29.3.16

Pobl y Cwm -'Nôl i'r Babell

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.   
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Roedd capel y Babell yn oer iawn yn y gaua, nid oedd dim byd i'w dwymo. Roedd grât fach dân yn y Festri. Roedd pobeth yn burion yn y gwanwyn a'r haf, ond pan ddoi gauaf roedd yn bur angysurus i fod yn eistedd dros awr yn y capel bach. Pan fyddai gwynt yn chwrlio a'r rhew yn ffyrnig, a'r eira a'r glaw yn curo'r ffenestri yn eu tymor, byddai dipyn o gwyno, a dechreuwyd anesmwytho a meddwl o ddifri am rywbeth i'w gynesu.

Bu dipyn o drafod ar y mater, rhai yn fodlon aros yn mlaen fel yr oedd pethau, gan ddweyd eu barn y dylai Gwres yn Ysbryd gadw corff yn gynnes, ond pasiwyd yn y diwedd yn unfrydol i fynd a'r achos yn mlaen i'r Fam Eglwys, Engedi i gael gair terfynol, a chafwyd dwy stôf i weithio hefo coaks, un ym mhob pen i'r capel. A chan fod pethau o'r fath yn ddiethr i'w deall, pa fodd i'w gweithio ar y cychwyn, bu bron iawn i anffawd ddifrifol ddigwydd.

Nid oedd y gofalwr wedi deall yn iawn. Fy nhad oedd hwnnw, a chan iddo droi rhyw deglyn o chwith, aeth y stôf yn rhy boeth nes i'r coed tu ôl iddi ddechreu cymeryd tân, ond cafwyd ymwared mewn pryd, ac ni wnaed difrod mawr iawn yno, diolch am hynny, a bu cynhesrwydd da yno tra parodd y ddwy stôf.

Lampau oel oedd yn goleuo'r capel, dwy yn y Sêt Fawr a pedair uwchben, a dwy yn y Festri. Byddai rhaid llenwi y rhai hyn ddwy waith yr wythnos, a rhagor ambell i dro fel byddai galw. Llawer i stŵr a helynt fyddai hefo nhw, methu gael y fflam yn iawn, y wig yn gam, a fflam yn mygu ac yn duo y gwydyr. Byddai rhaid glanhau y gwydrau ar ôl bob tro er mwyn goleu clir, a'u golchi hefyd yn aml iawn. Rywfodd roedd y gwaith, er yn llafurus yn bleserus i mi, ac rwyf yn edrych yn ôl ato gyda hiraeth am a fu.
Aelodau'r Babell wedi dod i baratoi bwyd i ddathlu hanner can mlwyddiant y capel newydd ym 1954. Cafwyd y llun gan Mrs Sally Williams

Ymhen rhai blynyddoedd fel yr oedd yr amser yn pasio, ymfudodd Edward Owen, organydd y Babell i wasanaethu i Loegr, er colled fawr i'r Babell. Rhaid oedd chwilio am rywyn arall i wneyd y gwaith, a chan mai prin iawn yr adeg hono oedd o athrawon o radd i roi addysg i'r ifanc, bu dipyn o anhawsterau yr adeg hono yn y Babell, methu a chael chwareuwr sefydlog, dim ond dibynu ar hwn a'r llall a fforch y glust. Roedd Pirs Jones Brynllech, bachgen lled ieuangc a'r ddawn ganddo heb gael addysg gan neb o radd. Cymerodd y gwaith ar yr organ, a bu yn hynod o llwyddianus, yn ffyddlon a selog gyda'r gwaith trwy lawer o anhasterau, pellter ffordd o Brynllech i'r Babell am rai blynyddoedd, nes i Rhyfel 1914 dorri allan, a bu rhaid i Pirs Jones fynd i'r fyddin. Roedd o yn un o hogia Cwm Cynfal aeth yn aberth i'r gyflafan erchyll.

Yn y cyfamser, dechreuodd dwy o ferched ifanc y Babell gymeryd gwersi ar chware yr organ, a bu llwyddiant mawr yn eu menter ar y gwaith. Enw morwynol yr hynaf o'r ddwy organyddes oedd Ellen Lewis. Daeth y teulu i Gwm Cynfal o Gwm Hermon rhyw dro tua'r flwyddyn 1912. Cafodd Ellen Lewis ei haddysgu gan Madam Laura Pritchard Evans, 'Perdones Cynfal', A.R.C.M.   Dechreuodd ar y gwaith o chware'r organ yn y Babell cyn bod yn 15 mlwydd oed, a gwasanaethodd am drigain mlynedd, a hyny yn yr un capel, sef capel bach y Babell, nes iddi hi a'i phriod Gruffydd Davies ymddeol a dod i gartrefu i bentre Ffestiniog.

Enw morwynol yr ail organyddes oedd Mary Ellen Roberts. Daeth teulu hon i Gwm Cynfal o Drawsfynydd, i Cae Iago rhyw dro tua'r flwyddyn 1910. Cafodd hithau ei haddysgu gan Madam Laura Pritchard. Dechreuodd hithau ar ei gwaith o wasanaethu gyda'r organ yn ifanc iawn, cyn bod yn 16 oed. Bu llwyddiant mawr ar waith y ddwy, er clod a help i'r achos yn y Babell. Buont yn ffyddlon yn ddiwyd, yn wasanaethgar a dirwgnach yn eu gwaith trwy lawer o anhawsterau.

Cofiwn mai capel bach yn y wlad yw Babell. Roedd gofal cartre ganddynt, gwaith y ffarm a phellter y ffordd, bob math o dywydd i ddod i bob gwasanaeth i'w gwynebu. Ac yn y blynyddoedd cynar hyny, nid oedd cyfleusterau fel sydd heddyw, rhaid oedd dibynu ar y ddwy droed i'ch cario i bob man. Rwyf am ddiolch yn fan hyn i gyfeillion y Babell am roi help i mi gofio pethau oedd wedi mynd yn angof genyf, wrth holi a stilio a sgwrsio hefo hwn a llall, roedd fy nghof yn dod yn ôl i mi fel blodyn yn agor ar ôl gael dŵr.

 ----------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn 2000.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon