Ychydig o newyddion diweddar gan Y Dref Werdd
CLWB CAE BRYN COED
Bu diwrnodau llwyddiannus yn twtio a chlirio cae Bryn Coed yn ddiweddar, fel rhan o weithgarwch ‘Clwb Cae Bryn Coed’ sydd ar y dydd Sul cyntaf o’r mis.
Cliriwyd y mieri a’r llwybrau o amgylch y cae pêl droed a chasglwyd sbwriel o’r safle gan griw o wirfoddolwyr gweithgar.
Bydd y gwaith cynnal a chadw yma’n arwain tuag at y cynllun o greu dôl o flodau gwylltion rhwng y cae pêl droed a’r llwybr i’r goedwig.
Mae ‘Clwb Cae Bryn Coed’ yn cyfarfod a rhwng 1 a 3 o’r gloch; mwy o fanylion yn Llafar Bro ac ar dudalen Gweplyfr/Facebook Y Dref Werdd.
Dewch draw i weld a rhoi help llaw os oes gennych unrhyw amser i sbario.
Bydd paned a chacen i’r gwirfoddolwyr.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Maia ... maia[AT]drefwerdd.cymru / 01766 830082
***
Mae'r gweithgareddau Cynefin a Chymuned yn parhau. Bydd manylion a lluniau yn y rhifynnau nesaf o Llafar Bro.
***
Cofiwch am gystadleuaeth gerddi blynyddol Blaenau y ei Blodau. Ewch amdani!
----------------------------------
Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2016.
Y tro nesa' byddwn yn edrych 'nôl dros flwyddyn o waith Y Dref Werdd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon