22.7.22

Yr haf yn yr Ysgwrn

 Wel, mae hi’n haf yn barod – a’r Ysgwrn wedi agor i’r cyhoedd ers tri mis.
 
Mae’n rhaid dweud ei bod hi’n braf iawn eleni cael lled-normalrwydd eto, gyda chwmwl Covid yn dechrau clirio yn ara’ bach.  Mi ydym ni bellach yn gallu cynnig pedair taith lawn y dydd, a digwyddiadau dan do heb orfod poeni am y tywydd!

Mi gawsom Basg prysur iawn, gyda helfa drysor wedi ei threfnu i’r plant o amgylch y fferm.  Daeth criwiau o bell ac agos yma – rhai oedd erioed wedi ymweld â’r Ysgwrn o’r blaen.

Digwyddiad arall difyr yn ystod mis Mai oedd recordio rhifyn arbennig o gyfres Gwrachod Heddiw, sef Gwrachod Meirionnydd.  Sgwrs banel oedd hi, gyda Mari Elen yn holi Bethan Gwanas a Catrin Roberts am bob math o bethau gwrachaidd. Mi oedd hi’n hynod ddifyr clywed am y dail a’r blodau fydd Catrin yn eu casglu a’r elfennau gwrachaidd maen nhw’n weld ynddyn nhw eu hunain heddiw. Mae'r podleidad i’w glywed ar ap AM.

Un datblygiad newydd eleni ydy’r bore coffi am 11am bob bore Sadwrn yn y caffi. Mae’n gyfle i bobl leol ddod draw a chael sgwrs dros baned neu dro o amgylch y ffridd.  Mae ‘na hefyd groeso mawr i ddysgwyr os ydyn nhw yn chwilio am gyfle i siarad Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar.

Mae ein gardd hefyd yn altro, ac mi gawsom wledd o gennin Pedr yn ystod mis Ebrill. Ond un broblem ydym ni’n ceisio ei thaclo ar hyn o bryd ydy defaid yn torri mewn i’r ardd ac yn gwledda ar y planhigion bach newydd!  Croesi bysedd y bydd y ffens newydd i gau’r twll yn gwneud ei gwaith.

Ac allwn ni ddim gorffen heb sôn am ein ffrind bach newydd, sydd wrth ei fodd yn yr Ysgwrn – sef Selwyn y Sgwarnog. Creadur hardd, gyda’i glustiau hir a’i naid osgeiddig. Mae’n braf iawn ei weld yn crwydro’r caeau yma, yn pori’n braf yn y bore bach.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon