10.2.19

Stolpia -Yr Hen Dynnwr Lluniau

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Ionawr 2005.

Os cofiwch, crybwyllais yn [rhifyn Rhagfyr 2004] ychydig o hanes  John Thomas, y ffotograffydd enwog  o’r Cambrian Gallery, Lerpwl, yn galw heibio ein bro i dynnu lluniau grwpiau o chwarelwyr, adeiladau pwysig a.y.y.b. Yn ffodus iawn i ni, cofnododd JT ei hanes yn yr ardal hon, a sawl ardal arall o ran hynny, mewn dyddlyfr sy’n dyddio o’r 1860au  ymlaen. Fel ei luniau, mae ei nodiadau yn rhai tra diddorol ac yn rhoi darlun gwych a gwedd wahanol inni o’i anturiaethau gyda’i gamera. Credaf eu bod yn werth eu dyfynnu yma.

Casgliad John Thomas, Llyfgrell Genedlaethol Cymru. "Gan edrych o'r Graig Ddu"
Dyma ran o’i gofnodion o’r flwyddyn 1868:

"Ar wahoddiad taer fy nghyfaill Mr. J.N. Edwards o Gynwyd (yr oedd wedi gwerthu lliaws o’m darluniau cyn hyn) aethum i Ffestiniog. Yr oedd wedi cymryd room yno i wneud fframiau a gwerthu’r darluniau a phethau eraill.Wedi cyrraedd yno, aeth yn gytundeb rhyngom i fynd trwy liaws o’r chwarelau i gymryd grŵps o’r gweithwyr yn yr awr ginio.Yr oeddwn i gael tâl am y darlun ac yntau am y ffram. Yr oeddwn i’n meddwl mai ef oedd yn cael y fantais orau, yntau yn meddwl fel arall, ond ni bu dim ymrafael.
 

Yr wyf yn cofio mynd i chwarel y Diffwys ryw foregwaith, ac wedi cael caniatâd yr awdurdodau, ac ar ôl mynd trwy’r gwaith i wahodd y gweithwyr i fan penodol, ac wedi gosod y grŵp mewn safle priodol, eis i’r offis a gofynais a welent hwy i fod yn dda ddod i eistedd yn eu plith, ac ufuddasant ar unwaith, ac yr oedd yno foneddiges, a boneddwr mewn tipyn o oed a gwallt gwyn llaes, heblaw gwŷr arferol yr offis , -a chymerwyd y grŵp; ac erbyn holi, Mr. Hugh Owen a’i briod, wedi hynny Syr Hugh Owen o Lundain oedd y dieithriaid.
 

Rhyw dro wedi hyn yr oeddwn yn yr un chwarel, yn cymryd darlun arall ganol dydd, aeth yn llongddrylliad, neu o leiaf yn gamera-ddrylliad arnaf; fel hyn y bu- wedi gosod y gweithwyr ar waelod yr inclên, ac erbyn mynd yn fy ôl i gael golwg deg arnynt, teimlwn fod y safle yr oeddwn ynddo yn rhy isel, a chan fod yn ymyl wagenni llawn o lechi, anturiais i fynd i osod y stand a’r camera ar un o’r rhai hyn er cael bod yn uwch, a phan yn mynd i’r lle tywyll, i gyrchu’r plât, clywn waedd a chwerthin,ac ar ol mynd allan gwelwn fod y camera yn deilchion ar lawr, awel o wynt ddaeth heibio heb ofyn caniatâd. Ar ôl munud o edrych arno, gwaeddais nad oedd yn fawr gwaeth, ac os byddent hwy yn yr un fan erbyn chwech o’r gloch y cymerwn hwynt wedyn, ac wedi cael gwasanaeth asiedydd, glud a hoelion, yr oeddwn yno mewn pryd a thynnwyd y grŵp.
 

Mae Mr J.N.Edwards wedi aros yn yr ardal hyd heddiw, ac wedi llwyddo o ddechreuad bychan fel y soniwyd, i fod yn un o’r masnachwyr mwyaf cyfrifol yn y lle –sy’n brawf amlwg o ddiwydrwydd a gonestrwydd wrth drin y byd. Mae hefyd wedi dwyn mab i fyny’n arlunydd, wedi rhoi pob manteision iddo yn ei anturiaeth ac y mae J.Kelt Edwards yn un o’r young artists mwyaf  addawol, ac yn cymryd diddordeb neilltuol mewn pethau Cymreig, rhwydd hynt iddo."

Fel y gŵyr rhai ohonoch, cedwid masnachdy Berlin House gan J.N.Edwards a’i deulu am flynyddoedd lawer a cheir tipyn o’i hanes ef a Kelt ei fab yn ogystal â rhai arluniau yng nghyfrol Goleuo’r Sêr (1994) gan y diweddar gyfaill Ted Breeze Jones. Gresyn na chofnodwyd nifer yr archebion a dderbyniodd oddi wrth chwarelwyr y Diffwys, ynte? Pa fodd bynnag, os cofiaf yn iawn y mae’r llun a dynnodd o’r chwarelwyr ar waelod yr inclên yng nghasgliad J.W.Jones yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Pont y Rhiw, 1875"
Gyda llaw, bu John Thomas yn ein bro ar sawl achlysur arall hefyd ac fel y dywedais o’r blaen tynnodd luniau o’r chwarelwyr yn teithio adref ar drên bach y Llan un tro. Yn  ogystal, tynnodd ychydig luniau o bontydd y plwyf , y ddwy reilffordd bach, capeli a gweinidogion, eglwysi ac ysgolion, tref y Blaenau a sgwâr y Llan, pobl yr ardal, a sawl peth arall.

Yn ôl ei nodiadau am 1879, ac ar ôl sawl ymweliad  â’n bro dywed:

"Yr oedd y Llan yn bentre go fawr cyn bod ond rhyw ychydig o dai gwasgaredig yn y Blaenau, ac yma byddai’r farchnad yn cael ei chynnal a phobol y Blaenau yn dod iddi, ond erbyn hyn y mae’r ferch wedi mynd yn fwy na’r fam, a gwŷr a gwragedd y Llan yn gorfod mynd i’r Blaenau i ymofyn llawer o’u angenrheidiau…
 

Ond rhaid dychwelyd i’r Llan os ydych am fwynhau ychydig seibiant i weld natur  yn ei phrydferthwch... Nid oedd angen am arweinydd i fynd [at Bulpud Huw Llwyd] os byddech wedi galw yng ngwesty’r Pengwern Arms i geisio bwyd neu ddiod. Yr oedd yno ar y pryd fath o gi defaid wedi cael ei ddysgu i’ch tywys ar hyd y llwybr at y ceunant o’ch blaen, a dychwelai’n ôl heb i neb yngan gair wrtho. Ond os nad oeddech wedi bod yn y gwesty ni wnai yr un sylw ohonoch. Yr oedd yno gi arall, gwerth sôn amdano, yn y ffermdy o dan y fynwent, a fedrai droi olwyn, a’r olwyn honno’n troi’r fuddai gorddi yn y llaethdy. Gwelais ef wrth y gwaith, ac ni welais y fath beth cynt na chwedyn. Yr wyf yn deall fod yr awdurdodau gwladol wedi ymyrryd am eu bod yn ei ystyried yn greulonder â’r anifail."

Dau sylw bach cyn cloi. Os nad wyf yn cyfeiliorni, cedwid ci neu gŵn ar gyfer corddi ar fferm Bwlch Iocyn ar un adeg o’i hanes. Yn ail, byddai’r Abbey Arms yn cadw ci ar gyfer tywys pobl ddiarth  ogylch y lle, hefyd. Onid oes llun cerdyn post ohono yn eistedd y tu allan i’r dafarn,’dwch?

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon