Mae’r darlun yn dangos rhai o adran weithgar yr Urdd, Blaenau Ffestiniog, a dynnwyd ar ddydd eu trip i’r Creigiau Duon, Cricieth, yn 1926. Dim ond hanner yr aelodau a ddangosir, felly gall rhywun ddychmygu nifer luosog yn bresennol pe bai pawb wedi ei gynnwys yn y llun.
Urdd Gobaith Cymru Fach. Blaenau Ffestiniog, 1926 |
Bron o’r golwg, ar y chwith, oedd Mr J.R. Jones, un a fu yn gefn mawr i’r adran am nifer o flynyddoedd. Un oedd yn cefnogi ac yn aelod o’r adran ar ddydd y trip, oedd eu gohebydd, Menna Williams. Dyma ei hadroddiad hi :-
“Cawsom ddiwrnod hyfryd, a hwyl campus. Cafodd pawb o’r plant ddod o’r ysgol yn gynt na’r arfer, a thua hanner dydd, roedd y man a’r lle y cychwynem fel cwch gwenyn, a gwenyn hapus iawn, pawb â’i bac bwyd yn ei law ac yn siarad fel melin bupur, ond neb yn gwrando. Wedi i bawb gyrraedd, roedd 54 ohonom. Aethom i’r Parc i gael tynnu’n lluniau, ac wedi llawer o siarad a thwrw a chwythu, llwyddwyd i gael llun. Yna paciwyd ni i gyd i’r ddwy charabang, a dyna ni o’r diwedd yn cychwyn.
Bu’r plant lleiaf yn gweiddi ac yn canu ar hyd y ffordd, yn enwedig pan yn mynd trwy bentref neu dref (dylai pawb wybod am yr Urdd o’r Blaenau i’r Creigiau Duon beth bynnag), ac anodd iawn oedd cael ganddynt eistedd. Roeddynt mor frwdfrydig.
Cawsom daith braf iawn, ac mewn ychydig, cyrhaeddasom y Creigiau Duon, a dyna bron pawb yn y dŵr ar unwaith. Roedd mor braf nes yr oeddwn yn methu yn glir a dod allan ohono!
Ar ôl chwarae a chwerthin ar y traeth, aethom i’r Cafe i gael te; ac rwyf bron yn siŵr fod plant yr Urdd wedi prynu y rhan fwyaf o’r siop, yn enwedig ‘gingi biar’. Yna aed yn ôl i’r traeth, ac roedd yno le iawn i blant. Ymunodd pawb mewn amryw o chwaraeon, rasus a chwarae pêl a phob math o bethau. Cafodd pawb ddigon o bleser a digon o haul. Pe arhosem yno tipyn mwy, byddem yn golsyn. Mae Mr. Jones wedi llosgi ei wyneb yn ofnadwy!
Tua hanner awr wedi saith, cychwynasom tuag adref, pawb wedi mwynhau ei hun ac wedi blino’n braf. Canodd y plant ar hyd y ffordd adref, a chlywsoch chi erioed y ffasiwn weiddi drwy strydoedd Ffestiniog. Mae ein trip cyntaf wedi bod yn llwyddiant garw. Dyma dymor cyntaf yr Urdd wedi dod i ben.”
----------------------------
Ymddangosodd yr erthygl uchod yn rhifyn Mai 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon