Showing posts with label arddangosfa. Show all posts
Showing posts with label arddangosfa. Show all posts

5.6.26

Arddangosfa Benblwydd

Diolch o galon i bawb fu yn Oriel Llyfrgell y Blaenau dros y gaeaf i weld yr arddangosfa hanes a greuwyd er mwyn dathlu hanner can mlynedd o gyhoeddi Llafar Bro. Roedd yr arddangosfa yn ddathliad hefyd o weithgaredd gwirfoddol yn ein cymuned, a’r cyd-weithio agos sydd rhwng nifer o gymdeithasau ein bro.

Diolch yn benodol i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog a Chymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog am fod mor barod i rannu’r gofod yn yr oriel a gosod llawer o’u creiriau a phaneli gwybodaeth yno, i wneud arddangosfa ddifyr tu hwnt ar hanes ein hardal.

Mary a Bill o’r Gymdeithas Archeoleg, Vivian a Dafydd o’r Gymdeithas Hanes, a Paul ar ran Llafar Bro, yn croesawu Liz Saville Roberts, Mabon ap Gwynfor, a'r Cynghorydd Rory Francis ar ddiwrnod ola’r arddangosfa.

Daeth y gweithgor trefnu at ei gilydd ganol Ebrill, er mwyn datgymalu’r casgliad, a chael un cyfle olaf i groesawu pobl i’r arddangosfa. Ymysg y rhai alwodd i mewn oedd ein haelod seneddol Liz Saville Roberts, a Mabon ap Gwynfor, aelod o Senedd Cymru, ac roedd y ddau yn hael eu canmoliaeth o waith y cymdeithasau ac o’r hyn oedd i’w weld yn yr arddangosfa. Mi fedrwch fentro ein bod wedi codi ambell bwnc trafodaeth efo nhw, gan gynnwys y ffaith fod Bro Stiniog yn haeddu canolfan dreftadaeth barhaol!

Diolch i genod y llyfrgell, ac i bawb alwodd i mewn rhwng Hydref ac Ebrill. Roedd geiriau nifer ohonoch yn y llyfr sylwadau yn codi calon ac yn gwneud yr ymdrech yn werth chweil, er enghraifft: “Gwych a gwerth ei weld; Hanes Blaenau ar ei orau; Wedi dysgu llawer, fel dysgwr sydd wedi symud i Blaenau yn ddiweddar; Diddorol dros ben- llawer o atgofion yn ôl; Ardderchog a hiraethus am yn ail”; a llawer mwy!

Hoffai bwyllgorau Llafar Bro, y Gymdeithas Archeoleg, a’r Gymdeithas Hanes hefyd ddiolch am y rhoddion ariannol a roddwyd yn y blwch gan ymwelwyr i’r oriel. Rhanwyd yr arian ar y diwrnod olaf, a bydd yn mynd at gynnal gweithgareddau gwirfoddol ein milltir sgwâr eto.

Bydd paneli penblwydd Llafar Bro yn cael eu harddangos yn Yr Ysgwrn yn ystod Mehefin eleni, felly gobeithiwn y medrwch alw yn fanno i ddangos eich cefnogaeth hefyd. Ymlaen rwan am 50 mlynedd arall!

PW
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026 


 

8.10.25

Dathlu 50 oed!

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro yn Hydref 1975. Mi fydd rhifyn Hydref 2025 felly yn nodi hanner can mlwyddiant o gyhoeddi Papur Misol Cymraeg Cylch Stiniog! 


Rydym yn dal i gyhoeddi 11 rhifyn y flwyddyn, a hynny yn gwbl wirfoddol. 

Mae tua 40 o bobl yn cyfrannu bob mis, fel gohebyddion, aelodau'r pwyllgor, dosbarthwyr, golygyddion, colofnwyr ac ati.

Fel modd o ddathlu’r garreg filltir yma mae is-bwyllgor o griw ein papur bro wedi bod wrthi’n trefnu arddangosfa yn llyfrgell y Blaenau, ac wedi gwahodd y Gymdeithas Hanes a’r Gymdeithas Archeoleg i rannu’r gofod efo ni. 

Bydd yr arddangosfa’n agor ar yr 11eg o Hydref, ac yno tan y Nadolig. Gobeithiwn y medr pob un ohonoch alw i mewn i ddangos cefnogaeth, a chodi’n hyder bod angen papur bro am hanner canrif arall.

PW
- - - - - - 

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Medi 2025.

Llun PW
 

Ymddangosodd yr isod wedyn yn rhifyn Tachwedd 2025.

 

AGOR ARDDANGOSFA LLB50 

Mae dipyn o waith paratoi wedi bod ynglŷn ag arddangosfa i ddathlu nid yn unig pen-blwydd Llafar Bro yn hanner cant ond hefyd cyfle i ddathlu rhai o orchestion Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog a Chymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Agorwyd yr arddangosfa fore Sadwrn Hydref 11eg a bydd cyfle i’w gweld yno hyd Ragfyr 24ain.

Darlun Falcon Hildred
 

Mae’r gwaith a gyflawnwyd gan y Gymdeithas Archeoleg (dan arweiniad craff Bill Jones) ar safle Llys Dorfil yng Nghwm Bowydd yn werth ei weld yn enwedig y gwrthrychau amrywiol a gloddwyd yno yn ddiweddar, er enghraifft ysgrifbin, gwahanol fathau o gerrig a gafodd eu llunio at dasgau beunyddiol y bobl oedd yn byw ar y safle ac anodd credu fod Tŷ Tŵr tal wedi bod ar y safle hwn unwaith, a bellach does ond sylfaen ar ôl.


Yn ôl y label "Mae mwy na 641 o gestyll yng Nghymru, mwy i’r filltir sgwâr nag mewn unrhyw wlad arall. Gelwir tai tŵr yn aml yn gestyll, ac er gwaethaf eu steil cryno, maent yn drigfannau aruthrol ac nid oes gwahaniaeth clir rhwng castell a thŷ tŵr".

Ceir lluniau di-rif yn yr arddangosfa a rhai i gyd yn cynrychioli gwahanol agweddau ar fywyd yn y dref a’r cyffiniau. Dowch i’w gweld a chewch chi ddim eich siomi.

Lluniau TVJ
Y rhai fu’n brysur yn rhoi’r arddangosfa at ei gilydd: Paul Williams, Bill a Mary Jones, Dafydd Roberts, a Vivian Parry-WilliamsLona Williams y delynores wych o Drawsfynydd; a Rhydian Morgan, Cadeirydd Llafar Bro yn agor yr arddangosfa.

Diolchiadau hefyd i Storiel Bangor a staff y Llyfrgell yn Blaenau am eu cydweithrediad parod wrth i’r arddangosfa gael ei chynllunio a’i gosod.   TVJ

- - - - - -

Cydnabyddiaeth

Hoffai Llafar Bro gydnabod y cymorth ariannol anrhydeddus y mae ein papur bro wedi ei dderbyn gan Elusen Freeman Evans. Rhoddodd yr elusen gefnogaeth ariannol tuag at gostau'r Arddangosfa ben-blwydd, a thuag at gost cyhoeddi Llafar Bro. Bu'r elusen hon yn help mawr i Llafar Bro eleni ac yr ydym yn wir ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym wedi ei dderbyn. Os hoffech wybod mwy am yr elusen, cofiwch bod erthygl am eu gweithgareddau a chefndir eu sefydlu ar ein gwefan.... 

Freeman Evans 

Yn ogystal mae'n briodol i Lafar Bro ddiolch unwaith eto hefyd i Ymddiriedolaeth Ysgol Bonaber am eu cyfraniad gwerthfawr hwythau at gostau'r arddangosfa ben-blwydd. Rydym yn ffodus iawn o gael y fath haelioni a chefnogaeth cymunedol.

- - - - - -

Pen-blwydd hapus LLB50

 


26.7.20

O Stiniog i'r Wladfa

Mis Tachwedd diwethaf, manteisiodd Mark Wyn Evans, enillydd Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog 2019 ar y cyfle i ymweld â Phatagonia.

Mae’r Ysgoloriaeth hon yn cynnig gwobr o £2,000 i’r enillydd gael teithio i Batagonia ac ymhél a phrosiect fydd yn cryfhau'r cysylltiad rhwng Blaenau Ffestiniog a Rawson sef ei gefeilldref yno. Mae’r Ysgoloriaeth eisoes wedi anfon pedwar o bobl ifanc y fro i Batagonia ar yr un perwyl ac ym mis Mawrth eleni dyfarnwyd Ysgoloriaeth 2020 i Hannah Gwyn Williams, a gobeithio bydd hithau yn y man yn teithio i Rawson a Phatagonia ar ôl i’r argyfwng presennol gilio.

Roedd prosiect Mark, tra yn Y Wladfa, yn cynnwys arddangosfa o ffotograffau ardal Ffestiniog yn ogystal â gwneud ffilm ddogfen* o’i argraffiadau o’r wlad bell. Bu Mark yn gweithio, ers cyrraedd adref, ar ei ffilm a’r haf hwn roedd yn fwriad ganddo i’w dangos yn y gymuned leol. Yn anffodus oherwydd yr argyfwng presennol bu raid gohirio'r bwriad hwn ond fe gawn ei gweld yn y man siŵr o fod.
Tecwyn Vaughan Jones 

Adroddwyd peth o hanes Mark ym Mhatagonia yn rhifyn Tachwedd 2019  ond yn y darn isod, mae yn ymhelaethu:

Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghyngor Tref Ffestiniog am y fraint a gefais trwy ennill yr Ysgoloriaeth a’m galluogodd i deithio am dair wythnos i’r Wladfa. Taith a phrofiad dw i’n gredu, sydd wedi ychwanegu at lwyddiant y cysylltiad rhwng ardal Ffestiniog a Rawson.

Rwy’n falch o ddweud fod fy nhair wythnos ym Mhatagonia wedi bod yn rhai prysur iawn a phob dydd yn llawn o weithgareddau perthnasol. Roedd yn wych hefyd cael dau ffrind yno i rannu'r profiad. Er eu bod nhw yno ar eu liwt eu hunain, mi gyfrannodd y ddau bob dydd i’r gwaith yr oeddwn yn ei wneud ar gyfer yr ysgoloriaeth ac wedi mwynhau'r profiad.

Mark yn cyflwyno'i arddangosfa

Dyma fy mhrif weithgareddau; creu arddangosfa luniau o Blaenau a’u dangos yn Rawson, a gwneud ffilm ddogfen addysgol yn deillio o’m profiad. Roeddwn yn hapus iawn fod pethau wedi mynd mor dda.

Agorwyd yr arddangosfa yn Llyfrgell Rawson ar ein hail noson ar ôl glanio; chwe llun, a’r cynnwys ysgrifenedig yn Gymraeg a Sbaeneg, yn rhannu arolwg o Ffestiniog gyda thrigolion Rawson. Ar y noson agoriadol, rwy’n credu fod dros 50 o bobol wedi troi fyny i weld y lluniau ac i’m clywed yn siarad am bob llun ac am Blaenau. Wedyn, cawsom sesiwn holi ac ateb. Roedd y gynulleidfa yn cynnwys pobol ifanc, oedolion ac aelodau llywodraeth Chubut. Roedd yr arddangosfa i’w gweld am bedair wythnos.

Yn ddyddiol dros yr wythnosau, buom yn brysur yn gwneud y ffilm ddogfen, yn ymweld â’r llywodraeth, dwy ysgol, gwneud dros ddwsin o gyfweliadau, ymweld â phum amgueddfa a mynychu nifer fawr o ddigwyddiadau Cymraeg, gan gynnwys seremoni’r Orsedd a’r Eisteddfod. Erbyn y diwedd, roedd gennym ugain awr o ffilm ar gyfer y ffilm ddogfen rhyw 45 munud!

Cyfarfod Llywodraethwyr Chubut


Roeddwn wedi gobeithio cwblhau ffilm ddogfen ‘O Stiniog i’r Wladfa’ cyn seremoni cyflwyno Ysgoloriaeth 2020 ddechrau mis Mawrth eleni a’i rhannu gyda chi. Oherwydd prysurdeb yn y gwaith ac angen rhoi amser i olygu ugain awr o ffilm i gyflwyniad 45 munud, bydd y gwaith yn cymryd rhai wythnosau eto. Dw i’n edrych ymlaen at ddangos y ffilm ddogfen i chi, drigolion yr ardal.

Mae gen i nifer o bethau diddorol iawn i’w rhannu gyda chi. Mi wnaethom gyfweld dyn o Rawson sydd â chysylltiad hanesyddol â Blaenau Ffestiniog! Yn y ffilm ddogfen, mae’n siarad am ei berthynas â’r ardal hon.

Buom yn siarad ar y teledu cenedlaethol, a dwy sioe Radio (un genedlaethol ac un lleol), yn trafod yr ysgoloriaeth, ac o ganlyniad codi ymwybyddiaeth draw yno.

Y llwyddiant pwysicaf i mi o fod yno oedd cael cytundeb Llywodraeth Chubut i greu ysgoloriaeth gyfatebol i un Cyngor Tref Ffestiniog er mwyn gyrru person o Rawson i Flaenau Ffestiniog a bydd hyn eto yn cryfhau'r cysylltiad rhwng y ddwy dref. Rwy’n falch iawn o adrodd y bydd yr ysgoloriaeth gyntaf hon yn cael ei lawnsio eleni, a’r enillydd cyntaf yn debygol o ddod i Ffestiniog yn ystod 2021.

Diolch i chi gyd unwaith eto am brofiad anhygoel. Mi fydda i’n ddiolchgar am weddill fy oes!
Mark Wyn Evans
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2020

*DIWEDDARIAD:

Cyflwynodd Mark ei ffilm yn ystod seremoni wobrwyo Ysgoloriaeth 2021


 


Diolch Stiniog; Gracias Rawson



30.1.20

200 Tymor Capel Rhiw

Ar achlysur dathlu hanner can mlynedd yn byw a gweithio yng Nghapel Rhiw, cafodd yr artist David Nash fri haeddiannol gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd arddangosfa fawr o’i waith oedd yn cynnwys amrediad cyflawn, o’r dyddiau cynnar pan adawodd Goleg Celf Chelsea yn Llundain ac ymgartrefu yn y Blaenau, i’r darnau mwyaf diweddar.

Tŵr Corc, 2012. Llun- Paul W
Roedd yr arddangosfa’n ymestyn drwy gyfres o orielau, yn amlygu rhai o’r gwahanol wledydd y bu David yn gweithio ynddynt megis Japan, UDA, Ffrainc ac Iwerddon, yn ogystal â gweithiau sydd wedi deillio a’u hysbrydoli’n benodol gan ei filltir sgwâr. Roedd y cyfoeth siapiau ac arliwiau gwahanol yn wledd i’r llygad gyda hanes a phwysigrwydd y capel yn galon i’r cyfan ac yn rhoi allwedd i archwilio datblygiad y gwaith dros yr hanner canrif.


Natur i Natur, 1997-98. Llun- Paul W
Law yn llaw â’r cerfluniau mae lluniadu wedi bod yn bwysig i David ers y dyddiau cynnar ac un o’i weithiau pwysicaf yw’r Goeden Deulu, lluniad sy’n bum panel enfawr lle mae wedi darlunio esblygiad ei waith o ddyddiau coleg. Cwblhaodd y pumed panel yn arbennig i’r arddangosfa ac mae’n cynnwys detholiad o ddelweddau o’i gerfluniau diweddaraf gan gynnwys y Trawiad Mellten welir wrth gylchfan y Blaenau.

Ymysg y creiriau archif yno roedd cyfres o ddarluniau o’i arddangosfa yn Neuadd y Farchnad i ddathlu’r Mileniwm, yn ogystal â nifer o hen luniau o’r capel a chatalogau o’i arddangosfeydd blaengar, yn cynnwys ei sioe gyntaf un lwyfanwyd yng Nghaerefrog a Bangor ym 1973.

Mae gyrfa hir a disglair fel un David yn haeddu cydnabyddiaeth ac ochr yn ochr â’r arddangosfa mae Llyfrau Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi llyfr swmpus, David Nash, 200 Tymor Capel Rhiw, sy’n cofnodi David a’i waith dros hanner canrif.  Mae’n drysor o gyfrol - un o’r llyfrau celf harddaf i’w gyhoeddi yn Gymraeg yn ddi-os - yn llawn lluniau ac hanesion personol, gan gynnwys gair o werthfawrogiad arbennig i Dafydd Roberts, Cae Clyd am ei holl gymorth dros y blynyddoedd, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol i bymtheg o’i ddarnau allweddol ac ysgrifau sy’n gosod gwaith David mewn cyd-destun celf byd eang. 





Mae’r llyfr ar gael mewn siopau llyfrau lleol ac yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw lle mae’r ffilm am y glogfaen bren y bu David yn dilyn ei hynt a’i helynt dros ddeugain mlynedd wrth iddi deithio o nant Bronturnor i foryd y Ddwyryd i’w gweld yn barhaol.


Ffilm fer Cerflun Drwy'r Tymhorau gan Peter Telfer, Ceinws.
---------------------------------

Erthygl gan Nia Roberts a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2019.


22.7.19

Arddangosfa'r Gymdeithas Hanes

Galwch draw i Siop Antur Stiniog yn Stryd Fawr y Blaenau!

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi fod yr Arddangosfa Hanes sydd wedi symud i Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog ers mis go-lew bellach yn andros o lwyddiannus, ac mae’n fraint i ni fel cwmni cymunedol ei chynnal.

Criw o wirfoddolwyr gweithgar a gwybodus iawn o Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog sy'n gyfrifol am ddatblygu'r arddangosfa wych yma. Mae’n dangos trawstoriad eang a diddorol iawn o hanes ardal ‘Stiniog sy’n dyddio mor bell yn ôl a diwedd y 1800au!

Mae’r arddangosfa yn cynnwys Car Gwyllt go iawn o chwarel y Graig Ddu (cyflwynwyd gan y Gymdeithas Hanes er cof am Emrys Evans), hanes Clybiau Pêl Droed ‘Stiniog dros y degawdau, a llawer mwy – cofiwch alw i mewn i weld drosoch eich hun! Mae’n bosib iawn y byddwch chi’n nabod nifer o wynebau!

(Llun -Alwyn Jones)


Yn fwy diweddar rydym yn falch iawn o weld Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 1898, yn cael ei hychwanegu at y Goron o'r eisteddfod honno, oedd yno eisoes.


Diolch i gymwynas Cyngor Tref Ffestiniog, mae'n wych gweld y ddwy eitem werthfawr iawn yma efo'u gilydd eto!


Tybed oes tref arall yng Nghymru lle mae'r gadair a'r goron wreiddiol yn eu holau efo'u gilydd, ac ar gael i'r cyhoedd eu gweld o ddydd i ddydd?


Bu tri o aelodau'r Gymdeithas yn siarad am y ddeuawd ar raglen Heno ar S4C ganol mis Gorffennaf.


 el aelodau staff Siop Antur Stiniog, rydym yn lwcus iawn o fod yn dystion i gymaint o sgyrsiau difyr sydd i’w clywed gan fynychwyr yr arddangosfa - yn enwedig pan mae pobl leol yn trafod yr hyn sydd i’w weld yno ac yn rhannu’u hatgofion, straeon - ffeithiau am ein cymuned yn cynnwys disgrifiadau o sut mae’r dref wedi newid dros y degawdau diwethaf - ac wrth gwrs, clywed am gymeriadau unigryw sydd wedi byw yn yr ardal dros y blynyddoedd!

Fel caffi, siop a man gwybodaeth yn y dref, rydym yn cael croesawu nifer fawr o ymwelwyr, ac mae’n bleser mawr gweld cymaint ohonyn nhw’n cymryd  diddordeb yn ein hetifeddiaeth a’n hanes. Mae hefyd yn syndod darganfod faint o pobl sydd â chysylltiadau â’r ardal.

Pobl leol ydi’r gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg yr Arddangosfa Hanes, ac wrth drafod, mae’r cwestiwn yn codi’n aml, pam nad oes ‘na ganolfan dreftadaeth yn yr dref? Adeilad pwrpasol i arddangos ac addysgu pobl am ein hanes a’n treftadaeth - fel sydd yna yn Llanberis. Ydi hyn yn rhywbeth gallwn feddwl am ddatblygu fel cymuned? Beth yw eich teimladau chi?

Mae’r Arddangosfa Hanes Lleol ar agor dydd Llun- ddydd Gwener 9.00-14.30, ac ar ddydd Sadwrn o 10.00-15.00, yn Siop a Tŷ Coffi Antur Stiniog-

Mae yno groeso cynnes i bawb!
------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mehefin 2019.


8.9.18

Beirdd y Banc Bwyd


Trwy gydol mis Mehefin eleni bu’r bardd a’r awdur Sian Northey yn Fardd Preswyl ym manc bwyd Blaenau Ffestiniog. Bu’n gwirfoddoli yno ac yn ysgrifennu am y profiad a bu hefyd yn cynnal cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda phlant mewn tair ysgol yn yr ardal – Ysgol y Moelwyn, Ysgol Manod ac Ysgol Bro Hedd Wyn. 

Roedd oedran y disgyblion yn amrywio o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 8. Byddant hefyd yn cydweithio gyda’r artist gweledol Mari Gwent o Lanuwchllyn i baratoi gwaith fydd yn ymgorffori rhai o’r cerddi, a bydd y gwaith hwnnw i’w weld yn y llyfrgell Blaenau Ffestiniog hyd at ganol Medi.

Mae wedi bod yn agoriad llygad i mi ac i lawer o’r plant,” meddai Sian, “er wrth cwrs rhaid cofio hefyd bod llawer o blant yn dod o deuluoedd sy’n derbyn cymorth gan y banc bwyd. Mae trafod prinder bwyd a phwysigrwydd bwyd a’r hyn sydd y tu ôl i’r defnydd o’r banc bwyd wedi esgor ar waith difyr.”

Sian a disgyblion Ysgol y Moelwyn
Caiff y prosiect ei noddi gan Gorfforaeth Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion a’i drefnu gan Y Dref Werdd. Yn dilyn cau capel Calfaria yn y dre yn ddiweddar, cafwyd caniatâd i ddefnyddio cyfran o’r arian gwerthiant ar brosiect i godi ymwybyddiaeth o waith y banc bwyd lleol. 

Dywedodd Tecwyn Ifan ar ran y Bedyddwyr:

Mae hyn yn gyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol a chreadigol o sefyllfa ddigon digalon. Mae hefyd yn weithgarwch sy’n dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist i ymateb mewn ysbryd o gariad tuag at bobl yn eu hangen a’u helbulon... Ry’ ni fel Bedyddwyr yn ddiolchgar am gydweithrediad cynllun Y Dref Werdd yn Blaenau i drefnu gweithdau creadigol yn yr ysgolion lleol dan arweiniad Sian Northey.”

Cynhelir y banc bwyd yn Neuadd yr Eglwys gyda aelodau o’r eglwys ac eraill yn gwirfoddoli yno. Mae ar agor dair gwaith yr wythnos a bellach mae yna dros 600 o bobl yn derbyn cymorth yn flynyddol. 

Er bod y banc ym Mlaenau Ffestiniog yn gwasanaethu ardal ddaeryddol eithaf mawr mae yna fwy a mwy o fanciau bwyd yn agor wrth i’r galw amdanynt gynyddu. Mae’r Trussel Trust yn amcangyfrif bod dros 98,000 o becynau bwyd ar gyfer tridiau wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru gan eu banciau bwyd hwy yn unig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Os am fanylion pellach cysyllter â Non Roberts non@drefwerdd.cymru

Bydd yr arddangosfa yn Llyfrgell y Blaenau hyd at y 15fed o Fedi, ond fel tamaid i aros pryd, dyma un o gerddi Sian, a chipolwg o un o ddarnau celf ar y gweill yn Ysgol Manod:

Pwysau

Y ffeil las yw’r beibl.
Er mwyn i ni, y gwirfoddolwyr,
ddysgu o’i adnodau sawl gram o reis,
sawl gram o siwgr a choffi,
yw angen un person,
sawl gram o haelioni, sawl litr o gardod,
yw angen teulu.
Rwy’n pwyso’n ofalus i gyfeiliant swnllyd ei phlant,
ac yn rhoi llwyaid arall o goffi yn y bag,
gan gofio chwarter canrif yn ôl
pan mai’r ffin i minnau rhwng cadw ’mhwyll ac wylo
oedd un baned
a hwythau o’r diwedd yn cysgu.

-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018


25.7.18

Dathlu Celf yn Yr Ysgwrn

Braf oedd cerdded o gwmpas safle’r Ysgwrn ar noson hafaidd i fwynhau rhagwelediad o’r darnau celf ar gyfer arddangosfa  I’r Byw gan Rhodri Owen, yng nghwmni Myrddin ap Dafydd a’r artist gwadd Catrin Williams.


Noson hwyliog o ddathlu oedd hon, yn cwblhau gwaith blwyddyn a welodd Rhodri yn cydweithio ag wyth artist gwadd ac wyth grŵp o gefndiroedd gwahanol iawn ar draws Cymru i fynegi eu profiad o fyw, a hynny ar ganfasau glân dodrefn newydd Rhodri.

Bardd dodrefn” oedd disgrifiad Myrddin ap Dafydd o Rhodri, ac fe gychwynnodd y noson efo sesiwn holi ffwrdd â hi rhwng Myrddin, Rhodri a Catrin. Fel eglurodd Rhodri:
“roedd perffaith ryddid i’r grwpiau yma falu fy nodrefn, a doedd gen i ddim syniad o be fyddai’r canlyniad!” 
Yn amlwg daliwyd dychymyg y gynulleidfa, a difyr iawn oedd clywed y dehongliadau o’r darnau celf a’r trafod brwd wrth fynd o gwmpas y gweithiau. Roedd cryn ddiddordeb yn y dodrefn gwreiddiol a’r newid fu, a chyfle i rai o wirfoddolwyr Yr Ysgwrn fu’n rhan o’r gwaith i ddangos eu cyfraniad – cyfle hefyd i weld ffrwyth gwaith yr holl grwpiau a’r fideo ohonynt wrthi’n rhoi eu marc ar y dodrefn.

Cyfeiriodd Myrddin at gychwyn pethau hefyd a’r cyswllt rhwng themâu a chefndir Cadair Eisteddod Genedlaethol  2017 ac arddangosfa  I’r Byw. Ychwanegodd Rhodri:
“gan mai gan y Parc ges i’r comisiwn i ddylunio a saernio’r gadair, a hynny ar ganmlwyddiant Y Gadair Ddu, roeddwn i’n falch iawn mod i wedi cael y cyfle i gynnal rhagwelediad y darnau yma yn Yr Ysgwrn, a chau’r cylch fel petai, cyn i’r arddangosfa gychwyn ar ei thaith o gwmpas Cymru”.   

Bydd ffurf yr arddangosfa yn newid o le i le, cyn teithio i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ddechrau Awst, ac ymlaen wedyn i orielau eraill tan Ionawr 2019.


Mae ‘I’r Byw’ yn bartneriaeth rhwng wyth oriel a sefydliad, gan gynnnwys Parc Cenedlaethol Eryri, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
--------------------------------

Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.