Wrth gyfeirio at yr Eglwys Bach yn Nhanygrisiau mae yn werth rhoi y sylw canlynol gan fod yr eglwys wedi ei hen chwalu (ers y pumdegau) – collwyd yr adeilad a’r gloch a’r gatiau bychain haearn (prydferth braidd) a’r grisiau o lechen las trwchus a’r llwybr at y drws.
Y gloch oedd yn fy swyno i fel plentyn, ble mae heddiw tybed?
Roedd yr eglwys yma, er yn gyffredin, eto i gyd yn cyfrannu ymhob ystyr yn yr oes honno at wneud yr ardal yn gyflawn – yn cyfrannu yn grefyddol ac yn gynhaliol at ein bywyd beunyddiol.
Diolch bod atgofion fy mhlentyndod yn dal yn fwynhad ac mae cofio am yr eglwys ar Nos Calan yn dod a hen, hen hiraeth yn ôl i’r cof am y gwasanaeth noson olaf y flwyddyn yn yr eglwys – yn gwrando ar y gloch yn canu – a’r Ficer neu y ciwrad o Eglwys y Plwy’ – Dewi Sant, Blaenau, yn darllen a gweddio yno. Yn hynod iawn, roedd clochydd yno hefyd. John Jones (H.S) oedd yn gofalu am ganu y gloch a gan ei fod yn dipyn o ffefryn yn yr ardal cafodd y ffugenw ‘Rhen Sant.
Roedd ein tŷ ni o fewn rhyw ddeg llath a lled clawdd i’r eglwys yn Tyn Llwyn – gwaelod y rhiw i Pantcelyn a Phenllwyd a’r lein bach.
Byddai Gwasanaeth y Plygain yn cael ei gynnal yn yr eglwys bach ac yn dechrau am naw o’r gloch. Byddai’r gloch yn dechrau canu tua hanner awr cyn hanner nos. Byddai yr adeilad yn llawn, gyda’r rhan fwyaf o’r trigolion yn mynychu Y Plygain. Doedd dim lle i bawb eistedd – y seddau bob tro yn llawn – a’r cymdogion yn cyrchu cadeiriau dros y clawdd i’r eglwys.
Byddai’r clochydd, yn dechrau canu y gloch yn araf iawn – yn lleddf fel bydd y cantorion yn dweud – tua deg o’r gloch: ding-dong araf-araf, tra roedd yr addoliad yn mynd yn ei flaen. Byddem ni’r plant yn canu cân yr un pryd yn araf iawn:
‘Mae’r flwyddyn yn marw
Ei hamser a ddaeth ....’
Ond, pan fyddai’r cloc yn taro hanner nos byddai John Jones yn ein hysbrydoli trwy godi’r tempo yn syth a ding-dong sydyn-sydyn – ding-dong-ding. Safai pawb ar eu traed yn canu yn gyflym, gyflym ar dinc hapus:
‘Ond dyma flwydd newydd yn dyfod yn llon,
A pawb fel ei gilydd yn ysgafn ei bron.’
Mi glywais gloch eglwys Dyffryn Ardudwy yn canu ar noson olaf 1997 – a hyn ddaeth yr atgofion i gyd yn ôl i mi. ‘Rwyf yn falch fy mod wedi aros i fyny i glywed cloch Dyffryn – fe aeth a fi yn ôl dros 75 o flynyddoedd, gyda chofion cynnes am y cymdogion a’r ffrindiau yn Rhes Tyn Llwyn, Cambrian Teras, Bronbarlwyd, Cromlech, Fronhaul, Pengarreg a’r teulu yn Nhynddôl.
Roedd gwasanaethau arbennig hefyd ar Sul y Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig. Trueni i’r chwalfa ddigwydd ynghŷd â’r golled o’r chwalfa a diflaniad yr adeiladau oedd yn creu ein cymuned -ein ‘Hardal Ni’.
-----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon