Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths.
Symud y Gadair Ddu a Chloc Tywydd yn gadael argraff ddofn
Yn ddiweddar cludwyd y Gadair Ddu o’r Ysgwrn am y tro cyntaf ers degawdau er mwyn ei thrwsio a’i gwarchod i’r dyfodol.
Nid mater hawdd oedd symud cadair sydd bron yn gant oed, sy’n fregus ac yn hynod o drom, trwy ddrws cul parlwr yr Ysgwrn, ond gyda chryn nerfusrwydd a gofal llwyddwyd i osod blanced odditani a’i llusgo i’r cerbyd tu allan.
Ond nid y gadair oedd yr unig beth i adael y tŷ. Gan fod y gwaith o atgyweirio’r ffermdy ei hun eisoes ar y gweill, roedd angen storio’r holl gelfi a’r creiriau er mwyn eu diogelu a’u trwsio. Rhyw deimlad rhyfedd oedd gweld yr hen ddodrefn yn gadael y gegin. Er mai cychwyn ar daith i gael eu trwsio oedden nhw mewn gwirionedd cyn eu cludo’n ôl i’w cartref, chwithig iawn oedd gweld y tŷ’n wag a’r celfi wedi eu llwytho’n daclus i’r fan.
Roedd sylw craff Gerald yn taro’r hoelen ar ei phen: ‘Mae fel tasa perfedd y tŷ wedi’i dynnu allan ohono!’
Felly cawsom gyfnod prysur iawn wrth glirio a phacio bocsys, a daeth ambell i drysor i’r fei wrth chwilota yn y droriau a’r cypyrddau! Ymysg y darganfyddiadau roedd hanner isaf pâr o ddannedd gosod o ryw oes neu’i gilydd, sbectols, llythyrau a chardiau, poteli ffisig gwydr a hen badell ffrio haearn oedd mor ddu â’r fagddu wedi oes o ffrio bacwn ar yr hen aelwyd.
Ond un o’r pethau mwyaf trawiadol oedd gweld olion y ‘glass’ tywydd ar y wal. Mae’n debyg bod y teulu wedi papuro o'i amgylch yn ofalus dros y blynyddoedd a phan dynnwyd y teclyn oddi ar y wal, roedd wedi gadael ei ôl yn dwt fel ffosil yn y papur!
A chyda blwyddyn newydd daw cyfnod newydd i’r Ysgwrn gyda’r ymweliadau wedi dod i ben dros dro, y celfi wedi eu storio ar gyfer eu trwsio, a’r cadeiriau wedi ei storio’n lleol.
Y bwriad yw gwarchod cymaint ag a allwn o’r tŷ traddodiadol a chadw gwead hynod y cartref yn ei le, ond mae hefyd yn gyfle i ni agor y llofftydd i’r cyhoedd a rhoi blas ar fywyd yng nghyfnod Hedd Wyn.
Ond er y bydd yr Ysgwrn ei hun ar gau i’r cyhoedd mae gennym wledd o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y misoedd nesaf, yn cynnwys sgyrsiau a theithiau, a diwrnodau agored i weld y safle a’r cadeiriau’n cael eu trwsio.
Bydd y gwaith o rannu hanes yr Ysgwrn a Hedd Wyn yn parhau trwy gyfrwng yr arddangosfa ym Mhlas Tan y Bwlch, a gall grwpiau, cymdeithasau ac ysgolion gysylltu â ni i drefnu ymweliad.
(Gellwch gysylltu â Sian neu Jess ar 01766 770274/ e-bost: yrysgwrn[at]eryri-npa.gov.uk)
-------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon