Mae’r Cymry wedi dangos eu cariad at y Gymraeg mewn sawl ffordd dros y canrifoedd. Ar ddydd Mercher 6ed o Orffennaf, 2016, bydd ail ‘Râs yr Iaith’ yn rhoi’r cyfle i ni ddathlu drwy fod yn rhan o râs gyfnewid hwyliog.
Nid râs i athletwyr fydd hon, ond râs dros y Gymraeg gan bobl Cymru. Ei phwrpas yw dathlu’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r Iaith, a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad. Cynhaliwyd y Râs gyntaf yn 2014.
Bydd unigolion, teuluoedd, busnesau neu glybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion yn noddi ac yn rhedeg un cilomedr gan gario baton. Gall disgyblion yr ysgol neu aelodau timau chwaraeon yr ardal redeg yr 1 cilomedr honno. Bydd y baton wedi ei gerfio’n arbennig ar gyfer y râs, ac yn cael ei drosglwyddo o law i law wrth i redwyr ddangos eu cefnogaeth i’r Iaith.
“Mae’n amser i garedigion y Gymraeg ddod at ei gilydd, a dangos ychydig o hwyl dros yr Iaith. Bydd Râs yr Iaith yn ffordd wych i dynnu pobl at ei gilydd a dathlu ein bod ni yma o hyd!” meddai Siôn Jobbins, sydd wedi rhedeg rasus llwyddiannus tebyg dros y Llydaweg, y Wyddeleg a Basgeg.
Gwnewch nodyn o’r amser y bydd yn cyrraedd yma -
dau o'r gloch ar y 6ed o Orffennaf.
Bydd cyfle i chi fod yn rhan o’r dathliadau un ai trwy redeg, noddi, neu gefnogi. Bydd gweithgaredd leol yn cael ei drefnu gan y Pwyllgorau Bro sydd wrthi’n cael eu sefydlu. Bydd y rhain yn gyfrifol am hyrwyddo’r râs yn lleol a threfnu’r dathliadau ac unrhyw weithgareddau fydd yn arwain at y Râs ei hun.
“Mae’n amser dathlu’r Gymraeg a thynnu ynghyd bobl o bob cefndir a diddordeb sydd yn cefnogi’r iaith – boed nhw’n siaradwyr Cymraeg, dysgwyr neu’n ddi-Gymraeg.” meddai Ceri Cunnigton o’r grŵp ‘Blaenau Pam?’ - sydd yn rhan o’r pwyllgor trefnu yma’n y Blaenau.
Os ydych yn awyddus i fod yn rhan o fwrlwm y Râs, cysylltwch â ‘Blaenau Pam?’ am fwy o wybodaeth.
Clywn chi’n holi - PWY YDY’R GRŴP - ‘Blaenau Pam?’
Wel, fe benderfynodd mudiadau ac unigolion ym Mro Ffestiniog - (Y Dref Werdd, Gisda, CellB, Barnardos, Ysgol y Moelwyn, OPRA Cymru, Y Pengwern hyd yn hyn) ddod at ei gilydd i drafod, rhannu synaidau a chyd-weithio er lles y gymuned.
Cyswllt lleol: maia[AT]drefwerdd.cymru
Gwefan Râs yr Iaith
Ceri Wyn Jones |
---------------------------------------------------
Erthygl gan Maia Jones, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2016.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon