Showing posts with label lluniau. Show all posts
Showing posts with label lluniau. Show all posts

10.7.25

Clwb Camera

Daeth tymor 2024/2025 i ben ddechrau mis Ebrill gyda chystadleuaeth cwpan y flwyddyn a chyda’r cyfarfod blynyddol yn cloi gweithgareddau.

Chris Parry o Benrhyndeudraeth oedd beirniad y gystadleuath ac yn gosod Rory Trappe yn gyntaf yn adran y printiadau a Dewi Moelwyn yn gyntaf yn yr adran ddigidol.  Dyfarnwyd llun Rory o Lyn Cwmorthin yn llun y flwyddyn.

 

Yn y cyfarfod blynyddol, etholwyd Dewi M. Williams yn gadeirydd, Patricia Cordney yn is- gadeirydd, Helen Kelly yn ysgrifennydd a Rory Trappe yn drysorydd.

Cyflwynwyd tlws ffotograffydd y flwyddyn i Stan Jones.

Hoffai'r clwb diolch i Gwmni ENGIE/FIRST HYDRO am ei haelioni’n darparu cymorth i gael offer cyfrifiadurol a thaflunydd digidol newydd i'r clwb.

Mewn cystadleuath print rhwng clybiau Cymdeithas Ffotograffiaeth Gogledd Cymru a gynhalwyd ganol Ebrill, daeth y clwb yn bedwerydd allan o bedwar-ar-ddeg.

Bydd y tymor newydd yn dechrau ar 17 Medi yn y Ganolfan Gymdeithasol. Croeso i aelodau newydd.

Dewi Williams

LLUN - Llyn Cwmorthin Rory Trappe
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025

 

24.4.25

Stolpia -Cludo a Lluniau

Mwy o Hanes y Transfformar

Yn dilyn fy strytyn yn rhifyn Chwefror am y trawsnewidydd (transformer) a gyrhaeddodd Stesion London ym mis Chwefror 1961 a’m ymholiad sut yr aeth oddi yno i bwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau, derbyniais wybodaeth ddiddorol oddi wrth Eifion Lewis, a Brian Owen amdano. 

Dywedodd y ddau mai cwmni enwog Pickfords a fu’n gyfrifol am ei gludo i lawr yno a hynny ar un o’u cerbydau pwrpasol gyda dwy lori ar bob pen iddo. Dywedwyd wrthyf bod ffilm ohono i’w weld ar YouTube hefyd. 

Wrth edrych arni hi sylwais mai 1962 oedd dyddiad y ffilm a’i bod yn dywydd hafaidd pan y trosglwyddwyd o, gan fod y plant ger yr orsaf mewn crysau ysgafn a cheid dail ar y coed. Gwyddwn mai ym mis bach 1961 oedd yr adroddiad am yr un yn y North Wales Weekly News, ac felly, y cwestiwn oedd – a oedd y pwerdy wedi derbyn dau ohonynt, y cyntaf y mis Chwefror 1961 a’r llall rhywdro yn haf 1962? Deallais mai dyna a oedd wedi digwydd. 


 

Y Ffotograffydd Isaac Hughes 

Bum yn gwrando ar sgwrs ddifyr yng Ngwesty Seren (Bryn Llywelyn) gan Gareth Roberts, Menter y Fachwen yn ddiweddar. Testun ei sgwrs oedd Isaac Hughes, un o hen ffotograffwyr Cymru. Un o Dyserth, Sir Ddinbych oedd yn wreiddiol, ond yn Beck Road, Lerpwl oedd ei stiwdio erbyn 1869. 

Daeth i’r Blaenau y pryd hwnnw gyda’i gamera a thynnu lluniau yn ein chwareli. Dywedir iddo ymweld â Chwarel Llechwedd a thynnodd amryw o luniau o’r chwarelwyr yno. Serch hynny, bu nifer o’r gweithwyr yn aflonydd a gwingo tra y tynnid y lluniau, ac roedd un hogyn wedi rhoi rhaff am wddw hen chwarelwr mewn hwyl, ac un arall fel pe tai yn bwgwth taro pen un gyda gordd.

Yn yr 1980au ar ôl i deulu symud i dŷ yn Thomas Street, Llanberis, canfuwyd rhai cannoedd o blatiau gwydr gyda ffotograffau arnynt yn yr atig. Daethpwyd i’r casgliad yn ddiweddarach mai ffotograffau Isaac Hughes oeddynt. 

Dyma un enghraifft. Sylwer ar y rhes flaen yn eistedd ar gasgenni powdwr du.
O.N. Tybed a oes lluniau o waith Isaac Hughes ar ôl yn y Blaenau? Cysylltwch os gwyddoch am rai.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025




30.10.24

Stolpia- Damwain ar Reilffordd Ffestiniog 1904

Bu sawl damwain ar Reilffordd Ffestiniog tros y blynyddoedd, a hynny am wahanol resymau, megis plant yn gosod cerrig ar y rheiliau, coed yn syrthio ar y cledrau, bariau wedi treulio, olwynion y wageni yn torri, pobl yn cael eu taro gan y ryn, gwartheg a defaid yn crwydro ar y trac, ayyb. Dyma hanes un ddamwain a achoswyd gan ddafad, neu faharen, a bod yn fanwl, a achosodd gryn helbul i’r cwmni ym mis Ionawr 1904.

Roedd trên (ryn) yn llawn o lechi wedi gadael y Blaenau prynhawn dydd Mercher, 20 Ionawr, 1904 yng ngofal David Jones ac Evan Davies. Cofier, nid oedd angen injian i dynnu’r ryn ar y ffordd i lawr y rheilffordd gan fod rhediad, sef graddiant, o’r Blaenau at y Cob ym Mhorthmadog. 

Fel rheol, byddai rhwng 50 ac 80 o wageni yn y ryn, ac felly y bu y diwrnod hwn. Aeth y rhedfa yn ddidrafferth i lawr at Orsaf Tan y Bwlch, ond ychydig wedyn oddeutu 2 o’r gloch a phan oeddynt newydd fynd heibio y tu uchaf i Blasdy Oakeley ac ar un o’r trofeydd uwchlaw Bryn Mawr neidiodd myharan i lawr o ben y clawdd ac o dan y wagen gyntaf. Lladdwyd yr anifail yn y fan a’r lle, ac o ganlyniad i’r gwrthdrawiad taflwyd y trên tros ochr serth i’r coed islaw. Aeth 38 wagen o ran flaen y trên ar eu pennau i’r goedwig, ond arhosodd y gweddill ar y cledrau, er bod amryw ohonynt oddi ar y bariau ac wedi eu malurio.

Roedd y ddau weithiwr wedi medru bracio rhyw saith o’r wageni, ac felly, wedi arbed tri deg (30) o’r gweddill rhag canlyn y rhai cyntaf, a thrwy rhyw drugaredd gallodd y ddau neidio oddi arni hi yn ddianaf. Ofnid y byddai’r gost yn rhai cannoedd o bunnau i’r cwmni mewn cerbydau a llechi. Daeth y mwyafrif o’r llechi o chwareli Oakeley a Llechwedd a dryswyd traffig y rheilffordd am weddill y diwrnod. Pa fodd bynnag, bu gweithwyr y rheilffordd yn gweithio ar eu clirio drwy’r nos fel erbyn y bore drannoeth yr oedd y trên cyntaf wedi gallu mynd a’r chwarelwyr at eu gwaith yn ddirwystr.

Sylwer ar y troseddwr rhwng y ddwy wagen ac yn llaw un o’r gweithwyr

Cofio Cyfaill
Gyda thristwch y derbyniwyd y newyddion am farwolaeth y cyfaill Gerald Griffiths, 5 Trem y Bwlch ym mis Gorffennaf. Pan ddeuthum i’w adnabod gyntaf synnais at ei wybodaeth eang am ein chwareli a chwarelwyr y fro hon, ac yn wir, ardaloedd chwarelyddol eraill. Gan ei fod wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio yn y chwarel ac wedi gwrando ar hanesion y dyddiau gynt gan ei gyd-chwarelwyr roedd ganddo stôr o ffeithiau ar ei gof. Cofiaf ef yn dweud iddo ddechrau darllen llyfrau a galw yn y llyfrgell gyda’i fam pan oedd yn grwt ifanc iawn. 

Roedd ganddo lawysgrifen werth ei gweld- fel coporplat. Yn ddiau, darllenodd gannoedd o lyfrau tros y blynyddoedd gan y galwai yn y llyfrgell yn fynych. Dysgais lawer am hanes yr ardal a’i phobl yn ei gwmni a diolch am y fraint o’i adnabod ac am ei gyfeillgarwch. Ein cydymdeimlad dwysaf â’r teulu oll.

Lluniau o’r Gorffennol, rhifyn Gorffennaf-Awst
Daeth ymateb gan Dafydd Linley i’r cais am wybodaeth am y llun o'r bachgen efo caseg ac ebol, yn awgrymu mai ar allt Cwmorthin mae o. 

Diolch Dafydd; Y mae’n edrych yn debyg iawn, efallai wedi ei dynnu ychydig bach is gan nad yw Allt Ceffylau i’w gweld ynddo.
- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024


10.2.19

Stolpia -Yr Hen Dynnwr Lluniau

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Ionawr 2005.

Os cofiwch, crybwyllais yn [rhifyn Rhagfyr 2004] ychydig o hanes  John Thomas, y ffotograffydd enwog  o’r Cambrian Gallery, Lerpwl, yn galw heibio ein bro i dynnu lluniau grwpiau o chwarelwyr, adeiladau pwysig a.y.y.b. Yn ffodus iawn i ni, cofnododd JT ei hanes yn yr ardal hon, a sawl ardal arall o ran hynny, mewn dyddlyfr sy’n dyddio o’r 1860au  ymlaen. Fel ei luniau, mae ei nodiadau yn rhai tra diddorol ac yn rhoi darlun gwych a gwedd wahanol inni o’i anturiaethau gyda’i gamera. Credaf eu bod yn werth eu dyfynnu yma.

Casgliad John Thomas, Llyfgrell Genedlaethol Cymru. "Gan edrych o'r Graig Ddu"
Dyma ran o’i gofnodion o’r flwyddyn 1868:

"Ar wahoddiad taer fy nghyfaill Mr. J.N. Edwards o Gynwyd (yr oedd wedi gwerthu lliaws o’m darluniau cyn hyn) aethum i Ffestiniog. Yr oedd wedi cymryd room yno i wneud fframiau a gwerthu’r darluniau a phethau eraill.Wedi cyrraedd yno, aeth yn gytundeb rhyngom i fynd trwy liaws o’r chwarelau i gymryd grŵps o’r gweithwyr yn yr awr ginio.Yr oeddwn i gael tâl am y darlun ac yntau am y ffram. Yr oeddwn i’n meddwl mai ef oedd yn cael y fantais orau, yntau yn meddwl fel arall, ond ni bu dim ymrafael.
 

Yr wyf yn cofio mynd i chwarel y Diffwys ryw foregwaith, ac wedi cael caniatâd yr awdurdodau, ac ar ôl mynd trwy’r gwaith i wahodd y gweithwyr i fan penodol, ac wedi gosod y grŵp mewn safle priodol, eis i’r offis a gofynais a welent hwy i fod yn dda ddod i eistedd yn eu plith, ac ufuddasant ar unwaith, ac yr oedd yno foneddiges, a boneddwr mewn tipyn o oed a gwallt gwyn llaes, heblaw gwŷr arferol yr offis , -a chymerwyd y grŵp; ac erbyn holi, Mr. Hugh Owen a’i briod, wedi hynny Syr Hugh Owen o Lundain oedd y dieithriaid.
 

Rhyw dro wedi hyn yr oeddwn yn yr un chwarel, yn cymryd darlun arall ganol dydd, aeth yn llongddrylliad, neu o leiaf yn gamera-ddrylliad arnaf; fel hyn y bu- wedi gosod y gweithwyr ar waelod yr inclên, ac erbyn mynd yn fy ôl i gael golwg deg arnynt, teimlwn fod y safle yr oeddwn ynddo yn rhy isel, a chan fod yn ymyl wagenni llawn o lechi, anturiais i fynd i osod y stand a’r camera ar un o’r rhai hyn er cael bod yn uwch, a phan yn mynd i’r lle tywyll, i gyrchu’r plât, clywn waedd a chwerthin,ac ar ol mynd allan gwelwn fod y camera yn deilchion ar lawr, awel o wynt ddaeth heibio heb ofyn caniatâd. Ar ôl munud o edrych arno, gwaeddais nad oedd yn fawr gwaeth, ac os byddent hwy yn yr un fan erbyn chwech o’r gloch y cymerwn hwynt wedyn, ac wedi cael gwasanaeth asiedydd, glud a hoelion, yr oeddwn yno mewn pryd a thynnwyd y grŵp.
 

Mae Mr J.N.Edwards wedi aros yn yr ardal hyd heddiw, ac wedi llwyddo o ddechreuad bychan fel y soniwyd, i fod yn un o’r masnachwyr mwyaf cyfrifol yn y lle –sy’n brawf amlwg o ddiwydrwydd a gonestrwydd wrth drin y byd. Mae hefyd wedi dwyn mab i fyny’n arlunydd, wedi rhoi pob manteision iddo yn ei anturiaeth ac y mae J.Kelt Edwards yn un o’r young artists mwyaf  addawol, ac yn cymryd diddordeb neilltuol mewn pethau Cymreig, rhwydd hynt iddo."

Fel y gŵyr rhai ohonoch, cedwid masnachdy Berlin House gan J.N.Edwards a’i deulu am flynyddoedd lawer a cheir tipyn o’i hanes ef a Kelt ei fab yn ogystal â rhai arluniau yng nghyfrol Goleuo’r Sêr (1994) gan y diweddar gyfaill Ted Breeze Jones. Gresyn na chofnodwyd nifer yr archebion a dderbyniodd oddi wrth chwarelwyr y Diffwys, ynte? Pa fodd bynnag, os cofiaf yn iawn y mae’r llun a dynnodd o’r chwarelwyr ar waelod yr inclên yng nghasgliad J.W.Jones yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Pont y Rhiw, 1875"
Gyda llaw, bu John Thomas yn ein bro ar sawl achlysur arall hefyd ac fel y dywedais o’r blaen tynnodd luniau o’r chwarelwyr yn teithio adref ar drên bach y Llan un tro. Yn  ogystal, tynnodd ychydig luniau o bontydd y plwyf , y ddwy reilffordd bach, capeli a gweinidogion, eglwysi ac ysgolion, tref y Blaenau a sgwâr y Llan, pobl yr ardal, a sawl peth arall.

Yn ôl ei nodiadau am 1879, ac ar ôl sawl ymweliad  â’n bro dywed:

"Yr oedd y Llan yn bentre go fawr cyn bod ond rhyw ychydig o dai gwasgaredig yn y Blaenau, ac yma byddai’r farchnad yn cael ei chynnal a phobol y Blaenau yn dod iddi, ond erbyn hyn y mae’r ferch wedi mynd yn fwy na’r fam, a gwŷr a gwragedd y Llan yn gorfod mynd i’r Blaenau i ymofyn llawer o’u angenrheidiau…
 

Ond rhaid dychwelyd i’r Llan os ydych am fwynhau ychydig seibiant i weld natur  yn ei phrydferthwch... Nid oedd angen am arweinydd i fynd [at Bulpud Huw Llwyd] os byddech wedi galw yng ngwesty’r Pengwern Arms i geisio bwyd neu ddiod. Yr oedd yno ar y pryd fath o gi defaid wedi cael ei ddysgu i’ch tywys ar hyd y llwybr at y ceunant o’ch blaen, a dychwelai’n ôl heb i neb yngan gair wrtho. Ond os nad oeddech wedi bod yn y gwesty ni wnai yr un sylw ohonoch. Yr oedd yno gi arall, gwerth sôn amdano, yn y ffermdy o dan y fynwent, a fedrai droi olwyn, a’r olwyn honno’n troi’r fuddai gorddi yn y llaethdy. Gwelais ef wrth y gwaith, ac ni welais y fath beth cynt na chwedyn. Yr wyf yn deall fod yr awdurdodau gwladol wedi ymyrryd am eu bod yn ei ystyried yn greulonder â’r anifail."

Dau sylw bach cyn cloi. Os nad wyf yn cyfeiliorni, cedwid ci neu gŵn ar gyfer corddi ar fferm Bwlch Iocyn ar un adeg o’i hanes. Yn ail, byddai’r Abbey Arms yn cadw ci ar gyfer tywys pobl ddiarth  ogylch y lle, hefyd. Onid oes llun cerdyn post ohono yn eistedd y tu allan i’r dafarn,’dwch?

17.1.16

Pulpud Huw Llwyd

Dyma'r llun oedd i fod i ymddangos yn rhifyn Ionawr 2016!

Ar dudalen 12, dan y pennawd 'PULPUD HUW LLWYD DAN WARCHAE' cafwyd cyfeiriad at lun o'r Pulpud a'r afon mewn llif. Ond, roedd y golygydd wedi gyrru llun arall i'r wasg hefyd er mwyn dangos y Pulpud pan nad oedd fawr o ddŵr yn Afon Cynfal.

Oherwydd diffyg lle, dim ond un o'r ddau lun oedd y wasg yn medru ei gynnwys. Ia, dyna chi: yr un anghywir! Felly dyma gyhoeddi'r darn eto, y tro hwn efo'r llun cywir:


"...diolch i Tecwyn Vaughan Jones am y llun hwn o Bulpud Huw Llwyd o dan warchae yn ystod llifogydd mis Rhagfyr. Er ei holl ddoniau a'i ddewiniaeth, go brin y byddai Huw Llwyd ei hun wedi gallu dringo i ben hwn!"
------------------------

Cliciwch ar y ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geirau ar y dde, am gyfeiriadau eraill ar wefan Llafar Bro, at y Pulpud.

(Gallwch ddarllen eginyn erthygl am Huw Llwyd -a llun y pulpud heb lif yn yr afon- yn fan hyn ar wefan Wicipedia.
Mae gweinyddwyr gwirfoddol Wicipedia, y Gwyddoniadur Rhydd, yn apelio am wirfoddolwyr newydd i ychwanegu mwy o wybodaeth i'r erthygl, ac i ychwanegu erthyglau eraill ar bob pwnc dan haul hefyd.)
 

14.4.14

Merched y Wawr a Sefydliad y Merched

Cafodd y merched gychwyn prysur iawn i'r flwyddyn eto eleni ym Mro Ffestiniog.

Dyma ddetholiad o newyddion o'r canghennau o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:

 


MERCHED Y WAWR, Blaenau.

Cynhaliwyd cyfarfod Chwefror ar y 24ain yn y Ganolfan Gymdeithasol o dan lywyddiaeth Ceinwen Humphries.  Cyhoeddwyd y bydd tlws am lefaru, oed cynradd, yn cael ei gynnig yn Eisteddfod yr Urdd, y Bala, yn enw cangen y Blaenau.
Gwraig wadd y noson oedd Naomi Jones, rheolwraig prosiect “Yr Ysgwrn”gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae wrth y gwaith o ofalu am y tŷ, adeiladau'r fferm, y tir amaethyddol, yr ardd a'r byngalo ers blwyddyn bellach; yn mwynhau'r gwaith ac yn frwdfrydig iawn yn ei gylch.  Siaradodd yn ddifyr ac addysgiadol iawn am hanes y safle a rhan Hedd Wyn y bardd a'r milwr ynddo.  Cyflwynodd ddarlun o gyfnod y rhyfel byd cyntaf mewn ardal wledig, sydd mor addas o gofio mai eleni y cofir canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Mawr. Diolchodd Pegi Lloyd Williams i Naomi am noson ardderchog.
Y gŵr a'r wraig wadd ym mis Mawrth oedd Olwen a Wyn Jones, Ty'n Braich, Dinas Mawddwy.  Rhoddodd Olwen gefndir y fferm a'r teulu i ni, teulu oedd wedi byw yn Nhy'n Braich yn ddi-dor dros y canrifoedd ers 1012.  Dangoswyd ffilm am y tri brawd dall oedd yn gefndir i nofel arbennig Angharad Price - “O! Tyn y Gorchudd”.  Mae Angharad, wrth gwrs, yn gyfnither i Wyn ac yn aelod pwysig o deulu Ty'n Braich.  Yna aeth Wyn ymlaen i roi darlun i ni o'i daid a'i nain a'i dri ewythr – y tri brawd, a phwysleisiodd mor bwysig ydy cofnodi profiadau teuluol rhag iddynt fynd yn anghof. 
Diolchodd Megan yn gynnes i'r ddau am hanes mor ddiddorol.


Merched y Wawr Llan

Bu cyfarfod cyntaf 2014 yn y Neuadd ar nos Fawrth, Chwefror 4ydd.  Yn absenoldeb ein llywydd Iona, croesawyd yr aelodau gan Nesta, ynghyd a’n hysgrifennydd Ann.  Pleser i Nesta oedd cyflwyno Sian Northey i’r aelodau.  Braf oedd cyflwyno hogan sydd wedi ei magu yn yr ardal, ac sydd erbyn hyn wedi cyflawni llawer yn myd llenyddiaeth Gymraeg gan ennill llawer gwobr, gyda mwy o lyfrau ar y gweill i ddod yn ystod 2014.  Ar wahan i’w llyfrau ei hun, mae wedi bod yn gyfrifol am olygu tair cyfrol. 
Cafwyd detholiad o rai o’i llyfrau a’u cefndir ac roedd yn noson ddiddorol. 
Cyfarfu’r merched wedyn i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Pengwern. Croesawyd Wenna Francis Jones, Megan, Lowri, Awel a Rhodri atom ac fe gawsom noson arbennig yn eu cwmni. Cafwyd amrywiaeth hyfryd o ganeuon ganddynt, ac hefyd llefaru gan Rhodri a cherdd dant gan Awel, gyda Wenna yn cyfeilio iddynt. Noson arbennig a phawb wedi mwynhau a diolchwyd iddynt gan Iona. Yna cafodd pawb gawl cennin wedi ei baratoi gan staff y Pengwern – canmoliaeth a diolch i Karen.


Merched y Wawr Trawsfynydd

Ein gwraig wadd yn Chwefror oedd Rhiannon Parry, Penygroes.  Hi yw golygydd Y Wawr a bydd ei gwaith yn dod i ben ar ol y rhifyn nesaf.  Llongyfarchwyd hi ar safon y cylchgrawn yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.
 Athrawes wrth ei galwedigaeth hyd nes i ddau gyfnod o salwch blin iawn a misoedd mewn hosbis olygu iddi droi at bwytho.   
Tra’n byw yn Llansanan, mynychodd ei dosbarth brodio cyntaf yn Y Rhyl.  Cawsom weld gwaith o wahanol gyfnodau o’i bywyd.  Roedd yn wledd cael gweld darnau o’i gwaith amlgyfrwng – llun o Flodeuwedd wedi’i ysbrydoli gan R.S. Thomas, Awyr a Mor gan ddefnyddio darnau o dun, plastig a sbwriel bigodd oddi ar draeth Llanddulas.  Roedd wedi llifo hen flanced o eiddo ei mam yng nghyfraith a rhoi pwythau man trwyddo a gosod dail o ffelt yn addurn.  Hyfryd!  Clustog wedi’i ysbrydoli tra yn Llydaw; llun bwthyn bach ei modryb a llinell o Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts.  Popeth yn dangos dychymyg eithriadol. 
Ar nos Iau, Mawrth 20, daeth aelodau’r gangen at ei gilydd i ddathlu dydd Gwyl Ddewi yng ngwesty’r Cross Foxes yn y pentre. Daeth Beti Puw Richards, Maesywaen a phedair o aelodau parti Perlais i’n diddanu ar ol y pryd bwyd blasus. Edryd Williams, Bethel, oedd eu hunawdydd gwadd, dewr yng nghanol yr holl ferched. Arweinwyd y noson gan Rhian Elena o Lanfihangel Glyn Myfyr a Beti wrth y piano. Cafwyd rhaglen amrywiol iawn o unawdau, deuawdau, pedwarawdau a’r pump yn canu gyda’i gilydd. Mae ystod gallu cerddorol y bobl ifanc yma yn eang iawn – cerdd dant, alawon gwerin, caneuon o’r sioeau cerdd a chaneuon traddodiadol Cymreig. Yn ychwanegol at y cyfeiliant piano cafwyd unawd i gyfeiliant gitar gan Rhian Elena. Er bod yr awyrgylch yn gartrefol braf, barn pawb ar y diwedd oedd i hwn fod yn gyngerdd gwerth chweil a chafwyd cymeradwyaeth brwd.



SEFYDLIAD Y MERCHED Blaenau.

Cyfarfu'r Sefydliad nos Fawrth, Chwefror 25 i ddathlu noson   Gymreig gyda Mrs Wenna F. Jones a Mrs Delyth Lloyd-Grey a chwech o blant talentog iawn.
Cawsom unawdau a deuawdau gan y plant, Megan, Lowri,Awel, Rhodri, ac Ioan yr ieuengaf sydd yn 5 oed, hefyd cawsom adroddiad gan Rhodri, "Fy Ystafell Wely" Diolchwyd iddynt gan Mrs Lina Jones. Derbyniwyd gwahoddiad gan Sefydliad Llan Ffestiniog  i ymuno a hwy i glywed sgwrs am Owain Glyndwr.
Ein gwr gwadd ym mis Mawrth oedd Mr Gareth T. Jones yn arddangos lluniau o'r ardal rhwng 1950 a 1970. Rhai fel Moi R.E. a'i geffyl, codi Ffatri Metcalf a'i agor yn 1954, Pwerdy Tanygrisiau a llawer mwy. Diolchwyd iddo gan Mrs Lina Jones am noson ddifyr iawn.





19.7.13

Lluniau lu

Dyma rai o'r lluniau eraill fu'n rhaid eu gadael allan o rifyn gorlawn Gorffennaf:






Athletwyr Ysgol Bro Cynfal yn arddangos eu tystysgrifau.












Disgyblion Ysgol Tanygrisiau efo'u llechi iPad, ar ol ymgyrch godi pres lwyddianus.










Disgyblion Ysgol y Moelwyn efo'u tystysgrifau adran Gelf Eisteddfod yr Urdd.

10.5.12

Enghraifft o be sydd i ddod...

Medi 2011

Pa haf?
Wel, mi aeth heibio heb imi sylw bron: yr hît-wêf bondigrybwyll heb ymddangos eto fyth. Ta waeth, rhaid cadw’r ffydd am ha’ bach Mihangel am wn i.

Cacynen yng Nghoed Tafarn Helyg, Mai. Llun- PW
 Mae digon o bethau i’n difyrru dros y misoedd nesa’ beth bynnag, does ond angen cymryd cip ar dudalen Calendr y Cymdeithasau i weld y wledd o nosweithiau sydd o’n blaenau ym Mro Ffestiniog.
Cadwch un dyddiad yn rhydd os allwch chi, sef Nos Iau y 15fed o Fedi, pryd fydd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Llafar Bro.
Mi sylwch ar y dudalen flaen ein bod yn cynnal y cyfarfod blynyddol eleni yn y Caban yn Llan. Ymgais ydyw i geisio denu mwy o bobl atom o’r dalgylch, felly dewch yn llu!
Lluniau. Yn anffodus, mae cyflwr rhai o’r hen luniau sy’n ein cyrraedd yn golygu na fedr y wasg eu hatgynhyrchu’n dda. Maddeuwch inni felly os oes rhai nad ydynt wedi ymddangos yn y rhifyn hwn. Copïau o hen luniau du a gwyn, ac yn arbennig toriadau o hen bapurau newydd, yw’r rhai sy’n peri’r drafferth fwyaf. Mae’n ddrwg gennym siomi, yn arbennig gan fod nifer o’r lluniau a ddaw i mewn o fis i fis yn ddifyr tu hwnt. Os cewch eich siomi, beth am drafod efo Cymdeithas Hanes Stiniog, y posibilrwydd o roi copi o’ch llun yn eu harddangosfa boblogaidd, a gwahodd pobl i fynd yno i ychwanegu enwau a gwybodaeth?
Da chwi daliwch i yrru lluniau i mewn serch hynny, maent yn elfen bwysig o’n papur bro.

Buwch gota amryliw (yr harlequin estron), copa'r Moelwyn Mawr, 1af Hydref 2011. Llun- PW