21.2.16

Rhod y Rhigymwr- Blodau'r Ffair

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Ionawr 2015.

Mae fy llyfrau’n y stydi’n parhau i fod dan haenau o lwch yn dilyn y gwaith y bu i ni ymgymryd ag o yn ystod y misoedd dwytha. Joban fach at ddechrau’r flwyddyn fydd tynnu’r cyfan i lawr a dechrau meddwl eto be ydw i am eu cadw.

Wrth fwrw golwg ar y silff uchaf, deuthum ar draws pentwr o gyfrolau a roes fwynhâd mawr i mi pan oeddwn yn blentyn, ac yn wir, yn ystod fy arddegau. Rhifynnau ‘Blodau’r Ffair’ oedden nhw – cylchgrawn ysgafn Urdd Gobaith Cymru, a’r golygydd oedd R.E.Griffith. Mae ynddyn nhw beth wmbredd o storïau a cherddi gogleisiol, cartwnau gan Hywel Harries a chasgliad gwych o englynion digri’.

Ymddangosai’r gyfrol ddwywaith y flwyddyn – ym Mehefin a Rhagfyr o tua 1953/4 hyd ddechrau’r 1970au, os cofiaf yn iawn. Does dim dwywaith i’r cylchgronau yma gael dylanwad arnaf yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dyma ambell englyn i’ch difyrru wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i bob un ohonoch:-

Y PEN MOEL ... Gwilym Rhys, Llangurig:
Am y pen pam y poeni? – yn wir, gwell
Na’r gwallt ydyw’r moelni.
Nid â arian i dorri
Copa wen heb ’r un Q.P.

Gwisg grafat a’th hat, da thi –
‘n gyhoeddus
I guddio dy noethni;
Mae dy ben, mi dybia’ i,
Fel ŵy, Bob, neu fol babi.

Buddiol ar gerrig Beddau’ – pedwar englyn beddargraff ysgafn ... Iorwerth H. Lloyd, Dolgellau:

BWTSIAR
Wat annwyl, cefaist hunell – yn y bedd
O sŵn buwch a phorchell;
Unig heb gig yw dy gell
Wedi gollwng dy gyllell.

BOCSIWR
Ha, ddyrnwr, rhoed pridd arno, - yn y ring
Gwae yr hwn ddôi ato;
O’i wael fan ni wêl efo
Un bowt gyffelyb eto.

TAFARNWR
O ganol Stout a Guinness, - oer ei gell,
Heb sawr gwin na ‘whiskies’;
O’i fedd dudew di-ddewis
Tom y ‘Plough’ ni ddwed ‘Time please’.
[Rhifyn Haf 1959]

TYNNU DANT ... Tydfor Jones, Blaencelyn, Ceredigion
Y pinsiwrn cam ni roi damaid – o dwc
I’r diawl dianghenrhaid!
Cyn treio eto bu raid
Insiwrio rhag bwtsieriaid.
[Rhifyn Nadolig 1958]

YR OCSIWNIAR ... Siôn Ifan, Llanegryn
Hen labwst gwych ei glebar, - â’i forthwyl
Fe werthai dwrch daear;
O’i wedd goch, pobloedd a gâr
Arabedd india rybar.
[Rhifyn 1955]

Daw’r rhain o rifynnau diweddarach:-
Y RASEL DRYDAN ... W. Rhys Nicholas, Porthcawl
Heb na hobl na woblo, - na rhegi
Fyth ragor, rwy’n siafio,
Dan y trwyn dim ond un tro,
Dyna hawdd, trydaneiddio!

BEIL ... Dafydd Evans, Llangwm
Roedd Meg yn teimlo’n llegach – dan y beil,
Dyna boen un afiach,
Cyfogai, saethai sothach,
A rasio bu i’r hows bach.

Y DYN DI-BRIOD ... Ithel Davies, Penarth, Bro Morgannwg
Nid da bod dyn ei hunan – yn y byd,
A byw yn ddiamcan
Heb serch na merch yn un man,
Na gobaith llenw’i gaban.

ER COF AM WRAIG SIARADUS ... Berllanydd, Hen Golwyn
Mae hon a fu’n merwino – ein clustiau
Yn y clwysty heno,
A’i gŵr fel hogyn o’i go
Yn chwyddo’r ‘Diolch Iddo’.

CATH DRWS NESA ... Geraint Percy Jones, Talybont, Meirion
Beunos fe ddaw i boeni; - hen gwrcath
Sy’n garcus am Doli;
Hwn ydyw y pen dadi
A thad naw o’n cathod ni.
[Rhifyn Nadolig 1970]

A dyma ambell berl i gloi:-

FFAWD-HEGLYDD
... Ronald Griffith, Corwen [o Rifyn Haf 1955]
Yn y glaw â’i noeth benglîn – mae’n llusgo
Mewn llesgedd ers meitin;
Dyma’i bader, bererin –
“O! Am sedd mewn limosîn!”

Mae hwn ar fy nghof, a gwn mai yn un o rifynnau ‘Blodau’r Ffair’ y deuthum ar ei draws – rywdro yn y chwedegau. Dydw i ddim yn siŵr pwy oedd ei awdur, ond cofiaf, pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, yn nechrau’r 1970au ei ysgrifennu ar gardfwrdd, ei lamineiddio a’i osod yn dwt ar ddrws tŷ bach y merched. Roedd hynny, wrth gwrs, yn y cyfnod pan oedd yn rhaid rhoi ceiniog yn y slot er mwyn cael ei ddefnyddio. Mae’r 20 ceiniog a ofynnir amdano heddiw’n brawf o fel mae costau byw wedi codi wedi dyfodiad yr arian degol yn Chwefror 1971!

Tunnell o ferched tinog – a welais
Yn hwylio’n bur frysiog
Ar ras boeth at ddrws y bog
I ogoniant am geiniog.

Pob hwyl!
IM

------------------------------

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Celf gan Lleucu Gwenllian)

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon