Showing posts with label Eifion Wyn. Show all posts
Showing posts with label Eifion Wyn. Show all posts

29.7.18

Atgofion Cynhaeaf Gwair

Erthygl gan Wil Price

Fel dywed y bardd Eifion Wyn:
‘Gwrendy y weirglodd
Am lais y bladur.’
Amser pleserus iawn yng nghalendr y fferm oedd y cynhaeaf gwair.

Mae paratoi am y cynhaeaf yn dechrau yn niwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill, pryd mae’r amaethwr yn gwrteithio’r tir gyda thail y gwartheg dros gyfnod y gaeaf.  Yna, at ddiwedd Ebrill, roedd y plant 10-14 mlwydd oed yn cael eu gyrru allan i ‘grega’, sef mynd o amgylch y weirglodd i gyd gyda bwced i godi unrhyw gerrig a fuasai wedi dod i wyneb y tir, neu drwy ddifaterwch eraill o daflu cerrig i’r cae, a hynny heb sylweddoli mor helbulus y gallai hynny fod i’r pladurwr.

Cael y pladuron i gyd wedi eu hogi ar y maen llifio, y cribiniau i gyd gyda dannedd newydd, y picffyrch a’r drol yn barod at eu gorchwyl.

Llun gan Ellen Maiden -hel ym Mhantllwyd

Disgwyl diwrnod braf i gychwyn, un ai gwrando ar y radio am ragolygon – doedd dim sôn am deledu yn y dyddiau hynny – neu  ail-brocio’r cof am hen arwyddion a ddaeth i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth – gweld y gwenoliaid yn hedfan yn uchel neu’n isel; sut roedd hi’n nosi? Oedd y mynyddoedd yn edrych yn bell neu’n agos? ... ac yn y blaen.

Rhaid oedd dechrau rywdro, gyda’r tad rhan amlaf yn cychwyn, a’r meibion neu’r  gwas yn ei ganlyn, a hynny tua 5 o gloch y bore cyn i’r gwlith godi.

Byddent yn wyliadwrus iawn faint i’w dorri yn ôl y rhagolygon neu eu gweledigaeth hwy eu hunain.  Ofn torri gormod, rhag ofn i’r tywydd droi yn anffafriol, neu ar yr ochor arall, ofn colli tywydd braf i barhau am wythnos neu well.  Ond profiad y tad oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yma eto.

Yna, yn amal iawn byddai’r tad yn mynd at ei waith dyddiol erbyn 8 yn y bore, a’r hogia i odro’r gwartheg yn y beudy ac yna i’r ysgol erbyn 9 o’r gloch.

Ar ôl ymborthi’r pladurwyr, amser i’r merchaid ddod allan i chwalu’r ‘stodiau’ er mwyn i’r gwair ddechrau gwywo. Y diwrnod canlynol, dilyn yr un drefn, gyda’r merchaid yn ‘troi’ y gwair er mwyn gwneud yn siŵr fod ochor isaf y gwair yn cael cyfle i wywo.

Y tad fel rheol oedd yn penderfynu os oedd y gwair yn ddigon aeddfed i’w gario i’r gadlas.

Ambell dro, byddai’r tywydd yn troi’n gymylog a gwan ac roedd yn ansicr dweud os oedd glaw yn agos.  Yr amser yma, roedd yn rhaid ‘mydylu’, a  dyma’r orchwyl gasaf gan bawb i’w wneud, achos mi fyddai’n orfodol i ‘rencio’ gwair i gyd, yna ei godi fel pebyll bach ar hyd y cae gan ofalu fod pen y mwdwl wedi ei godi fel bod y glaw yn rhedeg oddi arno i gyd, a dim yn mynd trwodd i’w du mewn.

Clywsoch lawer gwaith rwy’n siŵr fod eisiau pen iawn ar y mwdwl – wel dyma yn sicr i chwi o lle daeth y dywediad yma. Cyn cario’r gwair i’r gadlas, rhaid oedd bod yn hollol siŵr o ddau beth.

1.    Peidio byth â’i gario os nad oedd o wedi gwywo’n iawn.   Os buasai tamed ohono heb wywo, gallai’r mymryn yma boethi i’r fath wres yng nghanol y gadlas nes achosi tân a difa’r cynnyrch i gyd.  Byddai hynny’n digwydd o fewn 6 wythnos o’i gario fel rheol.
2.    Peidio byth â’i gario os oedd rhywfaint o law heb sychu yn iawn ar y gwair.  Mewn dim amser mi fuasai’r gwair yma yn llwydo'r holl gynnyrch a’i ddifetha.

Ple bynnag yr oeddech yn gorffen eich gorchwyl yn y cae gwair, y pechod mwyaf fuasai cario eich cribin tuag at y gadlas.  Na – rhaid oedd tynnu’r gribin tu ôl – rhag ofn y buasai rhywfaint o wair wedi ei fethu a hynny ar ôl i chwi hel yr olion.  Yr eglurhad yr oeddech yn ei gael – er cyn lleied o wair oedd gennych ar y gribin, fuasai hwnnw ddim ar gael pe baech ei angen yn ystod y gaeaf maith. Hwyrach y byddai’n ddigon i wneud un pryd i’r fuwch odro!

Ni fedraf orffen heb gynnwys cwpled o gyngor a gefais gan fy nhad pan oeddwn yn cychwyn ar fy ngyrfa fel plymar ym 1948.
“Cwyd dy bladur cyn iddi fynd heb ddim min,
A stopia dy geffyl cyn iddo stopio ei hun.”
Cyngor sydd â llawer o feddwl tu ôl  iddo ‘rwy’n siŵr - tu allan i fyd ffermio! 
Dyddiau difyr iawn. 
----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018

19.7.17

Rhod y Rhigymwr -cofio


Yn ystod y flwyddyn 2017, byddwn yn cofio am eni sawl emynydd, llenor a bardd. Mae ambell ymdrech wedi ei gwneud eisoes i gofio’r Pêr Ganiedydd o Bantycelyn - a anwyd dri chan mlynedd union yn ôl. Yn nhyb llawer, gellid bod wedi gwneud llawer mwy, o gofio’r bri a roddwyd ar Dylan Thomas ar adeg canrif ei eni yn 2014 a’r nofelydd plant, Roald Dahl, ganrif ers ei eni yntau’r llynedd.

Ganrif a hanner yn ôl, ar yr 2il o Fai, 1867, ganwyd y bardd Eliseus Williams ym Mhorthmadog. Fe’i hadweinid yn well wrth ei enw barddol ‘Eifion Wyn’, a does dim dwywaith mai ef oedd un o feirdd telynegol mwyaf Cymru. Mae nifer o’i delynegion i’r misoedd yn rhan o’n cynhysgaeth fel cenedl, fel y gellir dweud am sawl cerdd arall o’i eiddo. Dyna ‘Ora Pro Nobis’ a ‘Cwm Pennant’. Mae’r cwestiwn yng nghwpled clo’r gerdd honno ar gof sawl un ohonom:

Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws
a bywyd hen fugail mor fyr?


Cofiwn hefyd am ei englyn enwog ‘Blodau’r Grug’ – a ddaeth i’r brig ym Mhrifwyl Caernarfon ym 1906:

Tlws eu tw, liaws tawel, - gemau teg
Gwmwd haul ac awel;
Crog glychau’r creigle uchel,
Fflur y main, ffiolau’r mêl.


Ar y 13eg o Ragfyr, 1867 y ganwyd Humphrey Jones, yng Nghwm Croesor. Treuliodd y rhan helaethaf o’i oes yma yn nhre’r Blaenau. Dysgodd elfennau barddoniaeth yn ifanc gan Glaslyn (1831-1909), a chyn ei fod yn ugain oed, cafodd ei urddo yng Ngorsedd y Beirdd. Enillodd dros drigain o gadeiriau eisteddfodol a daeth yn arweinydd eisteddfodau hynod boblogaidd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, sef, ‘Telynau’r Wawr’ a ‘Bro fy Mebyd a Chaniadau eraill’. Bu farw ar yr 22ain o Ionawr, 1947. Fe gofiwn amdano’n y fro hon wrth ei enw barddol – ‘Bryfdir’.

Mynyddoedd Stiniog -llun Paul W

Ym Mhrifwyl Pwllheli ym 1925, anfonodd bryddest i gystadleuaeth y goron. ‘Bro fy Mebyd’ oedd y testun, a chipiwyd y wobr gan Wil Ifan – a ddaeth wedi hynny’n Archdderwydd (1947-50). Canodd Bryfdir i’r ‘... Cwm lle y’m ganed i...’

Tariaf yng nghysgod y Moelwyn a’r Foel,
Tra’r Arddu a’r Cnicht megis dwy anferth hoel
Ym mhared yr ardal, i grogi’r las nen
Groesawa y wawr mewn sidanwisg mor wen!


Cynhwysa ei ail gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1929 amrywiaeth o ganiadau, adroddiadau a’r bryddest a grybwyllwyd.  Canodd i leoedd yn yr ardal fel ‘Bwlch Gorddinen’ a ‘Hen Ysgol Llwynygell’. Ceir ganddo hefyd nifer o englynion sicr eu crefft:

Blodau’r Eithin
Y Foel unig felynant, - tres eurog
Tros arw glawdd ddodant;
A’u mawredd pawb ymyrant,
Gyda gwên eu gwaedu gânt.


Y Pren Criafol
Egwan ei fraich, gwyn ei frig - dan olud
Yn nhalaith y goedwig;
I’r adar, bwrdd caredig
Dan wawr gwaed yn awyr gwig.


Yn ogystal â chofio am eni gwŷr llên, cofiwn hefyd am farw sawl un. Ganrif yn ôl, roedd y Rhyfel Mawr yn ei fri. Mae Vivian Parry Williams yn olrhain hanes ac effeithiadau’r cyfnod yn ei ysgrifau gafaelgar misol ar ddalennau Llafar Bro. Dichon y caf innau gyfle i sôn am Hedd Wyn ac eraill cyn diwedd y flwyddyn.

IM
---------------------------------------


Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y we.

12.4.16

Tanygrisiau Ddoe -Lesyns Hustori...

Pennod pump yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.

Dysgu darllen – ar ein traed yn y dosbarth a llyfr gan bob un. Ar ben y rhes oeddwn i, o tua dwsin neu ragor o fechgyn a genethod a Mr Jones yr athro. Y cyntaf yn darllen dwy linell o’r bennod ddewisol yn y llyfr ac felly ymlaen, pob un ohonom yn gorfod darllen yn bwyllog nes cyrraedd y diwedd. Os byddai ambell un yn cael trafferth fyddai wiw i neb wneud sylw (na pwffian chwerthin) a rhaid byddai i bob un ohonom ddehcrau yn ôl i’r cyntaf o’r rhes – a felly ymlaen, nes roeddem i gyd yn y dosbarth yn cael ein gorfodi i ddeall, ac o’r cof sydd gennyf nad oedd yr un plentyn a oedd yn y dosbarth wedi methu dysgu darllen yn rhugl yn y dosbarth.

Hoff o farddoniaeth oedd Jôs Head, a’i hoff fardd Cymraeg oedd Eifion Wyn. Byddai Mr Jones yn rhoi gwers i ni yn y bore fel gwasanaeth, ac yna byddem yn cael misoedd y flwyddyn, er engraifft: Mis Ionawr yn oer. Yn y darlleniad byddem yn darllen ‘Wyt Ionawr yn oer a’th farrug yn wyn, ... i ddŵr y llyn, ... a iar fach yn rhynnu yn ei phlu, ... ayb’.


Byddem yn cael gwersi am y tymhorau, a bywydeg, daearyddiaeth a hefyd hanes, ond fel yng nghân Dafydd Iwan – beioloji, jograffi a hustori y cyfeiriwyd atynt bryd hynny. Ar ben y cyfan cofiaf eisiau bod yn gyfarwydd â disgrifio mewn geiriau byd natur ac yn y blaen. Aeth hyn ymlaen i mi gofio ein bod wedi bod gyda Eifion Wyn yn yr ysgol yn Nhanygrisiau am y misoedd cysylltiedig, diolch i Jôs Head (ddeudai i).

Diolch i’r athrawon da, yr oeddem yn symud i’r dosbarthiadau uwch yn hyderus o’n gallu i ‘sgwennu a darllen, a cofiaf y Water Babies yn arbennig o’r cyfnod honno.

Tra yn yr ysgol yr oedd meddyg, nyrs, a’r dyn llygaid yn dod i edrych ar ein hiechyd yn rheolaidd.
Cofiaf brysurdeb mawr yn yr ysgol fach gyda un ymweliad y meddyg; roedd yn tynnu tonsils rhai o’r plant drannoeth, a bu Mrs Rowlands, y glanhawraig (yn ei ffedog fras), yn brysur baratoi a golchi a sgwrio llawr a byrddau un ystafell, gan adael arogl sebon carbolig mawr drwy’r adeilad. Un a gafodd y driniaeth oedd bachgen o ffordd Cwmorthin ym mhen uchaf  Dolrhedyn, a eisteddai wrth y ddesg nesaf i mi. Cofiaf weld ei fam wedyn yn ei gario yn ei breichiau mewn siol fawr, a’i ben druan yn llipa a gwaed ar ei foch. Mi fendiodd a dychwelyd i’r ysgol ymhen bythefnos!

Tra yn nosbarth 4-5, daeth athrawes newydd i’r ysgol. Un o’r Manod oedd hi ond yr oedd wedi bod yn dysgu yn y de, a dywedodd nad oedd ond am siarad Saesneg efo ni gan feddwl ei bod yn glyfar iawn. Mae atgofion llawer mwy addfwyn gennyf am Miss Williams yn nosbarth y babanod a’i llais tyner, ac am Jôs y prifathro.
---------------------------------------------------------

Defnyddir y llun uchod fel enghraifft yn unig, i ddarlunio'r cyfnod; nid Ysgol Tanygrisiau ydyw. Diolch i VPW am ei ddarparu.  (Ysgol Annarparedig Penmachno, tua 1905)

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

10.1.16

Tanygrisiau Ddoe- Yr Ysgol

Pennod tri yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.
 
Y cof cyntaf sydd gennyf o fynd i’r ysgol oedd pan oeddwn ychydig dros dair oed. Cefais i fy hun yn nosbarth y babanod yn ddigon di-seremoni fel a gofiaf ymysg gryn ddau ddwsin o blant gwinglyd a swnllyd fel finnau. Gyda phleser cofiaf y dosbarth a’r athrawes a’r llais mwyaf addfwyn.

Dysgodd i ni ganu –y gân yma fyddai cân yr ysgol fach bob bore:
    “Diolch i ti Arglwydd,  
     Am dy ofal cu,
     Drwy’r hirnos dywyll, 

     Gwyliaist drosom ni.”

Symud wedyn i’r dosbarth 1af a dysgu ysgrifennu a darllen a gwrando ar stori cyn mynd adre’n y pnawn. Y llyfrau darllen fwyaf cofiadwy oedd Nedw, Hunangofiant Tomi. Roedd rhaid hefyd ddysgu darllen yn uchel ar ein traed a llyfr yn ein dwylo, naill ar ôl y llall yn darllen pedair brawddeg. Mr Jones oedd yn ein dysgu ac yn ein gorfodi i gofio bob gair, ac mi oedd pob un ohonom yn y dosbarth yn medru darllen cyn gadael.

Roedd y Prifathro yn rhoi gwersi i ni yn y bore – darlleniad o’r Beibl a barddoniaeth; ei ffefryn oedd Eifion Wyn. Un wers oedd Misoedd y Flwyddyn, gan ddarllen y bennill cyntaf o Ionawr, yna rhoi eglurhad (Wyt Ionawr yn oer a’th farug yn wyn / iar fach yr hesg / amser y flwyddyn / tywydd). Byddai bob un o’r gwersi yma ganddo yn cynnwys bywydeg, lleoliad, coed, natur, hanes, blodau, a gallu’r bardd gyda geiriau ac odlau. Rhaid oedd i ni gofio’r rhain hefyd er mwyn eu darllen allan. Rhoddodd Mr Jones hoffter i mi at lenyddiaeth Eifion Wyn ac am flwyddyn o wersi misoedd y flwyddyn.

Dim cinio ysgol, dim dŵr poeth yn y tapiau. Dim ond y plant hynaf oedd yn cael chwarae allan yn y tywydd oer iawn. Tân glo ymhob ystafell yn y gaeaf. Llechen las a phin sgwennu o lechen yw rhai o’m atgofion o ysgol y babanod yr adeg yma.

Y cof olaf sydd gennyf ein bod i gyd yn yr ysgol adeg lecsiwn a chael ein harwain allan at Siop y Post gan fod ryw g’warfod ar y groesffodd a chael ‘rosette’ coch ar ein brest a chanu “Rhowch Vote i John Jones Roberts” neu “Haydn Jones”. Nid wyf yn cofio yn iawn nag yn hidio llawer am y lecsiwn ar y pryd, ond ei fod yn hwyl.


LLUN.  Un o hen deuluoedd Tanygrisiau: rhieni, brodyr a chwiorydd Mary Jones. Tynnwyd y llun gan Ll. Griffiths yn y cae ger y bont, Tŷ’nddôl.
--

Yn yr haf byddem yn mynd i chwarae i Ddolrhedyn. Roedd yr afon yma yn lân iawn ac wedi cael argae yn y rhan uchaf, agosaf at rediad Pistyll Pant y Friog, a hynny yn gwneud pwll nofio da ac yn is i lawr roedd yna bwll bach arall: ‘Llyn hogia’ a ‘Llyn genethod’ fel y’i gelwid. Bu llawer iawn o hwyl diniwed yno. Roedd dynion hefyd wedi gwneud darn o dir o flaen rhes West End yn gae i chwarae coets (quoits), a byddai gwŷr o bob oed yno yn cael gêm gyda’r nosau yn yr haf efo brwdfrydedd iach.

Byddem fel plant hefyd yn mynd am bicnic i Gwmorthin a sglefrio i lawr yr inclên trwy eistedd ar duniau rhostio. Roedd corlan ddefaid ym Modychain odditan y creigiau, lle byddai geifr yn dod i lawr (o flaen y glaw fel y dywedid!). A chofio fel y byddem yn gweiddi yn uchel “Nani-Goat -a-Bili-Goat-a-Bow-ow-ow”, er mwyn i’r eco o’n lleisiau ei daflu yn ôl. Roedd y garreg ateb yn gweithio bob tro a byddai y geifr yn sgrialu yn uwch i’r creigiau.

-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

26.5.15

Rhod y Rhigymwr -mis Mai

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mai 2015:

Dros y canrifoedd, canodd nifer o feirdd i fis Mai.

Un o feirdd enwocaf Cymru, a ystyrir yn feistr ar y cywydd a’r canu serch oedd Dafydd ap Gwilym, a ganai yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr, yn ôl yn y 14eg ganrif, a chydnabyddir ef fel un o feirdd pwysicaf Ewrop yn yr oes honno. Meistrolodd y mesur caeth newydd, sef, y ‘cywydd.’

Credir iddo gael ei eni rhwng 1320 a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth ac iddo farw tua 1380, a’i gladdu, yn nhyb haneswyr, o dan yr ywen yn Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion.


Prif destunau cerddi Dafydd oedd natur a serch. Roedd y rhain yn bynciau dieithr i farddoniaeth Cymru cyn ei gyfnod ef.

Mae ganddo sawl cywydd sy’n cyfeirio at fis Mai. Mae un o’r cywyddau hyn, sy’n agor gyda’r llinellau:

‘Duw gwyddiad mai da gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad Mai’

i gyd ar yr un odl.

Mae ganddo gywydd arall i Fis Mai a Mis Tachwedd. Mae’n agor drwy gyfarch Mai:

‘Hawddamor, glwysgor glasgoed,
Fis Mai haf, canys mau hoed ...’

Ceir cyferbyniad yn y cywydd rhwng Mai a Thachwedd y ‘dig du.’ Mae’n un o gerddi enwoca’r bardd i fyd natur. Ynddo, mae’n ymhyfrydu yng ngogoniant yr haf, sy’n llawn bywyd ac egni, ac wrth wneud hynny, mae’n cofio caru â’i ‘Forfudd.’

Cyferbynnir wedyn y tymor hyfryd hwn â mis Tachwedd - y mis sy’n rhwystro cariadon rhag caru, a mis sy’n llawn o gysgod marwolaeth.

Mae Dafydd ap Gwilym yn llwyddo i greu argraff ddisgrifiadol, synhwyrus o’r ddau fis, sydd hefyd yn ddelweddau o brofiad dyn.

Mis llawn lliw ac o ganu adar ydy Mai i’r bardd. Mae’r lliwiau gwyrdd a’r glesni’n cael lle amlwg. Ond uwchlaw’r cyfan, mae’r mis yn deffro nwyd a serch ynddo, a ‘Morfudd’ yn amlwg iawn yn ei feddwl. Ym Mai, tymor y synhwyrau, mae bywyd ar ei orau a chysylltir y deffro hwn ym myd natur â chariad Dafydd a Morfudd.

Tachwedd ydy’r gwrthwyneb i Fai. Ceir cyferbyniad llwyr:

‘Annhebig i’r mis dig du
A gerydd i bawb garu ...’

Mae’r gair ‘annhebig’(sic) yn pwysleisio’r cyferbyniad. Nid yw Tachwedd yn annog cariadon. Yn hytrach, ysbeiliwr ydyw, sy’n dwyn dail oddi ar y coed; yn achosi glaw a dyddiau byrion; neu fel y mynega’r bardd:

‘A llesgedd, breuoledd braw,
A llaesglog a chenllysglaw’


Yn nes at ein dyddiau ni, canodd sawl bardd arall i’r mis arbennig yma. Telyneg a wnaeth argraff arnaf ydy un Eifion Wyn (1867-1926):

‘Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda’i firi yn yr helyg,
Gyda’i flodau fel y barrug –
Gwyn fy myd bob tro y dâl.’

Disgrifia’r bardd fel yr aeth ‘tua’r waun’ ar las y dydd i weld ‘y gwlith ar wasgar’ac i ‘eistedd tan brennau’ i weld yr ‘edn glas’ yn disgyn arnynt ‘gan barablu enw’r gog’.


‘Mai’ oedd mis geni Eifion Wyn. Ar yr 2ail o Fai, 1867 y gwelodd olau dydd gyntaf yn y Garth, Porthmadog.

Mae gosodiad telynegol y cerddor o Ddyffryn Ardudwy, Meirion Williams (1901-76) o’r delyneg yn enghraifft nodedig o’r gân gelf Gymreig. Llwyddodd Meirion Williams i gyfuno sensitifrwydd geiriol barddoniaeth Eifion Wyn a defnyddio’i ddawn gynhenid i greu cyfeiliant mor effeithiol a diddorol.

Pe bae rhywun yn gofyn i mi p’run yw fy hoff englyn, un o’r rhai a fyddai ar frig y siart fyddai un fy hen gyfaill o Ardudwy, John Ieuan Jones (1924-2003) i Fis Mai:

‘Hen fuwch y borfa uchel – heb aerwy
   A bawr heddiw’n dawel,
 A dail Mai fel diliau mêl
 Wedi rhoswellt y rhesel.’

Cyhoeddwyd cyfrol fechan o gerddi Ieuan (Cyfres Beirdd Bro 4 – Gwasg Christopher Davies Cyf) yn ôl ym 1976. Cyfeiria’r Prifardd Alan Llwyd ato’n ei gyflwyniad fel ‘gŵr yr encilion … gŵr swil a diymhongar.’  Daeth y ddau ar draws ei gilydd yn nhre’r Bala yn ystod cyfnod Alan yn Awen Meirion a Ieuan yn ymweld â’r dre’n rhinwedd ei waith fel Swyddog Lles Addysg. Yn ystod yr ychydig seiadau a gawsant ‘dros baned neu ddwy,’ clywodd Alan ef yn adrodd yn wylaidd ei delyneg neu ei englyn diweddaraf, a hynny gyda rhyw fflach fach ddireidus yn ei lygaid.  Ac fe wyddai ei fod yng nghwmni ‘bardd,’ oherwydd, yng ngeiriau Alan ei hun, ‘dim ond bardd a allai lunio englyn fel yr un i Fis Mai, gyda’i gynildeb cywasgedig a’i urddas ymataliol.’

Noda Dafydd Islwyn, sy’n cynnwys yr englyn ymysg ei gasgliad ‘Cant o Englynion’ (Cyhoeddiadau Barddas 2009):

‘Dim ond tyddynnwr sylwgar a allai ganu englyn fel hwn.’

Dywed Alan Llwyd ymhellach na cheir yr un gair llanw ynddo; bod pob ansoddair yn ffitio’n daclus a phob gair ‘yn cydweithio â gweddill y geiriau’n berffaith.’ Mae ‘heb aerwy’ yn awgrymu ‘rhyddid’ lle bu ‘caethiwed y gaeaf,’ a’r ansoddair ‘tawel’ yn awgrymu rhyddid ar ôl  anniddigrwydd y tymor hirlwm. Ceir cyferbyniad twt wedyn rhwng ‘diliau mêl’ a ‘rhoswellt’. ‘Hen fuwch’ sydd yma, a’r englyn yn awgrymu fod Mai ‘yn dod â chyffro ieuenctid yn ôl wrth iddo adnewyddu a ffrwythloni’r ddaear o’r newydd’.

Yn niwedd y saithdegau a blynyddoedd cynnar yr wythdegau, cefais y fraint o fod yn gyd-aelod â Ieuan yn nhîm ‘Talwrn y Beirdd’ Ardudwy. A dyna fraint oedd honno! Braint hefyd fu cael llunio teyrnged goffa iddo yng nghylchgrawn ‘Barddas.’
IM

Llun- blodau drain gwynion, PW