Showing posts with label GWR. Show all posts
Showing posts with label GWR. Show all posts

20.12.25

Y Gymdeithas Hanes -Cyfnod Olaf y Trên Grêt

Agorwyd tymor Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog eleni gyda sgwrs ardderchog gan Ken Robinson a hynny i gynulleidfa fawr! Ei destun oedd Cyfnod Olaf y Trên Grêt. (Dilyniant i'w sgwrs yn rhaglen 2024-25)

 

Caewyd y rheilffordd rhwng Blaenau a’r Bala ym 1961 ond oherwydd agor yr Atomfa yn Nhrawsfynydd dechrau 1960au cytunwyd i anfon rhan o’r gwastraff niwclear ar y trên yr holl ffordd i Windscale (Sellafield yn ddiweddarach). 

Defnyddiwyd rhan o’r hen reilffordd i 'gario’r trên oedd yn cario’r gwastraff' trwy Llan a thrwy ganol tref Blaenau Ffestiniog ac i lawr Dyffryn Conwy. 

Yn 1964 crëwyd cyswllt newydd yn y Blaenau i ymuno'r hen stesion grêt gyda rheilffordd Dyffryn Conwy.

Un o'r lleoliadau mwyaf adnabyddus ar y gangen yw'r draphont yn Nhanymanod sy’n gyfochrog a’r A470 sy’n mynd trwy ganol y dref. Yn wreiddiol pont drestl bren oedd hon.

 

Diwedd y gangen ger Trawsfynydd oedd y 'CEGB Siding', a gorsaf fechan oedd yn cynnwys craen, â chraen uwchben ar gyfer trosglwyddo'r fflasgiau niwclear i’r trên. Mae'r llinell wreiddiol i Drawsfynydd a'r Bala yn troi i'r chwith ac yn gorffen ar safle Llyn Trawsfynydd Halt yn y coed. 

 

Darlith ddiddorol gan awdurdod ar y rheilffyrdd hyn a dw i’n siŵr bod ganddo lawer mwy!

Cynhelir pob cyfarfod yn Ysgol Maenofferen a bydd croeso i bawb fel arfer. Geliir prynu cerdyn aelodaeth sy’n cynnwys 7 darlith am £6 neu bunt y ddarlith wrth y drws. Mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar i Elusen Freeman Evans am ei nawdd.

TVJ

- - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

 

12.1.25

Traphont Blaen y cwm

Mi es am dro yn ddiweddar i weld traphont Cwm Prysor oedd yn cario yr hen reilffordd o Drawsfynydd i’r Bala. Doeddwn erioed wedi bod yn ei gweld o’r blaen ond mae’n ddigon hawdd i’w chyrraedd ac mae na rywbeth hollol swreal am y bont hynod hon. Aeth cymaint o lafur i’w hadeiladu ond mae bellach yn segur fel rhyw atgof o’r hyn a fu. Un o hynodion ardal Llafar Bro yn sicr.

Mae traphont (viaduct) Blaen y cwm neu draphont Cwm Prysor fel y’i gelwid mewn cyhoeddiadau swyddogol, yn croesi pen uchaf y cwm gyda golygfeydd godidog y lawr y cwm tuag at y Rhinogau. 

Fe'i hadeiladwyd gan Reilffordd y Bala a Ffestiniog. Roedd yn cario un trac ar lein oedd yn rhedeg rhwng Cyffordd y Bala a Blaenau Ffestiniog. Caewyd y rheilffordd yn 1961 a chodwyd y cledrau yn ddiweddarach. Mae'r bont yn cynnwys naw bwa carreg lle'r oedd trenau i deithwyr yn rhedeg o 1882 i 1960, gyda threnau cludo nwyddau yn para tan 1961. 

 

Y draphont hon oedd y bont unigol fwyaf sylweddol ar y llinell … hyd yn oed o’i chymharu â Phont Fawr y Gelli sydd ar yr un trac ond yn y Blaenau! Ym 1953 gwnaed gwaith atgyweirio helaeth lle manteisiwyd ar y cyfle i godi'r parapet ac ychwanegu rheiliau metel ar ei ben. Mae’r bont yn sefyll ar uchder o 1,270 troedfedd sef man uchaf y rheilffordd. 

Boddwyd rhan o’r trac i’r Bala pan godwyd argae Llyn Celyn a boddi Capel Celyn. Pan agorodd y lein Tachwedd 1af 1882, roedd y terminws gogleddol yn Llan Ffestiniog ac oddi yno y trawsgludwyd nwyddau ar linell gul i’r Blaenau ac ar Medi 10fed 1883 agorwyd y trac ar led safonol ar y daith gyntaf i’r Blaenau. Yn 1910 daeth yn lein yn rhan o reilffyrdd y Great Western. 

Wrth deithio ar hyd yr A4212 ar ben uchaf Cwm Prysor medrwn weld yr olygfa, annisgwyl i ymwelwyr yn sicr, o draphont odidog ar fynyddir llwm sydd bellach wedi ei llyncu gan y tirwedd. Mae bron wedi mynd yn angof ond dylai fod yn un o eiconau trafnidiol hynotaf hanes adeiladu rheilffyrdd Cymru. Mae'r bont yn un o ryfeddodau peiriannaeth Fictoraidd sy'n dal i sefyll yn urddasol 122 o flynyddoedd ar ôl ei chodi (1882). Ond er bod croesfannau rheilffordd eraill yng ngogledd Cymru yn cael eu dathlu'n briodol, mae Traphont Blaen y cwm wedi ymddeol i ebargofiant.

Mae llwybr goddefol dros ei naw bwa ac felly mae modd cerdded dros y bont gan ddilyn yr hen drac Ond er ei bod yn gymharol agos at y brif ffordd rhwng Capel Celyn a Thrawsfynydd, mae'r draphont yn aml yn ymddangos yn anodd mynd ati. I’r rhai sy’n mentro ceir golygfeydd gwych i lawr y dyffryn. Mae modd parcio ger Llyn Tryweryn yn y gilfan sydd rhyw hanner milltir o’r bont. Mi wnes i fentro ychydig wythnosau’n ôl ac ar ôl yr haf gwlyb mae angen esgidiau cryfion i gerdded yno!

450 troedfedd ydy rhychwant y bont ac mae Afon Prysor yn rhedeg drwy’r bwa canol. Adeiladwyd y rheilffordd at wasanaeth chwareli Blaenau Ffestiniog ond roedd y lein 22 milltir o’r Blaenau i’r Bala yn achubiaeth i gymunedau ynysig nes adeiladu'r A4212 drwy Gwm Prysor yn 1964. Erbyn canol y 1950au roedd yn mynd yn anodd cynnal y gwasanaeth i deithwyr ac yn 1957 dim ond tri theithiwr y dydd oedd yn defnyddio gorsaf Cwm Prysor. Roedd y rheilffordd hefyd yn rhoi dewis i blant Trawsfynydd os oeddynt am fynychu Ysgol Sir Ffestiniog neu Ysgol y Bala ac roedd nifer yn teithio bob dydd o Traws i’r Bala i fynd i’r ysgol uwchradd. Ond, yr oedd yr ysgrifen ar y mur pan benderfynwyd boddi Capel Celyn a rhan o’r rheilffordd a doedd modd cadw’r rheilffordd ar agor wedyn.

Ar y teledu’n ddiweddar clywais y sylw hwn: "Byddai'n wych pe baen nhw'n ailagor y lein o'r Bala i Ffestiniog. Byddai'n denu llawer o dwristiaid i'r ardal i weld harddwch naturiol a golygfeydd Cymru."  Tasg enfawr ac anhebygol…ond tybed? Ac ystyried y diffyg penderfynu, heb sôn am weithredu, ynglŷn â dyfodol y trac rhwng Blaenau a Traws (gweler Lein Blaenau-Traws) hwyrach mae gadael hen draphont Blaen y cwm yn ei hunigedd ysblennydd sydd orau ac yn safle i rai o gerddwyr y fro …
Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024

 

Y llun du a gwyn: © 2024 James Perry

7.7.24

Stolpia- Hen Ffilmiau Eto

Dyma barhau ag ychydig o storïau am ein bro a recordiwyd ar rai ffilmiau o’r gorffennol. Dechreuaf  gydag un yn dyddio o’r 1940au. Tybed faint o’r to hŷn sydd yn cofio’r digwyddiad hwn a ddangoswyd ar Pathe News 1949? Yn dilyn, ceir crynhoad o’r stori o bapur newydd Y Rhedegydd, 2 Mehefin,1949:

 “Digwyddodd trychineb i awyren hofran (hofrennydd) yng Nghwm Croesor ganol dydd Mawrth diwethaf. Roedd y gwaith wedi mynd ymlaen yn rhwydd a llwyddiannus iawn am amser pan ddisgynnodd yr helicopter yn sydyn i’r llawr a chafodd y peilot waredigaeth wyrthiol”.

Cefndir y stori hon oedd yr angen i gludo sment a llwch cerrig, a defnyddiau eraill, i atgyfnerthu argae Llyn Cwm Foel, a saif tua 1500 troedfedd uchlaw arwynebedd y môr ymhen uchaf Cwm Croesor, ac a ddefnyddid gynt i gyflenwi dŵr i Bwerdy’r Chwarel a’r pentref. 

Yr hofrennydd Sikorsky yn colli rheolaeth uwchlaw Cwm Foel yn 1949
Cludwyd  y defnydd ar gefn mulod, neu ferlod ar  y dechrau, ond roedd hynny yn waith araf a beichus, ac o ganlyniad, penderfynodd yr awdurdodau i wneud defnydd o hofrennydd. Dim ond rhyw 8 munud a gymerai hon i wneud y siwrnai at y fan lle derbynnid y llwyth. Aeth y diwrnod cyntaf, sef dydd Llun yn bur dda, ond ar y dydd Mawrth, pan oedd chwarter y gwaith wedi ei gyflawni  cwympodd yr helicopter i’r ddaear, er i’r peilot ollwng y llwyth yn glewt i’r ddaear  a cheisio ei harbed, ond aflwyddiant a fu. Yn ffodus iawn, daeth y peilot, Dennis Bryan, 28 mlwydd oed, allan ohoni yn ddianaf er wedi cael cryn sioc. Cwmni o Crewe a oedd yn gyfrifol am y gwaith o gludo’r deunydd gyda’r hofrennydd.

Ceisiwch edrych ar y ffilm er mwyn gweld y digwyddiad cyffrous ac efallai y gwnewch chi adnabod un neu ddau ynddi hi - Bob Owen Croesor yw un. Pwy yw’r llaill ? Cysylltwch os gallwch adnabod rhai ohonynt. Dyma un clip o’r digwyddiad brawychus a welir yn y ffilm.


Trên olaf y GWR o’r Blaenau:

Ffilm boblogaidd gan selogion hanes ein rheilffyrdd yw’r un am siwrnai olaf  trên teithwyr y Great Western Railway o’r Bala i’r Blaenau, ac yn ôl, wrth gwrs, ar 22 Ionawr,1961. Teithiodd  beth wmbredd o bobl o bell ac agos  ar y trên arbennig a daeth ugeiniau o bobl leol i’w gweld yn cyrraedd ‘Stesion Grêt’, degau ohonynt efo’u camerau, camerau sine, a chamerau lluniau llonydd.Wrth edrych ar y ffilm mi wnes adnabod y diweddar Herbert Evans, a fu’n athro arnaf yn Ysgol Glanypwll, Dafydd Lloyd Jones a oedd yn Ysgol Sir ar yr un adeg a fi, ac Emlyn Jones, cefnder David Benjamin, Ann, Billy, Helen a’r diweddar Meirion.

Os hoffech weld y ffilm gyfan ewch ar wefan ‘BFI player’ ar Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Dyma lun llonydd wedi ei dynnu ar yr achlysur.


O.N. – Dim ond un ateb cywir a dderbyniais parthed fy ymholiad am enw’r bwthyn yn y ffilm The Phantom Light (1935), sef oddi wrth Gareth T. Jones, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes. Da iawn Gareth. Y dasg yn rhy anodd i lawer ohonoch! Yr ateb cywir yw Bwlch y Maen. Ei leoliad oedd ar yr ochr dde i‘r ffordd sy’n arwain i bentref Rhyd, Llanfrothen. Roedd ychydig ohono i’w weld rhyw 40 mlynedd yn ôl.

[GWELER ISOD HEFYD]
Hefyd - yn rhifyn Mawrth bu amryfusedd gyda disgrifiad y Trwnc yn Chwarel Oakeley, y ‘Trwnc Mawr’, neu ‘Trwnc y K’, oedd ei enw, wrth gwrs.

Steffan ab Owain

- - - - - - - - -

Annwyl Olygydd
Rwyf eisiau ymateb i'r llun yng ngholofn Steffan parthed y ffilmio yn ardal Tan y Bwlch yn 1935.
Credaf mai y tŷ yn y llun yw Bwlch y Maen, cartref i fy hynafiaid o ochor fy nain - y mae yr hen waliau yn dal i'w gweld ar y ffordd o Dan y Bwlch i gyfeiriad Rhyd.
Roeddym fel teulu mor falch o weld y llun - a gyda llaw y mae y cloc mawr o Fwlch y Maen gennym ni, wedi dod o Danygrisiau heibio i Fwlch y Maen i Nanmor.
Cofion
Cynan

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2024


14.2.20

Crwydro'r Fro

Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn rhoi cyfleoedd i’r aelodau -trwy deithiau cerdded wythnosol- i werthfawrogi, mwynhau a dysgu am y byd o’u cwmpas, drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Bu’r Gymdeithas yng Nghwm Prysor yr haf diwethaf, dan arweiniad Iona Price, Tanygrisiau. Dyma grynodeb, gan drefnydd y gogledd orllewin, John Griffith.


Castell Prysor. Llun- John Griffith
Tua milltir a hanner o ben Cwm Prysor mae cnap amlwg o graig y safai Castell Prysor arno ar un tro.  Y tebyg yw mai castell o’r 12fed ganrif oedd hwn, ac fe wyddwn fod Edward 1af wedi ysgrifennu llythyr yma yn 1284.

Gerllaw’r castell mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig: wyth acer ar hugain genedlaethol bwysig. Mae yma laswelltir corsiog a glaswelltir asidaidd llawn blodau; dyma un o’r darnau gorau o laswelltir llawn blodau ar ôl yng Ngwynedd.

Mae bodolaeth y castell yn dystiolaeth i bwysigrwydd y cwm yn yr oesoedd canol fel llwybr i gadarnleoedd Gwynedd. Cwm gweddol anghysbell ydyw, a gellir dychmygu’r tro ar fyd efo dyfodiad y rheilffordd, y GWR, rhwng y Bala a Ffestiniog yn 1882. Cawsom y fraint o gerdded rhai milltiroedd ar hen lwybr y rheilffordd hon a gaewyd yn y 60au.

O holl reilffyrdd Cymru, y gangen hon oedd un o’r drytaf i’w hadeiladu ac un o’r rhai ddenodd y lleiaf o elw. Cludwyd llechi o’r Blaenau ar y rheilffordd hon yn ogystal â nwyddau a theithwyr wrth gwrs. Dychmygwch y Gadair Ddu ar y trên ar ei ffordd i’r Ysgwrn, dros gan mlynedd yn ôl, yn oedi ymhob gorsaf rhwng Corwen a Thrawsfynydd er mwyn i’r werin gael ei gweld hi...
Diolch i Dylan a Mair Huws, Bryn Celynog, am gytuno i ni droedio eu tir i weld y Castell.

---

Mae Clwb Mynydda Cymru yn hyrwyddo dringo a cherdded mynydd yn y Gymraeg.

‘Nôl ym mis Hydref, bu’r clwb yn crwydro’r Moelwynion. Daw’r detholiad yma o adroddiad Myfyr Tomos, Llawrplwy’ ar wefan y clwb.


Aeth yr aelodau i fyny i Gwmorthin cyn gwahanu yn ddwy garfan. Un criw yn mynd ymlaen i Chwarel Rhosydd. Y criw arall yn cael sgrambl ddifyr iawn o lan y llyn i gopa Moel yr Hydd.


Yna i ben y Garn Lwyd sef y copa bach ar grib ogleddol y Moelwyn Mawr. I fyny'n serth wedyn am y Mawr. Y cymylau yn cau a'r gwynt yn cryfhau, felly lawr a ni a chael cinio cysgodol ar Graig Ysgafn.

Y Moelwyn Mawr a'r Garnedd Lwyd. Llun- Paul W
Lawr i Fwlch Stwlan yna'n serth i ben y Moelwyn Bach, cyn troi'n ôl am y bwlch ac i lawr i Stwlan! Cawod go iawn yma ond ddim am hir wrth rhyw lwc. Lawr heibio i Chwarel Twm Ffeltiwr a Chlogwyn yr Oen a phanad haeddiannol yng Nghaffi'r Llyn yn Tangrish.
------------------------------


Addasiad o erthygl a gyhoeddwyd yn rhifyn Ionawr 2020

Hir Oes i'r Moelwyn Mawr