Crwydro’r cyfandir efo Mici Plwm.
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd ar thema Ewropeaidd.

'
Eto daeth amser i symud'...ydi
un o linellau cofiadwy'r gân i'r Sipsiwn gan Islwyn Ffowc Elis, a gwir y
gair fe ddaeth hi ychydig dros fis yn ôl yn amser i minnau, fel y
Sipsiwn i godi pac unwaith eto.
Fe fyddwn pan oeddwn
i'n blentyn yn Llan, yn hel meddylia'n gyson ynglŷn â faint o'r byd y
byddwn yn anelu i'w weld ac i sawl gwahanol wlad y byddwn, dros y
blynyddoedd yn teithio iddynt.
Braf erbyn heddiw ydi medru nodi mod i
bellach wedi troedio mewn gwledydd megis Awstralia, Seland Newydd,
India, Pacistan a Kashmir, Yr Aifft, Ariannin (Patagonia), Chile, Yr
Unol Daliaethau, Hawaii a Mecsico, Jamaica a'r Dominica Republic, ac i
bob pwrpas holl wledydd Ewrop yn ei thro!
Dwi'n siŵr y
byddai'r crwydryn a arferai grwydro o gwmpas 'Stiniog a gogledd Cymru
pan roeddwn yn blentyn, sef Twm Gwlan, yn rhyfeddu mod i wedi teithio i
gymaint o gorneli o'r byd, ac wedi bwyta danteithion anarferol iawn,
megis cyri cynffon mwnci a nadroedd ac yn y blaen.
 |
| Cartra olwynion Mici |
Tebyg mai'r ffaith fod trigolion Llydaw yn gefndryd
Celtaidd i mi ydi'r prif reswm fy mod yn cael fy nhynnu dros y Sianel, i
fwynhau'r gwmnïaeth a'r bwydydd apelgar a blasus yno, heb anghofio'r
seidr a'r gwinoedd amrywiol sydd yn cael eu gweini yn profi'n fagned
cryf iawn a fydd yn fy nenu draw yno heb ddim trafferth o gwbl.
Yn
ystod wythnos olaf mis Gorffennaf eleni, yn cael fy hun yn gyrru ar
fwrdd y fferi Barfleur a chroesi o Poole i Cherbourg, sef taith o ryw
bedair awr a hanner. Dilyn trwyn y 'cartra olwynion' oedd y bwriad am y
cyfan o fis Awst, gan alw, os byddai'r awydd yn codi mewn pentrefi a
threfi megis Pontorson ger Mont Sant Michel, Dinard a Tregastel,
Douarnenez ac ymlaen i lawr yr arfordir i Auray a Locmariaquer, Lamor
Baden yn ardal Morbihan o Lydaw.
 |
| Cyffro. Cyd-deithiwr ffyddlon |
Erbyn hyn mae darganfod lleoliadau newydd ac ail
ymweld â chydnabod mewn pentrefi glan y môr yn profi'n bleserus iawn
gyda blas llawer rhagor ar wneud yr union beth eto i'r dyfodol.
Fe
fyddwn, fel llyfryn teithio, yn medru adrodd hanesion a sôn am y
gwahanol gymeriadau byddaf yn eu cyfarfod yn flynyddol, gan ychwanegu
rhestr o'r tai bwyta a'r prydau bwyd sydd pob amser yn apelio - ond rhyw
gatalog fyddai hynny.
Wrth deithio mater o bawb at y
peth y bo a mwynhau ydi hi yn fy marn i, a phwrpas hyn o lith ydi tynnu
dŵr i'ch danadd gan obeithio codi rhyw awydd ynddo chithau darllenwyr
Llafar Bro i ddilyn yn ôl fy nhroed a thramwyo llwybrau tebyg i rai bûm i yn ystod yr antur diwetha 'ma.
Pan
ddaeth hi yn amser i droi trwyn y 'cartra olwynion' am adra roedd dros
fil a phum cant o filltiroedd wedi gwibio dan yr olwynion.
Ble
nesaf? - wel gan aros ym myd y 'Sipsiwn': Nid oes gennyf ddewis bro o
felys i mi yw byw, felly hei ho heidi ho tan y tro nesaf bydd hi.
Kenavo!
-------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
[
Diolch i ymgyrch Cymru Rydd yn Ewrop am y faner sydd wedi ymddangos efo'r gyfres. Lawrlwythwch amrywiol faneri yn fan hyn]