Showing posts with label pladurio. Show all posts
Showing posts with label pladurio. Show all posts

29.7.18

Atgofion Cynhaeaf Gwair

Erthygl gan Wil Price

Fel dywed y bardd Eifion Wyn:
‘Gwrendy y weirglodd
Am lais y bladur.’
Amser pleserus iawn yng nghalendr y fferm oedd y cynhaeaf gwair.

Mae paratoi am y cynhaeaf yn dechrau yn niwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill, pryd mae’r amaethwr yn gwrteithio’r tir gyda thail y gwartheg dros gyfnod y gaeaf.  Yna, at ddiwedd Ebrill, roedd y plant 10-14 mlwydd oed yn cael eu gyrru allan i ‘grega’, sef mynd o amgylch y weirglodd i gyd gyda bwced i godi unrhyw gerrig a fuasai wedi dod i wyneb y tir, neu drwy ddifaterwch eraill o daflu cerrig i’r cae, a hynny heb sylweddoli mor helbulus y gallai hynny fod i’r pladurwr.

Cael y pladuron i gyd wedi eu hogi ar y maen llifio, y cribiniau i gyd gyda dannedd newydd, y picffyrch a’r drol yn barod at eu gorchwyl.

Llun gan Ellen Maiden -hel ym Mhantllwyd

Disgwyl diwrnod braf i gychwyn, un ai gwrando ar y radio am ragolygon – doedd dim sôn am deledu yn y dyddiau hynny – neu  ail-brocio’r cof am hen arwyddion a ddaeth i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth – gweld y gwenoliaid yn hedfan yn uchel neu’n isel; sut roedd hi’n nosi? Oedd y mynyddoedd yn edrych yn bell neu’n agos? ... ac yn y blaen.

Rhaid oedd dechrau rywdro, gyda’r tad rhan amlaf yn cychwyn, a’r meibion neu’r  gwas yn ei ganlyn, a hynny tua 5 o gloch y bore cyn i’r gwlith godi.

Byddent yn wyliadwrus iawn faint i’w dorri yn ôl y rhagolygon neu eu gweledigaeth hwy eu hunain.  Ofn torri gormod, rhag ofn i’r tywydd droi yn anffafriol, neu ar yr ochor arall, ofn colli tywydd braf i barhau am wythnos neu well.  Ond profiad y tad oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yma eto.

Yna, yn amal iawn byddai’r tad yn mynd at ei waith dyddiol erbyn 8 yn y bore, a’r hogia i odro’r gwartheg yn y beudy ac yna i’r ysgol erbyn 9 o’r gloch.

Ar ôl ymborthi’r pladurwyr, amser i’r merchaid ddod allan i chwalu’r ‘stodiau’ er mwyn i’r gwair ddechrau gwywo. Y diwrnod canlynol, dilyn yr un drefn, gyda’r merchaid yn ‘troi’ y gwair er mwyn gwneud yn siŵr fod ochor isaf y gwair yn cael cyfle i wywo.

Y tad fel rheol oedd yn penderfynu os oedd y gwair yn ddigon aeddfed i’w gario i’r gadlas.

Ambell dro, byddai’r tywydd yn troi’n gymylog a gwan ac roedd yn ansicr dweud os oedd glaw yn agos.  Yr amser yma, roedd yn rhaid ‘mydylu’, a  dyma’r orchwyl gasaf gan bawb i’w wneud, achos mi fyddai’n orfodol i ‘rencio’ gwair i gyd, yna ei godi fel pebyll bach ar hyd y cae gan ofalu fod pen y mwdwl wedi ei godi fel bod y glaw yn rhedeg oddi arno i gyd, a dim yn mynd trwodd i’w du mewn.

Clywsoch lawer gwaith rwy’n siŵr fod eisiau pen iawn ar y mwdwl – wel dyma yn sicr i chwi o lle daeth y dywediad yma. Cyn cario’r gwair i’r gadlas, rhaid oedd bod yn hollol siŵr o ddau beth.

1.    Peidio byth â’i gario os nad oedd o wedi gwywo’n iawn.   Os buasai tamed ohono heb wywo, gallai’r mymryn yma boethi i’r fath wres yng nghanol y gadlas nes achosi tân a difa’r cynnyrch i gyd.  Byddai hynny’n digwydd o fewn 6 wythnos o’i gario fel rheol.
2.    Peidio byth â’i gario os oedd rhywfaint o law heb sychu yn iawn ar y gwair.  Mewn dim amser mi fuasai’r gwair yma yn llwydo'r holl gynnyrch a’i ddifetha.

Ple bynnag yr oeddech yn gorffen eich gorchwyl yn y cae gwair, y pechod mwyaf fuasai cario eich cribin tuag at y gadlas.  Na – rhaid oedd tynnu’r gribin tu ôl – rhag ofn y buasai rhywfaint o wair wedi ei fethu a hynny ar ôl i chwi hel yr olion.  Yr eglurhad yr oeddech yn ei gael – er cyn lleied o wair oedd gennych ar y gribin, fuasai hwnnw ddim ar gael pe baech ei angen yn ystod y gaeaf maith. Hwyrach y byddai’n ddigon i wneud un pryd i’r fuwch odro!

Ni fedraf orffen heb gynnwys cwpled o gyngor a gefais gan fy nhad pan oeddwn yn cychwyn ar fy ngyrfa fel plymar ym 1948.
“Cwyd dy bladur cyn iddi fynd heb ddim min,
A stopia dy geffyl cyn iddo stopio ei hun.”
Cyngor sydd â llawer o feddwl tu ôl  iddo ‘rwy’n siŵr - tu allan i fyd ffermio! 
Dyddiau difyr iawn. 
----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018

27.10.16

Y Dref Werdd -clymau chwithig


Brwydro yn erbyn y rhywogaethau ymledol 
Rydych wedi hen weld newyddion y Dref Werdd gyda’r gwaith rydan yn ei wneud gyda’r Rhododendron ponticum yn yr ardal dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn y mis i ddau nesaf, bydd gwirfoddolwyr a staff Y Dref Werdd yn mynd ati i daclo rhywogaeth arall sydd yn bla yn yr ardal, sef clymlys Japan neu llysiau’r dial (Japanese knotweed).

Mae’r planhigyn yma yn hoff o ardal ‘Stiniog, yn enwedig ar lannau’r afonydd sydd gennym yma. Mae’n gallu achosi nifer o broblemau os yw’r planhigyn yn tyfu wrth ymyl eich eiddo gyda sawl unigolyn wedi cael trafferth fawr gyda gwerthiant eu tŷ, rheswm digon cryf i ni fynd ati i wneud rhywbeth yn ei gylch, er mor hir bydd y gwaith yn ei gymryd.

Buom yn cerdded glannau afon Barlwyd, Cwmorthin, Bowydd a Dubach yn ddiweddar ac wedi synnu cymaint ohono sy’n tagu’r llefydd pwysig yma. Rydan wedi bod wrthi dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir ers i’r Dref Werdd gychwyn ôl yn 2006, yn glanhau’r afonydd o sbwriel gyda’r gymuned, a'n bwriad yw diogelu ein cynefinoedd, felly mae’r afonydd yn holl bwysig.

Sut goblyn ydan am fynd ati i wneud y fath waith? Wel, mae hynny yn broses eithaf hir sydd yn golygu cerdded o dop yr afonydd ble mae’r llysiau’r dial yn cychwyn a chwistrellu pob coesyn y planhigyn gyda chwynladdwr. Bydd rhaid gwneud y gwaith yma ar hyd pob troedfedd o’r afonydd a mynd nôl am o leiaf dwy flynedd wedi’r driniaeth gyntaf!!

Rydan yn gobeithio gwneud hyn gyda gwirfoddolwyr ble fydd cyfle iddynt ddysgu sut i wneud y gwaith yn ogystal â pham rydan yn ei wneud. Felly, os oes diddordeb gennych chi i gymryd rhan yn y gwaith, cofiwch gysylltu.


Yn ogystal â’r llysiau’r dial, mae’r gwaith gyda’r Rhododendron yn parhau ar safle chwarel Llechwedd - joban digon mawr yn wir, ond mae Llechwedd wedi cynnig i bob gwirfoddolwr a fydd yn helpu gyda’r gwaith i gael cinio am ddim yn y caffi yno a hefyd taith yn eu hogofau os oes diddordeb ganddyn nhw! Felly, gwyliwch allan am y cyfleoedd yma hefyd yn y misoedd nesaf.

Os hoffech fwy o fanylion am y gwaith yma, cysylltwch gyda thîm Y Dref Werdd.

Clwb Cae Bryn Coed
Byrlymu ‘mlaen mae’r gwaith o greu dôl flodau gwylltion. Mae grŵp o wirfoddolwyr, sydd wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y cae ar y Sul cyntaf o’r mis drwy’r haf, bellach wedi derbyn hyfforddiant pladurio gan Lee Oliver o Cadw’n Cymru’n Daclus. Bydd set o bladuriau yn cael eu harchebu ar gyfer y grŵp i barhau gyda’r gwaith gan roi cyfle i fwy o bobl cael tro’n profi’r grefft draddodiadol hon. Y cam nesaf yw crafu haen uchaf y tir a phlannu.

Gallwch wirfoddoli am ran o’r amser, yn eich amser chi eich hun neu dewch i ddweud helo! Mae Clwb Cae Bryn Coed yn cael ei drefnu gan y Dref Werdd, Cymdeithas Welliannau Llan Ffestiniog a Grŵp Cynefin, a hoffent glywed gennych gydag unrhyw syniadau neu argymhellion ynglŷn â’r datblygiadau . Ymunwch â’r grŵp ‘Clwb Cae Bryn Coed’ ar Facebook am y newyddion diweddaraf. Hyd yn hyn mae 179 awr wirfoddol wedi cael ei gofnodi - cyflawniad cymunedol gwych!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo Dan o’r Dref Werdd: daniel@drefwerdd.cymru  (01766 830082) neu Caren o Grŵp Cynefin: caren.jones@grwpcynefin.org (01766 762511). Mae creu’r ddôl a’r hyfforddiant / offer cysylltiedig yn rhan o gynllun ‘Buzz Naturiol’ Cadw Cymru’n Daclus a ariennir gan Lywodraeth Cymru.-------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2016. Dilynwch hynt Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Lluniau Gwydion ap Wynn.

27.12.15

Y Golofn Werdd -lladd chwyn a lladd gwair

Newyddion cynllun Y Dref Werdd

Mae afonydd Bro Ffestiniog eich angen chi!
Y mis yma, hoffwn dynnu eich sylw at Ymddiriedolaeth Afonydd Bro Ffestiniog.
Mae afonydd y Fro wedi bod yn destun gyda’r Dref Werdd ers cychwyn y prosiect pan gychwynwyd Partneriaeth Afon Barlwyd. Bwriad y bartneriaeth oedd codi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o gael afon iach yn yr ardal ac i weithredu i godi safon ecolegol yr afon. Cafwyd nifer o ddyddiau yn glanhau’r afon yn ogystal â sesiynau addysg gydag Ysgol y Moelwyn a Thanygrisiau.

Penderfynwyd yn 2013 i newid y bartneriaeth i Ymddiriedolaeth Afonydd Bro Ffestiniog fel bod pob afon yn yr ardal yn cael eu goruchwylio, a nawr mae’r Dref Werdd yn ôl i hwyluso gwaith yr ymddiriedolaeth, ac mae nifer o brosiectau ar y gweill.

Wrth gerdded glannau rhai o’r afonydd, mae’n glir fod angen ychydig o waith arnynt gyda rhai yn dioddef o sbwriel ac y rhan fwyaf yn dioddef o broblem ychydig mwy hir dymor, sef llysiau’r dial neu canclwm Siapan (Japanese knotweed). Mae’n debyg fod nifer ohonoch wedi gweld y planhigyn yma ar lannau afonydd Bowydd a Barlwyd, neu efallai mewn ardaloedd eraill yn y dref. Mae’r Dref Werdd a’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu mynd i'r afael â’r broblem hon dros y blynyddoedd nesaf gan ei fod yn blanhigyn, fel y Rhododendron ponticum, sydd ddim i fod yn tyfu ym Mro Ffestiniog.

Mae’r planhigyn yn gallu tyfu drwy waliau cerrig, tarmac a choncrid ac yn ystod yr haf, mae’n gallu tyfu hyd at 10cm y diwrnod. Mae'r rhywogaeth ymledol yma yn gallu lleihau gwerth tai hefyd, felly os ydych chi’n bwriadu gwerthu tŷ gyda’r gwalch yma yn tyfu yn yr ardd, bydd o’n ddoeth o beth i chi geisio ei drin er mwyn cael gwared ohono. Cysylltwch i gael ychydig o gymorth am sut i wneud hynny.

Yn ogystal â thaclo sbwriel a llysiau’r dial, byddwn yn cyd-weithio gyda phump o ysgolion y Fro i gynnal sesiynau addysg am yr afonydd hefyd. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru a Chadw Cymru’n Daclus bydd disgyblion yr ysgolion yn edrych ar fannau o ddiddordeb ar y gwahanol afonydd fel y Pwerdy yn Nhanygrisiau, gorsaf hydro Llechwedd ym Mhant yr Afon, edrych ar y mathau o fywyd gwyllt sydd yn byw yn yr afonydd, a chodi ymwybyddiaeth o’r effaith mae sbwriel, tipio slei bach a'r rhywogaethau ymledol yn cael ar ein hafonydd.

Fel rhan o’r ymddiriedolaeth, mae nifer o bartneriaid lleol a chenedlaethol yn rhan ohono mewn rôl gynghorol, ond beth mae’r ymddiriedolaeth angen i wthio’r gwaith ymlaen ac i’w gryfhau, yw ymrwymiad trigolion Bro Ffestiniog.

Felly os ydych chi'n bysgotwr, yn naturiaethwr neu gyda diddordeb yn yr amgylchedd lleol, neu dim ond eisiau cyfle i ddweud eich barn, mae croeso mawr i chi ddod yn rhan o’r ymddiriedolaeth. Gallwch un ai fynychu’r cyfarfodydd os hoffech gael fod yn rhan o lunio’r gwaith i’r dyfodol, neu os nad ydi mynd i gyfarfodydd yn rhywbeth i chi, gallwch dderbyn holl gofnodion y cyfarfodydd ac wrth gwrs cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf. Dewch i fod yn rhan o’r gwaith pwysig yma: mae afonydd Bro Ffestiniog angen chi!!

Os hoffech ddod yn rhan o’r ymddiriedolaeth neu eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Dref Werdd ar 01766 830 082, gyrrwch e-bost i ymholiadau[AT]drefwerdd.cymru  neu galwch draw am banad unrhyw dro i’r swyddfa, sydd uwchben Siambr y Cyngor Tref.

Dyma wirfoddolwr yn cymryd rhan mewn gwaith rheoli llysiau'r dial trwy chwistrellu chwyn-laddwr.


Creu Dôl Flodau Gwyllt
Bu cynnydd yn y gwaith o greu dôl flodau gwyllt yng Nghae Bryn Coed, Llan yn ddiweddar. Bu tîm o wirfoddolwyr yno ar fore braf yn pladuro a chlirio darn trionglog o dir yn barod i blannu hadau blodau gwyllt yn y gwanwyn. Dangosodd Lee Oliver o Cadw Cymru’n Daclus sut i ddefnyddio’r bladur a chafodd y gwirfoddolwyr hwyl fawr yn cael tro gyda’r teclyn!

Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr a phreswylydd hir dymor Bryn Coed, Romee Heal: ‘Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn ar y cae gyda nifer o bobl yn helpu. Dwi’n edrych ymlaen i weld y ddôl wedi blodeuo a gobeithio bydd y plant ysgol yn mwynhau gweld y bywyd gwyllt yno. Mae’r cae yn fudd mawr i’r gymuned’.


Bydd diwrnodau gweithredu ar y cae yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y flwyddyn newydd.
Trefnwyd y diwrnod gan y Dref Werdd a Chymdeithas Gwelliannau Ffestiniog. Mae’r ddôl yn rhan o fenter y Dref Werdd i greu mannau gwyrdd yn y gymuned yn ogystal â chreu cyfleoedd hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth a chefn gwlad fel pladurio, torri llwyn a walio cerrig sych.

Cysylltwch os hoffech gymryd rhan yng ngweithgareddau Cae Bryn Coed neu os hoffech wybod mwy am brosiectau amrywiol y Dref Werdd.

Tacluso Tanygrisiau
Daeth grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig at ei gilydd hefyd yn Nhanygrisiau ar gyfer y digwyddiad 'Tacluso Tangrish'. Trefnwyd y diwrnod ar y cyd gan Y Dref Werdd a Cadwch Gymru'n Daclus, er mwyn i drigolion lleol gael y cyfle i lanhau’r gymuned a’r Afon Barlwyd.

Bu gwirfoddolwyr allan yn casglu ac ailgylchu sbwriel a mentrodd rhai unigolion dewr i mewn i'r Afon Barlwyd a cherdded ei hyd o Ffatri Metcalfe tuag at stad dai Hafan Deg. Casglwyd tua 5 bag o sbwriel a 5 bag o ddeunydd ailgylchadwy. Rhoddwyd y bagiau cadarn gan gwmni Huws Gray. Llenwyd llond trelar mawr gyda thameidiau mawr o bren, metel a nwyddau cartref diangen o'r afon.

Darparodd dwy o'r cymdeithasau tai lleol sef Grŵp Cynefin a Cartrefi Cymunedol Gwynedd ddwy sgip ar stad Hafan Deg i drigolion gael gwared ar eu heitemau diangen o’u cartref a gardd. Roedd cymorth gan dîm ailgylchu Cyngor Gwynedd er mwyn casglu a gwaredu’r gwastraff a deunyddiau ailgylchu wedi’r digwyddiad.

Fel diolch bach ar ddiwedd yr holl waith caled aeth y criw gweithgar i Gaffi Mari i gael paned a chacen. Dywed Manon Evans, un o drigolion Hafan Deg ers blynyddoedd:  'Dwi'n meddwl bod diwrnodau glanhau fel hyn yn wych ac roedd yn hwyl i gymryd rhan'. Fe welir rhai o’r criw ddaeth i helpu yn y llun.


Os hoffech chi ddechrau grŵp cymunedol eich hunain yn ardal Bro Ffestiniog, cysylltwch â n.
------------------------


Wedi'i addasu o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2015.
Dilynwch gyfres Y Golofn Werdd efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

13.9.15

Calendr Bro

Cyfnod prysur arall ym Mro Ffestiniog. Prynwch Llafar Bro i gael y manylion yn llawn.

Medi 16eg: 
Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Neuadd y WI, am 7.15
Sgwrs gan Ieuan Wyn am Dywysogion Gwynedd.

Medi 17eg
Cyfarfod Blynyddol LLAFAR BRO: 7.00 Neuadd y WI.  Dewch i ddangos eich cefnogaeth i’ch papur bro.



Nos Lun, Medi 21ain.
Drama: Drych, gan Gwmni’r Frân Wen, Ysgol y Moelwyn.


Nos Fawrth Medi 22ain
Sefydliad y Merched. Steffan Ab Owain yn rhoi sgwrs gyda sleidiau.

Nos Lun, Medi'r 28ain, 
Merched y Wawr, Blaenau. 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol.  Drama gan gangen Chwilog.

Dydd Mawrth, Medi'r 29ain
Dysgwch bladurio. Lladd gwair ar gae Bryn Coed Llan, fel cam cyntaf i'w droi'n ddôl flodau gwyllt. Cawl cartref a phaned ar gael. 10yb - 1yh.

Nos Fercher, Medi'r 30ain
Llyfrgell y Blaenau am 7 o'r gloch. Guto Dafydd yn sgwrsio am "23 rheswm dros beidio sgwennu nofel"!

Hydref 1af . 
Y Fainc Sglodion. y Ganolfan Gymdeithasol, am 7.30: Euryn Rhys Roberts,‘Bathodynnau ein caethiwed?  Cestyll y Tywysogion Cymreig’

Hydref 5ed, 
Cymdeithas y Gorlan. Festri Capel Carmel, 7.00 –Hanes Pyllau Aur.

Hydref 6ed
Fforwm Plas Tanybwlch
am 7.30 - Chwareli yr Ardennes, Dr Dafydd Gwyn

Hydref 7 
Cymdeithas Hanes Bro Cynfal – Taith – Treftadaeth Cwm Penmachno – Capel Siloh

Hydref 20fed-
Fforwm Plas Tanybwlch
am 7.30 -Mapio Hanes, Gareth Roberts

Hydref 21ain:
Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Neuadd y WI, am 7.15
Gareth T Jones; Lleisiau Ddoe


--------------------------

Gadewch inni wybod os oes rhywbeth ar goll o'r rhestr -gyrrwch fanylion atom!