Showing posts with label y Beibl. Show all posts
Showing posts with label y Beibl. Show all posts

5.3.16

Ar Wasgar- Athro arbennig iawn

Dyma erthygl a ymddangosodd fel rhan o'r golofn 'Ar Wasgar' gan alltudion Bro Ffestiniog, yn rhifyn Rhagfyr 1998.

Allan Tudor o Solihull sy’n cyfrannu i’r gyfres y mis yma.  

Weithiau mae pobl yn gofyn i mi sut yr wyf wedi cadw fy Nghymraeg, a finnau wedi gadael Cymru i bob pwrpas ers hanner can mlynedd.  Wrth gwrs mae llawer o resymau am y ffaith i mi gael dim trafferth i gadw’r iaith, fel llawer alltud arall.  Ond rwyf yn teimlo fod un ffactor cynnar wedi bod yn hynod ddylanwadol arnaf.  Cyfeirio wyf at effaith o fod wrth draed Mr J.S. Jones yn Ysgol Slate Quarries, fel ei gelwid bryd hynny.

Er fy mod wedi dod o Fanceinion yn siarad Cymraeg yn rhugl, diolch i fy rhieni, yn yr ysgol yma y cefais y sylfaen gadarn i Gymreigrwydd.

J.S. Jones, Athro Arbennig Iawn

Un o Danygrisiau oedd JS, neu Jack Sam, fel yr adweinid gan bawb yn y cylch.  Bu yn athro yn Ysgol Higher Grade (lle mae’r Ganolfan bellach) o dan y Prifathro Mr Phillips.  Yn rhyfedd iawn bu Mam yn ddisgybl iddo, ac yn fawr ei pharch ohono.

Erbyn i mi gyrraedd y Blaenau yn 1940, yr oedd yn Brifathro y Slate Quarries i fechgyn.  Cefais y fraint, fel yr wyf yn ei gweld rwan, am tua dwy flynedd a hanner, o fod o dan ei ddylanwad.  Dyna i chwi athro.  Yr oedd yn amlwg yn credu mewn addysg grwn.  Nid yn unig yr oedd yn ein paratoi yn fanwl ar gyfer y “Scholarship”, ond hefyd yn meithrin diddordeb mewn barddoniaeth, cerddoriaeth, hanes lleol, llên gwerin a llenyddiaeth (Cymraeg a Saesneg).

Roedd yn feistr ar ddysgu mathemateg, a hynny tu draw i ofynion safon ysgol gynradd.  Meddai ddawn i hyfforddi'r bechgyn i adrodd yn effeithiol.  Rwyf yn gweld yn awr Dafydd Jones o flaen y dosbarth yn adrodd “Cymru Rydd” gan John Morris Jones, gydag arddeliad!  Roedd llyfryn bychan wedi ei gyhoeddi yn 1940 ar gyfer ei anfon i’r bechgyn a oedd i ffwrdd yn y rhyfel: “Hwnt ac Yma”, detholiad o gerddi ac ysgrifau diddorol.  Ffefryn mawr gyda JS, ac yn cael ei ddefnyddio ganddo yn aml fel gwerslyfr.  Diolch fod copi a gafodd fy Nhad gennyf o hyd.

Un arall o’i ffefrynnau oedd “Hanes Plwyf Ffestiniog”, a mynych y darllenai ohono i ni.  Eto mae gennyf gopi, wedi ei brynu yn y Gelli Gandryll. 

Yn rhyfedd iawn, copi Bryfdir sydd gennyf.  Nid oedd y siop yn gwybod arwyddocad hyn, neu buasai’r pris wedi bod llawer yn uwch mae’n siwr!

Hoffai gyflwyno Y Beibl i ni fel llenyddiaeth hefyd.  Er enghraifft, cofiaf iddo drafod Galarnad Dafydd am Saul a Jonathan yn ddwys iawn.

Yr oedd JS yn gerddor da, yn dysgu y bechgyn i ddarllen Sol-Ffa, ac i ganu mewn harmoni.  Rhaid dweud iddo fethu yn llwyr ar y pwnc yma gyda mi!


Rwyf yn siwr nad fi yw’r unig un i deimlo’r ddyled yma i ŵr amryddawn iawn.  Hoffwn pe bai rhywun llawer mwy cymwys na ni yn gallu cloriannu cyfraniad J.S. Jones i fywyd y gymdeithas.  Yn aml byddai yn son am rai o bobl bwysig a dylanwadol a fagwyd yn y cylch, heb fawr feddwl ei fod ef yn un ohonynt.
----------------------------------

Gallwch ddilyn cyfres 'Ar Wasgar' efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

10.1.16

Tanygrisiau Ddoe- Yr Ysgol

Pennod tri yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.
 
Y cof cyntaf sydd gennyf o fynd i’r ysgol oedd pan oeddwn ychydig dros dair oed. Cefais i fy hun yn nosbarth y babanod yn ddigon di-seremoni fel a gofiaf ymysg gryn ddau ddwsin o blant gwinglyd a swnllyd fel finnau. Gyda phleser cofiaf y dosbarth a’r athrawes a’r llais mwyaf addfwyn.

Dysgodd i ni ganu –y gân yma fyddai cân yr ysgol fach bob bore:
    “Diolch i ti Arglwydd,  
     Am dy ofal cu,
     Drwy’r hirnos dywyll, 

     Gwyliaist drosom ni.”

Symud wedyn i’r dosbarth 1af a dysgu ysgrifennu a darllen a gwrando ar stori cyn mynd adre’n y pnawn. Y llyfrau darllen fwyaf cofiadwy oedd Nedw, Hunangofiant Tomi. Roedd rhaid hefyd ddysgu darllen yn uchel ar ein traed a llyfr yn ein dwylo, naill ar ôl y llall yn darllen pedair brawddeg. Mr Jones oedd yn ein dysgu ac yn ein gorfodi i gofio bob gair, ac mi oedd pob un ohonom yn y dosbarth yn medru darllen cyn gadael.

Roedd y Prifathro yn rhoi gwersi i ni yn y bore – darlleniad o’r Beibl a barddoniaeth; ei ffefryn oedd Eifion Wyn. Un wers oedd Misoedd y Flwyddyn, gan ddarllen y bennill cyntaf o Ionawr, yna rhoi eglurhad (Wyt Ionawr yn oer a’th farug yn wyn / iar fach yr hesg / amser y flwyddyn / tywydd). Byddai bob un o’r gwersi yma ganddo yn cynnwys bywydeg, lleoliad, coed, natur, hanes, blodau, a gallu’r bardd gyda geiriau ac odlau. Rhaid oedd i ni gofio’r rhain hefyd er mwyn eu darllen allan. Rhoddodd Mr Jones hoffter i mi at lenyddiaeth Eifion Wyn ac am flwyddyn o wersi misoedd y flwyddyn.

Dim cinio ysgol, dim dŵr poeth yn y tapiau. Dim ond y plant hynaf oedd yn cael chwarae allan yn y tywydd oer iawn. Tân glo ymhob ystafell yn y gaeaf. Llechen las a phin sgwennu o lechen yw rhai o’m atgofion o ysgol y babanod yr adeg yma.

Y cof olaf sydd gennyf ein bod i gyd yn yr ysgol adeg lecsiwn a chael ein harwain allan at Siop y Post gan fod ryw g’warfod ar y groesffodd a chael ‘rosette’ coch ar ein brest a chanu “Rhowch Vote i John Jones Roberts” neu “Haydn Jones”. Nid wyf yn cofio yn iawn nag yn hidio llawer am y lecsiwn ar y pryd, ond ei fod yn hwyl.


LLUN.  Un o hen deuluoedd Tanygrisiau: rhieni, brodyr a chwiorydd Mary Jones. Tynnwyd y llun gan Ll. Griffiths yn y cae ger y bont, Tŷ’nddôl.
--

Yn yr haf byddem yn mynd i chwarae i Ddolrhedyn. Roedd yr afon yma yn lân iawn ac wedi cael argae yn y rhan uchaf, agosaf at rediad Pistyll Pant y Friog, a hynny yn gwneud pwll nofio da ac yn is i lawr roedd yna bwll bach arall: ‘Llyn hogia’ a ‘Llyn genethod’ fel y’i gelwid. Bu llawer iawn o hwyl diniwed yno. Roedd dynion hefyd wedi gwneud darn o dir o flaen rhes West End yn gae i chwarae coets (quoits), a byddai gwŷr o bob oed yno yn cael gêm gyda’r nosau yn yr haf efo brwdfrydedd iach.

Byddem fel plant hefyd yn mynd am bicnic i Gwmorthin a sglefrio i lawr yr inclên trwy eistedd ar duniau rhostio. Roedd corlan ddefaid ym Modychain odditan y creigiau, lle byddai geifr yn dod i lawr (o flaen y glaw fel y dywedid!). A chofio fel y byddem yn gweiddi yn uchel “Nani-Goat -a-Bili-Goat-a-Bow-ow-ow”, er mwyn i’r eco o’n lleisiau ei daflu yn ôl. Roedd y garreg ateb yn gweithio bob tro a byddai y geifr yn sgrialu yn uwch i’r creigiau.

-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.