Showing posts with label Sian Northey. Show all posts
Showing posts with label Sian Northey. Show all posts

8.9.18

Beirdd y Banc Bwyd


Trwy gydol mis Mehefin eleni bu’r bardd a’r awdur Sian Northey yn Fardd Preswyl ym manc bwyd Blaenau Ffestiniog. Bu’n gwirfoddoli yno ac yn ysgrifennu am y profiad a bu hefyd yn cynnal cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda phlant mewn tair ysgol yn yr ardal – Ysgol y Moelwyn, Ysgol Manod ac Ysgol Bro Hedd Wyn. 

Roedd oedran y disgyblion yn amrywio o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 8. Byddant hefyd yn cydweithio gyda’r artist gweledol Mari Gwent o Lanuwchllyn i baratoi gwaith fydd yn ymgorffori rhai o’r cerddi, a bydd y gwaith hwnnw i’w weld yn y llyfrgell Blaenau Ffestiniog hyd at ganol Medi.

“Mae wedi bod yn agoriad llygad i mi ac i lawer o’r plant,” meddai Sian, “er wrth cwrs rhaid cofio hefyd bod llawer o blant yn dod o deuluoedd sy’n derbyn cymorth gan y banc bwyd. Mae trafod prinder bwyd a phwysigrwydd bwyd a’r hyn sydd y tu ôl i’r defnydd o’r banc bwyd wedi esgor ar waith difyr.”

Sian a disgyblion Ysgol y Moelwyn
Caiff y prosiect ei noddi gan Gorfforaeth Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion a’i drefnu gan Y Dref Werdd. Yn dilyn cau capel Calfaria yn y dre yn ddiweddar, cafwyd caniatâd i ddefnyddio cyfran o’r arian gwerthiant ar brosiect i godi ymwybyddiaeth o waith y banc bwyd lleol. 

Dywedodd Tecwyn Ifan ar ran y Bedyddwyr:

“Mae hyn yn gyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol a chreadigol o sefyllfa ddigon digalon. Mae hefyd yn weithgarwch sy’n dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist i ymateb mewn ysbryd o gariad tuag at bobl yn eu hangen a’u helbulon... Ry’ ni fel Bedyddwyr yn ddiolchgar am gydweithrediad cynllun Y Dref Werdd yn Blaenau i drefnu gweithdau creadigol yn yr ysgolion lleol dan arweiniad Sian Northey.”

Cynhelir y banc bwyd yn Neuadd yr Eglwys gyda aelodau o’r eglwys ac eraill yn gwirfoddoli yno. Mae ar agor dair gwaith yr wythnos a bellach mae yna dros 600 o bobl yn derbyn cymorth yn flynyddol. 

Er bod y banc ym Mlaenau Ffestiniog yn gwasanaethu ardal ddaeryddol eithaf mawr mae yna fwy a mwy o fanciau bwyd yn agor wrth i’r galw amdanynt gynyddu. Mae’r Trussel Trust yn amcangyfrif bod dros 98,000 o becynau bwyd ar gyfer tridiau wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru gan eu banciau bwyd hwy yn unig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Os am fanylion pellach cysyllter â Non Roberts non@drefwerdd.cymru

Bydd yr arddangosfa yn Llyfrgell y Blaenau hyd at y 15fed o Fedi, ond fel tamaid i aros pryd, dyma un o gerddi Sian, a chipolwg o un o ddarnau celf ar y gweill yn Ysgol Manod:

Pwysau

Y ffeil las yw’r beibl.
Er mwyn i ni, y gwirfoddolwyr,
ddysgu o’i adnodau sawl gram o reis,
sawl gram o siwgr a choffi,
yw angen un person,
sawl gram o haelioni, sawl litr o gardod,
yw angen teulu.
Rwy’n pwyso’n ofalus i gyfeiliant swnllyd ei phlant,
ac yn rhoi llwyaid arall o goffi yn y bag,
gan gofio chwarter canrif yn ôl
pan mai’r ffin i minnau rhwng cadw ’mhwyll ac wylo
oedd un baned
a hwythau o’r diwedd yn cysgu.

-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018


28.1.16

Llyfrau'r Fro

Adolygiadau gan VPW, o rifyn Rhagfyr 2015.

Llyfr Gwyn
Gwyn Thomas. Cyhoeddiadau Barddas. 218t. £12.95.

Llên-gofiant yw’r gyfrol wych hon, yn hytrach na hunangofiant o fywyd y bardd a’r llenor adnabyddus o ‘Stiniog, yn ôl ei eiriau ei hun. Golyga hyn mai trafod yr hyn y mae wedi ei ysgrifennu am y rhan fwyaf o’i oes y mae’r awdur.

Da yw cael dweud iddo gyfeirio eto at ei fagwriaeth yn y bennod ‘Bro fy Mebyd’, gyda chyfeiriadau amlwg at deulu, cyfoedion a chyfeillion. Cawn ganddo straeon hynod ddifyr am ddylanwad y fagwriaeth honno arno, ac am gymeriadau yr oedd yn ei adnabod yn ystod y cyfnod hapus hwnnw iddo.

Hyfryd yw’r dyfyniadau o ambell un o’i gerddi sy’n britho’r gyfrol, gyda sawl un mor gyfarwydd inni bellach, megis ei gerdd enwog i’r ‘Blaenau’, sy’n profi ei gariad tuag at ei fro enedigol. Mae yma hefyd gymysgedd o ddwyster a doniolwch, wrth i Gwyn fynd â’r darllenwyr ar ei daith o Danygrisiau a’r Blaenau, trwy ei yrfa academaidd, i’w waith gyda’r B.B.C.

Wrth gyrraedd ei amser fel gŵr, tad a thaid, cofnodir penodau difyr ar ‘Ysbrydion’, ‘Ffilmiau’, ‘Natur’ a nifer o bynciau eraill at ddant pob un ohonom.

Trwy’r cyfan, cawn ein hatgoffa’n aml mai hogyn o ‘Stiniog ydi’r Athro Gwyn Thomas, er ei holl lwyddiannau, a da yw cael gwybod hynny.



[Cafwyd noson i'w chofio 'nôl ym mis Tachwedd pan lansiwyd y llyfr yn neuadd lawn y WI yn y  Blaenau, pan fu Vivian yn holi'r awdur, a Gwyn yn darllen rhai o'i gerddi. -Gol.]

 
------------------- 
 

Dim Gobaith Caneri
Siân Northey a Myrddin ap Dafydd. Carreg Gwalch. £5.99

Yr ail yn y gyfres o idiomau hwyliog i blant sydd yma, wrth i Siân Northey greu pytiau o straeon a sgyrsiau i ddangos defnydd naturiol o’r idiom.

Ceir hefyd gwpled ysgafn gan Myrddin ap Dafydd odditan pob stori, sy’n ychwanegu at y stori a’r darluniau yn y llyfr.

Anrheg da iawn ar gyfer y plantos.


VPW


14.4.14

Merched y Wawr a Sefydliad y Merched

Cafodd y merched gychwyn prysur iawn i'r flwyddyn eto eleni ym Mro Ffestiniog.

Dyma ddetholiad o newyddion o'r canghennau o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:

 


MERCHED Y WAWR, Blaenau.

Cynhaliwyd cyfarfod Chwefror ar y 24ain yn y Ganolfan Gymdeithasol o dan lywyddiaeth Ceinwen Humphries.  Cyhoeddwyd y bydd tlws am lefaru, oed cynradd, yn cael ei gynnig yn Eisteddfod yr Urdd, y Bala, yn enw cangen y Blaenau.
Gwraig wadd y noson oedd Naomi Jones, rheolwraig prosiect “Yr Ysgwrn”gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae wrth y gwaith o ofalu am y tŷ, adeiladau'r fferm, y tir amaethyddol, yr ardd a'r byngalo ers blwyddyn bellach; yn mwynhau'r gwaith ac yn frwdfrydig iawn yn ei gylch.  Siaradodd yn ddifyr ac addysgiadol iawn am hanes y safle a rhan Hedd Wyn y bardd a'r milwr ynddo.  Cyflwynodd ddarlun o gyfnod y rhyfel byd cyntaf mewn ardal wledig, sydd mor addas o gofio mai eleni y cofir canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Mawr. Diolchodd Pegi Lloyd Williams i Naomi am noson ardderchog.
Y gŵr a'r wraig wadd ym mis Mawrth oedd Olwen a Wyn Jones, Ty'n Braich, Dinas Mawddwy.  Rhoddodd Olwen gefndir y fferm a'r teulu i ni, teulu oedd wedi byw yn Nhy'n Braich yn ddi-dor dros y canrifoedd ers 1012.  Dangoswyd ffilm am y tri brawd dall oedd yn gefndir i nofel arbennig Angharad Price - “O! Tyn y Gorchudd”.  Mae Angharad, wrth gwrs, yn gyfnither i Wyn ac yn aelod pwysig o deulu Ty'n Braich.  Yna aeth Wyn ymlaen i roi darlun i ni o'i daid a'i nain a'i dri ewythr – y tri brawd, a phwysleisiodd mor bwysig ydy cofnodi profiadau teuluol rhag iddynt fynd yn anghof. 
Diolchodd Megan yn gynnes i'r ddau am hanes mor ddiddorol.


Merched y Wawr Llan

Bu cyfarfod cyntaf 2014 yn y Neuadd ar nos Fawrth, Chwefror 4ydd.  Yn absenoldeb ein llywydd Iona, croesawyd yr aelodau gan Nesta, ynghyd a’n hysgrifennydd Ann.  Pleser i Nesta oedd cyflwyno Sian Northey i’r aelodau.  Braf oedd cyflwyno hogan sydd wedi ei magu yn yr ardal, ac sydd erbyn hyn wedi cyflawni llawer yn myd llenyddiaeth Gymraeg gan ennill llawer gwobr, gyda mwy o lyfrau ar y gweill i ddod yn ystod 2014.  Ar wahan i’w llyfrau ei hun, mae wedi bod yn gyfrifol am olygu tair cyfrol. 
Cafwyd detholiad o rai o’i llyfrau a’u cefndir ac roedd yn noson ddiddorol. 
Cyfarfu’r merched wedyn i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Pengwern. Croesawyd Wenna Francis Jones, Megan, Lowri, Awel a Rhodri atom ac fe gawsom noson arbennig yn eu cwmni. Cafwyd amrywiaeth hyfryd o ganeuon ganddynt, ac hefyd llefaru gan Rhodri a cherdd dant gan Awel, gyda Wenna yn cyfeilio iddynt. Noson arbennig a phawb wedi mwynhau a diolchwyd iddynt gan Iona. Yna cafodd pawb gawl cennin wedi ei baratoi gan staff y Pengwern – canmoliaeth a diolch i Karen.


Merched y Wawr Trawsfynydd

Ein gwraig wadd yn Chwefror oedd Rhiannon Parry, Penygroes.  Hi yw golygydd Y Wawr a bydd ei gwaith yn dod i ben ar ol y rhifyn nesaf.  Llongyfarchwyd hi ar safon y cylchgrawn yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.
 Athrawes wrth ei galwedigaeth hyd nes i ddau gyfnod o salwch blin iawn a misoedd mewn hosbis olygu iddi droi at bwytho.   
Tra’n byw yn Llansanan, mynychodd ei dosbarth brodio cyntaf yn Y Rhyl.  Cawsom weld gwaith o wahanol gyfnodau o’i bywyd.  Roedd yn wledd cael gweld darnau o’i gwaith amlgyfrwng – llun o Flodeuwedd wedi’i ysbrydoli gan R.S. Thomas, Awyr a Mor gan ddefnyddio darnau o dun, plastig a sbwriel bigodd oddi ar draeth Llanddulas.  Roedd wedi llifo hen flanced o eiddo ei mam yng nghyfraith a rhoi pwythau man trwyddo a gosod dail o ffelt yn addurn.  Hyfryd!  Clustog wedi’i ysbrydoli tra yn Llydaw; llun bwthyn bach ei modryb a llinell o Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts.  Popeth yn dangos dychymyg eithriadol. 
Ar nos Iau, Mawrth 20, daeth aelodau’r gangen at ei gilydd i ddathlu dydd Gwyl Ddewi yng ngwesty’r Cross Foxes yn y pentre. Daeth Beti Puw Richards, Maesywaen a phedair o aelodau parti Perlais i’n diddanu ar ol y pryd bwyd blasus. Edryd Williams, Bethel, oedd eu hunawdydd gwadd, dewr yng nghanol yr holl ferched. Arweinwyd y noson gan Rhian Elena o Lanfihangel Glyn Myfyr a Beti wrth y piano. Cafwyd rhaglen amrywiol iawn o unawdau, deuawdau, pedwarawdau a’r pump yn canu gyda’i gilydd. Mae ystod gallu cerddorol y bobl ifanc yma yn eang iawn – cerdd dant, alawon gwerin, caneuon o’r sioeau cerdd a chaneuon traddodiadol Cymreig. Yn ychwanegol at y cyfeiliant piano cafwyd unawd i gyfeiliant gitar gan Rhian Elena. Er bod yr awyrgylch yn gartrefol braf, barn pawb ar y diwedd oedd i hwn fod yn gyngerdd gwerth chweil a chafwyd cymeradwyaeth brwd.



SEFYDLIAD Y MERCHED Blaenau.

Cyfarfu'r Sefydliad nos Fawrth, Chwefror 25 i ddathlu noson   Gymreig gyda Mrs Wenna F. Jones a Mrs Delyth Lloyd-Grey a chwech o blant talentog iawn.
Cawsom unawdau a deuawdau gan y plant, Megan, Lowri,Awel, Rhodri, ac Ioan yr ieuengaf sydd yn 5 oed, hefyd cawsom adroddiad gan Rhodri, "Fy Ystafell Wely" Diolchwyd iddynt gan Mrs Lina Jones. Derbyniwyd gwahoddiad gan Sefydliad Llan Ffestiniog  i ymuno a hwy i glywed sgwrs am Owain Glyndwr.
Ein gwr gwadd ym mis Mawrth oedd Mr Gareth T. Jones yn arddangos lluniau o'r ardal rhwng 1950 a 1970. Rhai fel Moi R.E. a'i geffyl, codi Ffatri Metcalf a'i agor yn 1954, Pwerdy Tanygrisiau a llawer mwy. Diolchwyd iddo gan Mrs Lina Jones am noson ddifyr iawn.