Pennod tri yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.
Y cof cyntaf sydd gennyf o fynd i’r ysgol oedd pan oeddwn ychydig dros dair oed. Cefais i fy hun yn nosbarth y babanod yn ddigon di-seremoni fel a gofiaf ymysg gryn ddau ddwsin o blant gwinglyd a swnllyd fel finnau. Gyda phleser cofiaf y dosbarth a’r athrawes a’r llais mwyaf addfwyn.
Dysgodd i ni ganu –y gân yma fyddai cân yr ysgol fach bob bore:
“Diolch i ti Arglwydd,
Am dy ofal cu,
Drwy’r hirnos dywyll,
Gwyliaist drosom ni.”
Symud wedyn i’r dosbarth 1af a dysgu ysgrifennu a darllen a gwrando ar stori cyn mynd adre’n y pnawn. Y llyfrau darllen fwyaf cofiadwy oedd Nedw, Hunangofiant Tomi. Roedd rhaid hefyd ddysgu darllen yn uchel ar ein traed a llyfr yn ein dwylo, naill ar ôl y llall yn darllen pedair brawddeg. Mr Jones oedd yn ein dysgu ac yn ein gorfodi i gofio bob gair, ac mi oedd pob un ohonom yn y dosbarth yn medru darllen cyn gadael.
Roedd y Prifathro yn rhoi gwersi i ni yn y bore – darlleniad o’r Beibl a barddoniaeth; ei ffefryn oedd Eifion Wyn. Un wers oedd Misoedd y Flwyddyn, gan ddarllen y bennill cyntaf o Ionawr, yna rhoi eglurhad (Wyt Ionawr yn oer a’th farug yn wyn / iar fach yr hesg / amser y flwyddyn / tywydd). Byddai bob un o’r gwersi yma ganddo yn cynnwys bywydeg, lleoliad, coed, natur, hanes, blodau, a gallu’r bardd gyda geiriau ac odlau. Rhaid oedd i ni gofio’r rhain hefyd er mwyn eu darllen allan. Rhoddodd Mr Jones hoffter i mi at lenyddiaeth Eifion Wyn ac am flwyddyn o wersi misoedd y flwyddyn.
Dim cinio ysgol, dim dŵr poeth yn y tapiau. Dim ond y plant hynaf oedd yn cael chwarae allan yn y tywydd oer iawn. Tân glo ymhob ystafell yn y gaeaf. Llechen las a phin sgwennu o lechen yw rhai o’m atgofion o ysgol y babanod yr adeg yma.
Y cof olaf sydd gennyf ein bod i gyd yn yr ysgol adeg lecsiwn a chael ein harwain allan at Siop y Post gan fod ryw g’warfod ar y groesffodd a chael ‘rosette’ coch ar ein brest a chanu “Rhowch Vote i John Jones Roberts” neu “Haydn Jones”. Nid wyf yn cofio yn iawn nag yn hidio llawer am y lecsiwn ar y pryd, ond ei fod yn hwyl.
LLUN. Un o hen deuluoedd Tanygrisiau:
rhieni, brodyr a chwiorydd Mary Jones. Tynnwyd y llun gan Ll. Griffiths
yn y cae ger y bont, Tŷ’nddôl.
--
Yn yr haf byddem yn mynd i chwarae i Ddolrhedyn. Roedd yr afon yma yn lân iawn ac wedi cael argae yn y rhan uchaf, agosaf at rediad Pistyll Pant y Friog, a hynny yn gwneud pwll nofio da ac yn is i lawr roedd yna bwll bach arall: ‘Llyn hogia’ a ‘Llyn genethod’ fel y’i gelwid. Bu llawer iawn o hwyl diniwed yno. Roedd dynion hefyd wedi gwneud darn o dir o flaen rhes West End yn gae i chwarae coets (quoits), a byddai gwŷr o bob oed yno yn cael gêm gyda’r nosau yn yr haf efo brwdfrydedd iach.
Byddem fel plant hefyd yn mynd am bicnic i Gwmorthin a sglefrio i lawr yr inclên trwy eistedd ar duniau rhostio. Roedd corlan ddefaid ym Modychain odditan y creigiau, lle byddai geifr yn dod i lawr (o flaen y glaw fel y dywedid!). A chofio fel y byddem yn gweiddi yn uchel “Nani-Goat -a-Bili-Goat-a-Bow-ow-ow”, er mwyn i’r eco o’n lleisiau ei daflu yn ôl. Roedd y garreg ateb yn gweithio bob tro a byddai y geifr yn sgrialu yn uwch i’r creigiau.
-----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
Showing posts with label Dolrhedyn. Show all posts
Showing posts with label Dolrhedyn. Show all posts
10.1.16
17.6.12
Tân Dolrhedyn
Diweddariad i'r stori, o golofn Stolpia, Mehefin 2012
Diolch yn
fawr i amryw ohonoch a gysylltodd gyda hanes
llun y tŷ aeth ar dân yn Nolrhedyn a ymddangosodd yn rhifyn Mai. Diolch
yn arbennig i Mrs Gladys Williams, Rhyd
y Gro a Mr Robert Cadwaladr Roberts, Hafan Deg. Roedd Gladys yn cofio
achos y tân a’r cwbl, ac er nad oedd
hi’n cofio yr union ddyddiad, roedd ei chof yn ddigon da imi gael gafael ar yr
hanes ym mhapur newydd y cyfnod, sef y ‘Rhedegydd’ am
Fehefin 8fed, 1939.
Dyma bwt o'r adroddiad:
Daeth y Frigad Dân heibio ymhen llai na phum munud ar
ôl yr alwad.
Methodd a mynd i fyny’r allt serth at Tŷ Gwyn, a bu raid cael
ychwaneg
o betrol. Pan lwyddwyd i gyrraedd yr oedd grym a
nerth y goelcerth
wedi cael ei orchfygu gan y trigolion er yr holl anhawster i
gael dŵr
o fewn cyrraedd. Gwnaed hyn gyda bwcedi - yr hyn sydd yn gryn glod
iddynt gan fod y fflamau o
dŷ Evan Owen yn ei wneud yn amhosibl i
fynd yn agos ac yn hynod fygythiol.
Prynwch Llafar Bro i gael yr hanes yn llawn.
18.5.12
Stolpia
Tân yn un o dai Dolrhedyn:
Tybed pwy all ein helpu ni i
ddyddio’r llun diddorol hwn a anfonwyd atom gan y Bnr Aled Ellis, Minffordd. Pe bae ni’n
cael dyddiad y digwyddiad, efallai y
gallwn gael hyd i adroddiad amdano yn un
o’r hen bapurau newydd i gael cefndir
y stori. Efallai y bydd un ohonoch chi
ddarllenwyr yn cofio’r tân, neu o leiaf
wedi clywed amdano gan rywun. Diolch am y llun Aled.
Mae STOLPIA yn un o golofnau rheolaidd Llafar Bro, gan Steffan ab Owain.
Subscribe to:
Posts (Atom)

