28.7.22

Rhod y Rhigymwr -Emyn

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Er pan oeddwn i’n blentyn bychan iawn, mae emynau a thonau wedi chwarae rhan bwysig iawn yn fy mywyd. Yng Nghorris fy mhlentyndod, cynhaliwyd dwy Gymanfa Ganu Undebol bob blwyddyn, a chan fod galw mynych ar Mam i gyfeilio’n y cymanfaoedd hynny, fe ges fy magu yn sŵn y gân. Oedfa’r bore am 10, Ysgol Sul am 2 ac oedfa’r hwyr am 6 yng Nghapel Rehoboth y Methodistiaid oedd dydd Sul i’n teulu ni ... ac yn ychwanegol at hynny, rihyrsals y Gymanfa wedyn yng Nghapel Salem yr Annibynwyr. Ac fel petae hynny ddim digon, fe ddôi’n cymydog, a arferai arwain y rihyrsals, ynghyd â’i wraig acw ar y ffordd adre i barhau â’r gân.

Pa ryfedd felly fod geiriau emyn a nodau tôn wedi bod yn rhan mor annatod ohonof.

Rydan ni’n cofio Prifwyl Aberafan [1966] am Awdl enwog Dic Jones i’r ‘CYNHAEAF.’ Dyma’n sicr un o’r awdlau gorau a gipiodd gadair y Genedlaethol erioed. 

Ond mae’n bwysig cofio’r Brifwyl honno hefyd am englyn hynod ganmoladwy a luniwyd i ‘EMYN.’ 

Bardd, emynydd a phregethwr a aned yn y Blaenau ddaeth i’r brig. Yno, yn Chwefror 1910 y ganwyd Owen Morgan Lloyd ... yn fab i Hugh a Sarah Ann Lloyd, 4, Heol Maenofferen. Roedd Hugh Lloyd yn ddiacon, athro Ysgol Sul a thrysorydd yng Nghapel Jerusalem. 

Cofiwn am y Parch O. M. Lloyd fel gweinidog Eglwys Annibynnol y Tabernacl, Dolgellau am bron i chwarter canrif (rhwng 1955 a 1978). Roedd o hefyd yn fardd a llenor cynhyrchiol oedd yn feistr ar y gynghanedd, ac yn gwasanaethu fel ‘meuryn’ yn Ymrysonau’r Beirdd ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol am sawl blwyddyn. Bu farw ym 1980.

Dyma’i englyn gwych ‘Emyn’:

Mae’n dod â diod awen – at enau
Saint Iôn yn eu hangen;
Y fawlgan hoff, fel gwin hen
O nodd y wir winwydden.

Rydan ni fel Cymry wedi bod yn ffodus ryfeddol o’n hemynwyr, ac oherwydd ein bod ni fel cenedl wedi’n bendithio ag elfen gerddorol, mae’n eithaf posib ein bod ni wedi anwylo mwy ar eiriau ein hemynau nag unrhyw genedl arall. 

Edmwnd Prys, cofeb Llanelwy. Llywelyn2000 CCBY-SA4.0
Un fu’n troedio’r ardaloedd yma bedwar cant a mwy o flynyddoedd yn ôl oedd Edmwnd Prys, yr hen Archddiacon. Fe welodd o werth mewn clodfori Duw ar gân pan gyhoeddodd ei Salmau Cân ym 1621. Dros y canrifoedd, mae’r emyn wedi bod yn gyfrwng eneinedig gan gredinwyr yng Nghymru i ddatgan eu ffydd a’u cred.

Pan oeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Tywyn yn niwedd y chwedegau, ac yn ceisio paratoi at fy arholiadau ‘Lefel A’ mewn Hanes, yn yr iaith Saesneg yn unig y derbyniwyd y papurau arholiad. Yn yr iaith honno yr addysgwyd y pwnc inni, er fod yr athro’n Gymro Cymraeg, ac yn yr iaith honno y paratowyd ni i ateb cwestiynau ar hanes Ewrop a Phrydain rhwng 1714 a 1815. Fel rhan o’r maes llafur, roedd un cwestiwn dewisol ar Hanes Cymru. Ond, yn Saesneg y paratowyd ni ar gyfer ateb hwnnw hefyd. 

Ychydig Suliau cyn yr arholiad, cofiaf wrando ar bregethwr ym mhulpud Rehoboth yn ledio un o emynau Pantycelyn. Pwysleisiodd fod ‘Diwygiad Methodistaidd y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru’ wedi ei grynhoi’n yr emyn yma. Gwnaeth yr emyn argraff arnaf, ac fe roddais y tri phennill ar fy ngho’. Dyma’r cyntaf ohonyn nhw:

Enynnaist ynof dân,
Perffeithiaf dân y nef,
Ni all y moroedd mawr
Ddiffoddi mono ef;
Dy lais, dy wedd, a gweld dy waed
Sy’n troi ‘ngelynion dan fy nhraed.

Wrth ganfod cwestiwn oedd yn ymwneud â’r Diwygiad grymus yma, ac am droedigaethau rhai fel Hywel Harris, Daniel Rowland a Phantycelyn ei hun, dyma fynd ati i sgwennu’r tri phennill yma ar y papur arholiad ac ymhelaethu gorau gallwn arno yn y Gymraeg. 

Yn ystod fy nghyfnod yn y coleg dros hanner canrif yn ôl y cychwynnodd y frwydr i fynnu’r hawl i astudio pynciau cwricwlaidd eraill ac eistedd arholiadau yn y Gymraeg. Tybed ydy myfyrwyr heddiw’n ymwybodol o’r aberth wnaeth fy nghenhedlaeth i dros sicrhau hynny?

I gloi, dyma englyn gan gefnogwr ffyddlon arall - Simon Chandler ... sydd, yng ngeiriau’r bardd ei hun ‘yn sôn am y dyfodol disglair a ddymunaf i ardal y llechi yn sgîl dynodiad safle treftadaeth y byd, ac am rôl allweddol y Gymraeg fel rhan annatod o hynny.’ Ychwanega Simon iddo gael ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg gan leisiau’r hen chwarelwyr a glywodd mewn recordiau tanddaearol pan ymwelodd â Chwarel Llechwedd am y tro cyntaf.

Rhodd yr Hen Chwarelwyr ...

Mewn ffydd, o gudd daw eu gwaddol, o’r oer
daw’r arian adfywiol,
diymffrost pob apostol,
ein hiaith ddaw â’n fory’n ôl.
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon