Showing posts with label Plygain. Show all posts
Showing posts with label Plygain. Show all posts

20.9.17

CALENDR BRO; hydref a gaeaf 2017

Cyfarfod Blynyddol LLAFAR BRO: 7.00 Nos Iau Medi 21.
Sylwer- yn Y Pengwern mae’r cyfarfod eleni.
Dewch i ddangos eich cefnogaeth i’ch papur bro.



Swper a Chân efo Geraint Lovgreen, yn Y Pengwern. Medi 22, 7.30

Bore Coffi Mwya’r Byd. Codi arian at Macmillan. Medi 25, 10-12.00 Llyfrgell y Blaenau.

Archaeoleg Gogledd Cymru Cwrs efo Rhys Mwyn -bob Dydd Mercher 10-12.00, Canolfan Maenofferen, o ddiwedd Medi am 10 wythnos.

Noson i gofio Che Guevara 50 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Bwyd, ffilm a sgyrsiau yn Cell. Hydref 8, 7.00


Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant 2018. Trio, Annette Bryn Parry, a doniau lleol.  Hydref 14 am 7.30 yn neuadd Ysgol y Moelwyn. £7.

Diwrnod Shwmae Sumae! Dechreuwch BOB sgwrs yn Gymraeg ar Hydref 17.

Plygain Dalgylch Llafar Bro ar Nos Sul Cynta'r Adfent - Tachwedd 26 am 7 o'r gloch yng Nghapel y Bowydd.

Y Cymdeithasau- mae rhaglenni y gaeaf i'w gweld yn llawn yn rhifyn Medi.

Llafar Bro
PLYGU rhifyn Hydref- Nos Fercher, Hyd. 11 am 6.30 yn neuadd Sefydliad y Merched, efo aelodau Clwb Rygbi Bro Ffestiniog a Siop Siarad (criw sgwrsio'r dysgwyr), a chithau!
PLYGU rhifyn Tachwedd- Nos Fercher Tach. 8 am 6.30 yn neuadd Sefydliad y Merched, efo Merched y Wawr Blaenau a'r Clwb Cerdded, a chithau!
PWYLLGOR- Nos Iau Tach 16 am 7.30 yn neuadd Sefydliad y Merched. Croeso i bawb.
PLYGU rhifyn Rhagfyr- Nos Fercher Rhag. 13 am 6.30 yn neuadd Sefydliad y Merched, efo aelodau Côr Rhiannedd y Moelwyn.

Merched y Wawr, Blaenau.
Cyfarfod am 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol. Croeso i aelodau hen a newydd.
Medi 25:  Steffan John, y fferyllydd, yn sgwrsio am un o'i deithiau.
Hydref 23: Gwen Edwards, y Bala.


Y Fainc Sglodion
Y cyfarfodydd am 7.15 o’r gloch, Canolfan Gymdeithasol. Croeso i aelodau hen a newydd.
Hydref 5- Nia Roberts. Tu ôl i’r cloriau.
Tachwedd 2- Llion Jones. Bardd y Bêl –Y lôn i Lyon.
Tocyn aelodaeth £6 (mynediad i unrhyw ddarlith heb docyn £1.00)




Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
Rhaglen 2017 yn ail ddechrau ar drydydd nos Fercher mis Medi. Pob cyfarfod yn Neuadd y WI, am 7.15 Croeso i bawb!
Medi 20- Gareth T Jones. Mwy o leisiau ddoe.
Hydref 18- Tecwyn Williams. T Glyn Williams.

Fforwm Plas Tanybwlch
Cyfarfodydd i gyd am 7.30 yn y Plas.
Hydref  3 -  Mynwent Ffordd Gyswllt Llangefni -  Iwan Parry
Hydref 17 - Chwareli Llechi Bro'r Llynnoedd- a dylanwad y Cymry arnynt –Richard Williams
Hydref 31-  Rheilffyrdd Dyffryn Ogwen –Gareth Haulfryn Williams

Cymdeithas y Gorlan
Bydd tymor newydd y Gymdeithas yn dechrau yn fuan.  Mae'r swyddogion am gario ymlaen, sef Ceinwen Lloyd Humphreys yn Gadeirydd, Janet Wyn Roberts yn Drysorydd ac Edwina Fletcher yn Ysgrifennyddes.  Yn ymuno fel Ysgrifennyddion Gohebol fydd Annwen Jones a Dorothy Williams.
Hydref 2 –Bowydd: Hogia Harlech
Tachwedd 6  -Carmel: Dafydd Roberts, sleidia

Clwb Cerdded ‘Stiniog
Cyfarfod o flaen Y Cwîns, Blaenau Ffestiniog am 9 y bore, ceir mwy o wybodaeth gan Maldwyn Williams neu ffonio 771 410.
Hydref 1. Y Wybrnant a Phenmachno
Hydref 15. Moelyci, Ardal Rhiwlas (Anne)

Dramâu Ysgol y Moelwyn
Pob un yn cychwyn am 7.
Hydref 26    MWGSI, Cwmni’r Frȃn Wen
Tachwedd 16    SIEILOC, Rhodri Miles/Makin Projects

Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog
Canolfan Ddydd Blaenau, 7yh.
Hydref 19 -Pensaerniaeth Werinol, Steffan ab Owain.
Rhagfyr 14 -sgwrs (ddwyieithog) ar gysylltiadau Charles Darwin â gogledd Cymru, Ken Brassil
 

Cymdeithas Undebol Trawsfynydd
Mae’r rhaglen aeaf yn ail ddechrau ar Hydref 31 am 7yh yn y Capel Bach, gyda theulu Gwernhefin.

Corau a Seindorf
Côr y Moelwyn yn ymarfer yn Salem Tanygrisiau ar Nos Fawrth. Croeso i ymwelwyr ac aelodau newydd.
Côr y Brythoniaid yn ymarfer yn Ysgol y Moelwyn ar Nos Iau.  Croeso i ymwelwyr ac aelodau newydd.

Côr Rhiannedd y Moelwyn, Meibion Prysor, Lliaws Cain, a'r Côr Cymysg, a Seindorf yr Oakeley -cadwch olwg ar eu tudalen Facebook, neu holwch yr aelodau.
-------------------------------------------

Addaswyd o Galendr y Cymdeithasau, a ymddangosodd yn rhifyn Medi 2017. Prynwch y papur rwan i gael y calendar yn llawn!

Os oes gennych chi ddigwyddiadau ychwanegol, cofiwch adael i ni wybod!


29.1.17

Rhod y Rhigymwr -Y Blygain

Mae blwyddyn wedi diflannu i rywle ers i mi roi hanes ‘Y Blygain’ i chi’r darllenwyr. Mae honno bellach wedi dechrau gwreiddio’n ein hardal ni, diolch i ddycnwch Pegi Lloyd Williams. Cynhaliwyd yr ail ar ‘Sul Cynta’r Adfent’ eto yn 2016.

Flwyddyn yn ôl, cyfeiriais at y garol ‘Dim lle yn y llety’ gan Bryfdir, ac a osodwyd ar gerddoriaeth Owen Huws Davies. Diolch i un o erthyglau difyr fy nghyfaill a’m cyd-golofnydd Steffan ab Owain yn ei gyfres ‘Stolpia’, cyfeiriwyd at fardd a charolwr arall, sef William Jones, Corris ... a gododd dŷ o gerrig y gloddfa gyfagos yn y Rhiw a’i alw’n ‘Gwaliau Gleision’. Gwyddwn fod gan y gŵr hwnnw, fel Eos Bradwen, Ap Hefin ac Ap Glaslyn (y manylais arnyn nhw yn Rhod Ebrill 2016), gysylltiad teuluol â mi.

Tynnodd Steffan fy sylw at ysgrif gan Glan Barlwyd, Tanygrisiau yn y gyfres ‘Beirdd Answyddogol Cymru’ yn ‘CYMRU’ [O. M. Edwards] ... Cyfrol XXX1X (1910). Nodir yno i William Jones gael ei eni yn agos i Bwllheli, a’i adael yn amddifad wedi i’w dad gael ei ladd yn ‘Pont Rhos Goch’, lle’r oedd yn oruchwyliwr. Cymerwyd y William ifanc gan frawd ei fam i fyw i Gorris, lle magwyd ef i alwedigaeth chwarelwr. Evan Williams (1788-1851), Llainygroes, Corris Uchaf oedd yr ewyrthr hwnnw – fy hen, hen, hen daid o ochr fy mam. Un o gyffiniau’r Groeslon, Caernarfon oedd Evan Williams, a ddaeth i lawr i Gorris tua diwedd cyfnod Rhyfeloedd Napoleon, ac a briododd Elisabeth Evans, Pandy Abercorris ym 1818.

Credir i William Jones, ei briod, Jane a’u pedwar plentyn symud o Gorris i’r Blaenau tua diwedd y 1850au. Disgrifir ef gan fy hen daid, Richard Owen, Bronygog, Corris (1842-1909) yn un o’i ysgrifau i’r papur lleol ‘Y Negesydd’ (Awst 1907) fel ‘gŵr tal, tenau ... a oedd yn gweithio yn Chwarel Cwmtylian (Corris Uchaf) yn amser Rhyfel y Crimea ... yn ddifeinydd lled wych; yn siaradwr ymresymiadol ei arddull ac yn fardd ...’

Cyhoeddodd gyfrol o ‘Emynau ... a gyfansoddwyd wedi gwrandaw ar bregethau yn Rehoboth, Corris ym 1853’. Cynhwysir rhai o’r rhain yn ysgrif Glan Barlwyd, ynghyd â’r carolau plygain canlynol, sy’n unol ag arddull carolwyr y cyfnod. Dywed yr ysgrifwr iddo eu derbyn gan fab y bardd, Richard Jones, a fu, yn ôl fy hen daid, ‘yn dra adnabyddus mewn gwahanol gylchoedd byd ac eglwys’ yn ardal y Blaenau yn niwedd y 19eg ganrif a dechrau’r ganrif ddwytha.

Dyma flas o awen yr hen garolwr:

CAROL PLYGAIN (ar fesur ‘Difyrrwch Gwŷr Caernarfon’)

Daeth borau glân Nadolig ŵyl,
Do heddyw, annwyl yw,
A bore cofio’r bore mawr,
Daeth gwawr i ddynol ryw;
O eni’r Iesu, Ceidwad cu,
Ef haedda’i foli’n fawr,
A ddaeth i wisgo natur dyn
Yn addfwyn yma’n awr.

Rhyfeddod pob rhyfeddod faith
Oedd taith ein Iesu gwiw,
Pan fu yng ngwlad Judea draw
Cadd boen a braw a briw;
Efe oedd Dduw a dyn yn dod,
Rhyfeddod ydoedd fawr,
Mor isel yno dan y ne’
Heb le i roi ben i lawr.

Mae’n frenin heddyw, llawn o hedd
Ar orsedd nefoedd wen,
Uwchlaw i allu’r ddaear hon
A choron ar ei ben;
Mae’n llywodraethwr bery byth
A dilyth ar ei sedd,
Ac Ef fydd farnwr dynol ryw
‘Rôl codi’n fyw o’i fedd.

A dyma un arall ar fesur yr hen alaw ‘Trymder’:

O henffych fore wiwlon wedd,
Caed hedd i’r byd,
Trwy eni Iesu, aer y nef,
Daeth Ef mewn pryd;
Bu sôn amdano’n fore iawn
Gan hen broffwydi mawr eu dawn,
Do, bedair mil a phedair llawn,
Y sôn a fu;
Aeth heibio ddegau’n ddiau, do,
O genedlaethau, rhown ar go,
Cyn geni hwn yng Nghanan fro,
Gwlad hyfryd gu.

O fewn i furiau Bethlem dre
Rhoes gyntaf dro,
Tra byddo haul, tra bro a bryn,
Am hyn bydd co;
Ac yno ‘mhreseb gwael yr ych
Y ganwyd ef, ein Prynwr gwych,
Ei le oedd wael, a hardd ei ddrych
Ym more’i oes;
Ni cha’dd ond gw’radwydd mawr o hyd
Tra bu yn teithio yn y byd,
Ac amharch ga’dd i’w oes i gyd,
O’i grud i’w groes.

Diddorol ydy llinell 7 ym mhennill cynta’r garol uchod ... ‘Do, bedair mil a phedair lawn.’ Cofiaf fod yna hen Feibl bychan yn fy nghartref pan oeddwn yn fychan yn nodi’r flwyddyn ‘4004 Cyn Crist’ fel ‘blwyddyn creu’r byd’. Tybed a fu i rai ohonoch chi’r darllenwyr ddod ar draws y ffaith honno?

Er i mi fod yn chwilio ym mynwent Eglwys Dewi Sant, y Blaenau, rydw i wedi methu â dod o hyd i fedd William Jones hyd yma. Gwn o edrych ar gyfrifiadau iddo gael ei fedyddio ym mhlwy’ Llangybi oddeutu 1813 ac mae Glan Barlwyd yn nodi ymhle mae’i fedd, ac yn dyfynnu englyn coffa ei gyfaill, Meurig Elen, sydd arni:

William mewn bedd orwedda, - i olud
Nef eilwaith cyfoda;
Ei awen fyw ni wywa
Na’i gu iaith deg goeth a da.

Ymddengys, eto yn ôl Glan Barlwyd, mai brawd William Jones oedd postfeistr cyntaf Blaenau Ffestiniog, sef, Robert Jones y Rhiw, neu ‘RJ Rhiw’ fel yr adwaenid ef.
--------------------------------------------

Erthygl gan Iwan Morgan. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016

26.11.16

Plygain Dalgylch Llafar Bro

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams a Tecwyn Vaughan Jones am hen draddodiad y Plygain, a thraddodiad newydd cynnal y gwasanaeth unigryw ym Mro Ffestiniog.

[<--  Cofiwch am wasanaeth Plygain eleni!] 

Croesawyd Gwasanaeth Y Blygain Dan yr Hen Drefn i Eglwys y Bowydd am y tro cyntaf, ar y 29ain o Dachwedd y llynedd. Mae i’r traddodiad Cymreig hwn hanes godidog.

Mewn llawer rhan o Gymru, golygai’n wreiddiol godi’n gynnar iawn ar ddydd Nadolig er mwyn mynychu’r gwasanaeth Plygain yn eglwys y plwy’.

Amrywiai awr y Blygain rhwng 3 a.m a 6 a.m, ac i aros am y gwasanaeth byddai pobl ifanc yn enwedig, yn ymhél â phob math o arferion i ddifyrru eu hunain.  Cred rhai mai o'r gair Lladin pullicantio y daw'r gair 'plygain', sef  'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr adeg cychwyn. Roedd yr oriau yma cyn y plygain, felly, yn rhai cymdeithasol iawn. 

Yng nghefn gwlad deuai pobl o’r mannau mwyaf anghysbell yn y plwy’ i’r Blygain. Yn aml cludent eu canhwyllau a’u lampau eu hunain er mwyn goleuo’r eglwys yn yr oriau tywyll. Yn Llanfyllin ceid canhwyllau arbennig at y Plygain ac yn Nolgellau gwisgid y canhwyllau â chelyn ac yn Llanfyllin câi cannoedd o ganhwyllau eu gosod yn agos i’w gilydd. Ym Maentwrog, caent
"eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad."
Mae gwasanaeth y Blygain yn oroesiad o’r gwasanaeth Nadoligaidd oedd yn bodoli cyn y Diwygiad Protestanaidd ac yn wreiddiol fe’i cysylltid â gwasanaeth cymun a gynhelid yn hwyrach ar fore Nadolig.

Dywed J. Lloyd Williams (1854 1945) am blygain Eglwys Sant Doged ger Llanrwst:
"Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau."
A dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850:
Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddïau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.
I ddieithryn mae’r Plygain yn brofiad anarferol. Am tua dwyawr, mae’r gwasanaeth yn gyfan gwbl yn nwylo’r carolwyr. Does dim rhaglen a does dim cyhoeddwr, ond, yn eu tro, daw partïon o garolwyr ymlaen yn ddistaw i ganu. Ar gyfartaledd ceir tua wyth i bedwar ar ddeg o bartïon ac mae rhywun yn debygol o glywed tua ugain i ddeg ar hugain o garolau gwahanol, i gyd yn Gymraeg.

Carolau Y Blygain
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais. Yn wreiddiol, partïon o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Gan fod cymaint o benillion i’w cofio, yna cedwid copi o’r geiriau mewn llyfr ymarfer. Benthyciad o gân werin boblogaidd oedd yr alaw yn aml ac fe’i cenir yn ddigyfeiliant bob amser. Ymhlith y beirdd enwocaf am lunio carolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain). Ar ddiwedd y gwasanaeth daw y dynion ymlaen i gyd-ganu Carol y Swper ac i fanteisio wedyn ar y wledd fydd yn aros amdanynt.

Mae’r Plygain yn un o’n traddodiadau gwerin sydd ar gynnydd unwaith eto.

Yn Eglwys y Bowydd y llynedd, roedd y rhan agoriadol yng ngofal y Parch Anita Ephraim ac ymunodd y gynulleidfa i ganu carol a chyhoeddi ‘Mae’r Blygain yn awr yn agored’. Cymerwyd rhan gan Lowri ac Awel Jones, Capel Bowydd; Parti Bethel, Llan Ffestiniog; triawd - Derfel Roberts, Patrick Young ac Iwan Morgan; unawdau gan Emyr Pugh, Llanuwchllyn ac Iwan Morgan; Côr Cymysg Blaenau Ffestiniog a’r Cylch; a Meibion Prysor, Trawsfynydd.

Cafwyd blas annisgwyl ar y traddodiad gwreiddiol pan gollwyd y trydan am sbel a phan fu’n rhaid i’r plygeinwyr chwilio am lampau a chanhwyllau. Ond byr fu’r toriad.  Yn bresennol yn y cyfarfod roedd cynrychiolaeth o holl eglwysi’r cylch gan gynnwys yr Esgob Edwin Regan, Eglwys San Magdalen, a’r Parch David Brownridge, Eglwys Dewi Sant. Ni allai’r Tad Deiniol fod yn bresennol. Mrs Wenna Francis Jones oedd yn cyfeilio i’r canu cynulleidfaol.

Estynnwyd croeso a phaned cyn troi am adref, gyda chwiorydd gwahanol eglwysi’r dref yn gweini. Diolchwn i swyddogion Eglwys Bowydd am estyn croeso mor dwymgalon, ac eisoes mae cynlluniau ymlaen at blygain 2016, ar Nos Sul cynta'r Adfent, y 27ain o Dachwedd, yng Nghapel y Bowydd am 7 o'r gloch. 
--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016 (addaswyd i adlewyrchu'r dyddiadau).
Edrychwch am erthyglau eraill am y Blygain efo'r ddolen isod, neu roi Plygain yn y ffenest chwilio ar y dde.

15.2.16

Tanygrisiau Ddoe- Yr Eglwys

Pennod pedwar yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.

Wrth gyfeirio at yr Eglwys Bach yn Nhanygrisiau mae yn werth rhoi y sylw canlynol gan fod yr eglwys wedi ei hen chwalu (ers y pumdegau) – collwyd yr adeilad a’r gloch a’r gatiau bychain haearn (prydferth braidd) a’r grisiau o lechen las trwchus a’r llwybr at y drws.

Y gloch oedd yn fy swyno i fel plentyn, ble mae heddiw tybed?

Roedd yr eglwys yma, er yn gyffredin, eto i gyd yn cyfrannu ymhob ystyr yn yr oes honno at wneud yr ardal yn gyflawn – yn cyfrannu yn grefyddol ac yn gynhaliol at ein bywyd beunyddiol.

Diolch bod atgofion fy mhlentyndod yn dal yn fwynhad ac mae cofio am yr eglwys ar Nos Calan yn dod a hen, hen hiraeth yn ôl i’r cof am y gwasanaeth noson olaf y flwyddyn yn yr eglwys – yn gwrando ar y gloch yn canu – a’r Ficer neu y ciwrad o Eglwys y Plwy’ – Dewi Sant, Blaenau, yn darllen a gweddio yno.  Yn hynod iawn, roedd clochydd yno hefyd.  John Jones (H.S) oedd yn gofalu am ganu y gloch a gan ei fod yn dipyn o ffefryn yn yr ardal cafodd y ffugenw ‘Rhen Sant.

Roedd ein tŷ ni o fewn rhyw ddeg llath a lled clawdd i’r eglwys yn Tyn Llwyn – gwaelod y rhiw i Pantcelyn a Phenllwyd a’r lein bach.

Byddai Gwasanaeth y Plygain yn cael ei gynnal yn yr eglwys bach ac yn dechrau am naw o’r gloch.  Byddai’r gloch yn dechrau canu tua hanner awr cyn hanner nos.  Byddai yr adeilad yn llawn, gyda’r rhan fwyaf o’r trigolion yn mynychu Y Plygain.  Doedd dim lle i bawb eistedd – y seddau bob tro yn llawn – a’r cymdogion yn cyrchu cadeiriau dros y clawdd i’r eglwys. 

Byddai’r clochydd, yn dechrau canu y gloch yn araf iawn – yn lleddf fel bydd y cantorion yn dweud – tua deg o’r gloch: ding-dong araf-araf, tra roedd yr addoliad yn mynd yn ei flaen.  Byddem ni’r plant yn canu cân yr un pryd yn araf iawn:

‘Mae’r flwyddyn yn marw
Ei hamser a ddaeth ....’

Ond, pan fyddai’r cloc yn taro hanner nos byddai John Jones yn ein hysbrydoli trwy godi’r tempo yn syth a ding-dong sydyn-sydyn – ding-dong-ding.  Safai pawb ar eu traed yn canu yn gyflym, gyflym ar dinc hapus:

‘Ond dyma flwydd newydd yn dyfod yn llon,
A pawb fel ei gilydd yn ysgafn ei bron.’

Mi glywais gloch eglwys Dyffryn Ardudwy yn canu ar noson olaf 1997 – a hyn ddaeth yr atgofion i gyd yn ôl i mi.  ‘Rwyf yn falch fy mod wedi aros i fyny i glywed cloch Dyffryn – fe aeth a fi yn ôl dros 75 o flynyddoedd, gyda chofion cynnes am y cymdogion a’r ffrindiau yn Rhes Tyn Llwyn, Cambrian Teras, Bronbarlwyd, Cromlech, Fronhaul, Pengarreg a’r teulu yn Nhynddôl.

Roedd gwasanaethau arbennig hefyd ar Sul y Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig.  Trueni i’r chwalfa ddigwydd ynghŷd â’r golled o’r chwalfa a diflaniad yr adeiladau oedd yn creu ein cymuned -ein ‘Hardal Ni’.
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


24.1.16

Rhod y Rhigymwr- Plygain a Machlud

Erthygl gan Iwan Morgan.

‘Daeth blwyddyn eto i ben’ ydy’r agoriad i’r hen garol a gofnodwyd yng nghasgliad cynta’r diweddar Ganon Geraint Vaughan-Jones – casgliad a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1987. Gwnaeth Geraint lawer iawn dros achub yr hen draddodiad Cymreig o ganu carolau plygain. Fel Rheithor Mallwyd, Llanymawddwy a Chemaes, fe fu wrthi’n ddiflino am lawer blwyddyn yn casglu a diogelu’r carolau hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno yng ngwasanaethau’r Plygain a oedd mor gyffredin yn Ne Meirionnydd, Maldwyn a rhai mannau eraill yr adeg honno. Fel y gwyddom, mae’r arferiad o gynnal ‘Plygeiniau’ yn rhywbeth cyffredin a phoblogaidd bellach, a thrwy benderfyniad a dycnwch Pegi Lloyd Williams, mae’r brwdfrydedd bellach wedi cyrraedd y Blaenau.


Gellir dweud mai goroesiad ydy’r ‘Plygain’ o wasanaeth Nadolig o’r cyfnod cyn Diwygiad Protestanaidd yr 16eg ganrif, wedi ei addasu i siwtio’r amodau Protestanaidd newydd. Credir i’r arferiad gymryd lle Offeren Hanner Nos y cyfnod Catholigaidd, a chafodd canu’n yr iaith frodorol le amlwg yn dilyn derbyn Beibl Cymraeg William Morgan ym 1588. Ers talwm, dechreuodd gwasanaeth y plygain yn oriau mân y bore. Daw’r gair ‘plygain’ o’r Lladin, wrth gwrs, - ‘pulli cantio’ -‘cyn caniad y ceiliog.’

Un a wnaeth lawer i hyrwyddo gwasanaethau Plygain yn ddiweddar ydy Arfon Gwilym. Cyhoeddodd ef, a’i briod, y cerddor, Sioned Webb, ‘60 o Garolau Plygain ynghyd â chanllawiau ymarferol’ yn 2006. Carolau ydy’r rhain gan fwyaf ‘a gadwyd yn fyw mewn rhai ardaloedd yn unig, ond a anghofiwyd i bob pwrpas gan weddill y wlad.’

Yn amlach na pheidio, cerddi crefyddol ac athroniaethol eu naws oedd y carolau hyn, ond roedd eu gwreiddiau yng nghanu gwerin poblogaidd eu dydd. Mae eu mydr yn aml yn gymhleth, ac fe’u cenid ar geinciau baledi poblogaidd. Fel arfer, mae’r carolau plygain yn hir – dros ugain a mwy o benillion. Yn ogystal â sôn am eni Crist, ceir cyfeiriad at y Croeshoeliad ynddynt yn ogystal.

Daeth y traddodiad o gyfansoddi a chanu carolau’n boblogaidd yn yr 17eg ganrif. Cyhoeddodd Charles Edwards ei ‘Llyfr Plygain gydag Almanac’ ym 1682. Y meistr pennaf ar gyfansoddi’n yr oes honno oedd Huw Morys (Eos Ceiriog), 1622-1709. Yn y 18fed ganrif, ceir nifer o garolau gan Jonathan Hughes yn ei lyfr – ‘Bardd y Byrddau’. Rhai o gyfansoddwyr carolau’n y 19eg ganrif oedd Gwallter Mechain, Dafydd Ddu Eryri, Eos Iâl, Ab Ithel ac Elis Wyn o Wyrfai i enwi ond ychydig.

Addas i ni yn ardal ‘Llafar Bro’ ydy cofnodi carol a gyfansoddwyd gan Humphrey Jones ‘Bryfdir’ (1867-1947’ – ar gyfansoddiad hyfryd y cerddor Owain Huws Davies o’r Blaenau – ‘Dim Lle yn y Llety’. Tybed faint ohonoch sy’n gyfarwydd â hi:

Ar ryfedd daith flinedig, faith
Bu Mair a Joseff, trist yw’r ffaith,
Cyn gweled Bethlem dref;
Mynd heibio iddynt wnâi y llu
Heb ystyr fod y ddeuddyn cu
Ar neges dros y nef,
Ac oerach na’r iâ ar y palmant fu’r gair:
‘Dim lle yn y llety i Joseff a Mair’.

Dolefai’r gwynt o lwyn i lwyn
Tra Mair mewn ing sibrydai’i chŵyn
Yn ddistaw wrth y nos;
Yn sŵn gorfoledd tyrfa fawr
Ei grudd oedd laith gan ddagrau’n awr
Fel grudd y lili dlos;
Y gair a glybuwyd dywyllodd yr aer:
‘Dim lle yn y llety i Joseff a Mair’.

Agorwyd drws y preseb tlawd
I Mair a Joseff, ddrwg eu ffawd,
A’r nos yn duo’r nef,
Ac yno mewn tawelwch trist
A thlodi, ganwyd Iesu Grist
Tu fas i rwysg y dref;
Sisialai yr awel rhwng cangau yr yw:
‘Dim lle yn y llety i Iesu Fab Duw’.

Mae’r byd mewn gorymdeithiau fyrdd
Yn dringo hyd drofaog ffyrdd
I wyliau clod a bri;
Ni sylwa ar gardotyn llwm
Yn gam ei gefn o gwm i gwm,
Ni chlyw ei ingol gri,
Cau drws ar y truan wna balchder y byd:
‘Dim lle yn y llety i Iesu o hyd’.


******

Cymylwyd ardaloedd Ardudwy a Ffestiniog o glywed am farwolaeth Haf Williams (Thomas gynt). Bu’n athrawes gydwybodol a phoblogaidd yn Ysgol y Moelwyn am 34 o flynyddoedd (1976 -2010). Fe’i cofiaf hi’n ferch ifanc benfelen, hwyliog, dlos  yn cyrraedd Coleg y Drindod, Caerfyrddin ym mis Medi 1971. Fe’i magwyd yng Nghaerdydd a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd. Un a ddechreuodd yn y Coleg yr un pryd â hi oedd Gerallt Rhun, Trawsfynydd (Rhydymain yr adeg honno). Yn y gwasanaeth a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Tanwg, Harlech, cyflwynwyd yr englyn canlynol a ysgrifennodd Gerallt er cof amdani:
Machlud Haf (Medi 2015)
Mae ing Haf bach Mihangel. – Bowlia’r
       Goch belen dros orwel;
Yn ddifraw, llithra’n dawel
I hedd hir y nos a ddêl.
Ar y 25ain o Dachwedd, roedd hi’n flwyddyn ers i’r un dwy ardal golli un o bileri cymdeithas – un arall y bu ei enw’n perarogli dros gyfnod maith. Cyfeirio’r ydw i at y diweddar Frawd Arwel Jones, Erw Las, Bethania – fu’n bennaeth Ysgol y Moelwyn o 1986-92, yn weinidog gydag enwad y Bedyddwyr Albanaidd am 30 mlynedd ac yn gynrychiolydd tre’r Blaenau fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd am rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol. Dymuniad aelodau Rehoboth, (y ‘Capel Ucha’), Harlech oedd gosod plac coffa ar un o’r muriau, a braint ac anrhydedd i mi oedd cael gwahoddiad gan y Chwaer Bethan Johnson i lunio cwpled i’w osod arno - esgyll yr englyn canlynol - er cof annwyl amdano:
Bu inni’n ‘Frawd’ arbennig, - un fu’n gefn,
    Yn gaer, mor frwdfrydig;
Un oedd ef na wyddai ddig,
Un oedd yn ŵr bonheddig.
-----------------------------------------

Addaswyd o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr 2015.
Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

7.12.14

O'r archif- Trem yn ôl

Pegi Lloyd Williams yn dewis pigion o’r archif
Nid Llafar Bro y tro hwn ond PLYGAIN, Cylchgrawn Plant yr Ysgol Ganol, Blaenau Ffestiniog.
Daw’r eitem isod o Rifyn Haf 1927 (Cyfrol I, Rhif 3)
M.E.Philips oedd y Prifathro a John Ellis Williams oedd y golygydd

Gofynnwyd i’r plant beth fuasent yn hoffi bod ar ôl tyfu i fyny a dyma atebion rhai o’r disgyblion bryd hynny sy’n swnio’n ddiniwed a doniol weithiau i ni heddiw.
(Ymddangosodd yr erthygl gyntaf yn rhifyn Tachwedd 2014 Llafar Bro)


Pan fyddaf fawr:


JOHN PENRI JONES – Engine Driver  a fyddaf i, ar yr LMS.  Cawn felly weld llawer o lefydd, ac ar ddyddiau oer cawn dân yn fy ymyl i’m cadw yn gynnes.

ARTHUR ROWLANDS – Pan fyddaf yn 20 oed, yr wyf am fynd i Ganada, i gael dysgu bod yn cowboy.  Fe wnawn achub bywyd llawer o bobl, a chawn arian gan y Sheriff am wneud.  Fe ddaliwn ladron hefyd, ond bydd yn rhaid imi gael gwn ac handcuffs i hynny.

RICHIE THOMAS – Am fod yn llongwr yr wyf fi.  Mi wn ei fod yn waith caled iawn, achos y ni sydd yn gorfod tynnu yn y rhaffau a chadw’r llong yn lân.  Ond dyma’r ffordd oreu i gael gweld y byd.

BOBBIE JONES – Fy ngwaith i fydd ffarmio.  Ffermwr ydyw fy nhad hefyd, ac ar ffarm y cefais fy magu.  Yr wyf yn hoffi gwaith ffarm yn well na dim, yn enwedig bugeilio defaid.  Cŵn a cheffylau yw fy ffrindiau mwyaf i.

NORMAN HUGHES – Meddwl myned yn engineer wyf i.  Mae fy nhad wedi pasio pob ecsam i fod yn un, ond ei fod yn awr yn y chwarel.  Mae llawer o’i bethau gennyf i yn y tŷ mewn cornel fechan yn barod imi dyfu yn fawr.

OWEN W. JONES – Mi fuaswn i yn hoffi bod yn saer, gan eu bod yn brin iawn yn awr.  Nid yw’r gwaith yn galed iawn, ac mae fy ewythr yn dweyd y caf ddysgu gydag ef.  Mae’r tools yn ddrud iawn, ond mi fedraf ennill pres wrth wneud cypyrddau i brynu digon.

HUMPHREY DAVIES - Pan fyddaf yn 20 oed, yr wyf am fynd yn soldiwr.  Yr wyf yn siŵr y bydd rhyfel yn torri allan rywbryd tua’r adeg honno, ac mi af dros y môr mewn llong ryfel i gwffio dros fy ngwlad.

ROBERT J. JONES - Heddgeidwad a fyddaf i, imi gael cot las a botymau arian arni.  Mi fedrwn redeg fel y gwynt ar ôl plant drwg.

JOHN ERNEST HUMPHREYS - Ar ôl imi dyfu yn fawr yr wyf am fyned yn bregethwr.  Mae’n rhaid i bregethwr weithio yn galed efo’i feddwl, a bod yn ofalus iawn beth i’w ddweyd, ond mae yn cael cyflog da, ac nid yw y gwaith yn drwm iawn.

GEORGIE EDWARDS - I’r chwarel yr af i, i ennill pres i gedru talu i mam am fy magu fi.  Mi rof y cyflog i gyd iddi hi, ac mae hi’n siŵr o roi dau swllt yn ôl yn bres poced imi.

ELINOR HUGHES - Ar ôl myned yn fawr, yr wyf am fod yn forwyn.  Yr wyf eisiau myned i ffwrdd, ac am fod yn gynnil iawn.  Wêl neb fi yn gwastraffu fy mhres yn ceisio bod yn lady.  Nid af i’r pictiwrs chwaith, na phrynu hen nofelau gwirion, dim ond llyfrau da gwerth eu darllen.

NELLIE WILLIAMS – Cook mewn plas mawr yr hoffwn i fod, yn gwneud cinio i lawer o bobl.  Yr wyf yn hoffi cwcio yn awr, sut bynnag y bydd hi yr adeg honno.  Os bydd y gwaith yn rhy galed, mi chwiliaf am le arall.

GRACIE EVANS – Mi hoffwn i fod yn wniadwraig, yn gwneud dillad i bobol eraill ac mi fy hun.  Nid yw pawb yn hoffi gwnïo, ond mae yn waith braf iawn gennyf i.

Isod mae’r golygydd yn ychwanegu jôc a glywodd gan un o’r bechgyn ac mae hi’n un dda hefyd!






GWLAD BOETH IAWN
‘Roedd yna un dyn yn dweyd unwaith fod y wlad y buodd o fyw ynddi mor boeth nes ‘roedd yn rhaid i ffarmwr osod ymbarél ar ben pob mochyn rhag ofn iddo fo droi yn borc.  Ac ebe dyn arall oedd yn gwrando, “Yn y wlad y bum i ynddi y mis diwethaf, yr oedd y ffermwyr yn rhoddi ice-cream i’r ieir rhag ofn iddynt ddodwy wyau wedi eu berwi.”  Simeon Jones

Yn ei golofn olygyddol mae John Ellis Williams yn son eu bod wedi gwneud £2 o elw ar y rhifyn cyntaf ... “yr ydych wrth brynu Plygain nid yn unig yn cefnogi gwaith yr ysgolorion, ond hefyd yn pwrcasu llyfrau iddynt. A lleufer dyn yw llyfr da.”
---------------------------------------------------------------



Diolch i Pegi Lloyd Williams am ddod a’r cylchgrawn hwn i’n sylw ... tybed faint o gopïau eraill sydd i’w cael yn y fro erbyn hyn. Roedd y rhifyn hwn yn perthyn i’r diweddar William Lloyd Williams (Wil) ei gŵr a daliodd ei afael ynddo ar hyd y blynyddoedd. (TVJ)
-----------------------------------------------------------------

Ôl-nodyn:
Ai dim ond ym Mro Ffestiniog mae'r gair GEDRU yn cael ei ddefnyddio? Hynny ydi, 'medru'/'gallu'.
Tydi o ddim yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, sef y casgliad safonol o eiriau Cymraeg, i fod...
Mae'r gair gedru yn ymddangos uchod gan Georgie Edwards. Ai dyma'r enghraifft gynharaf o'r gair ar ddu a gwyn tybed? (PW)

Daeth hyn gan Andrew Hawke, golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru, ddydd Llun 8fed Rhagfyr:
"Diolch yn fawr am y cyfeiriad. Rwy'n gyfarwydd â'r gair, ac roeddwn i'n disgwyl ei weld yn GPC. Mae'n braf cael enghraifft mewn print o 1927 - ac rwy i wedi'i ychwanegu at ein casgliad."