14.3.21

Yr Ysgwrn dan glo

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Ysgwrn deimlo effaith pandemig. 

 

Yn 1918, derbyniwyd newyddion erchyll o Seland Newydd, bod Dafydd, ail fab Yr Ysgwrn wedi marw o Ffliw Sbaen. Ychydig dros ganrif yn ddiweddarach, mae’r Ysgwrn, fel gweddill Cymru, dan glo yn sgil y pandemig Cofid 19. Â’r drws ar glo ers mis Mawrth y llynedd, namyn wyth wythnos o groesawu ymwelwyr lleol dros yr haf, bu’r flwyddyn diwethaf yn un dra gwahanol i’r Ysgwrn. Ond, diolch i dechnoleg, bu modd cadw’r drws rhithiol ar agor ac mae nifer o brosiectau a digwyddiadau digidol difyr wedi’u cynnal yn llwyddiannus. 

Cynhyrchwyd nifer o ffilmiau anffurfiol o griw Yr Ysgwrn yn rhannu straeon rhai o greiriau llai amlwg y casgliad a thros fisoedd y gaeaf, cynhaliwyd sawl digwyddiad ar-lein drwy zoom a’r cyfryngau cymdeithasol, o noson garolau i sgwrs enwau lleoedd, nosweithiau gwerinol, sesiynau straeon ac yn fwyaf diweddar, prosiect drama gymunedol ‘Hud y Tir’.
 

 


Prosiect ar y cyd â thrigolion Trawsfynydd ydi ‘Hud y Tir’, dan arweiniad creadigol Siwan Llynor a Gai Toms, sef y tîm creadigol a gydlynodd gynhyrchiad perfformiad cymunedol ‘Yr Awen’ yn 2017. 

Mae ‘Hud y Tir’ yn cael ei ddatblygu drwy sesiynau rhithiol gyda gwahanol grwpiau yn y pentref ac rydym wedi cyffroi i weld y cynnyrch gorffenedig erbyn y gwanwyn! Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan ym mhrosiect ‘Hud y Tir’ drwy greu neu berfformio, cysylltwch â Siwan ar siwanllynor@btinternet.com – bydd croeso cynnes i chi!
 

Bydd Yr Ysgwrn yn cynnal amryw o weithgareddau yn ystod y flwyddyn. Rydym yn mawr obeithio bydd o leiaf rhai o’r rhain yn cael eu cynnal ar y safle, ond mae opsiwn rhithiol ar gyfer pob un, felly bydd digon o fwrlwm i’n cadw ni fynd drwy’r misoedd nesaf. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer digwyddiadau yr hoffech eu gweld yn digwydd yn Yr Ysgwrn, cofiwch gysylltu!
 

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf o’r Ysgwrn a hei lwc cawn eich croesawu’n ôl yn o fuan. Tan hynny, cadwch yn saff!  

Naomi Jones
-----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021

Gwefan Yr Ysgwrn

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon