffrind bach newydd, sydd wrth ei fodd yn yr Ysgwrn – sef Selwyn y Sgwarnog. Creadur hardd, gyda’i glustiau hir a’i naid osgeiddig. Mae’n braf iawn ei weld yn crwydro’r caeau yma, yn pori’n braf yn y bore bach.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022


14.3.21

Yr Ysgwrn dan glo

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Ysgwrn deimlo effaith pandemig. 

 

Yn 1918, derbyniwyd newyddion erchyll o Seland Newydd, bod Dafydd, ail fab Yr Ysgwrn wedi marw o Ffliw Sbaen. Ychydig dros ganrif yn ddiweddarach, mae’r Ysgwrn, fel gweddill Cymru, dan glo yn sgil y pandemig Cofid 19. Â’r drws ar glo ers mis Mawrth y llynedd, namyn wyth wythnos o groesawu ymwelwyr lleol dros yr haf, bu’r flwyddyn diwethaf yn un dra gwahanol i’r Ysgwrn. Ond, diolch i dechnoleg, bu modd cadw’r drws rhithiol ar agor ac mae nifer o brosiectau a digwyddiadau digidol difyr wedi’u cynnal yn llwyddiannus. 

Cynhyrchwyd nifer o ffilmiau anffurfiol o griw Yr Ysgwrn yn rhannu straeon rhai o greiriau llai amlwg y casgliad a thros fisoedd y gaeaf, cynhaliwyd sawl digwyddiad ar-lein drwy zoom a’r cyfryngau cymdeithasol, o noson garolau i sgwrs enwau lleoedd, nosweithiau gwerinol, sesiynau straeon ac yn fwyaf diweddar, prosiect drama gymunedol ‘Hud y Tir’.
 

 


Prosiect ar y cyd â thrigolion Trawsfynydd ydi ‘Hud y Tir’, dan arweiniad creadigol Siwan Llynor a Gai Toms, sef y tîm creadigol a gydlynodd gynhyrchiad perfformiad cymunedol ‘Yr Awen’ yn 2017. 

Mae ‘Hud y Tir’ yn cael ei ddatblygu drwy sesiynau rhithiol gyda gwahanol grwpiau yn y pentref ac rydym wedi cyffroi i weld y cynnyrch gorffenedig erbyn y gwanwyn! Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan ym mhrosiect ‘Hud y Tir’ drwy greu neu berfformio, cysylltwch â Siwan ar siwanllynor@btinternet.com – bydd croeso cynnes i chi!
 

Bydd Yr Ysgwrn yn cynnal amryw o weithgareddau yn ystod y flwyddyn. Rydym yn mawr obeithio bydd o leiaf rhai o’r rhain yn cael eu cynnal ar y safle, ond mae opsiwn rhithiol ar gyfer pob un, felly bydd digon o fwrlwm i’n cadw ni fynd drwy’r misoedd nesaf. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer digwyddiadau yr hoffech eu gweld yn digwydd yn Yr Ysgwrn, cofiwch gysylltu!
 

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf o’r Ysgwrn a hei lwc cawn eich croesawu’n ôl yn o fuan. Tan hynny, cadwch yn saff!  

Naomi Jones
-----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021

Gwefan Yr Ysgwrn

25.7.18

Dathlu Celf yn Yr Ysgwrn

Braf oedd cerdded o gwmpas safle’r Ysgwrn ar noson hafaidd i fwynhau rhagwelediad o’r darnau celf ar gyfer arddangosfa  I’r Byw gan Rhodri Owen, yng nghwmni Myrddin ap Dafydd a’r artist gwadd Catrin Williams.


Noson hwyliog o ddathlu oedd hon, yn cwblhau gwaith blwyddyn a welodd Rhodri yn cydweithio ag wyth artist gwadd ac wyth grŵp o gefndiroedd gwahanol iawn ar draws Cymru i fynegi eu profiad o fyw, a hynny ar ganfasau glân dodrefn newydd Rhodri.

Bardd dodrefn” oedd disgrifiad Myrddin ap Dafydd o Rhodri, ac fe gychwynnodd y noson efo sesiwn holi ffwrdd â hi rhwng Myrddin, Rhodri a Catrin. Fel eglurodd Rhodri:
“roedd perffaith ryddid i’r grwpiau yma falu fy nodrefn, a doedd gen i ddim syniad o be fyddai’r canlyniad!” 
Yn amlwg daliwyd dychymyg y gynulleidfa, a difyr iawn oedd clywed y dehongliadau o’r darnau celf a’r trafod brwd wrth fynd o gwmpas y gweithiau. Roedd cryn ddiddordeb yn y dodrefn gwreiddiol a’r newid fu, a chyfle i rai o wirfoddolwyr Yr Ysgwrn fu’n rhan o’r gwaith i ddangos eu cyfraniad – cyfle hefyd i weld ffrwyth gwaith yr holl grwpiau a’r fideo ohonynt wrthi’n rhoi eu marc ar y dodrefn.

Cyfeiriodd Myrddin at gychwyn pethau hefyd a’r cyswllt rhwng themâu a chefndir Cadair Eisteddod Genedlaethol  2017 ac arddangosfa  I’r Byw. Ychwanegodd Rhodri:
“gan mai gan y Parc ges i’r comisiwn i ddylunio a saernio’r gadair, a hynny ar ganmlwyddiant Y Gadair Ddu, roeddwn i’n falch iawn mod i wedi cael y cyfle i gynnal rhagwelediad y darnau yma yn Yr Ysgwrn, a chau’r cylch fel petai, cyn i’r arddangosfa gychwyn ar ei thaith o gwmpas Cymru”.   

Bydd ffurf yr arddangosfa yn newid o le i le, cyn teithio i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ddechrau Awst, ac ymlaen wedyn i orielau eraill tan Ionawr 2019.


Mae ‘I’r Byw’ yn bartneriaeth rhwng wyth oriel a sefydliad, gan gynnnwys Parc Cenedlaethol Eryri, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
--------------------------------

Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.


12.9.17

Dewch i’r Ysgwrn!

Wedi misoedd o waith caled, ac ambell i snag, mae drws yr Ysgwrn wedi agor unwaith eto, a’r  ymwelwyr yn tyrru.

Ers Mehefin y 6ed mae cannoedd o blant a phobl o bobl oed wedi heidio i ymweld â chartef bardd y Gadair Ddu a chael blas ar y safle a’r datblygiadu newydd.

Mae’r Ysgwrn bellach yn ganolfan ddiwyllianol wledig ar gyfer ymwelwyr o bob math. Gyda pharcio ar gael i geir a bysus, a wifi cyhoeddus, mae’r adeiladau’n hygyrch i bawb a chroesewir teuluoedd. Yn ogystal ag ymweld â’r cartref hanesyddol, cewch fwynhau paned yn y Beudy Llwyd, a threulio orig yn pori yn yr arddangosfa, neu gerdded y llwybrau.

Yn ystod mis Mehefin cafodd 9 ysgol leol gyfle arbennig i glywed hanes Hedd Wyn gan y dyn ei hun mewn cyfres o berfformiadau gan gwmni Mewn Cymeriad. Roedd yr actor Sion Emyr, (Sion yn Rownd a Rownd), yn chwarae rhan Hedd Wyn mewn sioe un dyn a gyfer ysgolion cynradd, a chafodd ysgolion Bro Hedd Wyn, Manod, Edmwnd Prys a Bro Cynfal, ymysg eraill, amser wrth eu bodd. 


Roedd nifer o’r ysgolion yma wedi rhoi help llaw i griw’r Ysgwrn dros y misoedd diwethaf, drwy wneud gwaith celf, plannu coed ac ati, felly braf oedd cael cynnig cyfle iddynt fod ymysg y cyntaf i ymweld.


Mae hon yn flwyddyn bwysig iawn wrth gwrs oherwydd y canmlwyddiant, ac er fod llu o bethau wedi eu trefnu ar hyd a lled Cymu a thu hwnt, rydym yn awyddus hefyd i gynnal digwyddiadau i gofio yn lleol.

Ym mis Medi cynhelir Gŵyl y Lleuad Borffor yn Nhrawsfynydd, a bu criw o bobl leol wrthi’n trefnu wythnos o weithgareddau gyrhaeddodd benllanw mewn perfformiad cymunedol awyr agored ar Fedi’r 16eg.  Hefyd ym mis Tachwedd cynhelir Gwasanaeth y Cofio, ble fydd aelodau o fudiadau pentref Trawsfynydd yn cynnal gwasanaeth undebol yng Nghapel y Fro.


Ar ddydd Llun, Gorffennaf 31, sef y dyddiad y bu faw Hedd Wyn gan mlynedd yn ôl ym mrwydr Paschendaele, Gwlad Belg, bu Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn yn barddoni, cofio a myfyrio yn Yr Ysgwrn, a chyfle arall i weld Sion Emyr yn ei rôl fel Hedd Wyn. Heddwch ac ewyllys da oedd themau’r penwythnos a chyfle i ymwelwyr rannu negeseuon heddwch ar goeden arbennig yng ngardd Beudy Llwyd.

Mae’r Ysgwrn ar agor bob dydd o 10.30 – 4.00 ar wahan i ddydd Llun, a gallwch ganfod manylion tocynnau a phecynnau grŵp ar ein safle we newydd yrysgwrn.com, neu drwy ffonio’r Ysgwrn ar 01766 772 508.

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu!


--------------------------------------


Hawlfraint lluniau -Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2017.


28.6.17

Cynefin a Chymuned yn Yr Ysgwrn

Erthygl gan Gwydion ap Wynn -Rheolwr Prosiect y Dref Werdd

Ar ôl llwyddiant Cynefin a Chymuned i Blant llynedd, mae’r Dref Werdd wedi mynd ati’n ôl i drefnu mwy o sesiynau ar gyfer plant Bro Ffestiniog yn 2017. Wrth aros gyda’r egwyddorion o ddysgu am gynefin, amgylchedd a hanes, fe aeth y criw i’r Ysgwrn i ddechrau’r cwrs newydd.

Fel y gwyddoch, mae datblygiadau sylweddol wedi bod ar y safle’n ddiweddar, dan oruchwyliaeth Sian Griffiths, o’r Parc Cenedlaethol, i fod yn barod erbyn y canmlwyddiant.

Aeth y criw i Drawsfynydd i blannu ffrwythau yng ngardd y Prifardd enwog ac i ddysgu am yr holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd yno. Fe blannwyd coed afalau, cyrens duon, cyrens cochion a bylbiau cennin Pedr. Mae Cynefin a Chymuned yn awyddus i ddysgu’r bobl iau sut i blannu pethau ac wedyn am y cyfrifoldeb sydd ganddynt fel unigolion i warchod y planhigion ynghŷd â’r byd naturiol o’u cwmpas.

Mae’r Ysgwrn yn adlewyrchu sut y bu’r Cymry’n byw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac yn galluogi i ymwelwyr gamu’n ôl mewn amser i edrych ar hanes llenyddiaeth, ac ar agweddau cymdeithasol ac amaethyddol. Wrth ymweld â hen gartref Hedd Wyn, cafodd yr ieuenctid ddysgu am fywyd eu cyndeidiau a deall beth maent wedi ei etifeddu fel Cymry Cymraeg.


Mae criw Cynefin a Chymuned yn ceisio am Wobr John Muir eleni, sefydliad sydd yn awyddus i’r genhedlaeth nesaf ymfalchïo mewn diwylliant lleol, a darganfod profiadau newydd. Mae’r criw ifanc nawr am fynychu sesiynau fydd yn rhoi iddyn nhw amrywiaeth o brofiadau gwahanol gan gynnwys sesiwn chwilota am fwyd, gwyllt-grefft, mynydda a llawer mwy.

Fe hoffai’r Dref Werdd ddiolch i bawb fynychodd ar y diwrnod ac edrychwn ymlaen i weld y safle’n ôl yn ei ogoniant.
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017.


11.5.17

Yr Ysgwrn -Paratoi i ail agor

Newyddion o gartref Hedd Wyn

Gyda blwyddyn y canmlwyddiant wedi cyrraedd, rydym yn edrych ymlaen i groesawu ffrindiau hen a newydd i’r Ysgwrn unwaith eto.

Wedi misoedd o chwysu, crafu pen a bwrw iddi mae’r gwaith mwyaf wedi ei gwblhau a’r hen dŷ bron yn barod i dderbyn y dodrefn teuluol a’r Gadair Ddu yn ôl i’w gôl. Bu’r adeiladwyr wrthi’n ddiwyd dros y misoedd diwethaf yn gwarchod gwead y tŷ, gwella’r adeiladau a chodi waliau cerrig traddodiadol.

Mae’r maes parcio newydd bellach wedi ei orffen, a phlant Ysgol Bro Hedd Wyn wedi bod wrthi’n brysur yn plannu coed i’w harddu. Cafodd yr hen ffordd i fyny at y tŷ dipyn o ofal hefyd, ac mae bellach yn addas ar gyfer pob math o gerbydau a bysiau – a fydd dim rhaid agor yr un giat hyd yn oed!

Rhai o blant Ysgol Bro Hedd Wyn yn plannu coed yn y maes parcio newydd

Ond y Beudy Llwyd sydd wedi gweld y newid mwyaf. Tra bo’r hen adeilad yn edrych fel beudy o’r tu allan o hyd, yma bellach y byddwch yn medru prynu eich tocyn i’r tŷ, treulio orig yn yr arddangosfa neu flasu paned a chacen leol tra’n edmygu’r olygfa. 

Wedi tipyn o waith twtio a chymoni, byddwn yn ail agor y drysau yn fuan iawn, gyda mawr ddiolch am yr holl gefnogaeth a chymorth rydym ni wedi ei dderbyn ar hyd y daith.

Bydd Yr Ysgwrn ar agor i ymwelwyr o ddydd Mawrth i ddydd Sul fel arfer, ond am ragor o wybodaeth, neu i archebu ymweliad grŵp ffoniwch Sian neu Jess ar 01766 770 274.

Apêl planhigion

Mi fu'r Ysgwrn yn apelio yn ddiweddar am blanhigion sbar o erddi ein cefnogwyr. Roeddem am blannu pethau fel coed cyrins duon a chochion, riwbob, gwsberis a'r wermod lwyd, ffiwsia, llygad llo mawr, ac ati.

Bu criw Y Dref Werdd acw i blannu gerddi’r Ysgwrn dros y Pasg, ac mae'r hanes yn rhifyn Mai Llafar Bro.
---------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill.
Dilynwch hanesion Yr Ysgwrn efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

28.11.16

Yr Ysgwrn -Creu murlun lliwgar

Newyddion o Gartref Hedd Wyn.


Dros fisoedd yr haf bu plant a phobl ifanc yr ardal yn brysur yn creu murlun lliwgar fydd yn ganolbwynt i arddangosfa’r Ysgwrn pan fydd yn ail agor yn y gwanwyn.

Cafodd yr artist lliwgar Catrin Williams, ei chomisiynu i weithio ar brosiect cymunedol fyddai’n creu murlun o wahanol ddefnyddiau i ddarlunio stori’r Ysgwrn a’r fro.  Aeth hithau ati i gysylltu â phum ysgol leol yn cynnwys ysgol y Manod, Bro Hedd Wyn a’r Moelwyn, a chafodd y plant a’r bobl ifanc gyfle arbennig i weithio efo hi a datblygu eu syniadau.

Bu hefyd yn ymweld â Chlwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden, Merched y Wawr Trawsfynydd, ac yn siarad â merched bore coffi Llys Ednywain, yn ogystal â chymdogion Yr Ysgwrn, ac mae nodau clustiau ffermydd yr ardal yn rhan amlwg o’r gwaith. Wrth sgwrsio a hel atgofion cafodd Catrin gip- olwg ar gymeriadau a hanes lliwgar y fro, ac mae hynny bellach wedi ei drosglwyddo ar ganfas. Mawr yw ein diolch i Catrin a phawb fu’n rhan o’r prosiect.

Yn y cyfamser, draw yn yr Ysgwrn mae’r gwaith adeiladu, trwsio a chadwraeth ar ei anterth. Agorwyd y safle i’r cyhoedd am ddiwrnod yn ystod yr haf a chafodd pobl o bell ac agos gyfle i ymweld â’r tŷ, y sied newydd a’r adeiladau eraill a chael tipyn o hanes y datblygiad. Braf iawn oedd cael ymateb mor gadarnhaol i’r gwaith, a chael cyfle i ateb cwestiynau a thrafod y gobeithion i’r dyfodol.


Bu diwrnod agored arall ar ddiwedd Hydref, sef y cyfle olaf i gael cip olwg ar y datblygiadau cyn ail agor yr Ysgwrn y flwyddyn nesaf. Trefnwyd dwy sesiwn yn ystod y dydd - am 12.00 a 2.00y.p. gan gychwyn yn neuadd Trawsfynydd gyda chyflwyniad a chacen, cyn mynd draw i’r Ysgwrn mewn bysus mini.

Cysylltwch â Jess neu Sian am fwy o fanylion ar 01766 770 274.
--------------------------------- 

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.




Blog Yr Ysgwrn



14.9.16

Yr Ysgwrn -trefnu'r canmlwyddiant

Newyddion o Gartref Hedd Wyn

Yn 2017 bydd yn 100 mlynedd ers i Hedd Wyn gael ei ladd yn ‘heldrin’ y ffosydd yn Fflandrys a chael ei ddyrchafu’n symbol cenedlaethol o golledion y Rhyfel Byd Cyntaf.

O lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917 ymgorfforwyd galar cenedl gyfan yng ngwneuthuriad y Gadair Ddu, a byth er hynny daeth pobl o bell ac agos i’r Ysgwrn i dalu gwrogaeth a chael teimlo’n rhan o’r hanes.

Byddwn fel Cymru’n cofio aberth y miloedd y flwyddyn nesaf drwy stori Hedd Wyn a’i negeseon oesol, ac mae nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi eu trefnu led led y wlad a thu hwnt. Bydd cyngerdd agoriadaul Eisteddfod Genedlaethol Môn yn canolbwyntio ar stori Hedd Wyn a heddwch fel thema, ac mae plant ysgol, corau a grwpiau cymunedol eisoes yn cymryd rhan yn y paratoadau.

Bydd Yr Ysgwrn ei hun yn ail-agor yn y gwanwyn a byddwn yn paratoi gweithgareddau gydol y flwyddyn i adlewyrchu pwysigrwydd y canmlwyddiant. Ym Mhenbedw mae criw o bobl yn ystyried y ffordd orau i nodi’r achlysur yno, a byddwn fel swyddogion yr Ysgwrn yn cwrdd â hwy i drafod y posibiliadau.

Rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn fu’n gweithio ar furlun clytwaith Yr Ysgwrn efo’r artsist Catrin Williams yn ddiweddar.
Mae Llywodraethau Cymru ac Iwerddon wrthi’n paratoi ar gyfer gwasanaeth arbennig yn Fflandrys ar Orffennaf 31ain 2017, can mlynedd union ers marwolaeth Hedd Wyn a Francis Ledwidge, bardd ifanc addawol o’r Iwerddon, ar faes y gad ymysg 4,000 o ddynion ifanc eraill.

Felly mae’r diddordeb yn eang, ond nid yw’r cofio’n fwy teimladwy nag yng nghymuned Trawsfynydd ei hun. Yn ddiweddar daeth criw o bobl yr ardal ynghyd i ddechrau trafod wythnos o weithgareddau i goffáu’r canmlwyddiant, a chaflwyd syniadau lu a brwdfrydedd iach i fynd ati i drefnu.

Bydd yr wythnos yn cychwyn efo’r Sioe Amaethyddol ym mis Medi 2017, ac yn gorffen ar y Sadwrn canlynol. Y gobaith yw i gynnal gweithgareddau fydd yn apelio at bob rhan o gymuned Traws a’r ardal ehangach, a chynnig cyfle i blant a phobl o bobl oed gymryd rhan mewn rhyw ffordd.
Os oes gennych syniadau ar gyfer yr wythnos, neu os hoffech fod yn rhan o’r trefniadau cofiwch gysylltu â Sian neu Jess yn y swyddfa, a gallwn basio’r neges ymlaen.
----------------------------------  

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


18.6.16

Yr Ysgwrn -Gwaith y Merched

Newyddion o Gartref Hedd Wyn.

Merched Yr Ysgwrn
Yn y gwanwyn cafwyd tipyn o gyhoeddusrwydd yn y wasg i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae hwn yn ddiwrnod sy’n cael ei ddathlu'n flynyddol er mwyn cofnodi’r hyn mae merched ar draws y byd wedi ei gyflawni’n economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol.

Mae cymaint o son am Hedd Wyn fel mab enwocaf y Traws a’r Ysgwrn, ond prin yw’r hanes am weddill y teulu, yn enwedig y merched.  Felly dyma ddechrau meddwl am fam a chwiorydd Ellis, a’u stori hwythau mewn cyfnod o newid mawr yng nghefn gwlad Cymru.

Mary

Ymunodd Mary, un o chwiorydd Hedd Wyn, a’r ‘Land Army’ yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) a chafodd fynd i goleg Madryn ger Pwllheli’n ferch ifanc i ddysgu sut i wneud caws a menyn. Gan fod y llongau oedd yn cario bwyd i Brydain dan warchae parhaol roedd yn rhaid gwneud y mwyaf o’r cynnyrch oedd ar gael oddi ar y tir gartref. Roedd merched fel Mary’n hanfodol felly i ddysgu sgiliau’r llaethdŷ i eraill yn y trefi a’r dinasoedd. Ac felly y bu. Gwelodd Mary ei chyfle i fyw bywyd tra gwahanol, ac wedi cyfnod yn gweithio priododd ac ymgartrefodd yn ne Lloegr.

Cyn y rhyfel doedd gan ferch o’r dosbarth gweithiol fawr o ddewis o ran trywydd ei bywyd. Cai rhai plant y cyfle i sefyll arholiad y ‘scholarship’ yn 11 oed a mynd ymlaen i ysgol ramadeg. Ond roedd mwyafrif y plant yn aros ymlaen yn yr ysgol gynradd tan eu bod yn 14 oed, lle cai’r merched wersi coginio, glanhau a golchi i’w paratoi i fynd i weini ar ffermydd neu mewn tai preifat. Yna, gadael yr ysgol a mynd i weithio fel morwyn fach a chysgu i mewn lle roedd yn gweithio. Yn wir mae ystafell o’r enw ‘siambr y forwyn’ yn Yr Ysgwrn, y stafell leiaf a welsoch erioed, y drws nesaf i’r gegin, ble byddai’r forwyn fach yn cysgu. 

Ond yn araf bach newidiodd pethau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd merched gyfle i lenwi swyddi dynion, gan ddangos eu bod yn gallu ymdopi â phob math o waith. Ar ôl y rhyfel fodd bynnag aeth y rhan fwyaf yn ôl i’w cartrefi i fod yn wragedd a mamau, neu’n forwynion cyflog.  Byddai trefn gaeth i’r wythnos a’r gwaith yn drwm yn enwedig felly i wraig neu forwyn fferm. Roedd llawer o waith i’w wneud o gwmpas y buarth, yn godro, gofalu am yr ieir a’r moch a helpu allan yn y caeau adeg cynhaeaf gwair neu geirch, heb son am y gwaith tŷ.

Roedd nythaid o blant yn yr Ysgwrn, gyda phedwar bachgen a phum merch yn fintai o ddwylo i helpu Mary’r fam yn y tŷ ac ar y fferm. Gan nad oedd dŵr tap ar gael yn y tŷ roedd yn rhaid gwneud y daith ddyddiol i’r ffynnon i nôl digon o ddŵr i olchi dillad, i lanhau’r tŷ, i ‘molchi corff a gwallt ac i olchi llestri a choginio.

Teulu'r Ysgwrn
Roedd godro’r fuwch yn waith pwysig hefyd gan fod y llaeth yn cael ei ddefnyddio i wneud menyn a chaws i’w werthu’n wythnosol. Byddai hynny, yn ogystal â’r wyau gan yr ieir, yn sicrhau ‘chydig o incwm i wraig y tŷ.  Merched fyddai’n godro fynychaf yn ôl y son, yn aml iawn allan ar y buarth i mewn i fwced agored, gan eistedd ar stôl drithroed a symud fel y byddai’r fuwch yn cerdded yn ei blaen.

Felly mae pethau wedi newid yn syfrdanol i ferched ers amser Hedd Wyn, ac mae’n chwithyg i ni heddiw i feddwl mai dim ond ar ddiwedd y rhyfel yn 1918 y cafodd merched (dros 30) yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf – rhywbeth sy’n cael ei gymryd mor ganiataol y dyddiau yma!

Mae’r Ysgwrn ei hun yn drysor o straeon o bob math, ac yn ffordd o rannu ein hanes cymdeithasol a diwyllianol dros y 100 mlynedd diwethaf. Rydym ar hyn o bryd yn dewis pa ‘straeon’ i’w  hadrodd yn yr Ysgwrn pan fyddwn wedi ail-agor y safle, ac wrthi’n paratoi’r deunyddiau mwyaf addas. Os oes gennych chi atgofion neu straeon yr hoffech eu rhannu, cofiwch gysylltu â ni, ferched yr Ysgwrn.

Cysylltwch â Jess neu Sian ar 01766 770274 neu ebostio ar: yr.ysgwrn[AT]eryri-npa.gov.uk
Diolch i wefan Hanes Merched Cymru – Merched yn Wawr 2002 am ddeunydd ar gyfer yr erthygl.
----------------------------------   

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

26.4.16

Yr Ysgwrn -Codi sied a phlannu coed

Newyddion o Gartref Hedd Wyn.

To gwair ar anghenfil
Petaech wedi digwydd gyrru lawr drwy Gwm Prysor yn ystod ddechrau’r flwyddyn a tharo llygaid tuag at Yr Ysgwrn byddech wedi gweld anghenfil go ryfedd yn llechu rhwng y bryniau.

Sian yn arolygu'r anghenfil
Wedi’r gaeaf gwlypaf ers cyn cof, araf iawn fu’r gwaith adeiladu yn Yr Ysgwrn, ond bellach mae cragen y sied amaethyddol newydd wedi ei chodi. Gan nad yw’r sied sydd ar y buarth yn gweddu â’r adeiladau cerrig eraill, penderfynwyd mai ei dymchwel fyddai orau a chodi sied newydd i denant y fferm.

Bellach mae’r adeiladwyr wrthi’n gosod to gwair yn goron ar yr ‘anghenfil’, a choed wedi’u tynnu o goedlan yr Ysgwrn, a’u torri â llif, fydd yn caei eu gosod ar ochrau’r adeilad.  Gan mai siap crwn sydd ar y to bydd yn gorwedd fel rhan o’r tirwedd, gyda’r bwriad na fydd yn tynnu sylw ato’i hun wedi ei orffen.

Cafodd coedlan Yr Ysgwrn dipyn o hwb ym mis Chwefror hefyd pan ddaeth giang o Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden a chriw o’r Dref Werdd at eu gilydd i blannu coed. Ar ôl diwrnod prysur o waith cafodd 150 o goed derw, bedw, criafol a chelyn eu plannu a mawr yw ein diolch i’r 14 gwirfoddolwr.

Er fod y gwaith tu allan wedi bod yn eithaf heriol dros y misoedd diwethaf, mae digon wedi bod yn digwydd dan do. Ers gwagio a chlirio’r tŷ buom wrthi’n cesisio rhoi trefn ar yr holl lyfrau, papurau a chreiriau bach oedd wedi bod yn hel llwch ar silffoedd Yr Ysgwrn ers degawdau!

Gan ein bod yn ceisio cael statws amgueddfa er mwyn diogelu’r casgliad, mae angen cymryd gofal i lanhau, cofnodi a chatalogio pob eitem cyn ei storio’n ofalus.  Gwaith llychlyd iawn, ond difyr, ac mae nifer o drysorau wedi dod i’r fei’n barod.


Cawsom hyd i destament newydd bychan oedd yn cael ei gario gan filwr dienw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ynghanol llanast yr hen gwpwrdd bwyd, ac roedd canfod papur cyflog Hedd Wyn pan oedd yn hyfforddi fel milwr yn Litherland yn brofiad arbennig iawn. Daeth llun o Dafydd, brawd Hedd Wyn fu farw yn Seland Newydd yn 1918 i’r golwg hefyd, a braf fyddai canfod mwy o’i hanes wedi iddo ymfudo i geisio bywyd gwell.


Er mwyn sicrhau ein bod yn medru gorffen y gwaith yma mewn da bryd byddem yn falch iawn o gael help gan rai o ddarllenwyr y Llafar Bro a’u ffrindiau. Mae dwy weithgaredd benodol wedi eu trefnu:

Rydym yn bwriadu cynnal sesiwn i warchod a glahnau’r creiriau fydd yn gyfle gwych i rai sydd a diddordeb mewn cadwraeth, neu diddordeb penodol yn Yr Ysgwrn i weithio’n agos efo rhai o drysorau’r cartref, a bydd yn cynnwys elfen o hyfforddiant a gwaith ymarferol.

Yna nes ymlaen bydd cyfle i droi’ch llaw at gofnodi creiriau’r Ysgwrn yn ddigidol. Byddwn yn cynnal sesiwn i ddigido casgliad Yr Ysgwrn er mwyn gosod yr holl fanylion ar y we. Byddai’n ddelfrydol ar gyfer pobl sydd a diddordeb mewn hanes ac sydd am ddysgu mwy am drosglwyddo a chyflwyno gwybodaeth ar ffurf digidol. Nid oes angen profiad blaenorol gan y bydd hyfforddiant yn cael ei baratoi ar y pryd.

Bydd cyfleoedd eraill yn codi dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf ar gyfer gwirfoddoli mewn amrywiol ffyrdd. Pan fydd Yr Ysgwrn yn ail agor y flwyddyn nesaf byddwn angen help penodol i gyda nifer o dasgau e.e trin yr ardd; gyrru cerbyn yr Ysgwrn; gweithio ar y dderbynfa/caffi; croesawu pobl i’r tŷ;  gwneud rotas gwirfoddoli; cynnal a chadw a glanhau a helpu efo gweithgareddau plant a digwyddiadau eraill.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw ffordd cysylltwch â ni: Jess neu Sian ar 01766 772500 neu ebostio ar:
yr.ysgwrn@eryri-npa.gov.uk

Byddwn yn falch iawn o glywed gennych.
---------------------------

Erthygl gan Siân Griffiths.
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


31.3.16

Colofn Yr Ysgwrn- Apêl am Atgofion

Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths.

Fuoch chi rioed yn Yr Ysgwrn tybed, neu ydych chi’n nabod rhywun fu yno? 

Oes gennych chi luniau neu atgofion o’r profiad? Sut beth oedd gweld y gegin am y tro cyntaf, a chael hanes y gadair ddu? Sut fyddech chi’n disgrifio’r profiad a beth adawodd yr argraff fwyaf arnoch? Beth yw’r eich neges i ni ar drothwy cyfnod newydd yn Yr Ysgwrn?

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau a gallwch ein e-bostio, rhannu’ch atgofion ar ‘facebook’, gwneud clip fideo, neu ddefnyddio’r post traddodiadol i yrru’ch atgofion atom.

Cadwyd llyfr ymwelwyr yn ffyddlon yn Yr Ysgwrn dros y blynyddoedd, ac wrth chwilota drwy’r tudalennau gwelir fod ymwelwyr o lefydd fel Canada, Gwlad Belg, Y Ffindir, Patagonia a Sweden wedi gadael eu marc!  Sut oedd y bobl yma wedi cyrraedd cyn belled â’r Traws tybed? A beth oedd yn eu cymell i ddarganfod rhyfeddod Yr Ysgwrn?

A chyda phobl yn teithio o bell ac agos mae’n amlwg fod y profiad yn gadael argraff ddofn ar ambell un, a phawb yn ddi-os yn diolch i Gerald ac Elis gynt am eu hamser a’r sgwrs barod. Mae’n hawdd gweld sut oedd pobl yn cael eu swyno gan awyrgylch arbennig y lle, a’r holl hanes a gadwyd ar yr aelwyd.

Dyma flas ar rai o’r sylwadau:
Mae hi wedi bod yn fraint i fod yma – profiad byth gofiadwy!”– Cwmtawe, 1997
Diddorol iawn, cadeiriau bendigedig, fy mreuddwyd wedi ei gwireddu” -Llanuwchllyn, 2001
Diddorol iawn - wedi byw a phasio am 30 mlynedd cyn gweld y gadair ddu - diolch yn fawr” - Trawsfynydd, 2003
One of the most important moments of my holidays in Cymru....” - Gwlad Belg,  1991

Wrth ddarllen y myrdd o negeseuon a adawyd gan deuluoedd, unigolion a phlant ysgol mae llafur cariad teulu’r Ysgwrn wrth gadw’r drws yn agored yn dod yn amlwg iawn. Clywais un o’r cymdogion yn ddiweddar yn sôn am Gerald wrthi’n hel gwair neu gneifio, ac yn mynnu ‘drop tŵls’ er mwyn croesawu llond car o bobl a’u difyrru am awr neu ddwy!

Tipyn o her fydd dilyn hynny! Ond mae’r gwaith o atgyweirio’r Beudy Tŷ fel man i groesawu ymwelwyr i’r safle ar ei newydd wedd ar fin cychwyn yn y gwanwyn. Yno cewch gyflwyniad i stori Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a’r cyfnod, cyfle i gael paned, cyn darganfod yr aelwyd a’r tirlyn arbennig.

Y gobaith yw y byddwn yn medru parhau i gynnig yr un croeso twymgalon, rhoi cyfle i fwy o bobl flasu profiad Yr Ysgwrn, a chreu atgofion newydd sbon!

Gyrrwch eich lluniau/atgofion/fideos ayyb at Sian neu Jess:
yrysgwrn[at]eryri-npa.gov.uk

Yr Ysgwrn
Parc Cenedlaethol Eryri
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

   Gerald a’r diweddar Ellis Williams, Yr Ysgwrn. A oes rhywun a all enwi’r gŵr yn y canol?
------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2016.
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

 

25.2.16

Colofn yr Ysgwrn- gadael argraff

Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths.
 
Symud y Gadair Ddu a Chloc Tywydd yn gadael argraff ddofn

Yn ddiweddar cludwyd y Gadair Ddu o’r Ysgwrn am y tro cyntaf ers degawdau er mwyn ei thrwsio a’i gwarchod i’r dyfodol.

Nid mater hawdd oedd symud cadair sydd bron yn gant oed, sy’n fregus ac yn hynod o drom, trwy ddrws cul parlwr yr Ysgwrn, ond gyda chryn nerfusrwydd a gofal llwyddwyd i osod blanced odditani a’i llusgo i’r cerbyd tu allan.

Ond nid y gadair oedd yr unig beth i adael y tŷ. Gan fod y gwaith o atgyweirio’r ffermdy ei hun eisoes ar y gweill, roedd angen storio’r holl gelfi a’r creiriau er mwyn eu diogelu a’u trwsio. Rhyw deimlad rhyfedd oedd gweld yr hen ddodrefn yn gadael y gegin. Er mai cychwyn ar daith i gael eu trwsio oedden nhw mewn gwirionedd cyn eu cludo’n ôl i’w cartref, chwithig iawn oedd gweld y tŷ’n wag a’r celfi wedi eu llwytho’n daclus i’r fan.

Roedd sylw craff Gerald yn taro’r hoelen ar ei phen: ‘Mae fel tasa perfedd y tŷ wedi’i dynnu allan ohono!

Felly cawsom gyfnod prysur iawn wrth glirio a phacio bocsys, a daeth ambell i drysor i’r fei wrth chwilota yn y droriau a’r cypyrddau! Ymysg y darganfyddiadau roedd hanner isaf pâr o ddannedd gosod o ryw oes neu’i gilydd, sbectols, llythyrau a chardiau, poteli ffisig gwydr a hen badell ffrio haearn oedd mor ddu â’r fagddu wedi oes o ffrio bacwn ar yr hen aelwyd.

Ond un o’r pethau mwyaf trawiadol oedd gweld olion y ‘glass’ tywydd ar y wal. Mae’n debyg bod y teulu wedi papuro o'i amgylch yn ofalus dros y blynyddoedd a phan dynnwyd y teclyn oddi ar y wal, roedd wedi gadael ei ôl yn dwt fel ffosil yn y papur!

A chyda blwyddyn newydd daw cyfnod newydd i’r Ysgwrn gyda’r ymweliadau wedi dod i ben dros dro, y celfi wedi eu storio ar gyfer eu trwsio, a’r cadeiriau wedi ei storio’n lleol.

Y bwriad yw gwarchod cymaint ag a allwn o’r tŷ traddodiadol a chadw gwead hynod y cartref yn ei le, ond mae hefyd yn gyfle i ni agor y llofftydd i’r cyhoedd a rhoi blas ar fywyd yng nghyfnod Hedd Wyn.

Ond er y bydd yr Ysgwrn ei hun ar gau i’r cyhoedd mae gennym wledd o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y misoedd nesaf, yn cynnwys sgyrsiau a theithiau, a diwrnodau agored i weld y safle a’r cadeiriau’n cael eu trwsio.

Bydd y gwaith o rannu hanes yr Ysgwrn a Hedd Wyn yn parhau trwy gyfrwng yr arddangosfa ym Mhlas Tan y Bwlch, a gall grwpiau, cymdeithasau ac ysgolion gysylltu â ni i drefnu ymweliad.

(Gellwch gysylltu â Sian neu Jess ar  01766 770274/ e-bost:  yrysgwrn[at]eryri-npa.gov.uk)



-------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

21.12.15

Colofn Yr Ysgwrn -Haenau Hanes

Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths a Jess Enston.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2015)

Trysor o bapur wal yn y gegin
Mae gogoniant yr hydref wedi cyrraedd yr Ysgwrn unwaith eto, a daeth y tymor newydd ag ymwelwyr tra gwahanol i’r arfer i’r fferm.

Ganol fis Hydref cyrhaeddodd gweithwyr, JCBs a lorïau mawr cwmni RL Davies, a bellach mae rhyw gynnwrf dieithr yn tarfu ar y tawelwch. Wedi gwneud eu nyth yn y cae o flaen y tŷ gan osod ffensys, cratiau ac arwyddion amlwg, cychwynnwyd yn syth ar y gwaith o dyllu seiliau ar gyfer y sied amaethyddol newydd.

Yn ogystal â’r gwaith sy’n digwydd tu allan, mae 'na dipyn o waith ymchwil yn digwydd y tu ôl i’r llenni hefyd. Un peth sydd wedi bod yn diddori ein dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol  yn ddiweddar yw hynt a helynt papur wal yr Ysgwrn.

Fel y gwyddom mae cegin yr Ysgwrn yn ‘stafell go unigryw, ble mae cysgodion ddoe wedi gadael argraff ddofn ar yr hyn a welwn heddiw. Wrth weld y lle tân, y dresel a’r cloc mawr yn eu cartref naturiol cawn gip olwg ar ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu bellach.  Un arferiad ‘slawer dydd oedd gosod un haen o bapur wal ar ben y llall, er mwyn cadw gwres a chuddio waliau anwastad mae’n debyg. Roedd hi’n haws weithiau gweithio o amgylch y dodrefn yn lle trafferthu symud pethau trwm, ac fe welwn hyn yn amlwg  yn Yr Ysgwrn.


Yn ystod yr haf cawsom ymweliad gan gwmni Crick-Smith, arbenigwyr ym maes cadwraeth o Brifysgol Lincoln, oedd dan gomisiwn i astudio’r papur wal a’r paent yn y tŷ.  O ddarllen eu hadroddiad, mawr oedd ein dileit o ddeall eu bod wedi darganfod sawl haen o bapur ar wal y gegin – 26 i gyd!

Y cam nesaf fydd dewis haen sy’n adlewyrchu cyfnod penodol yn hanes Yr Ysgwrn. Gan nad yw hi’n bosib tynnu’r haenau oddi wrth ei gilydd, bydd un patrwm penodol yn cael ei gopïo a’i ail-greu. Bydd yr holl haenau gwreiddiol yn aros ar y wal, gyda’r copi’n cael ei osod drostynt.

Y sialens i ni fydd dewis ym mha gyfnod yn hanes yr Ysgwrn i osod y gegin. Y peth amlycaf i’w wneud fyddai mynd yn ôl i 1917, pan laddwyd Hedd Wyn. Ond oes peryg yn hynny o beth i anghofio effaith y rhyfel ar deulu’r Ysgwrn ac i anwybyddu blynyddoedd o groesawu ymwelwyr o bell ac agos i’w cartref?

Does dim ateb rhwydd i hynny, ond braf yw cael cnoi cil ar gwestiwn mor ddifyr, a chael bwrw iddi i ddatrys yr heriau a’r cwestiynau sy’n codi’n ddyddiol.

Cauodd Yr Ysgwrn dros dro ar Dachwedd y 30ain, er mwyn clirio’r tŷ a dechrau ar y dasg o atgyweirio’r dodrefn.

Os oes unrhyw un yn awyddus i gael gwybod mwy am unrhyw agwedd o’r gwaith, neu os oes rhywun yn awyddus i wirfoddoli i’n helpu efo’r datblygiad mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â mi Siân Griffiths neu Jess Enston ar 01766 770274      
----------------------------

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Mae criw Yr Ysgwrn wedi creu blog i gofnodi'r newyddion diweddaraf. Mae dolen wedi'i ychwanegu i'r rhestr 'Gwefannau o ddiddordeb' ar y dde. Gol.


23.11.15

Colofn Yr Ysgwrn – Cartref Hedd Wyn

Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect Yr Ysgwrn, yn cychwyn cyfres o erthyglau yn cofnodi'r hyn sy'n digwydd yn Yr Ysgwrn.
(Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015)

Creu Campwaith gyda phlant lleol

Mae’n gyfnod cyffrous yn Yr Ysgwrn ar hyn o bryd gyda’r gwaith o warchod a datblygu cartref Hedd Wyn wedi cychwyn.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw perchnogion Yr Ysgwrn bellach, ac mae cadw naws arbennig y safle’n bwysig iawn iddynt. Mae’n her a braint i minnau gael gweithio ar ddatblygiad mor ddifyr ac amrywiol, ac un sy’n agos iawn at fy nghalon fel hogan o’r Traws.

Mae’r adeiladwyr yn cychwyn gweithio ar y safle’r mis yma, ac er bod cryn dipyn o waith i’w wneud i atgyweirio’r tŷ a’r adeiladau, mae ‘na fyrdd o agweddau eraill i’r prosiect, a does yr un diwrnod yr un fath!

Oherwydd y gwaith datblygu bydd drysau’r Ysgwrn yn cau dros dro i ymwelwyr ddiwedd mis Tachwedd. Er hynny rydym yn gobeithio parhau i ddweud stori Hedd Wyn a’r Ysgwrn ym Mhlas Tan-y-bwlch mewn arddangosfa bwrpasol. Cawsom help plant o rai o ysgolion y fro i greu deunydd i’r arddangosfa, sydd bellach yn werth ei gweld.

Bu plant ysgolion Edmwnd Prys, Bro Hedd Wyn a Bro Cynfal yn gweithio’n ddiwyd efo’r artist Luned Rhys Parri cyn gwyliau’r haf i ail greu cegin Yr Ysgwrn mewn ‘papier mache’. Gan ddefnyddio hen botiau iogwrt, glud a phaent aethant ati i greu campwaith! Mae’r dresel, y cloc mawr a’r lle tân bellach wedi eu gosod yn yr arddangosfa ym Mhlas Tan-y -bwlch, drws nesaf i replica’r Gadair Ddu. Gwelir rhai o’r plant yn y llun.


Cafodd y plant wahoddiad i agoriad swyddogol yr arddangosfa ddechrau mis Medi, ac wedi sgwrs ddifyr am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf gan yr awdur Haf Llewelyn, torrwyd y rhuban gan Gerald Williams a’i chwaer Malo (sef nai a nith Hedd Wyn). Cafodd pawb gyfle wedyn i weld y gegin, replica’r gadair ddu a’r cynlluniau sydd ar droed, cyn cael digonedd o frechdanau a chacennau yn y Plas ei hun.

Braf oedd gweld cymaint o rieni a phlant wedi troi allan i gefnogi, ac mae 'nghydweithwyr a minnau’n edrych ‘mlaen at wneud llawer mwy efo pobl a phlant yr ardal ar wahanol agweddau o’r prosiect.

Mae croeso i unrhyw un daro mewn i weld yr arddangosfa, a gallwn gynnig  sgyrsiau ar Yr Ysgwrn a hanes Hedd Wyn a’r cyfnod yn y Plas, yn ogystal â theithiau o gwmpas y gerddi a lluniaeth o bob math i grwpiau a chymdeithasau.

llun APCE
Dyma rai o’r digwyddiadau sydd gennym ar y gweill rhwng rŵan a’r 'Dolig:


Tachwedd 28ain, diwrnod agored yn Yr Ysgwrn - y cyfle olaf am gyfnod.


Os oes unrhyw un yn awyddus i gael gwybod mwy am unrhyw un o’r digwyddiadau yma, neu os oes rhywun yn awyddus i wirfoddoli i’n helpu efo’r datblygiad mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â mi Sian Griffiths neu Jess Enston ar 01766 770274/ e-bost:  yrysgwrn{at}eryri-npa.gov.uk

Mae’r gwaith i warchod a datblygu’r Ysgwrn sy’n brosiect gwerth £3.4 miliwn ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru wedi dechrau Hydref 5 eleni.
-------------------------


Gallwch weld be' arall sydd ar y wefan am Yr Ysgwrn a Hedd Wyn trwy glicio'r dolenni isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

14.4.14

Merched y Wawr a Sefydliad y Merched

Cafodd y merched gychwyn prysur iawn i'r flwyddyn eto eleni ym Mro Ffestiniog.

Dyma ddetholiad o newyddion o'r canghennau o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:

 


MERCHED Y WAWR, Blaenau.

Cynhaliwyd cyfarfod Chwefror ar y 24ain yn y Ganolfan Gymdeithasol o dan lywyddiaeth Ceinwen Humphries.  Cyhoeddwyd y bydd tlws am lefaru, oed cynradd, yn cael ei gynnig yn Eisteddfod yr Urdd, y Bala, yn enw cangen y Blaenau.
Gwraig wadd y noson oedd Naomi Jones, rheolwraig prosiect “Yr Ysgwrn”gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae wrth y gwaith o ofalu am y tŷ, adeiladau'r fferm, y tir amaethyddol, yr ardd a'r byngalo ers blwyddyn bellach; yn mwynhau'r gwaith ac yn frwdfrydig iawn yn ei gylch.  Siaradodd yn ddifyr ac addysgiadol iawn am hanes y safle a rhan Hedd Wyn y bardd a'r milwr ynddo.  Cyflwynodd ddarlun o gyfnod y rhyfel byd cyntaf mewn ardal wledig, sydd mor addas o gofio mai eleni y cofir canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Mawr. Diolchodd Pegi Lloyd Williams i Naomi am noson ardderchog.
Y gŵr a'r wraig wadd ym mis Mawrth oedd Olwen a Wyn Jones, Ty'n Braich, Dinas Mawddwy.  Rhoddodd Olwen gefndir y fferm a'r teulu i ni, teulu oedd wedi byw yn Nhy'n Braich yn ddi-dor dros y canrifoedd ers 1012.  Dangoswyd ffilm am y tri brawd dall oedd yn gefndir i nofel arbennig Angharad Price - “O! Tyn y Gorchudd”.  Mae Angharad, wrth gwrs, yn gyfnither i Wyn ac yn aelod pwysig o deulu Ty'n Braich.  Yna aeth Wyn ymlaen i roi darlun i ni o'i daid a'i nain a'i dri ewythr – y tri brawd, a phwysleisiodd mor bwysig ydy cofnodi profiadau teuluol rhag iddynt fynd yn anghof. 
Diolchodd Megan yn gynnes i'r ddau am hanes mor ddiddorol.


Merched y Wawr Llan

Bu cyfarfod cyntaf 2014 yn y Neuadd ar nos Fawrth, Chwefror 4ydd.  Yn absenoldeb ein llywydd Iona, croesawyd yr aelodau gan Nesta, ynghyd a’n hysgrifennydd Ann.  Pleser i Nesta oedd cyflwyno Sian Northey i’r aelodau.  Braf oedd cyflwyno hogan sydd wedi ei magu yn yr ardal, ac sydd erbyn hyn wedi cyflawni llawer yn myd llenyddiaeth Gymraeg gan ennill llawer gwobr, gyda mwy o lyfrau ar y gweill i ddod yn ystod 2014.  Ar wahan i’w llyfrau ei hun, mae wedi bod yn gyfrifol am olygu tair cyfrol. 
Cafwyd detholiad o rai o’i llyfrau a’u cefndir ac roedd yn noson ddiddorol. 
Cyfarfu’r merched wedyn i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Pengwern. Croesawyd Wenna Francis Jones, Megan, Lowri, Awel a Rhodri atom ac fe gawsom noson arbennig yn eu cwmni. Cafwyd amrywiaeth hyfryd o ganeuon ganddynt, ac hefyd llefaru gan Rhodri a cherdd dant gan Awel, gyda Wenna yn cyfeilio iddynt. Noson arbennig a phawb wedi mwynhau a diolchwyd iddynt gan Iona. Yna cafodd pawb gawl cennin wedi ei baratoi gan staff y Pengwern – canmoliaeth a diolch i Karen.


Merched y Wawr Trawsfynydd

Ein gwraig wadd yn Chwefror oedd Rhiannon Parry, Penygroes.  Hi yw golygydd Y Wawr a bydd ei gwaith yn dod i ben ar ol y rhifyn nesaf.  Llongyfarchwyd hi ar safon y cylchgrawn yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.
 Athrawes wrth ei galwedigaeth hyd nes i ddau gyfnod o salwch blin iawn a misoedd mewn hosbis olygu iddi droi at bwytho.   
Tra’n byw yn Llansanan, mynychodd ei dosbarth brodio cyntaf yn Y Rhyl.  Cawsom weld gwaith o wahanol gyfnodau o’i bywyd.  Roedd yn wledd cael gweld darnau o’i gwaith amlgyfrwng – llun o Flodeuwedd wedi’i ysbrydoli gan R.S. Thomas, Awyr a Mor gan ddefnyddio darnau o dun, plastig a sbwriel bigodd oddi ar draeth Llanddulas.  Roedd wedi llifo hen flanced o eiddo ei mam yng nghyfraith a rhoi pwythau man trwyddo a gosod dail o ffelt yn addurn.  Hyfryd!  Clustog wedi’i ysbrydoli tra yn Llydaw; llun bwthyn bach ei modryb a llinell o Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts.  Popeth yn dangos dychymyg eithriadol. 
Ar nos Iau, Mawrth 20, daeth aelodau’r gangen at ei gilydd i ddathlu dydd Gwyl Ddewi yng ngwesty’r Cross Foxes yn y pentre. Daeth Beti Puw Richards, Maesywaen a phedair o aelodau parti Perlais i’n diddanu ar ol y pryd bwyd blasus. Edryd Williams, Bethel, oedd eu hunawdydd gwadd, dewr yng nghanol yr holl ferched. Arweinwyd y noson gan Rhian Elena o Lanfihangel Glyn Myfyr a Beti wrth y piano. Cafwyd rhaglen amrywiol iawn o unawdau, deuawdau, pedwarawdau a’r pump yn canu gyda’i gilydd. Mae ystod gallu cerddorol y bobl ifanc yma yn eang iawn – cerdd dant, alawon gwerin, caneuon o’r sioeau cerdd a chaneuon traddodiadol Cymreig. Yn ychwanegol at y cyfeiliant piano cafwyd unawd i gyfeiliant gitar gan Rhian Elena. Er bod yr awyrgylch yn gartrefol braf, barn pawb ar y diwedd oedd i hwn fod yn gyngerdd gwerth chweil a chafwyd cymeradwyaeth brwd.



SEFYDLIAD Y MERCHED Blaenau.

Cyfarfu'r Sefydliad nos Fawrth, Chwefror 25 i ddathlu noson   Gymreig gyda Mrs Wenna F. Jones a Mrs Delyth Lloyd-Grey a chwech o blant talentog iawn.
Cawsom unawdau a deuawdau gan y plant, Megan, Lowri,Awel, Rhodri, ac Ioan yr ieuengaf sydd yn 5 oed, hefyd cawsom adroddiad gan Rhodri, "Fy Ystafell Wely" Diolchwyd iddynt gan Mrs Lina Jones. Derbyniwyd gwahoddiad gan Sefydliad Llan Ffestiniog  i ymuno a hwy i glywed sgwrs am Owain Glyndwr.
Ein gwr gwadd ym mis Mawrth oedd Mr Gareth T. Jones yn arddangos lluniau o'r ardal rhwng 1950 a 1970. Rhai fel Moi R.E. a'i geffyl, codi Ffatri Metcalf a'i agor yn 1954, Pwerdy Tanygrisiau a llawer mwy. Diolchwyd iddo gan Mrs Lina Jones am noson ddifyr iawn.