18.6.16

Yr Ysgwrn -Gwaith y Merched

Newyddion o Gartref Hedd Wyn.

Merched Yr Ysgwrn
Yn y gwanwyn cafwyd tipyn o gyhoeddusrwydd yn y wasg i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae hwn yn ddiwrnod sy’n cael ei ddathlu'n flynyddol er mwyn cofnodi’r hyn mae merched ar draws y byd wedi ei gyflawni’n economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol.

Mae cymaint o son am Hedd Wyn fel mab enwocaf y Traws a’r Ysgwrn, ond prin yw’r hanes am weddill y teulu, yn enwedig y merched.  Felly dyma ddechrau meddwl am fam a chwiorydd Ellis, a’u stori hwythau mewn cyfnod o newid mawr yng nghefn gwlad Cymru.

Mary

Ymunodd Mary, un o chwiorydd Hedd Wyn, a’r ‘Land Army’ yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) a chafodd fynd i goleg Madryn ger Pwllheli’n ferch ifanc i ddysgu sut i wneud caws a menyn. Gan fod y llongau oedd yn cario bwyd i Brydain dan warchae parhaol roedd yn rhaid gwneud y mwyaf o’r cynnyrch oedd ar gael oddi ar y tir gartref. Roedd merched fel Mary’n hanfodol felly i ddysgu sgiliau’r llaethdŷ i eraill yn y trefi a’r dinasoedd. Ac felly y bu. Gwelodd Mary ei chyfle i fyw bywyd tra gwahanol, ac wedi cyfnod yn gweithio priododd ac ymgartrefodd yn ne Lloegr.

Cyn y rhyfel doedd gan ferch o’r dosbarth gweithiol fawr o ddewis o ran trywydd ei bywyd. Cai rhai plant y cyfle i sefyll arholiad y ‘scholarship’ yn 11 oed a mynd ymlaen i ysgol ramadeg. Ond roedd mwyafrif y plant yn aros ymlaen yn yr ysgol gynradd tan eu bod yn 14 oed, lle cai’r merched wersi coginio, glanhau a golchi i’w paratoi i fynd i weini ar ffermydd neu mewn tai preifat. Yna, gadael yr ysgol a mynd i weithio fel morwyn fach a chysgu i mewn lle roedd yn gweithio. Yn wir mae ystafell o’r enw ‘siambr y forwyn’ yn Yr Ysgwrn, y stafell leiaf a welsoch erioed, y drws nesaf i’r gegin, ble byddai’r forwyn fach yn cysgu. 

Ond yn araf bach newidiodd pethau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd merched gyfle i lenwi swyddi dynion, gan ddangos eu bod yn gallu ymdopi â phob math o waith. Ar ôl y rhyfel fodd bynnag aeth y rhan fwyaf yn ôl i’w cartrefi i fod yn wragedd a mamau, neu’n forwynion cyflog.  Byddai trefn gaeth i’r wythnos a’r gwaith yn drwm yn enwedig felly i wraig neu forwyn fferm. Roedd llawer o waith i’w wneud o gwmpas y buarth, yn godro, gofalu am yr ieir a’r moch a helpu allan yn y caeau adeg cynhaeaf gwair neu geirch, heb son am y gwaith tŷ.

Roedd nythaid o blant yn yr Ysgwrn, gyda phedwar bachgen a phum merch yn fintai o ddwylo i helpu Mary’r fam yn y tŷ ac ar y fferm. Gan nad oedd dŵr tap ar gael yn y tŷ roedd yn rhaid gwneud y daith ddyddiol i’r ffynnon i nôl digon o ddŵr i olchi dillad, i lanhau’r tŷ, i ‘molchi corff a gwallt ac i olchi llestri a choginio.

Teulu'r Ysgwrn
Roedd godro’r fuwch yn waith pwysig hefyd gan fod y llaeth yn cael ei ddefnyddio i wneud menyn a chaws i’w werthu’n wythnosol. Byddai hynny, yn ogystal â’r wyau gan yr ieir, yn sicrhau ‘chydig o incwm i wraig y tŷ.  Merched fyddai’n godro fynychaf yn ôl y son, yn aml iawn allan ar y buarth i mewn i fwced agored, gan eistedd ar stôl drithroed a symud fel y byddai’r fuwch yn cerdded yn ei blaen.

Felly mae pethau wedi newid yn syfrdanol i ferched ers amser Hedd Wyn, ac mae’n chwithyg i ni heddiw i feddwl mai dim ond ar ddiwedd y rhyfel yn 1918 y cafodd merched (dros 30) yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf – rhywbeth sy’n cael ei gymryd mor ganiataol y dyddiau yma!

Mae’r Ysgwrn ei hun yn drysor o straeon o bob math, ac yn ffordd o rannu ein hanes cymdeithasol a diwyllianol dros y 100 mlynedd diwethaf. Rydym ar hyn o bryd yn dewis pa ‘straeon’ i’w  hadrodd yn yr Ysgwrn pan fyddwn wedi ail-agor y safle, ac wrthi’n paratoi’r deunyddiau mwyaf addas. Os oes gennych chi atgofion neu straeon yr hoffech eu rhannu, cofiwch gysylltu â ni, ferched yr Ysgwrn.

Cysylltwch â Jess neu Sian ar 01766 770274 neu ebostio ar: yr.ysgwrn[AT]eryri-npa.gov.uk
Diolch i wefan Hanes Merched Cymru – Merched yn Wawr 2002 am ddeunydd ar gyfer yr erthygl.
----------------------------------   

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon