Cynhaliwyd seremoni wobrwyo flynyddol Ysgol y Moelwyn yn ddiweddar i ddathlu llwyddiannau’r disgyblion. Roedd y noson yn gyfle i rieni, athrawon ac aelodau o’r gymuned ymfalchïo yn llwyddiannau y bobl ifanc sydd yn ddyfodol i`r gymuned a’r ardal.
Roedd y neuadd dan ei sang ar y noson a phawb yn hynod gyffrous i gael gweld pwy fyddai’n cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled. Agorwyd y noson gan gôr yr ysgol yn canu ‘Yn dy freichiau’ gydag Efa James o flwyddyn 9 yn cyfeilio a Wendy Jenkins, Pennaeth yr Adran Gerdd, yn arwain.
Roedd pob math o feysydd yn cael eu gwobrwyo ar y noson; presenoldeb, ymdrech, cynnydd, sgiliau, cyrhaeddiad a chyfraniad cymunedol o’r radd flaenaf. Y disgyblion a dderbyniodd dystysgrifau am bresenoldeb 100% oedd Mollie Davies, Osian H Edwards, Bronwen Evans, Beca Jones, Gwenllian Jones, Llinos Roberts, Steffan Rowlands a Cian Williams (Bl. 8), Cemlyn Jones (Bl. 9) a Tesni Jones a Caryl Jones (Bl.10).
Safonau academaidd a sgiliau unigolion: Elliw Lewis, Glain Williams ac Ynyr Jones (Bl. 8), Gwion Evans a Kerry Ellis (Bl. 9), Sam Bridges a Lowri Roberts (Bl.10) a Llŷr Ellis ac Elin Roberts (Bl. 11).
Canlyniadau TGAU: Braf gweld rhai cyn-disgyblion yn bresennol ar gyfer y noson wobrwyo i dderbyn tystysgrifau am eu llwyddiant yn eu cyrsiau TGAU. Ar ôl gadael yr ysgol mae’r mwyafrif o’r disgyblion yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau safon A i Goleg Dolgellau, chweched dosbarth Dyffryn Conwy neu’r Berwyn tra bod rhai yn cael prentisiaethau neu’n ymuno â’r byd gwaith. Derbyniodd Gruff Dafydd, Hedd Jones a Lowri Jones dystysgrifau am y canlyniadau TGAU gorau a Dyfed Williams a Shauna Docherty dystysgrifau am yr ymdrech orau yn ystod eu cwrs TGAU.
Cydnabyddwyd Dyfed Parry a Careena Williams am y cynnydd gorau yn ystod eu cyrsiau TGAU. Dymunwn bob lwc iddyn nhw gyda’u gyrfaoedd a’u haddysg yn y dyfodol, gan obeithio bod ganddynt atgofion melys am eu cyfnod yn y Moelwyn!
Pencampwyr y gwobrau am Gyfraniad Gwirfoddol eleni (Gwobr y Cynddisgyblion) oedd 1. Elin Roberts 2. Glain Eden Williams a 3. Heledd Ellis). Cyflwynwyd mwy o geisiadau nag erioed o`r blaen am y wobr arbennig hon.
Cyflwynwyd chwe gwobr goffa fel a ganlyn :- Gwobr Miss Brymer , Dyfed Williams. Gwobr goffa Glyn Price i gydnabod blaengaredd mewn Technoleg, Ifan Williams (Bl. 11) Gwobr Goffa Ian Jones i bencampwr rygbi’r flwyddyn, Sion Davies (Bl. 11)
Gwobr Goffa Mrs Rhian Jones, cyn Bennaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, i gydnabod cynnydd ac ymroddiad: Sophie Evans. Diolchwyd i Mr Alfyn Jones am gyfrannu’r wobr arbennig hon. Enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn oedd Kajus Narunas (yn wreiddiol o Lithuania).
Awdur Ifanc y Flwyddyn (Gwobr Miss Eds, cyn-bennaeth Adran y Gymraeg) y tro hwn oedd Caryl Jones, Bl.10.
Dychwelodd Branwen Williams, Awdur y Flwyddyn 2014-15, er mwyn cyflwyno'r wobr i Caryl.
Fel rhan o'i gwobr hi, bu Branwen yn cwrdd â'i hoff awdur Cymraeg, sef Bethan Gwanas.
Roedd Bethan wedyn yn gosod tasgau sgwennu creadigol i Branwen, ac yn cynnig sylwadau ar y gwaith, a chyngor at y dyfodol.
Gobeithio gwelwn waith gan Branwen a Caryl yn Llafar Bro yn y dyfodol yn'te!
Gwobr Cefnogwr Cymunedol Ysgol y Moelwyn: Mr Dafydd Jarrett, Trawsfynydd, am i ei gefnogaeth a`i ymroddiad i`w gymuned ac i`r ysgol dros gyfnod maith.
Estynnir diolchiadau i’r canlynol: Mrs Sharon Jones am drefnu’r noson; Mrs Bini Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr, am gyflwyno llawer o’r gwobrau: Miss Carys Roberts, Miss Marion Hughes a Ms Gwenith Roberts am baratoi’r lluniaeth ysgafn. Bu’n noson lwyddiannus a hwyliog unwaith eto eleni!
[Lluniau Alwyn Jones]
------------------------------------------
Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2016.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon