23.3.16

Diolch Elsi!

Cyfarfod i ddangos gwerthfawrogiad ardal.
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2016. 

(Lluniau gan Alwyn Jones)

Gan fod Mrs Elizabeth Ann Jones (Elsi), Erw Las, Bethania, yn paratoi i’n gadael ni am ei henfro yng nghyffiniau Llanbedr Pont Steffan, fe aeth Meinir Boynes ati i drefnu ‘te ymadawol’ iddi yng Nghaffi Llyn, Tanygrisiau, a gwahodd yno gynrychiolwyr o’r gwahanol gymdeithasau y bu Elsi yn ymwneud â nhw dros y blynyddoedd ers iddi hi a’i phriod, y diweddar Arwel Jones, ymsefydlu yma yn 1978. 


Ar derfyn y gwledda caed ychydig eiriau pwrpasol gan Meinir ac yna Pegi Lloyd Williams, i gyfarch Elsi cyn i’r beirdd, Iwan Morgan, Gwilym Price a Vivian Parry Williams, gael cyfle wedyn i ddangos eu gorchest mewn odl a chynghanedd a chân.


Cyflwynwyd tusw mawr o flodau i Elsi gan gadeirydd Llafar Bro ac yna, ymddangosodd gacen anferth o werthfawrogiad, i bawb ei mwynhau.

Dymunwn iechyd a phob hapusrwydd iddi wrth iddi ddychwelyd i’w hen gynefin.

Dyma ddetholiad o benillion Gwilym Price i Elsi


Mae heddiw’n ddydd arbennig
Sydd gyda chymysg flas,
Wrth roi ffarwel i Elsie –
Cenhades Erw Las.

Ers derbyn Els ac Arwel
I’r Blaenau flwyddi’n ôl,
Fe’n cyfoethogwyd yma
Gan ddau a wnaeth eu hôl.

’Rôl profi ‘trefn’ mewn bywyd
Mae’n galed i barhau,
Ac anodd iawn yw’r siwrna
I un, lle gynt bu dau.

Wrth symud at berthnasau
A ffrindiau bore oes,
Gobeithio’n wir cewch iechyd
A chyfnos heb ddim loes.

Diolchwn i chwi heddiw
Am gael eich cwmni cyd,
Y De fydd gyfoethocach
A’r Blaenau’n dlotach byd.

Os daw ryw hiraeth drostoch
A’ch calon yn y baw,
Bydd breichiau i’ch croesawu
Yn ôl i wlad y glaw.

Ymddangosodd yr isod yng ngholofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan yn yr un rhifyn:

Roedd hi’n fraint ac anrhydedd cael llunio’r cywydd canlynol iddi, a’i gyflwyno yn y cyfarfod i recordiad o dannau telynau Mona Meirion a Dafydd Huw o’r gainc ‘Hafan’ gan Eleri Huws:

I  ELSI JONES … fydd yn ymadael â’r ardal yn 2016. Roedd ei chyfraniad hi a’i diweddar briod, Arwel Jones i fro’r Blaenau yn amhrisiadwy ...

Mae ymadael, mae mudo       
Rhyw rai’n ysgytwad i fro.
Y bobol hyn fu’n rhoi blas
I’w heithaf i gymdeithas;
Daw hyn ag achos tristáu
Eleni’n nhref y Blaenau.

Els a aiff, yn ôl y sôn,
I degwch Ceredigion,
I rengau tir ieuengoed,
A hi’n awr yn hŷn ran oed;
‘Nôl i fan, mor annwyl fu,
I nyth aelwyd ei theulu.

Y pethau gorau garodd,
Yn eu byd, roedd wrth ei bodd.
Un abl oedd i roi i blant
Allwedd i ddrws diwylliant,
Gydag acen bro’i geni
Yn rhan o’i heglurder hi.

Mynych fu ei chymwynas,
Yn graig ymhob moddion gras;
Graen o’i hôl, ei gorau wnaeth
Inni drwy’i hir wasanaeth,
A’i ffordd fedrus, hoffus hi
A welsom, - diolch, Elsi.


A dyma'r cerddi a gyflwynodd Vivian Parry Williams i Elsi ar yr achlysur:

Tribannau i Glodfori Elsi

Fe dalwn ein gwrogaeth
I un brysur o’r gymdogaeth;
I Elsi, rhown ddiolchiadau gwir
Am hynod hir wasanaeth.

Bu’n driw i’r noson blygu
R’hoff bapur bro yng Nghymru,
Fe blygodd filiwn copi, do,
O Lafar Bro ers hynny.

Bu’n mesur a didoli,
A gwlychu bawd, a chyfri’,
A gwrando’r straeon yn y cwrdd
Wrth rannu bwrdd â Phrinsi.

Caed llawer pwyllgor difyr
O’r criw’n ymwneud â’r papur,
Roedd rhai yn faith, nid yw’n syrpreis -
Wil Preis yn malu awyr.

Bu’n nghwmni Wil ac Iwan,
Ac Emyr, fi ac Ifan,   
A Pôl a Ger, a Thecwyn Fôn
A Sandra’n sôn am arian.

Mae’n haeddu cael ryw deyrnged
Am fod yn rhan o’r uned,
I ni, mae Elsi’n werth y lês -
Arglwyddes ein cymuned.

Stand bei! Mae gen i neges
Gan Lisi, y frenhines,
Mae’n cynnig braint i urddo Els,
What else - yn dywysoges.

Ond wedi’r holl gellweirio,
Fe gofiwn am gydweithio,
Ac am ei chymorth, yr un modd -
Mor anodd fydd ffarwelio.

Bu’n hoelen wyth, bu’n angor,
Bu’n ddoeth, pob gair o gyngor,
Bu’n weithgar, do, bu hon yn gefn
Wrth gadw trefn mewn pwyllgor.

Bu’n llywio sawl cymdeithas
Bu’n hael wrth wneud cymwynas,
A rhoddodd hon i Gymru’i gwlad
Ei chariad gydag urddas.

Nawr Els, cyn ichi deithio
O’r dre’, rwyf yn gobeithio,
Oherwydd ein cysylltiad ni,
Na wnewch chi ein anghofio.

A phan ddaw pwl o hiraeth,
Gofynwch am achubiaeth,
Fe ddown i lawr i’ch ‘nôl am sbel,
I ‘ch dychwel o’ch halltudiaeth.

Cewch siŵr, fe gewch ddychwelyd
I Stiniog, bro ein gwynfyd,
Cewch groeso gennym yn ddi-os,
Cewch aros yma hefyd.

Diolch am bob gair a chymod,
Diolch am gymwynas barod;
A diolch am eich cwmni braf,
A diolchaf am eich ‘nabod.

       

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon