Showing posts with label trafnidiaeth. Show all posts
Showing posts with label trafnidiaeth. Show all posts

24.4.25

Stolpia -Cludo a Lluniau

Mwy o Hanes y Transfformar

Yn dilyn fy strytyn yn rhifyn Chwefror am y trawsnewidydd (transformer) a gyrhaeddodd Stesion London ym mis Chwefror 1961 a’m ymholiad sut yr aeth oddi yno i bwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau, derbyniais wybodaeth ddiddorol oddi wrth Eifion Lewis, a Brian Owen amdano. 

Dywedodd y ddau mai cwmni enwog Pickfords a fu’n gyfrifol am ei gludo i lawr yno a hynny ar un o’u cerbydau pwrpasol gyda dwy lori ar bob pen iddo. Dywedwyd wrthyf bod ffilm ohono i’w weld ar YouTube hefyd. 

Wrth edrych arni hi sylwais mai 1962 oedd dyddiad y ffilm a’i bod yn dywydd hafaidd pan y trosglwyddwyd o, gan fod y plant ger yr orsaf mewn crysau ysgafn a cheid dail ar y coed. Gwyddwn mai ym mis bach 1961 oedd yr adroddiad am yr un yn y North Wales Weekly News, ac felly, y cwestiwn oedd – a oedd y pwerdy wedi derbyn dau ohonynt, y cyntaf y mis Chwefror 1961 a’r llall rhywdro yn haf 1962? Deallais mai dyna a oedd wedi digwydd. 


 

Y Ffotograffydd Isaac Hughes 

Bum yn gwrando ar sgwrs ddifyr yng Ngwesty Seren (Bryn Llywelyn) gan Gareth Roberts, Menter y Fachwen yn ddiweddar. Testun ei sgwrs oedd Isaac Hughes, un o hen ffotograffwyr Cymru. Un o Dyserth, Sir Ddinbych oedd yn wreiddiol, ond yn Beck Road, Lerpwl oedd ei stiwdio erbyn 1869. 

Daeth i’r Blaenau y pryd hwnnw gyda’i gamera a thynnu lluniau yn ein chwareli. Dywedir iddo ymweld â Chwarel Llechwedd a thynnodd amryw o luniau o’r chwarelwyr yno. Serch hynny, bu nifer o’r gweithwyr yn aflonydd a gwingo tra y tynnid y lluniau, ac roedd un hogyn wedi rhoi rhaff am wddw hen chwarelwr mewn hwyl, ac un arall fel pe tai yn bwgwth taro pen un gyda gordd.

Yn yr 1980au ar ôl i deulu symud i dŷ yn Thomas Street, Llanberis, canfuwyd rhai cannoedd o blatiau gwydr gyda ffotograffau arnynt yn yr atig. Daethpwyd i’r casgliad yn ddiweddarach mai ffotograffau Isaac Hughes oeddynt. 

Dyma un enghraifft. Sylwer ar y rhes flaen yn eistedd ar gasgenni powdwr du.
O.N. Tybed a oes lluniau o waith Isaac Hughes ar ôl yn y Blaenau? Cysylltwch os gwyddoch am rai.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025




21.4.25

Y Gymdeithas Hanes -Y Trên Grêt

Daeth Ken Robinson i annerch aelodau a chyfeillion y Gymdeithas yn Ysgol Maenofferen. Gareth T Jones oedd y cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad anrhydeddus i’r darlithydd gan nodi ei gyfraniad fel prifathro yn y fro hon am bymtheg mlynedd. Mae Ken yn hanu o Borthmadog gan ddilyn gyrfa fel athro a bu’n bennaeth Ysgol Bro Cynfal yn Llan o 1991 hyd ei ymddeoliad yn 2006. 

Roedd rhan helaeth o’r gynulleidfa yn ei nabod wrth gwrs a chafodd groeso cynnes. Testun ei sgwrs oedd Y Trên Grêt yn y Blaenau a chafwyd noson o nid yn unig gael clywed y darlithydd, ond cafwyd ychwanegiadau a gwybodaeth hefyd gan y gynulleidfa. Does ryfedd fod y Cadeirydd wedi disgrifio'r cyfarfod fel ‘noson o nostalgia’ a byddai pawb yn cytuno efo hynny! 

Roedd ei destun nid yn unig yn cynnwys safle ac adeilad y Stesion Grêt yn y Blaenau ond hefyd arolwg o’r hen linell oedd yn cysylltu’r Blaenau efo’r Bala … llinell a fu unwaith yn cysylltu pentrefi’r fro. Cyn dyfodiad y rheilffordd i’r Bala roedd Trên Bach y Llan eisoes wedi bod yn cario pobl rhwng Llan a’r Blaenau o ganol y 1860au. 

Ymgorfforwyd y lein newydd trwy Ddeddf Rheilffordd Bala a Ffestiniog yn 1873 a thrwy addasu rheilffordd trên bach y llan daeth y trên fawr drwodd i’r Blaenau yn 1873. 

Trosglwyddwyd y rheilffordd i ofal y Great Western Railway yn 1911 a gyda chenedlaetholi’r rheilffyrdd ym 1948 i ofal Ardal Orllewinol Rheilffyrdd Prydeinig. 

Caewyd y lein yn 1960 i deithwyr ac i gario nwyddau yn 1961. Roedd adeiladu Llyn Celyn yn golygu boddi rhan o’r cledrau ac roedd hynny yn ergyd fawr i fodolaeth y rheilffordd. Roedd y trên yn dringo i uchder o 1,278 troedfedd (390m) ac roedd hynny ger traphont fawr Blaen y Cwm, uwchlaw Cwm Prysor. 

Addaswyd rhan o’r rheilffordd rhwng Trawsfynydd a’r Blaenau er mwyn cario gwastraff niwclear o’r Atomfa ac yn 1964, unwyd y rheilffordd â lein Dyffryn Conwy o’r Blaenau er mwyn hwyluso cario’r gwastraff i ogledd Lloegr yn Sellafield.

Aeth y darlithydd a ni ar daith trwy ddarluniau, i’r holl orsafoedd oedd ar y lein a difyr oedd cael gweld hen orsaf Manod, wedi ei hailenwi yn Llanffridd, yn y ffilm Conspirator (1949) gydag Elizabeth Taylor a Robert Taylor. Dangoswyd hen luniau arbennig o’r rheilffordd ac roedd yn wych cael gweld y rheini. Noson arbennig arall.

Yn y llun gwelir tyrfa wedi ymgasglu yn 1961 i weld yr ymadawiad olaf o’r Blaenau i’r Bala yn 1961    

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025

 

 

28.3.25

Stolpia- Prysurdeb y 1960au

I’r rhai ohonoch a brofodd y cyfnod 1958-1965 yn y fro, yn ddiau, daw'r holl weithgarwch, prysurdeb a bwrlwm a fu gydag adeiladu Pwerdy Tanygrisiau ac Atomfa Trawsfynydd yn ôl i’r cof. 

Roedd busnesau’r ardal yn ffynnu gan fod rhai cannoedd o bobl yn tyrru mewn i’r Blaenau a’r cyffiniau i chwilio am waith gyda chwmnïau McAlpine, Cementation, Laing, ayyb. Cofiwn i ni fel hogiau weld un dyn yn eistedd ar gwrb yn yr hen Stesion London ac yntau wedi dod yr holl ffordd o’r Alban i geisio gwaith ac inni sylwi mai dwy goes artiffisial a oedd gan y truan. 

Cofiaf hefyd bod amryw o Wyddelod ac Albanwyr yn lletya yma, ac yn wir, amryw wedi cartrefu yn y Rhiw a Glan-y-pwll. Yn y cyfnod hwn cynyddodd y drafnidiaeth ar ein ffyrdd a phrysurodd y rheilffordd hefyd. Dyma un hanesyn difyr am y prysurdeb hwnnw:

Ym mis Chwefror 1961, a phan yn y broses o adeiladu pwerdy Trydan-Dŵr Tanygrisiau, defnyddiwyd injan diesel gref i ddod â thrawsnewidydd (transformer) mawr yn pwyso 123 tunnell ar hyd y rheilffordd yr holl ffordd o Hollinwood ger Oldham i’r Blaenau. 

Dywedir mai hon oedd yr injan locomotif diesel gyntaf i ddod fyny drwy’r Twnnel Mawr, ac yn ôl y sôn, dim ond cwta fodfedd oedd i sbario ar bob ochr y trawsnewidydd anferth hwn wrth iddo ddod drwy’r twnnel. Pa fodd bynnag, cyrhaeddodd Stesion London yn ddiogel ac aethpwyd â fo i’r pwerdy yn weddol ddidrafferth, medda nhw. Tybed pwy all ddweud wrthym sut yr aeth yr honglad mawr hwn o’r orsaf i lawr i’r pwerdy?

Y llwyth yn dod allan o’r Twnnel Mawr gydag amryw bobol yn ei wylio mewn syndod


Dyma’r trên a’r llwyth yn mynd heibio’r Dinas ar ei ffordd i’r orsaf

Sylwer ar yr adeiladau a fyddai yng ngwaelod Tomen Fawr, Chwarel Oakeley yr adeg honno, sef hen gartref Mr Rufeinias Jones a’i wraig ar y chwith, ac os cofiaf yn iawn,  hen gartref Jonah Wyn ar y dde iddo, a sied injan yng ngodre Inclên Fawr Dinas. (Diolch i Megan Jones, Bryn Bowydd am y lluniau).
- - - - - - - - -

Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 

25.7.24

Stolpia- Damwain ar yr Allt Goch

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Ar ôl imi ysgrifennu ychydig o hanes yr hofrennydd yn cael damwain yng Nghwm Croesor yn 1949, cofiais ddarllen am ddamwain o fath arall a ddigwyddodd yn 1928.

Dyma gefndir y stori: Ychydig ar ôl 7 bore dydd Iau, 23 Chwefror, 1928, roedd amryw o weithwyr ar lori fodur yn y Llan ac ar eu ffordd i weithio ar osod polion a gwifrau trydan i gwmni Siemens Bros ym Maentwrog. 

Ar y bore hwn roedd tua 19 o ddynion ar lori Commercial Karrier a oedd yn eiddo i Jack Davies, Rock Terrace, ac yn cael ei gyrru gan William Pugh, Glan Barlwyd, Glan y Pwll.

Yn ddisymwth, a thra’n teithio i lawr yr Allt Goch, torrodd siafft yrru’r lori a chollodd y gyrrwr reolaeth arni hi nes yr oedd yn rhedeg i lawr ar gyflymder. Ceisiodd ei orau i’w rheoli, ond bu’n aflwyddiannus, er y medrodd, rhywfodd neu’i gilydd, ei throi fel ei bod yn taro yn erbyn y wal. Yn y gwrthdrawiad trodd y lori drosodd ddwy waith.

O ganlyniad, taflwyd y dynion oddi arni hi, ac ar wahân i un dyn, anafwyd pob un o’r lleill. Bu’r gyrrwr yn ffodus nad oedd wedi derbyn anafiadau drwg, a daeth ohoni gydag archoll fechan ar ochr uchaf ei lygad. Trwy ryw drugaredd, ni laddwyd neb yn y digwyddiad dychrynllyd. Yn y cyfamser, medrodd llygad-dyst anfon am Dr. Lloyd Jones o’r Llan atynt, a galwyd am ambiwlans o’r Blaenau, ac aed ag un-ar-ddeg ohonynt i’r Ysbyty Coffa. Cafodd 6 ohonynt fynd adref ychydig yn ddiweddarach ar ôl cael eu harchwilio yn drylwyr. 

Diolch i Gareth T. Jones, am anfon copi o’r llun imi

Pa fodd bynnag, cadwyd Bobby Jones, (21) Clynnog; John Williams (55) Porthmadog; William Hugh Jones (42) Talsarnau; William John Jones (23) Porthmadog; Robert John Williams (36) Caernarfon yn yr ysbyty. Gweinyddwyd arnynt yno gan Dr. Morris a chynorthwyd ef gan yr Arolygydd J. F. Evans a Sarjiant Roberts.

O.N. – Difyr oedd darllen yr hanesyn gan Cynan am hen dŷ Bwlch y Maen yr holais amdano yn rhifyn Ebrill. Tybed pa bryd aeth yr hen fwthyn yn wag ?

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2024

28.10.23

Cynghorydd Prysuraf Gwynedd?

Diolch yn fawr unwaith eto i Elfed Wyn ap Elwyn, sy’n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw, am gytuno i rannu rhywfaint o’i hanes diweddar.

Mae’r haf wedi bod yn un eithaf prysur i mi, wrth i mi wneud fy ngwaith gyda’r cyngor, gweithio swyddi eraill, a threulio amser gyda fy nheulu.

Dyma’n fras dipyn o bethau bues i’n gwneud:

Roedd dipyn o lefydd angen cadarnhad gydag ail-beintio neu paentio llinellau melyn o’r newydd;  cafodd rhai o’r llinellau melyn eu paentio ar Fedi’r 1af,  ger tai Dolawel, Rhiwbryfdir.
Mae dwy broblem y codi’n eitha’ aml, sef parcio a baw cŵn, ac mae dipyn o’n amser i fel arfer yn cael ei neilltuo i fynd ar ôl y problemau yma! 

Trafaeliais o gwmpas y ward nifer o weithiau yn siarad a thrafod problemau o ddydd i ddydd gyda phobl a busnesau. Trefnwyd arwydd dim tipio slei ar y ffordd i Chwarel Maenofferen. 

Elfed yn anerch Rali Annibyniaeth i Gymru, Caernarfon 2019. Llun- Ifan James

Bu’r warden baw cwn yn y ward er mwyn:
1. Edrych at ddatrys bobl sydd wedi bod a cwn o gwmpas yn baeddu
2. Gosod 2 fin newydd yn Rhiwbryfdir a Glanypwll
Bu’m mewn cyfarfod i drafod glanhau’r llinell drên rhwng Blaenau a Thrawsfynydd -mae mwy o fanylion mewn ysgrif arall yn y rhifyn hwn.

Dilyn y trafodaethau i gael y bws hwyr rhwng Blaenau a Phorthmadog, dilyn fyny’r cyfarfod i edrych ar ddatblygiad gyda’r T22. Cysylltu gyda Liz Roberts (Cynghorydd Sir Conwy) a Thrafnidiaeth Conwy – a chyfarfod er mwyn trafod cael Bws Fflecsi lawr i Flaenau Ffestiniog. Trefnwyd cyfarfod gyda Trafnidiaeth Cymru i drafod dyfodol yn trên rhwng y Blaenau a Llandudno.

Dwi wedi dechrau glanhau arwyddion stryd rhwng Dolrhedyn a Glanypwll, fel rhan o ddiwrnod ‘Glanhau Stepan drws’ - gobeithio cynnal diwrnod fel yma unwaith pob deufis.

Ambell weithgaredd arall:
Helpu bobl gyda materion personol sy’n codi; Cyfarfod efo criw sydd eisiau creu lle i chwarae pêl-rwyd; Mynd ati i drafod cael grantiau i adeiladau a chlybiau yn y dre’; Edrych ar y ffordd i ddatblygu parc yn Fron Fawr; Dilyn fyny ar faterion sy’n codi gydag ADRA; Cysylltu â’r tîm glanhau i dacluso o gwmpas y ward; Cyfarfod efo’r Cyngor Tref 07/08 i drafod y system CCTV; Trafod materion gyda chymdeithasau ym Mlaenau.

Mae nifer o bethau eraill dwi wedi’i wneud ond ddim yn gallu cofio bob dim, a llawer o achosion hefyd sy’n dal i fynd ymlaen.

Tu allan i waith y cyngor bues i'n gweithio mewn ambell swydd wahanol, o weini bwyd, i arddio a ffermio, a braf hefyd oedd gallu cipio dipyn bach o ddiwrnodau prin i fwynhau gydag Anwen a’r ‘feilliaid yn mynd i’r Eisteddfod ym Moduan, a mynd am dro o gwmpas Gwynedd.

Os ydych chi eisiau codi unrhyw fater cofiwch godi’r ffôn neu e-bostio cynghorydd.elfedwynapelwyn@gwynedd.llyw.cymru - hapus i drafod a helpu unrhyw amser.

(Gwahoddwyd pob un o bedwar cynghorydd sir y dalgylch i yrru diweddariad. Gol.)

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2023

Y cynghorydd Glyn Daniels o rifyn Hydref