Mae'r dydd wedi 'mestyn dipyn eisioes, ac mi fyddwn yn troi'r clociau eto mewn dim. Yn y cyfamser, mae natur yn rhoi rhyw ragolwg inni o'r gwanwyn i ddod.
Yng Ngheunant Llennyrch ar ddiwrnod bendigedig, ddiwedd y mis bach, yr oedd yn dechrau swnio fel gwanwyn eto, gyda cheiliog titw benddu ym mrigau uchaf derwen yn croesawu ymwelwyr i'r warchodfa efo'i diwn gron cerddorol.
Y lleiaf o'n titwod, goroesodd y gaeaf trwy fwyta pryfetach sy'n byw dan risgl coed. Mae pâr wedi ymweld â'r ardd acw hefyd drwy'r misoedd oer i fwyta cnau a hadau.
Wrth nesáu at y Rhaeadr Du 'roedd swn gwyllt yr afon yn boddi cân yr adar bach tu ôl imi, ac 'roedd dafnau o wê a gwybed cynnar yn disgleirio yn yr haul o'm blaen. Ar y llwybr mae'r deri ifanc yn dal yn styfnig yn eu dail crîn cyn cael gorchudd newydd, ac ar y cyll, mae'r cynffonnau wyn bach -blodyn gwrywaidd y goeden- wedi agor yn llawn (wrth eu taro yn ysgafn gellid gweld y paill yn disgyn ac yn gwasgaru yn y gwynt).
Rhaeadr Ddu |
Ar ddiwrnod braf arall yr un wythnos yng Ngoed Cymerau Isaf, 'roedd dail suran y coed yn dechrau gwthio trwy'r haen o ddail ar lawr y goedwig. Mae'r dail ar ffurf tair calon, ac yn agor yn ddyddiol i fanteisio ar wres yr haul i gynhyrchu bwyd; bydd yn blodeuo tua diwedd y mis yma neu ddechrau Ebrill. Ar y llawr hefyd a thros y waliau cerrig 'roedd y gwyddfid yn ymledu gyda rhai dail newydd eisioes wedi ymddangos. Bydd rhaid aros tan Mehefin serch hynny, i'r blodyn a'i arogl hyfryd ymddangos.
Tydw i heb weld grifft llyffant eto, ond fel tystiolaeth i bryderon gwyddonwyr am newid hinsawdd cafwyd wyau ym mis Tachwedd 1995 ar benrhyn mwyaf deheuol Prydain, y Lizard, yng Nghernyw.
Bydd y genau goeg neu fadfall y dŵr ar eu mwyaf lliwgar rwan tra'n chwilio am gymar. Yr oedd hwn yn gyfnod cyffrous i ni fel plant, yn chwilio am yr amffibiaid yma ar y gors bach, ac uwchben Fron Fawr, dau safle sydd bellach wedi eu llenwi a'u sychu, hanes sy'n gyffredin i lawer o ardaloedd, felly'n arwain at ddirywiad lleol mewn bywyd gwyllt.
Tua'r adeg yma y llynedd y gwelais, trwy lwc pur, garlwm yn ei gôt gaeaf gwyn yn croesi'r ffordd o 'mlaen, a blaen du ei gynffon yn amlwg, ac yn ystod eira olaf Chwefror yr es i felly, i ben Graig Gyfynys y tu ôl i'r atomfa, i edrych am ei olion ar lawr. Er chwilio dyfal, a chanfod olion cwningod a llwynog, ni chefais lwc y tro hwn. Ond 'roedd yr olygfa tua moelydd gwyn 'Stiniog, a'r bwncath a chigfran yn galw uwchben yn gysur ar ddiwrnod braf arall.
------------------------------------
Addaswyd o erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 1996.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Lluniau- Paul W, Rhagfyr 2015
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon