I’r rhai ohonoch a brofodd y cyfnod 1958-1965 yn y fro, yn ddiau, daw'r holl weithgarwch, prysurdeb a bwrlwm a fu gydag adeiladu Pwerdy Tanygrisiau ac Atomfa Trawsfynydd yn ôl i’r cof.
Roedd busnesau’r ardal yn ffynnu gan fod rhai cannoedd o bobl yn tyrru mewn i’r Blaenau a’r cyffiniau i chwilio am waith gyda chwmnïau McAlpine, Cementation, Laing, ayyb. Cofiwn i ni fel hogiau weld un dyn yn eistedd ar gwrb yn yr hen Stesion London ac yntau wedi dod yr holl ffordd o’r Alban i geisio gwaith ac inni sylwi mai dwy goes artiffisial a oedd gan y truan.
Cofiaf hefyd bod amryw o Wyddelod ac Albanwyr yn lletya yma, ac yn wir, amryw wedi cartrefu yn y Rhiw a Glan-y-pwll. Yn y cyfnod hwn cynyddodd y drafnidiaeth ar ein ffyrdd a phrysurodd y rheilffordd hefyd. Dyma un hanesyn difyr am y prysurdeb hwnnw:
Ym mis Chwefror 1961, a phan yn y broses o adeiladu pwerdy Trydan-Dŵr Tanygrisiau, defnyddiwyd injan diesel gref i ddod â thrawsnewidydd (transformer) mawr yn pwyso 123 tunnell ar hyd y rheilffordd yr holl ffordd o Hollinwood ger Oldham i’r Blaenau.
Dywedir mai hon oedd yr injan locomotif diesel gyntaf i ddod fyny drwy’r Twnnel Mawr, ac yn ôl y sôn, dim ond cwta fodfedd oedd i sbario ar bob ochr y trawsnewidydd anferth hwn wrth iddo ddod drwy’r twnnel. Pa fodd bynnag, cyrhaeddodd Stesion London yn ddiogel ac aethpwyd â fo i’r pwerdy yn weddol ddidrafferth, medda nhw. Tybed pwy all ddweud wrthym sut yr aeth yr honglad mawr hwn o’r orsaf i lawr i’r pwerdy?
![]() |
Y llwyth yn dod allan o’r Twnnel Mawr gydag amryw bobol yn ei wylio mewn syndod |
![]() |
Dyma’r trên a’r llwyth yn mynd heibio’r Dinas ar ei ffordd i’r orsaf |
Sylwer ar yr adeiladau a fyddai yng ngwaelod Tomen Fawr, Chwarel Oakeley yr adeg honno, sef hen gartref Mr Rufeinias Jones a’i wraig ar y chwith, ac os cofiaf yn iawn, hen gartref Jonah Wyn ar y dde iddo, a sied injan yng ngodre Inclên Fawr Dinas. (Diolch i Megan Jones, Bryn Bowydd am y lluniau).
- - - - - - - - -
Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon