Showing posts with label Atgofion Pant Llwyd. Show all posts
Showing posts with label Atgofion Pant Llwyd. Show all posts

11.3.19

Atgofion Pant Llwyd

Pennod olaf cyfres Laura Davies.

Cefais dipyn o hanes diddorol gan Laura Jones, Harlech (nee Edwards, un o dyaid o blant y diweddar Tryphena a William Edwards, Mur Lwyd). Nith i Esther ac a dreuliodd ei phlentndod ym Mhant Llwyd.

Sonia am Jini Owen (cariad Hedd Wyn) a arferai fyw tua rhif 8 neu 9 – dynas dlws iawn a dwy foch goch ganddi – ac fel y byddai yn ei chofleidio, “sut wyt ti Lora Bach,” gyda’i dwy law ar ei bochau.

Pant Llwyd. Llun- Paul W
Tua rhif 10 oedd cartef ei Modryb Gwen, a aeth i Lundain i fyw ar ôl colli ei phlentyn, Gwendoline. Dwynai ar gof fel roeddent fel plant ofn wrth glywed swn cenfaint (gyr) o ferlod mynydd llwydion yn rhedeg i lawr Allt Bwlch ‘Wfa. Symudwyd y merlod o’r mynydd i borfeydd y dyffrynoedd yn yr hydref.

Ar ochr ffordd Cae Swch clywodd y Sipsiwn yn canu fin nos wrth y tân. Cofia fynd i Ysgol Llan a chofia ei athrawon: Mrs Capten Roberts, Miss Huws a Miss Lisi Jos, ac un o’i cyd-ddisgyblion – Beti Wyn, Siop Isa’. Soniai am y grât, ym mhen pella’r Capel Bach, ac fel y gofalai Miss Naomi Jos fod yna danllwyth o dân bob amser i gadw ni’r plant yn gynnas mewn rhwy gyfarfodydd.

Wrth son am y merlod, rwyf yn cofio Mam yn adrodd fel y byddai’n forwyn yn Nhyddyn Gwyn Mawr efo’i modryb, Sera Williams, tua 1915 yn dod a merlod o’r mynydd – Y Migneint – i lawr i Felen Rhyd Fawr i bori ac i’w gwerthu i fynyd i byllau glo y De.

Byddai’n gorfod rhedeg o flaen y merlod i gau y llidiardau. Roedd wedi llwyr flino ac yn gorfod cerdded adref i Dyddyn Gwyn Mawr wedyn.

Diolch o galon i Sali Ellis, Pant Llwyd, Esther Owen, Califfornia, a Lora Jones Harlech am ragor o hanes diddorol am Bant Llwyd.
---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 1998 (heb y llun).

1.1.19

Atgofion Pant Llwyd

Pennod 4 o gyfres Laura Davies.
Cefais hanes diddorol o Galifornia, am ardal Pant Llwyd, dipyn bach yn gynharach na fy nghyfnod i, gan Esther Owen (nee Edwards a chwaer i Evan Edwards, Llain Wen). Ymfudodd Esther yno rai blynyddoedd yn ôl o Lŷn. Un o blant Laura a William Edwards (ddiweddarach Gyfynys).

Symudodd y teulu o’r Cefn, lle ganwyd Esther, i Rhif 1 Tan y Bryn, pan oedd yn ifanc iawn. Arferai brawd arall iddi, Willie (William Edwards, Mur Llwyd) fyw yn Islwyn (dau dŷ wedi ei wneud yn un). Sonia mor dwt oedd Pant Llwyd ac mi roedd y lle’n fywiog drwy’r flwyddyn gyda’r cyfarfodydd, dramau, partion a chwaraeon a gynhaliwyd yno. Ras traws gwlad i lawr Cae Swch ac i fyny drwy Llety Fadog ac yn ôl at y Capel Bach. Cofia hi a Mair Vaughan yn hel mafon gwyn ar y dde wrth fynd i fyny’r rhiw wrth Pen Rhiw Mawr a holai a oedd y planhigion yno o hyd.

Dipyn i fyny’r allt, ond ar  y chwith, safai Penrhiw Bach a meddyliai i Lys Owain gael ei adeiladu ar ei sylfeini. Helai atgofion am deulu tawel a hoffus Jo:  Jo malu metlin oedd hi yn ei alw, gan mai dyna a wnaeth. Cofia ei fam a’i dad a’r teulu oll. Mam Mam fyddai pawb yn Mhant Llwyd yn ei galw. Aethwn yno i’w thŷ, gyda Mair Vaughan, ei nith. Gwisgai Mam Mam sgert, het a ‘chep’ bob amser. Byddai Mair yn gofyn iddi “Ble dachi’n mynd”, a Mam Mam yn dweud o hyd “Mynd i godi mhenshwn, yldi.” Mi roedd Mrs Roberts, 2 Islwyn wedi symud yno o Ben Rhiw Bach ac mi roedd ganddi ferch Ann Jane a dau fab, Daniel (tad Ffestin) a gadwai siop ffrwytha’ yn y Blaenau – credaf mai enw’r mab arall ydi Robert Owen.

Llyn Dubach y Bont a ffordd Y Foelgron (llun Paul W)
Roedd cysylltiad teuluol uniongyrchol cydrhwng mam Esther a mam Syr Ifan – hannant o Drawsfynydd ac o’r un hil a theulu yr Archddiacon Hugh Aron Evans. Symudodd ei theulu i Bont yr Afon Gam pan oedd Esther tua 12 oed ac wedyn yn ddiweddarach i Sofl y Mynydd. Helai atgofion am hi a’i brawd Ifan yn trin mawn wrth Ffynnon Eidda ac yn cael dŵr o’r ffynnon. Nid oedd ganddi gof o ddim adeilad wrth y ffynnon ond cofia’n dda am y tŷ mawr a safai ar lan Llyn Dubach y Bont – Y Foelgron. Ni hoffai Esther fyw ym Mhont yr Afon Gam gan fod y lle mor anghysbell ac y bell o Bant Llwyd.

Soniai hefyd fel y cerddasai at Ben Ffridd a throi i’r dde ble roedd gwersyll sipsiwn yn arfer bod ac fel roedd hi a’i chwiorydd yn hoffi edrych i mewn i’r garafan. Honno’n lan a thwt a’r tegannau a’r canwyllbrenau pres yn sgleinio. Gwneud piseri a thuniau godro o bob math oedd y gŵr, Mr Fox.

Meddai ar arth ‘frown’ a hoffem ei gweled yn dawsio fel y canai ei ffidil. Tra’r oedd hyn yn mynd ymlaen gweithiai ddwylo medrus a diwyd ei wraig ar waith crosio. Cofiaf innau hefyd weled sipsiwn wrth giat Llety Gwilym, pan oeddwn yn cerdded adref hefo fy mrawd Dafydd i Sofl y Mynydd, yn y dau ddegau. I gychwyn mi roeddwn eu hofn ond yn araf daethom i’w hadnabod ac yn ffrindiau hefo nhw.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Atgofion Pant Llwyd isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view')


10.8.18

Pant Llwyd

Y drydedd bennod yng nghyfres Atgofion Pant-llwyd, Laura Davies

Mab hynaf Laura Roberts, Dafydd, a’i wraig oedd yn byw drws nesaf ond cwsmeriaid Kitty Ephraim oedd hi.  Galwn yn tŷ nesaf, lle trigai Mr a Mrs Joe Hughes, rhieni Gwen a Dafydd (nid wyf yn sicr o enwau’r rhai ieuengaf).  Priododd Dafydd a Gladys Jones, merch Mr a Mrs Ellis Jos, Bron y Graig, Llan a bu i’r ddau ymgartrefu yng nghyffiniau Llandudno.  Cwsmar Mrs Ephraim oedd Mr a Mrs Jôs, Tŷ Mawr.  Cyn hyn ‘roedd Tŷ Mawr yn gartref i un o arwyr enwocaf Pant Llwyd – Ifan Jôs, Rhosydd (Syr Ifan yn ddiweddarach – y fo oedd goruchwiliwr Chwarel Groes y Ddwy Afon hyn 1906 a Chwarel y Rhosydd 1906 i 1929.  Bu’n gapten yn y rhyfel byd cyntaf a chymerodd ran flaenllaw ym mywyd sir Feirionnydd – ei fam oedd Elin Jones.


Drws nesa, yn Moelwyn View, ‘roedd merch Mr a Mrs Jones, Lizzie a’i gŵr, Ben Robats (cigydd) – rhieni'r efeilliad Gwen a Richard, yn byw.  Wedi i’r teulu yma ymfudo i Sir Fôn, cyn y rhyfel, aeth John Huw Roberts a’i wraig i fyw yno, o Dan y Bryn.  Symud ymlaen ‘rwan’ trigai Mr a Mrs Danial Robets, rhieni Mrs Ethel May Jones (mam Denis a Philys, Llain Wen) drws nesa.  Ym Mhreswylfa trigai gŵr gweddw, Dafydd Jôs, ei howscipar, Miss Naomi Jôs a’r plant, Beti, Annie a Doris.  Arferai Dafydd Jos werthu cig Seland Newydd.  Bob dydd Gwener, deua’r cig mewn sachau o’r stesion a byddai bwrdd y gegin yn llawn o ddarnau o gig oen wedi eu pacio mewn papur menyn yn barod i’w ddosbarthu o gwmpas y pentra’.

Mr a Mrs Morris Jôs oedd yn byw yn drws nesaf (rhif 24 Frondeg heddiw).  Rhieni i Jos, Sal ac Ifor (collasant dri baban).  Mi ‘roeddwn yn adnabod Ifor yn dda gan ei fod wedi bod yn was bach gyda ni pan oeddem yn byw yn Sofl y Mynydd yn y dauddegau.  Priododd Jos a Miss Margaret Davies o Benrhyndeudraeth a hwy yw rhieni Robat Maldwyn a Nan Rowlands, Llan.  Un wych iawn am adrodd oedd yr hen Fusus Jôs.

‘Roedd y tri tŷ wedyn yn rhan adfeilion.  Ond erbyn heddiw maent wedi eu hadgyweirio – diolch Iddo!  Nid oedd y ddau dŷ olaf o Bant Llwyd, Tan y Bryn, yn rhan o’r rhes ond safai’r ddau ar led wahan, yn y pen uchaf.  Ar y pryd oeddwn i’n gofio, Mr a Mrs Huw Robats, rhieni Annie, John Huw, Robat Elis, Emrys a Meurig Tegid a drigai yno.  Byddai buwch Huw Robats yn pori ar y llechwedd yng nghefn y tŷ.  Wedi i Huw Robats fudo oddi yno mi ddaeth John – mab Mrs Robats – a thad Nansi Belle Vue, yno i fyw.  Mrs Ephraim oedd yn byw yn drws nesa’ wedyn.  Cartref hefyd i Chris (a gollodd ei fywyd yn y rhyfel), Maggie, John a Ned Ephraim.

Mae y tai, deg ar hugain i gyd ar y llaw dde a rhyw amcan mai tua cant a hanner o bobl a phlant yn byw yno.  Ar draws y ffordd safai’r Capel Bach fel arweinydd i’r gynulleidfa ar draws y ffordd.  Adeiladwyd ef yn 1905 ac fe’i caewyd tua 1960 a’i werthu i wneud tŷ.  Cofiaf yn glir ac yn dda am y cyngherddau, sosials, a ‘steddfoda yn yr hen Gapel Bach.

Fel y soniais, man meithrin diwylliant cefn gwlad oedd Pant Llwyd yn y tridegau.  Cynhaliwyd gwasanaethau, Ysgol Sul, cyfarfodydd gweddi, Band of Hope, cyfarfodydd dirwestrol a chymdeithasol.  Dysgwyd Rhodd Mam a’r Hyfforddwr.  Dysgodd William Ephraim ddegau o blant i ganu.  ‘Roedd yna gryn ddysgu adrodd a chanu.  Debyg mai yma y dechreuoedd Parti Côr Telyn y Bryniau, gyda Wil Yoxal, Wally Defis, Arthur Ellis, Andrew Roberts, Ellis Robarts, Mabel Robarts, Mrs Ephraim, Dol Robarts, Annie Laura, Mary Owens, Alice Stephens, John Pritchard a Dafydd Price yn arweinydd.
(i’w barhau)
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis web view i weld y dolenni)

Llun -Paul W


8.11.16

Atgofion Pant Llwyd

Ail ran atgofion Laura Davies
Roedd wedi cyrraedd tai rhif 8 a 9 yn y bennod gynta':

Yn uwch i fyny trigai Mrs Yoxall a’i mab Wil.  Nid wyf yn cofio ei gŵr, ond ‘rwy’n barnu mai gweithio ar lein bach Ffestiniog – stesion bach Tan y Bwlch – oedd o.  Mi oeddant yn cadw spanials. Hefyd cofiaf fod yno offeryn.  Wil yn hela a ‘sgota llawer ac wrth gwrs mi ‘roedd ganddo fotobeic i’r perwyl.  Arferai yr hen wreigan groshio capiau bob lliw, i ferched.  Cofiaf i Mam brynu un ganddi, i mi.  ‘Do’n i ddim yn ‘i licio fo o gwbwl a chollais y cap lliwgar yn bwrpasol!

“Ble mae dy gap di, Lora fach?” holodd yr hen wreigan garedig. Tro nesa’ gwelodd fi “O!” medda’ fi, gan ddweud celwydd gola’: “Dwi wedi’i golli o”... 
"Hitia befo,” meddai: “dyma ti un arall am ddim yn ei le." !
 
Llun -Paul W
Y tŷ wedyn oedd cartre’ yr hen Mrs Davies (mam Walter Davies).  Arhosai Mabel, ei hwyres gyda hi – mae hi yn dal i fyw yn Llan o hyd.  ‘Roedd Mabel yn cael radiogram newydd ac mi oedd ei hen gramaffon ‘His Master’s Voice’ – â llun ci bach arni, ar werth.  Mi ‘ro’n i bron a torri ‘mol isho’r gramaffon.  Rhoddais gynnig am y peiriant ond rhaid oedd i mi ofyn i Mam yn gynta’!  “Na” oedd atebiad pendant Mam –  
“Mae gennyt reitiach gwaith i wneud na gwrando ar yr hyrdigyrdi yna”.

Mr a Mrs Owan Alfred Jones oedd drws nesa’. Mi ‘roedd Owan Alfred wedi bod yn arweinydd un o fandiau y de cyn ymfudo i’r Llan.  Yn naturiol cymerodd ddiddordeb mawr ym Mand y Llan.  Rhieni Iorwerth, sy’n byw ym Mhwllheli heddiw, a’r diweddar Dana, Casie, Alfie a Iori oeddynt.  Canai’r hogiau ym Mand y Llan.  Priododd Alfie ferch John ‘Q’ Llan.

Mr a Mrs Evan Ellis Roberts (Ifan Els oedd pawb yn i alw o) a drigaiyn y tŷ â grisiau i fynd i fyny ato.  ‘Nhw oedd rhieni Frank (Siop Bysgota yn y Blaenau,) Elltyd, a’r diweddar Enid.  Mr a Mrs Robert Giffith Roberts, brawd Ifan Els oedd yn byw yn drws nesa’.  Y plant oedd Annie Laura, Kate Elin a’r diweddar Wil bach Llety Gwilym.

Mi ‘roedd eu mam, Mrs Laura Roberts, yn byw drws nesa’ wedyn (rhif 15 heddiw).  Gwelaf hi heddiw yn fyw yn fy llygaid.  Portread o’r hen frenhines Fictoria yn ei nerth fel ceidwad yn llawn cader, a ffedog fras wedi ei gwneud o sach flawd, o hyn o’i blaen.  Gwisgai gap dyn bob amser am ei phen.  “Galw ar y ffordd adra Lowri” gweiddai – gan obeithio fod gen i laethefrith ar ôl iddi hi ei gael yn rhatach!  “Mi gymeraf y cwbwl sydd gennyt ar ôl.” 

Anghofias un d’wrnod, wedi gwerthu’r llaeth-efrith i gyd a mynd heibio’r hen graduras, reit slei.  Ond cefais wybod am hyn cyn nos. ‘Roedd un o’r plant wedi dwad â’r gwyn i Mam.  Er mwyn cadw cwsmar, rhoddodd Mam fesur dwbwl iddi.

Yno yn rhif 15 trigai un o gymeriadau tyneraf Pant Llwyd, sef Joseph Roberts.  Gofalai am lanhau’r ffyrdd a helpu yma ac acw ar y ffermydd – ‘Jo Wali Wac’ fyddan ni’r plant yn ei alw – wrth ei gefn!  Cartref Elin Ann a’i merch, Elsie, hefyd.  Gwelaf Elsie yn weddol amal yng nghartref yr henoed, Bryn Blodau.
----------------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod. 


7.10.16

Pant Llwyd

Pennod un o atgofion Laura Davies,  am gymuned unigryw a ffordd o fyw ar gyrion ein bro.

Yn y flwyddyn 2041, os aiff rhywun i’r archifdy i chwilota am hanes trigolion Pant Llwyd ganrif ynghynt, ni chaiff siw na miw o gwbl yno. Y rheswm oedd na chymerwyd ddim cyfrifiad o’r boblogaeth yn 1941, oherwydd y rhyfel byd. O fy nghof felly dyma fi yn ceisio llenwi dipyn bach o’r bwlch am yr amser melys o’r tridegau o Bant Llwyd, gan obeithio fel y canodd T.H.Parry Williams:
Ac os bydd peth o’m defnydd yn y byd
Ar ôl yn rhywle heb ddiflannu’n llwyr
A’i gael gan gyfaill o gyffelyb fryd
Ar siawns wrth odre’r (Moelwyn), mrig yr hwyr
Ni welir arno lun na chynllun chwaith
Dim ond amlinell (lon o’r felys waith). 
Rhyw hanner milltir allan ar gyrion Llan Ffestiniog gwelwn y pentrefyn unigryw yma, ar ochr y ffordd i’r Bala ac Ysbyty Ifan. Tebyg i’r mwyafrif o dai chwarelwyr o gyfnod Fictoria.

Nid twll o le mohono, Pant Llwyd, ond nyth a chrud diwylliant ar lechwedd yn wynebu’r gogledd a holl ogoniant panoramig agored y Moelwyn a’r Manod o’i flaen. Mae yna tua 30 o dai annedd i gyd a’r cwbl bron mewn un rhes. Ar draws y ffordd i’r rhes o dai safai y Capel Bach Methodistaidd a adeiladwyd yn 1905, ond cauwyd o fel capel yn y 1960au. Mae’n dŷ annedd heddiw.

Dechreua Pant Llwyd ar yr allt, gyda Phen Rhiw ar y dde a Llys Owain ar y chwith – nid oedd y tai ar y chwith wrth fyned i fyny y rhiw ddim yn bod hyd yn ddiweddar (1980). Diwedda’r pentre yn Nhan y Bryn yn ymyl Llety Fadog.

Dyma fy amlinelliad i o Bant Llwyd a’i drigolion:

Cyn mynd i’r ysgol cychwynwn o Dŷ’n y Ffridd tua chwarter i wyth y bore, ar ein ‘rownd’ o werthu llaeth-efrith ym Mhant Llwyd. Dafydd a finnau yn cario dau dun dau-alwyn o laeth-efrith a’r hen fesur bach brass hanner peint yn hongian ar ochr y tun.

Mynd heibio Penrhiw ar y dde (ail-adeiladwyd yn y tri degau). Cofiaf fynd yno unwaith, efo dosbarth ysgol, i wrando ar y brenin George y V yn darlledu ar y weiarles, a galw yn Llys Owain (a adeiladwyd tua 1930 gan Owain Williams, Llety Gwilym – tad John James – felly yr enw Llys Owain). Cartref Mr a Mrs Basil Jones (syfewr y sir) a’r teulu, Colin, Jean a’r diweddar Gareth. Gwraig garedig iawn, ac acen y De ganddi, oedd Mrs Jones, “Sid ichi heddi Lore fech” oedd ei chyfarchiad bob bore.

Galw wedyn yn rhif 1 Llain Wen, Cartref Robat Wmffras a’i howscipar Margiad Lewis y Cwm. Un o hen dras Cwm Cynfal oedd yr hen Robat Wmffras (a mwstash mawr ganddo), ac heb ei ail, yn godwr canu yn y Babell am flynyddoedd. Mae gennyf lun o Robat Wmffras wedi ei dynnu yn 1905.

Yn rhif 2 Llain Wen cartrefai Mr a Mrs Owain Edwards, rhieni y diweddar Bobby Lymley, Maggie a Trefor. Mae Trefor yn cadw gwesty moethus yn Tel Aviv. Mi roedd Owain Edwards yn frawd i Miss Fanny Edwards, Penrhyndeudraeth (awdures straeon plant).

Yn rhif 3 arferai fyw Lily (Wilnow, Bryn Llech) a’i gŵr, Evan Edwards (Tŷ’r Cefn – perthynas i mi), ond yn fy amser i, Mrs a Mrs Robert Jones, rhieni Phylis a Dennis a drigai yno. Wedyn yn 1 Bryn Tirion, tŷ Mr a Mrs Walter Davies, mam a thad Kitty Williams, Stryd Dorfil rwan, Defi Wyn a Wali. Collodd Defi Wyn (21 oed) ei fywyd yn yr India 31.1.45, newydd iddo ymuno â’r fyddin, a bu farw Wali yn Awstralia yn 1991. Mr a Mrs Richard Evans (Dic Syl), eu plant, John Francis, Beryl, Jennie a Megan bach (boddodd Megan yn blentyn bach ym Mhont Newydd ger Caernarfon.  Sonia Sera Evans yn fynych am Megan fach gan fod y drychineb ar ei chof drwy ei bywyd).

William Ephraim a Goronwy yn hel gwair
Mr a Mrs William Ephraim* a oedd drws nesa, ni werthais rioed beint o laeth-efrith yno. Cadwent fuwch mewn cae tu ôl i’r tŷ.

Rhywle tu ôl i Fryn Tirion safai lle o’r enw Hofel y Moch er ni chofiwn i am hynny. Rhieni i Gwilym Gruffydd John, Emlyn, Ior (Tyddyn Merched), Goronwy a Nel, oedd Kitty a William Ephraim.

Er nad oeddent yn gwsmeriad i ni andabuem yr hen deulu i gyd. Yn ôl Emrys Evans (Llafar Gwlad rhif 18 tud.20), yma ym Mryn Tirion y ganwyd y cymeriad hynod Jac Llan, yn y flwyddyn 1854.

Y galwad nesa oedd siop ben, Jane Edwards, mam Annie Rosina Lewis (a nain Daniel Lewis), Mrs Catherine Roberts, Manod, a’r diweddar Gruffydd, Elen Arwel a gollodd ei bywyd trwy ddamwain yn yr Unol Daleithiau yn 22 oed yn 1929. Gwraig nobl ag urddasol oedd Jane Edwards a dysgais lawer oddi wrthi’n anuniongyrchol.

Mi roedd hi’n giamstar ar wneud bara ceirch. Byddiai’n pobi yn ddyddiol a gwerthai hwy o gwmpas siopau’r Llan, Manod a’r Blaenau. Arferai gael hanner peint o laeth-efrith yn ddyddiol a chwart ar ddydd Sadwrn. Cyfanswm ei bil hi am yr wythnos oedd swllt a thair, h.y. chwe hanner peint am geiniog a dima, a chwe cheiniog am chwart. Ni thalai byth am y llaeth-efrith gan i minnau gael nwyddau yn gyfnewid – dau bwys o siwgwr gwyn am bump a dima, grôt a dima am chwarter o de, a sebon a phowdwr golchi am bum ceiniog – swllt a thair y cwbwl. Hoffwn y ‘ginger wine’ a werthai.

Yn nhu ôl y siop safai casgen o oel lamp (paraffin) a chasgen fach o finag. Byddai yn gofyn i mi, yn gyfrinachol - ‘gefaist i bres gan hwn a hwn heddiw?’ Prin oedd pres adeg honno – ac mi oeddem yn dwy yn d’allt ein gilydd yn iawn! Rhif chwech Oakley View yw enw’r tŷ heddiw.

Drws nesaf (rhif 7 heddiw) oedd tŷ Mr a Mrs Arthur Ellis a’r teulu. Gweithiai Arthur Elis gyda nhad yn Chwarel y Groes a chynorthwyant ni gyda’r gwaith yn Sofl y Mynydd. Triga Sali’r ferch yno o hyd. Wil yn byw yn Nhrawsfynydd, Edith yn Bolton Cafe, bu farw Meirion a drigai y y Blaenau yn ddiweddar iawn, ac Eurwen yn byw yn Nhalsarnau. Bu farw Lizzie Elin trwy ddamwain a bu farw Catherine a Trevor yn ifanc. Llyfaf fy ngwefusau bob tro y meddyliaf am y gacen gyrins gawn gan Mary Elis!

Mr a Mrs Robert Owen, rhieni Gwynfor, Mair (diweddar), Kitty, Gwilym, a Robert Owen a drigai yn y tŷ nesaf (rhif 8). Mr a Mrs Charles Williams a fudodd drws nesaf (rhif 9), wedi i Owen Alfred fudo yn uwch i fyny; rhai o’i teulu hwy oedd Magi Lisi (bu i’n forwyn fach hefo ni yn Nhyn y Ffridd), Dafydd, Catherine. Mr a Mrs John Davies (Tŷ Isa – Tŷ Maes yn ddiweddarach) oedd drws nesaf. Fel yr hen arferiad, mi roedd llond tŷ o blant yno – rhai ohonynt oedd Nel, Robat Ifor, Idris, Dilys Annie a Maldwyn sydd yn byw yn y Blaenau.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. Pennod dau i ddilyn y mis nesaf.

* Atgofion Bore Oes Ellen Ephraim.