19.2.16

O Lech i Lwyn- llygedyn o haul

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog.
Y tro hwn, erthygl gan Vivian Parry Williams, o rifyn Chwefror 1999.

Tydw' i heb benderfynu yn iawn p'run ai hanesydd/archaeolegwr gyda diddordeb mewn byd natur ydw'i, ynteu ryw gyw o naturiaethwr sy'n ymddiddori yn hanes ac archaeoleg y fro. Beth bynnag, byddaf yn crwydro'r llechweddau a'r mynyddoedd 'ma gydag un lygad ar y llawr rhag colli ryw olion hanesyddol o bwys, neu i geisio darganfod hen greiriau o ddyddiau gynt, a'r llygad arall tua'r wybren i geisio sylwi ar ambell aderyn prin a'i ryw.

Felly y bu ryw dro yn Ionawr; y ddaear yn galed dan draed a barrug y nos wedi gadael ei ôl ar y tir fel cynfas wen- sefyllfa ddelfrydol i olrhain y safle gyn-hanes ym Mron Manod ar y ffordd i fyny o Gae Clyd. Roedd olion gweddillion y muriau a amgylchynai'r safle yn sefyll allan yn glir gyda'r llwydrew arnynt. Wedi aros ennyd i synfyfyrio a rhyfeddu at ddewis gwych ein cyndadau o safle i fyw ynddo, a synnu'r un pryd na fu, hyd y gwn, unrhyw archwiliad archaeolegol i'r safle hynafol hon, rhaid oedd symud ymlaen.

Cwm Teigl. Llun- Paul W.
Prif bwrpas y daith oedd i geisio darganfod a oedd y sogiar (socan eira, neu gaseg y ddrycin yn enwau eraill arni; fieldfare yn Saesneg) wedi cyrraedd godre'r Manod Mawr fel arfer i dreulio'r gaeaf yn ein cwmni. Dros y blynyddoedd fe welid heidiau ohonynt yn hedfan o lwyn i goeden, yn eu dull brysur hwy i fwydo ar aeron y fro.

Wedi pasio heibio adfail Bryn Eithin a Chae Canol, heb glywed cân 'run aderyn, na gweld dim ond ambell wylan neu bâr o frain tyddyn yn dadlau â bwncath, roeddwn yn dechrau digalonni, ac yn credu pob gair a ddywedodd yr adarwr Iolo Williams ar raglen deledu'r noson gynt am leihad enbyd mewn rhifau adar. Ond wrth ddringo'r gamfa o ffordd Cwm Teigl i gyfeiriad Hafod Ysbyty cododd f’ysbryd wrth weld haid o sogieir yn pigo'r ddaear yn y pellter, ac wrth i mi nesau, yn codi yn eu dwsinau gyda'i gilydd, gan lanio o goeden i goeden.

Ychydig ymhellach, cael y wefr o wylio pedwar nico yn pigo'r hynny oedd yn weddill o hadau o goesyn asgell truenus yr olwg. Wedi croesi afon Gamallt tu ôl i Hafod Ysbyty, troediais drwy drwch o eira caled cyn belled â Sarn Helen, ac wedi olrhain yr hen ffordd am ychydig, troi yn ôl tuag adre' yn hamddenol.

Gweld fod y piod yn niferus yng nghoed Hafod Ysbyty fel arfer. Gwrandewais ar gri wylofus bwncath uwch Gae Canol, gan dybio fod llawer mwy o'r adar ysglyfaethus hyn o gwrnpas rwan nag oedd pan oeddwn yn fachgen? Cefais gip sydyn ar ddryw bach yn sboncio i dwll yn y c1awdd gerllaw, a sylwi ar ambell fwyalchen yng nghanol drysni'r drain wrth i mi anelu tuag at Fryn Eithin yn ôl. Daeth haid arall o sogieir i chwilio am aeron ar y coed drain uwch Fron Manod i godi 'nghalon eto.

Roeddwn wedi f'argyhoeddi fod bywyd gwyllt y fro yn dal mor fyw ag erioed. Wrth edrych tua'r machlud fflamgoch dros aber y Ddwyryd ar derfyn p'nawn hyfryd, teimlais yn ddigon bodlon fy myd wrth droedio'n ôl am Gae Clyd. Wrth i'r dydd ymestyn wedi troad y rhod, rhyfedd pa effaith gaiff ryw lygedyn o haul ar ddyn a natur ynte?
-------------------------------------------


Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

2 comments:

  1. Ia mae'r haul yn dechrau dadmer distawrwydd y gaeaf yma ym mro'r llechfaen 'fyd yn Pesda gydag ambell i dinc a thrydar swynol i'w glywed o ddyfnderoedd y llwyni - llwyd y Gwrych neu ditw fawr yn rhoi go arni. Cyn bo hir bydd Dyffryn Ogwen fel sospan llawn yn ffrwtian berwi gyda holl ganu'r adar.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Sian; mae yna hen edrach 'mlaen fan hyn hefyd am ddeffro côr y wawr a blodau'r gwanwyn.

      Delete

Diolch am eich negeseuon