12.1.25

Traphont Blaen y cwm

Mi es am dro yn ddiweddar i weld traphont Cwm Prysor oedd yn cario yr hen reilffordd o Drawsfynydd i’r Bala. Doeddwn erioed wedi bod yn ei gweld o’r blaen ond mae’n ddigon hawdd i’w chyrraedd ac mae na rywbeth hollol swreal am y bont hynod hon. Aeth cymaint o lafur i’w hadeiladu ond mae bellach yn segur fel rhyw atgof o’r hyn a fu. Un o hynodion ardal Llafar Bro yn sicr.

Mae traphont (viaduct) Blaen y cwm neu draphont Cwm Prysor fel y’i gelwid mewn cyhoeddiadau swyddogol, yn croesi pen uchaf y cwm gyda golygfeydd godidog y lawr y cwm tuag at y Rhinogau. 

Fe'i hadeiladwyd gan Reilffordd y Bala a Ffestiniog. Roedd yn cario un trac ar lein oedd yn rhedeg rhwng Cyffordd y Bala a Blaenau Ffestiniog. Caewyd y rheilffordd yn 1961 a chodwyd y cledrau yn ddiweddarach. Mae'r bont yn cynnwys naw bwa carreg lle'r oedd trenau i deithwyr yn rhedeg o 1882 i 1960, gyda threnau cludo nwyddau yn para tan 1961. 

 

Y draphont hon oedd y bont unigol fwyaf sylweddol ar y llinell … hyd yn oed o’i chymharu â Phont Fawr y Gelli sydd ar yr un trac ond yn y Blaenau! Ym 1953 gwnaed gwaith atgyweirio helaeth lle manteisiwyd ar y cyfle i godi'r parapet ac ychwanegu rheiliau metel ar ei ben. Mae’r bont yn sefyll ar uchder o 1,270 troedfedd sef man uchaf y rheilffordd. 

Boddwyd rhan o’r trac i’r Bala pan godwyd argae Llyn Celyn a boddi Capel Celyn. Pan agorodd y lein Tachwedd 1af 1882, roedd y terminws gogleddol yn Llan Ffestiniog ac oddi yno y trawsgludwyd nwyddau ar linell gul i’r Blaenau ac ar Medi 10fed 1883 agorwyd y trac ar led safonol ar y daith gyntaf i’r Blaenau. Yn 1910 daeth yn lein yn rhan o reilffyrdd y Great Western. 

Wrth deithio ar hyd yr A4212 ar ben uchaf Cwm Prysor medrwn weld yr olygfa, annisgwyl i ymwelwyr yn sicr, o draphont odidog ar fynyddir llwm sydd bellach wedi ei llyncu gan y tirwedd. Mae bron wedi mynd yn angof ond dylai fod yn un o eiconau trafnidiol hynotaf hanes adeiladu rheilffyrdd Cymru. Mae'r bont yn un o ryfeddodau peiriannaeth Fictoraidd sy'n dal i sefyll yn urddasol 122 o flynyddoedd ar ôl ei chodi (1882). Ond er bod croesfannau rheilffordd eraill yng ngogledd Cymru yn cael eu dathlu'n briodol, mae Traphont Blaen y cwm wedi ymddeol i ebargofiant.

Mae llwybr goddefol dros ei naw bwa ac felly mae modd cerdded dros y bont gan ddilyn yr hen drac Ond er ei bod yn gymharol agos at y brif ffordd rhwng Capel Celyn a Thrawsfynydd, mae'r draphont yn aml yn ymddangos yn anodd mynd ati. I’r rhai sy’n mentro ceir golygfeydd gwych i lawr y dyffryn. Mae modd parcio ger Llyn Tryweryn yn y gilfan sydd rhyw hanner milltir o’r bont. Mi wnes i fentro ychydig wythnosau’n ôl ac ar ôl yr haf gwlyb mae angen esgidiau cryfion i gerdded yno!

450 troedfedd ydy rhychwant y bont ac mae Afon Prysor yn rhedeg drwy’r bwa canol. Adeiladwyd y rheilffordd at wasanaeth chwareli Blaenau Ffestiniog ond roedd y lein 22 milltir o’r Blaenau i’r Bala yn achubiaeth i gymunedau ynysig nes adeiladu'r A4212 drwy Gwm Prysor yn 1964. Erbyn canol y 1950au roedd yn mynd yn anodd cynnal y gwasanaeth i deithwyr ac yn 1957 dim ond tri theithiwr y dydd oedd yn defnyddio gorsaf Cwm Prysor. Roedd y rheilffordd hefyd yn rhoi dewis i blant Trawsfynydd os oeddynt am fynychu Ysgol Sir Ffestiniog neu Ysgol y Bala ac roedd nifer yn teithio bob dydd o Traws i’r Bala i fynd i’r ysgol uwchradd. Ond, yr oedd yr ysgrifen ar y mur pan benderfynwyd boddi Capel Celyn a rhan o’r rheilffordd a doedd modd cadw’r rheilffordd ar agor wedyn.

Ar y teledu’n ddiweddar clywais y sylw hwn: "Byddai'n wych pe baen nhw'n ailagor y lein o'r Bala i Ffestiniog. Byddai'n denu llawer o dwristiaid i'r ardal i weld harddwch naturiol a golygfeydd Cymru."  Tasg enfawr ac anhebygol…ond tybed? Ac ystyried y diffyg penderfynu, heb sôn am weithredu, ynglŷn â dyfodol y trac rhwng Blaenau a Traws (gweler Lein Blaenau-Traws) hwyrach mae gadael hen draphont Blaen y cwm yn ei hunigedd ysblennydd sydd orau ac yn safle i rai o gerddwyr y fro …
Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024

 

Y llun du a gwyn: © 2024 James Perry

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon