Dyma erthygl a ymddangosodd fel rhan o'r golofn 'Ar Wasgar' gan alltudion Bro Ffestiniog, yn rhifyn Rhagfyr 1998.
Allan Tudor o Solihull sy’n cyfrannu i’r gyfres y mis yma.
Weithiau mae pobl yn gofyn i mi sut yr wyf wedi cadw fy Nghymraeg, a finnau wedi gadael Cymru i bob pwrpas ers hanner can mlynedd. Wrth gwrs mae llawer o resymau am y ffaith i mi gael dim trafferth i gadw’r iaith, fel llawer alltud arall. Ond rwyf yn teimlo fod un ffactor cynnar wedi bod yn hynod ddylanwadol arnaf. Cyfeirio wyf at effaith o fod wrth draed Mr J.S. Jones yn Ysgol Slate Quarries, fel ei gelwid bryd hynny.
Er fy mod wedi dod o Fanceinion yn siarad Cymraeg yn rhugl, diolch i fy rhieni, yn yr ysgol yma y cefais y sylfaen gadarn i Gymreigrwydd.
J.S. Jones, Athro Arbennig Iawn
Un o Danygrisiau oedd JS, neu Jack Sam, fel yr adweinid gan bawb yn y cylch. Bu yn athro yn Ysgol Higher Grade (lle mae’r Ganolfan bellach) o dan y Prifathro Mr Phillips. Yn rhyfedd iawn bu Mam yn ddisgybl iddo, ac yn fawr ei pharch ohono.
Erbyn i mi gyrraedd y Blaenau yn 1940, yr oedd yn Brifathro y Slate Quarries i fechgyn. Cefais y fraint, fel yr wyf yn ei gweld rwan, am tua dwy flynedd a hanner, o fod o dan ei ddylanwad. Dyna i chwi athro. Yr oedd yn amlwg yn credu mewn addysg grwn. Nid yn unig yr oedd yn ein paratoi yn fanwl ar gyfer y “Scholarship”, ond hefyd yn meithrin diddordeb mewn barddoniaeth, cerddoriaeth, hanes lleol, llên gwerin a llenyddiaeth (Cymraeg a Saesneg).
Roedd yn feistr ar ddysgu mathemateg, a hynny tu draw i ofynion safon ysgol gynradd. Meddai ddawn i hyfforddi'r bechgyn i adrodd yn effeithiol. Rwyf yn gweld yn awr Dafydd Jones o flaen y dosbarth yn adrodd “Cymru Rydd” gan John Morris Jones, gydag arddeliad! Roedd llyfryn bychan wedi ei gyhoeddi yn 1940 ar gyfer ei anfon i’r bechgyn a oedd i ffwrdd yn y rhyfel: “Hwnt ac Yma”, detholiad o gerddi ac ysgrifau diddorol. Ffefryn mawr gyda JS, ac yn cael ei ddefnyddio ganddo yn aml fel gwerslyfr. Diolch fod copi a gafodd fy Nhad gennyf o hyd.
Un arall o’i ffefrynnau oedd “Hanes Plwyf Ffestiniog”, a mynych y darllenai ohono i ni. Eto mae gennyf gopi, wedi ei brynu yn y Gelli Gandryll.
Yn rhyfedd iawn, copi Bryfdir sydd gennyf. Nid oedd y siop yn gwybod arwyddocad hyn, neu buasai’r pris wedi bod llawer yn uwch mae’n siwr!
Hoffai gyflwyno Y Beibl i ni fel llenyddiaeth hefyd. Er enghraifft, cofiaf iddo drafod Galarnad Dafydd am Saul a Jonathan yn ddwys iawn.
Yr oedd JS yn gerddor da, yn dysgu y bechgyn i ddarllen Sol-Ffa, ac i ganu mewn harmoni. Rhaid dweud iddo fethu yn llwyr ar y pwnc yma gyda mi!
Rwyf yn siwr nad fi yw’r unig un i deimlo’r ddyled yma i ŵr amryddawn iawn. Hoffwn pe bai rhywun llawer mwy cymwys na ni yn gallu cloriannu cyfraniad J.S. Jones i fywyd y gymdeithas. Yn aml byddai yn son am rai o bobl bwysig a dylanwadol a fagwyd yn y cylch, heb fawr feddwl ei fod ef yn un ohonynt.
----------------------------------
Gallwch ddilyn cyfres 'Ar Wasgar' efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon